English

Cymdeithasau

Mae UMCC yn cydweithio gyda’r amrywiad o gymdeithasau Cymraeg sydd i’w cael yng Nghaerdydd, er mwyn sicrhau fod digon o weithgareddau yn cael eu cynnal ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, a bod y gweithgareddau hynny yn rhai amrywiol sydd yn apelio at bawb.

Mae gan Gaerdydd fywyd cymdeithasol Cymraeg bywiog ac amrywiol iawn. Gwyliwch y fideo isod i ddarganfod mwy:

Dilynwch y dolenni isod er mwyn ymaelodi a’r cymdeithasau neu i ddarganfod mwy amdanynt. Yn ogystal, os oes gennych chi syniad ar gyfer cymdeithas, ac rydych eisiau ei sefydlu, gadewch i ni wybod, ac mi wnawn ni eich cynorthwyo i’r sefydlu.

Y Gymdeithas Gymraeg

Y Gym Gym yw Cymdeithas Gymraeg mwyaf Prifysgol Caerdydd, a gyda dros 200 o aelodau, mae’n un o gymdeithasau mwyaf bywiog y Brifysgol. Mae cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Gym Gym yn ffordd wych ichi ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill y Brifysgol, ac mae’n eich galluogi i fyw a bod drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd.

Mae’r aelodau’n cwrdd yn gyson ar gyfer ‘crôls’ ac mae’r Wythnos Gym Gym, sy’n cael ei gynnal ar ddiwedd bob blwyddyn, yn uchafbwynt ar galendr cymdeithasol myfyrwyr Cymraeg Caerdydd. Yn ogystal, os ydych yn hoff o chwaraeon, gallech chwarae i dîm pêl-droed, rygbi neu bêl-rwyd y Gym Gym sy’n cystadlu yng nghynghrair y Brifysgol yn wythnosol. 

Drwy'r GymGym, byddwch hefyd yn gallu mynychu'r Ddawns Rhyng-golegol flynyddol yn Aberystwyth a'r Eisteddfod Rhyng-golegol flynyddol sydd yn cael ei gynal mewn prifysgol gwahannol bob blwyddyn. Mae'r daith rygbi flynyddol i Ddulyn neu Caeredin hefyd yn uchafbwynt ar y calendr cymdeithasol!

Facebook: Y Gym Gym

Twitter: @YGymGym

 

Cymdeithas Iolo

Bwriad Cymdeithas Iolo yw dod â myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol ynghyd i fwynhau’r gorau o ddiwylliant Cymraeg Caerdydd. Rho’r gymdeithas bwyslais mawr ar weithgareddau diwylliannol Cymraeg a Chymreig, fel trefnu tripiau i weld dramâu, nosweithiau comedi a gigs Cymraeg.

Yn ogystal, mae’r gymdeithas yn trefnu stomp farddonol flynyddol rhwng ei haelodau a darlithwyr Ysgol y Gymraeg. Bwriad hyn oll yw cyfoethogi’r profiad o fod yn fyfyriwr sy’n medru neu'n dysgu’r Gymraeg yng Nghaerdydd, a chwrdd â phobl sy’n angerddol am y Gymraeg o bob cefndir a phob cwr o Gymru, i fwynhau amrywiaeth ein heniaith.

Caiff Cymdeithas Iolo ei gydlynnu gan Ysgol y Gymraeg, am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan, cysylltwch â'r ysgol neu ewch ar y tudalennau isod.

Facebook: Cymdeithas Iolo

Twitter: @cymdeithas_iolo

 

Aelwyd y Waun Ddyfal

Os yw’r celfyddydau a pherfformio yn mynd â’ch bryd, yna dylech ymuno ag Aelwyd y Waun Ddyfal. Mae ymuno â’r côr yn eich galluogi i gymryd rhan mewn côr llwyddiannus o safon uchel, yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi gwrdd a siaradwyr Cymraeg o ledled Cymru.

Pob blwyddyn mae’r côr yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ac maent yn dod i’r brig mewn cystadlaethau yn aml iawn!  Maent hefyd yn perfformio yn gyhoeddus yn y ddinas, gan berfformio mewn cyngherddau Nadolig, canu carolau, ac yn y gorffennol maent wedi cefnogi cantorion proffesiynol megis Russel Watson a Sam Bailey, mewn cyngherddau yng Nghanolfan y Mileniwm. Yn ogystal, bob blwyddyn mae criw o’r Waun Ddyfal yn teithio i Baris, i ganu yng Ngwyl Gymreig Disneyland Paris.

Facebook: Côr Aelwyd y Waun Ddyfal

Twitter: @WaunDdyfal

Cysylltwch â’r Waun Ddyfal drwy Facebook er mwyn darganfod sut allech chi ymlaelodi.

 

Clwb y Mynydd Bychan

Cymdeithas Cymraeg myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd Caerdydd yw Clwb y Mynydd Bychan. Mae’r gymdeithas yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gofal iechyd gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r digwyddiadau cymdeithasol y gymdeithas yn cynnwys ‘Bingo Lingo’ a chawl i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Yn ogystal, rho’r gymdeithas bwyslais mawr ar drefnu gweithgareddau allgyrsiol ac academaidd, ac yn y gorffennol maent wedi ymweld ag ysgolion cynradd Caerdydd i addysgu disgyblion am Asthma, dylunio cyflyniad i gymhorthi ddisgyblion ysgol uwchradd i wneud ceisiadau ar gyfer Ysgol Feddygaeth Caerdydd, a chynnal sesiynau adolygu. Gallech wirfoddoli drwy'r clwb yn ogystal â rhwydweithio â doctoriaid a nyrsys.

Facebook: ‘Clwb y Mynydd Bychan


Societies

UMCC Works with the variety of Welsh societies within the University, to ensure that there are enough activities arranged for Welsh speaking students, and that those activities appeal to everyone.

Cardiff’s Welsh social life is very lively and exciting. Watch this video to find out more:

Follow the links below to join the societies and to find out more about them. In addition, if you have any ideas for any new societies that you would like to set up, let us know, and we can support you in establishing them.

Y Gym Gym

Y Gym Gym is Cardiff’s largest Welsh society, and with almost 200 members, it is one of Cardiff’s liveliest societies. Taking part in y Gym Gym’s activities is a great way for you to get to know other Welsh speakers in the University, and it allows you to live through the medium of Welsh in Cardiff.

The members meet regularly for pub crawls, like the ‘family crawl’, the ‘three-legged crawl’, and the ‘characters crawl’, and the ‘Gym Gym Week’, which is held at the end of each academic year, is a highlight in the social calendar of Cardiff’s Welsh students. In addition, if you’re a fan of sports, you can play for y Gym Gym’s football, rugby and netball teams which compete weekly in the University league.

Facebook: Y Gym Gym

Twitter: @YGymGym

Cymdeithas Iolo

The purpose of Cymdeithas Iolo is to bring students from different backgrounds together to enjoy Cardiff’s exciting Welsh culture. The society puts a big emphasis on Welsh cultural activities, such as trips to see Welsh plays, comedy gigs and music gigs.

In addition, every year the society organises a literary stomp between its members and the School of Welsh’s lecturers. The aim of this society is to improve on the experience of being a student who is fluent or is learning Welsh in Cardiff, to meet people who are passionate about the language and its culture from every corner of Wales, and to enjoy the varieties of the beautiful Welsh language.

Facebook: Cymdeithas Iolo

Twitter: @cymdeithas_iolo

Aelwyd y Waun Ddyfal

If you like performing and the arts, then you should join Aelwyd y Waun Ddyfal! Joining this choir will allow you to take part in successful choir, as well as giving you the opportunity to meet Welsh speakers from all over Wales. Every year the choir compete in the Urdd Eisteddfod, and they often win a lot of competitions.

They also perform publically in the city, and perform in Christmas concerts, carol singing, and in the past they have supported professional musicians such as Russel Watson and Sam Bailey, in concerts in the Millennium Centre. In addition, every year, a group from the Waun Ddyfal travel to Paris, to sing in Disneyland Paris’ Welsh Festival.

Facebook: Côr Aelwyd y Waun Ddyfal

Twitter: @WaunDdyfal

Contact Y Waun Ddyfal for more information on how to join.

Clwb y Mynydd Bychan

Clwb y Mynydd Bychan is Cardiff’s medicine and healthcare students’ Welsh society. The society gives healthcare students the opportunity to take part in social and extracurricular activities through the medium of Welsh.

The society’s social events include ‘Bingo Lingo’ and traditional Welsh ‘cawl’ to celebrate St. David’s Day. In addition, the society puts a big emphasis on extracurricular and academic activities, and in the past, they have visited Welsh medium primary schools to educate the pupils on the effects of Asthma, designed a presentation to assist pupils who are applying for Cardiff’s School of Medicine with their applications, and have held revision sessions. You can volunteer with the society, in addition to networking with doctors and nurses.

Facebook: Clwb y Mynydd Bychan

 
-->