Y Gym Gym

Mae'r GYM GYM yn gymdeithas sy'n croesawu myfyrwyr Cymraeg o brifysgol Caerdydd, er mwyn ymglymu a mwynhau amryw o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhelir nifer fawr o ddigwyddiadau gwahanol trwy gydol y flwyddyn sy'n cynnwys lot o gymdeithasu, digon o hwyl, a digon o ddiota, ond hefyd yn ffordd arbennig i wneud ffrindiau newydd yn y Gymraeg! Ynghlwm a'r digwyddiadau wythnosol, rydym yn cynnig cyfleoedd arbennig i'r aelodau trwy gydol y flwyddyn, sy'n cynnwys trip i Ddulyn yn Iwerddon, ar gyfer gem Cymru v Iwerddon yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad, amryw o dripiau megis trip dirgel, penwythnosau ym mhrifysgolion Cymru trwy'r cysylltiadau Rhyng-golegol. Un digwyddiad blynyddol arall yw'r ddawns fawreddog yn Ionawr; efallai'r uchafbwynt o'r flwyddyn i ambell aelod, gan ei fod yn rhoi'r cyfle iddyn nhw fynychu ac ymweld ag un o leoliadau neu un o westai safon uchel Caerdydd. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd chwaraeon i'r gymdeithas, yn cynnwys ein timoedd pêl-droed, Rygbi a phêl-rwyd sy'n cystadlu'n wythnosol yn y gynghrair 'IMG'. Er bod y gymdeithas yn cael ei rhedeg trwy gyfrwng y Gymraeg, mae yna groeso i bawb - yn enwedig ein darpar ddysgwyr Cymraeg.

The Welsh Society or 'Y Gym Gym' as we are more commonly know (abbreviated from 'Y Gymdeithas Gymraeg'), is a society that welcomes all Cardiff students, and in particular Welsh speakers or learners to engage in activities through the medium of Welsh. The society arranges several events during the course of the year, which consists of socialising, enjoying, and plenty of drinking, but it is also a great way to make new friends in Welsh. We offer opportunities for the members to participate in a variety of events, such as a trip to Ireland to watch the Wales v Ireland game in the 6 Nations, several day trips including mystery tours, weekends in similar Welsh Universities through the Intercollegiate competitions, and the annual ball in January; possibly one of the highlights of the year for many members, as it gives them a chance to visit one of Cardiff's top high-class hotels or venues. We also offer some sporting opportunities through the society, with our football, Rugby and netball teams entering the IMG league every year and competing successfully on a weekly basis. Although the society is run through the medium of Welsh, all are welcome - especially prospective Welsh learners.

Tal aelodaeth £10 (1 blwyddyn)

*Gallwch brynu aelodaeth ar waelod y dudalen*

https://www.facebook.com/groups/2219188362/

Please log in to view the committee.

Membership

  • Y Gym Gym Aelodaeth Lawn£10.00

Cardiff University Students’ Union, registered in Wales. Nothing here in contained constitutes an order for goods or services unless accompanied by an official order

Telephone | 029 2078 1400 Email | StudentsUnion@Cardiff.ac.uk Website | cardiffstudents.com Address | Park Place Cardiff CF10 3QN Charity No. | 1137163 Company Registration No. | 07328777
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, wedi’i gofrestru yng Nghymru. Nid oes dim yn gynwysedig yma yn gorchymyn am nwyddau neu wasanaeth oni bai bod archeb swyddogol yn cyd-fynd ag ef

Ffôn | 029 2078 1400 E-bost | StudentsUnion@Cardiff.ac.uk Gwefan | cardiffstudents.com Cyfeiriad | Plas y Parc Caerdydd CF10 3QN Rhif Elusen | 1137163 Rhif Cofrestredig y Cwmni | 07328777