Cymraeg
About Cardiff Students' Union
Cardiff Students’ Union (SU) is at the heart of Cardiff student life. We are here to support students to thrive, and to have their backs when things don’t go as planned, in a safe, inclusive space where students can be who they want to be. We are consistently ranked in the top three for student satisfaction in the UK.
Coming for a visit? Check out our handy guide
Spanning both the Cathays and Heath Park campuses, the purpose-built SU building operates 24-hours a day and houses cafes, shops, bars, music venues, a letting agency and study spaces for students to make the most of their time at University. All profits from our commercial activity go to support bigger and better services and activities for our students.
The SU is led by an elected full-time student officer team who represent students interests and shape the activities and services we provide.
The organisations core strategic aims are:
Building student communities
Across 200 societies, 65 sports teams and a range of volunteering opportunities, the SU helps student groups be a force for good on campus and in the local community.
Amplifying student voices
As an independent, student-led partner of the University, the SU works with students in all aspects of academic life, giving them what they need to shape their education and providing advice should things go wrong.
Enriching student experiences
Striving to deliver exceptional events and services based on what students want from their time at university. From clubnights and crazy golfing, to trips to local hotspots and events targeted at boosting wellbeing – all profits from CSU activities go into funding the charitable services of the organisation.
Boosting wellbeing and future opportunities
By empowering students to look after their own and each other’s wellbeing, supporting them to gain the skills, knowledge and resilience they need to find their place in the world. From helping students find part-time work through the Jobshop service, to providing free, independent and confidential advice.
The organisation employs over 100 career staff and 300 student staff who deliver exceptional student services all year round. In a 2022 satisfaction survey, 91% of employees stated they would recommend Cardiff Students’ Union as a good place to work, a score significantly above third sector benchmarks.
Awards received:
- 2nd Place in the WhatUni Student Choice Awards 2022 for Best Students’ Union
- 1* accreditation and ranked 56th in the Sunday Times Top 100 Best Not-for-Profit organisations 2020, and 21st in the UK for Education and Training 2021.
- Top 30 Best Companies to Work For in Wales 2020
- Investors in Diversity Stage 3 and ranked 65th in the National Centre for Diversity (NCFC) Top 100 index 2020
Guide to the Students' Union Building
If you're coming to the Students' Union to look around - firstly, welcome to our home! You can find out more about what's in the building in the handy guide below.
Ynglŷn ag Undeb Myfyrwyr Caerdydd
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd (UM) yn rhan greiddiol o fywyd myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae’r Undeb yma i hybu myfyrwyr i lwyddo ac yn gefn iddynt pan fod angen cymorth arnynt, mewn amgylchedd cynhwysol ble gall myfyrwyr fod yn nhw eu hunain. Rydym yn gyson yn y tri uchaf am foddhad myfyrwyr yn y DU.
Bwriadu dod am ymweliad? Edrychwch ar ein canllaw defnyddiol
Yn pontio campws Cathays a Pharc y Mynydd Bychan, mae adeiladau’r Undeb yn gweithredu 24 awr y dydd ac yn cynnwys caffis, siopau, bariau, lleoliadau cerddoriaeth, asiantaeth dai a mannau astudio er mwyn i fyfyrwyr wneud y mwyaf o'u hamser yn y brifysgol. Mae'r holl elw o'n gweithgarwch masnachol yn mynd at wella’r gwasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael i'n myfyrwyr.
Mae’r Undeb yn cael ei arwain gan dîm etholedig o swyddogion llawn amser sy'n fyfyrwyr sy'n cynrychioli buddiannau myfyrwyr ac yn siapio'r gweithgareddau a'r gwasanaethau a ddarperir gennym ni.
Nodau strategol craidd y sefydliad yw:
Adeiladu cymunedau myfyrwyr
Ar draws 200 o gymdeithasau, 65 tîm chwaraeon ac ystod o gyfleoedd gwirfoddoli, mae'r UM yn helpu grwpiau myfyrwyr i wneud lles ar y campws ac yn y gymuned leol.
Cryfhau lleisiau myfyrwyr
Mae’r UM yn bartner annibynnol yn y Brifysgol dan arweiniad myfyrwyr. Mae’n gweithio gyda myfyrwyr ym mhob agwedd ar fywyd academaidd, gan wneud yr hyn sydd ei angen arnynt i lunio eu haddysg a chynnig cyngor os aiff rhywbeth o’i le.
Cyfoethogi profiadau myfyrwyr
Ymdrechu i ddarparu digwyddiadau a gwasanaethau ardderchog yn seiliedig ar yr hyn y mae myfyrwyr ei eisiau o'u hamser yn y brifysgol. O nosweithiau clwb, golff gwyllt, i deithiau i fannau poblogaidd a digwyddiadau lleol sy'n ceisio hybu lles - mae'r holl elw o wasanaethau’r Undeb yn mynd tuag at ariannu gwasanaethau elusennol y sefydliad.
Hybu lles a chyfleoedd yn y dyfodol
Trwy hybu myfyrwyr i ofalu am eu lles eu hunain a'i gilydd, eu cefnogi i ennill y sgiliau, y wybodaeth a'r gwytnwch sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i'w lle yn y byd. O helpu myfyrwyr i ddod o hyd i waith drwy wasanaeth SiopSwyddi i ddarparu cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim.
Mae'r sefydliad yn cyflogi dros 100 o staff gyrfa a 300 o staff myfyrwyr sy'n darparu gwasanaethau myfyrwyr ardderchog drwy gydol y flwyddyn. Mewn arolwg boddhad 2022, dywedodd 91% o weithwyr y byddent yn argymell Undeb Myfyrwyr Caerdydd fel lle da i weithio, sgôr sy'n sylweddol uwch na meincnodau'r trydydd sector.
Gwobrau a dderbyniwyd:
- 2il yng Ngwobrau WhatUni Student Choice 2022 ar gyfer Undeb Myfyrwyr Gorau
- Achrediad 1* a safle 56 yn y 100 sefydliad nid-er-elw gorau yn y Sunday Times 2020, ac 21ain yn y DU am Addysg a Hyfforddiant 2021.
- Y 30 Cwmni Gorau i Weithio iddynt yng Nghymru 2020
- Buddsoddwyr mewn Amrywiaeth Cam 3 a safle 65 ym mynegai 100 uchaf 2020 y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth (NCFC)
Canllaw i Adeilad Undeb y Myfyrwyr
Os ydych chi'n dod i Undeb y Myfyrwyr i edrych o gwmpas - yn gyntaf, croeso i'n cartref! Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd yn yr adeilad yn y canllaw defnyddiol isod.