speak week

 

 

If you ran the University, what would you keep and what would you change?

Complete Speak Week Survey

 

 

What is Speak Week?

 

Speak Week is an annual campaign run by the Students’ Union, where we give all students the opportunity to provide feedback on the changes that they want to see at Cardiff University. This is your chance to make your voice heard on the issues that really matter to you by responding to our online survey.

 

Our Sabbatical and Campaign Officers will be joined by student volunteers who will be reaching out to as many students as possible, encouraging meaningful discussion, and asking for recommendations for change. The feedback we receive every year is reviewed, analysed, and used to inform future campaigns and discussions with senior staff in the university and Students' Union. 

 

When is Speak Week?

 

Speak Week will be taking place between Monday 29th January – Friday 2nd February 2024. During this week, we will be across campus encouraging as many students as possible to provide feedback about their experience. 

 

During this year's Speak Week, we will be gathering feedback on a number of specific themes, based on our elected Officers' priorities this year. These will be added to a few general questions we want to gather feedback on. These themes are:

 

  • - Student experience on placements
  • - International student support
  • - Accessibility on campus
  • - PGR students' experience
  • - Support for Welsh students

 

As part of Speak Week, we will be running a prize draw. Please see the terms and conditions here.

 

What happens to your feedback?

 

All comments received during Speak Week will be analysed by our elected officers, and a Speak Week report will be written. This report will inform campaigns and priorities for the elected officers over the year, and will support the officers in lobbying the university for positive change. University schools and departments will also be gathering feedback during Speak Week, and they will use their specific feedback to make school-based changed. 

 

If there is more information we want to get about the feedback we receive, we may run focus groups with students to help inform our elected Officers in their campaigning and lobbying.

 

These are just a few examples of what Speak Week has done for students in previous years:

 

  • - The University and Students' Union worked on a Cost-of-Living campaign.
  • - The ASSL opening hours were extended to 24 hours.
  • - Wi-Fi coverage around campus has been improved.
  • - Card payments for University Catering became available around campus.
  • - Exam timetables published two weeks earlier than before.

 

You can read the full Speak Week report for 2022/23 here.

 

Here are some other ways to have your voice heard!

 

 

For any questions about Speak Week, contact the Student Voice team through SUCampaigns@cardiff.ac.uk.

 

 

Pe byddech chi'n rhedeg y Brifysgol, beth fyddech chi'n ei gadw a beth fyddech chi'n ei newid?

Cwblhewch arolwg Wythnos Siarad

 

 

Beth yw Wythnos Siarad?

 

Mae Wythnos Siarad yn ymgyrch blynyddol wedi’i gynnal gan Undeb y Myfyrwyr, lle rydym yn rhoi cyfle i bob myfyriwr ddarparu adborth am y newidiadau maent am weld ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyma’ch cyfle i leisio’ch barn am y materion sy’n wirioneddol bwysig i chi drwy ymateb i’n harolwg ar-lein.

 

Bydd gwirfoddolwyr myfyrwyr yn ymuno â’n Swyddogion Sabothol ac Ymgyrchu er mwyn cysylltu â chymaint o fyfyrwyr a phosib, gan annog trafodaethau ystyrlon a gofyn am argymhellion am newid. Mae’r adborth rydym yn derbyn pob blwyddyn yn cael ei adolygu, ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i lywio ymgyrchoedd a thrafodaethau gydag uwch dimoedd rheoli’r brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn y dyfodol.

 

Pryd mae Wythnos Siarad?

 

Bydd Wythnos Siarad yn digwydd rhwng dydd Llun 29ain Ionawr a dydd Gwener 2il Chwefror 2024. Yn ystod yr wythnos yma, byddwn ar draws y campws yn annog gymaint o fyfyrwyr a phosib i ddarparu adborth am eu profiadau.

 

Yn ystod Wythnos Siarad eleni byddwn yn casglu adborth am nifer o themâu penodol, yn seiliedig ar flaenoriaethau ein Swyddogion etholedig. Bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at gwpl o gwestiynau cyffredinol rydyn ni hefyd eisiau casglu adborth arnynt. Y themâu yma yw:

 

  • - Profiad myfyrwyr ar leoliadau
  • - Cefnogaeth myfyrwyr rhyngwladol
  • - Hygyrchedd ar y campws
  • - Profiad myfyrwyr YÔR
  • - Cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr Cymraeg

 

Fel rhan o Wythnos Siarad, byddwn yn cynnal raffl wobrau. Gwelwch y telerau ac admodau yma.

 

Beth sy’n digwydd i’ch adborth?

 

Bydd yr holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod Wythnos Siarad yn cael eu dadansoddi gan ein swyddogion etholedig, a bydd adroddiad Wythnos Siarad yn cael ei ysgrifennu. Bydd yr adroddiad yma yn llywio ymgyrchoedd a blaenoriaethau’r swyddogion etholedig yn ystod y flwyddyn, a bydd yn cefnogi swyddogion wrth lobïo’r brifysgol am newid cadarnhaol. Bydd ysgolion ac adrannau’r brifysgol hefyd yn casglu adborth yn ystod Wythnos Siarad, ac mi fyddan nhw’n defnyddio eu hadborth penodol er mwyn gweithredu newid ar lefel ysgol.

 

Os oes rhagor o wybodaeth hoffem gael am yr adborth rydym yn ei dderbyn, efallai gwnawn gynnal grwpiau ffocws gyda myfyrwyr er mwyn helpu llywio ein swyddogion etholedig yn eu hymgyrchu a lobïo.

 

Dyma ddim ond rhai esiamplau o’r hyn mae Wythnos Siarad wedi’i wneud ar gyfer myfyrwyr mewn blynyddoedd ddiweddar:

 

  • - Gweithiodd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ar ymgyrch Costau Byw.
  • - Ymestynnwyd oriau agor yr ASSL i 24 awr.
  • - Gwellwyd wifi ar draws y campws.
  • - Modd talu â cherdyn ar gyfer Arlwyo’r Brifysgol ar draws y campws.
  • - Cyhoeddi amserlen arholiadau dwy wythnos yn gynharach nag o’r blaen.

 

Gallwch ddarllen adroddiad llawn Wythnos Siarad 2022/23 yma.

 

Dyma rai ffyrdd eraill o sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed!

 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Wythnos Siarad, cysylltwch â thîm Llais y Myfyriwr trwy SUCampaigns@caerdydd.ac.uk.