Log in

yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn y Brifysgol o fewn i strwythurau'r Undeb a, lle bo hynny'n briodol, y Brifysgol.

About

View this page in English

Fy enw i yw Jacob, ac mae’n bleser fod y Swyddog y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Rwyf yn fy ail flwyddyn ac yn astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth ac mwynhau’n arw o fod yn rhan o fwlrwm y brifddinas! Mae fy niddordebau yn cynnwys gwleidyddiaeth, cerddoriaeth Cymraeg a joio yng nghwmni ffrindiau. Dros fy mlwyddyn ddiwethaf fy mhrif ddiben oedd i frwydro’n ddiflino dros hawliau Cymry Cymraeg Prifysgol Caerdydd ac eleni - parhau mae’r frwydr honno – felly erfynaf arnych ichi gysylltu ynglyn ag unrhyw broblem a ddaw i’ch rhan.

Fy mlaenioraethau: Yn syml, i frwydro’n ddiflino dros hawliau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. Bwriadaf i waredu’r drefn o arholiadau ar ddydd Sadwrn – er lles myfyrwyr sydd am ymroi i’r diwylliant Cymraeg drwy gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd. Yn ogystal, ceisio gwaredu’r drefn bresennol o orfod cofrestru i wneud arholiadau yn Gymraeg o fewn y pumed wythnos o bob tymor. Y nod pennaf yw i gydweithio’n agos gyda’r a UMCC er mwyn sefydlu Swyddog Cymraeg llawn amser o fewn yr Undeb a fyddai’n gwreiddio lle cydradd i’r Gymraeg yn yr Undeb a’r brifysgol.

Mae blaenoriaethau Jacob dros y flwyddyn nesaf yn cynnwys:

  • Peidiwch byth ag oedi cysylltu gyda problem o ran y Gymraeg!
  • Cofleidiwch bob cyfle a ddaw i’ch rhan
  • Profwch bob dim a gwthiwch eich hunain o’ch ‘Comfort Zone’.

What Is Working On?