Cymraeg

Drink Spiking

If you think you have been spiked or are with someone you think may have been spiked:

 

  • Call the police on 999 or 101 depending on the seriousness of the incident and its impact: ask the people you are with or the staff in a venue to help you call the police

 

 

  • Report it  to South Wales Police online here 

 

  • Report to Security Staff at the venue

 

If you are in the Students’ Union building report it to Security at the Second Floor Welcome Centre, or any member of staff and email to SUCustomerService@cardiff.ac.uk.  

 

Drink spiking occurs when a substance is unknowingly added to your drink. This may affect how you act or behave with other people. These effects can affect someone’s judgement and in extreme cases incapacitate them, both of which can put them at risk of harm and/or serious crime. Drink spiking can be committed for a number of reasons, such as to facilitate sexual assault, facilitate theft or assault, or for amusement.  Women are more frequently spiked than men, but everyone is at risk and anyone can help.

 

 

Common Drugs

 

Common drugs used for spiking drinks can come as powders, tablets or liquids, but will not have a noticeable flavour or colour. Some may be illegal drugs and some are prescription medications. Such examples include;

  • Alcohol
  • Ketamine
  • GHB (gamma-hydroxybutyrate) or GBL (gamma-butyrolactone) 
  • Benzodiazepines, such as Diazepam, Rohypnol, Temazepam 
  • Zopiclone. 

 

 

The Effects

 

The effects are variable, and may be affected by dosage, amount of alcohol consumed and the victim. Some warning signs may include;

  • Drowsiness or lightheadedness
  • Difficulty concentrating
  • Feeling confused or disorientated
  • Difficulty speaking or slurring words
  • Lowered inhibitions
  • Distorted hearing or vision
  • Paranoia
  • Amnesia (loss of memory).
  • Temporary loss/change of body sensation, such as feeling like you are floating.
  • Nausea/vomiting.
  • Loss of consciousness.

 

This may happen very quickly (within 30 minutes) and can last for up to six to eight hours. Sedative drugs, such as those listed above, when combined with alcohol can have much stronger effects, and can cause fatalities.

 

If your drink has been spiked, it is unlikely that you will be able to see, taste or smell the new substance, so prevention is key.

 

 

What to do if you think that you have been spiked

 

If you feel like you may have been spiked, tell someone you trust as soon as possible. This may be a close friend, member of bar staff or security, a police officer, medical professional or relative. If you aren't with anyone you can trust, then call someone and get to safe space. Be wary of accepting help from a stranger and don't leave with someone you don't know.

 

If you or someone you know starts to feel like you may have been spiked, you should go to the hospital with a trusted person. In an emergency, you should dial 999 and ask for an ambulance.

 

It is important to be aware of the effects of being spiked so that you can be mindful of your own safety, but also to be aware of the safety of other people. If you start to feel like you may have been spiked, or a friend starts behaving differently, then you can take action.

 

Drink spiking is a crime so, when you are sure there is no immediate danger, please read our Victim of Crime page for information on how to report it to the authorities. There is also information on this page about the support you can access at University.

 

If you have experienced any kind of violence, abuse, or unacceptable behaviour and you would like support, we can help. Please find some related support links below.

 

 

Reporting and accessing support

Would you like to report what has happened to South Wales Police? If this is the right option for you, please find ways to contact the police below:

 

You can report anything suspicious, or any situation that makes you concerned about your safety or the safety of others. You can contact South Wales Police on 101 or contact the emergency services on 999 if you think you are in immediate danger. You can also report an incident to South Wales Police online:

Email: publicservicecentre@south-wales.police.uk.

Website: bit.ly/SWPReportOnline

 

 

Prevention

The following steps may help prevent someone from spiking your drink:

  • Never leave your drink unattended;
  • Never accept a drink from anyone you don't know or trust;
  • Keep an eye on your friends' drinks;
  • Consider sticking to bottled drinks and holding your thumb over the opening between sips;
  • Keep your drink in your hand instead of on a surface;
  • Don't share or exchange drinks;
  • Don’t drink leftover drinks. “No minesweeping”;
  • It's important to remember that if you've already been drinking, it may make you less aware of any danger;
  • Before going out, let someone know where you're going and what time you expect to be home;
  • Make plans for your journey home with friends & don't leave without each other;
  • If you need to get a Taxi home, call a reputable company, and if you don't have the money on you, then use our safe taxi scheme. You can call Dragon on  029 2033 3333, quoting "Safe taxi scheme, your student number and name".

 

 

Cardiff Students' Union Safety Initatives

 

Cardiff Students’ Union has been working with local partners for many years to deliver other initiatives that will help to safeguard your personal safety at night. These initiatives are available for any Cardiff University student to use: 

 

Safety Bus 

We have partnered with South Wales Police to deliver the Cardiff Safety Bus. The bus patrols the city centre every Wednesday, Friday and Saturday night and will provide help to anyone who needs it.

 

Private Medical Staff 

During each club night event, we pay for private medically trained staff, with a minimum of at least two trained paramedics, to be in our venues to support with any medical issues that occur.

 

Safe Taxi Scheme 

No matter where students are in Cardiff, you can get home safely with just your student card thanks to our Safe Taxi Scheme. We work in partnership with Dragon Taxis to help students get home safely without any cash. Find more information about the scheme here.

 

Drink Spiking Testing Kits

We take the personal safety of our attendees very seriously. If you believe you have been spiked in our venues, please report to a staff member who will alert the onsite paramedic for assistance. We have invested in drink testing kits to give you immediate testing options at our venues and would encourage any student who is concerned about themselves or a friend at our events to speak to a staff member to access one of these. 

 

Please do not be hesitant of taking a spiking test kit in the Union, no action will be taken as a result of a positive test for drugs taken knowingly. Medical staff are employed for your safety.

 

Drink Toppers

Spikey Bottles are also available free of charge at all Cardiff SU bars for those wanting added drink protection. We have ordered drink covers for larger glasses.

 

Some other clubs may offer “Spikey” anti-spike drinks stoppers. These are small plastic stoppers that fit into the top of a standard-sized bottle and have an aperture only large enough for a straw. Once a straw is inserted, it becomes very difficult to add anything to the drink, and so they reduce the risk of being spiked. These products are single-use and only protect drinks served in bottles.  

 

You should still be cautious if using these devices. Be very wary, for example, if accepting drinks from strangers, as the drink could be spiked before you put your stopper in.

 

Security staff 

We employ a large security team to ensure the safety of attendees at events. This includes several dedicated positions in observational roles to watch for, and act on, inappropriate behaviour. 

 

Searches on Entry 

We conduct random searches as a condition of entry. For occasional events, sniffer dogs are utilised to support the identification of illegal substances. We have a zero-tolerance approach to possession of drugs in our venues, those caught can face a lifetime ban to all events (club nights, gigs and external events) and we may report to the police.  

 

Extensive CCTV and Body Cameras 

We have invested heavily in a CCTV system that has over 300 cameras in operation across our venues. On top of this, many of our security staff will be wearing body cameras to support gaining footage of incidents where required to aide police investigations. 

 

Staff Training Programme 

We’re developing our staff training programme to include information about how to handle inappropriate behaviours and to spot signs of drink tampering. 

These initiatives are regularly reviewed to understand effectiveness and we welcome any feedback or improvement suggestions by emailing SUCustomerServices@cardiff.ac.uk

 

NHS Advice

 

Please see the NHS pages for more information about drink spiking, the symptoms of drink spiking, what to do if your drink has been spiked and how to prevent your drink being spiked.

 

How we Keep You Safe in Our Venues

 

Y Plas night club is one of the largest Students’ Union clubs in the UK. Each week, on average 8,000 students attend the popular club nights – we are proud that these events are a core part of the Cardiff student experience for a large proportion of the student body. 

 

Supporting students to have fun in a safe manner will always be a fundamental part of how we organise and deliver events. As a not-for-profit venue, we invest heavily in safety initiatives which we have outlined below. In return, we require our attendees to help keep themselves and others in the club safe by playing their part to keep the student community safe and ensuring at all times, their behaviours in the club are in line with our code of practice. 

 

Whilst serious incidents in our clubs are minimal, we are aware that damaging and, on occasion, harmful activity can still occur. We take all reports of inappropriate, harmful and unlawful behaviours incredibly seriously and want to encourage any student who experiences these types of behaviours to report it. Our staff and security team are on hand during events to handle complaints, if you do not feel comfortable reporting at the time, please see the Reporting and Accessing Support section below.

 

We also ask you and your peers to be vigilant of our Student Behaviour Expectations if you are entering our venues.

 

Student Advice

Student Advice is a free, confidential and independent service available for students of Cardiff University. We are independent of the University and our role is to give you impartial advice and guidance and help you understand the options available to you.

If your being spiked impacts your wellbeing and/or ability to study and perform at your usual level, we can, amongst other things:

  • advise you on how to report Extenuating Circumstances to the University;
  • advise you on how to submit and Academic Appeal if you have missed the Extenuating Circumstances deadline, or you circumstances have been refused;
  • advise you on how to take an Interruption of Study and what you need to think about when deciding what to do;
  • signpost you to other support services.

 

Contact Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410

 

 


Sbeicio Diodydd

 

Mae sbeicio diodydd yn digwydd pan fydd sylwedd yn cael ei ychwanegu at eich diod yn ddiarwybod. Gall hyn effeithio ar sut rydych chi'n ymddwyn gyda phobl eraill. Gall yr effeithiau hyn effeithio ar graffter rhywun ac mewn achosion eithafol eu hanalluogi, a gall y ddau ohonynt eu rhoi mewn perygl o niwed a/neu droseddau difrifol. Gall sbeicio diodydd gael ei gyflawni am nifer o resymau, megis er mwyn hwyluso ymosodiad rhywiol, hwyluso lladrad neu ymosodiad, neu er difyrrwch. Mae menywod yn cael eu sbeicio’n amlach na dynion, ond mae pawb mewn perygl a gall unrhyw un helpu.

 

 

Cyffuriau Cyffredin

 

Gall cyffuriau cyffredin a ddefnyddir ar gyfer sbeicio diodydd ddod fel powdrau, tabledi neu hylifau, ond ni fydd ganddynt flas na lliw amlwg. Gall rhai fod yn gyffuriau anghyfreithlon ac mae rhai yn feddyginiaethau presgripsiwn. Mae enghreifftiau o'r fath yn cynnwys;

  • Alcohol
  • Cetamin
  • GHB (gamma-hydroxybutyrate) neu GBL (gamma-butyrolactone) 
  • Benzodiazepines, fel Diazepam, Rohypnol, Temazepam 
  • Zopiclone. 

 

 

Yr Effeithiau

 

Mae'r effeithiau'n amrywiol, a gallant gael eu heffeithio gan ddos, faint o alcohol a yfir a'r dioddefwr. Gall rhai arwyddion rhybuddio gynnwys;

  • Cysgadrwydd neu deimlo’n benysgafn
  • Trafferth canolbwyntio
  • Teimlo'n ddryslyd neu’n ffwndrus
  • Anhawster siarad neu methu dweud geiriau’n glir
  • Llai o swildod
  • Clyw neu olwg afluniedig
  • Paranoia
  • Amnesia (colli cof)
  • Colli/newid teimlad y corff dros dro, fel teimlo fel eich bod yn arnofio
  • Cyfog/chwydu
  • Colli ymwybyddiaeth.

 

Gall hyn ddigwydd yn gyflym iawn (o fewn 30 munud) a gall bara hyd at chwech i wyth awr. Gall cyffuriau tawelyddol, fel y rhai a restrir uchod, gael effeithiau llawer cryfach pan maent wedi’u cymysgu ag alcohol, a gallant achosi marwolaethau.

 

Os yw eich diod wedi'i sbeicio, mae'n annhebygol y byddwch chi'n gallu gweld, blasu neu arogli'r sylwedd newydd, felly mae atal yn allweddol.

 

 

Beth i'w wneud os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich sbeicio

 

Os ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi cael eich sbeicio, dywedwch wrth rywun rydych chi'n ymddiried ynddynt cyn gynted â phosibl. Gall fod yn ffrind agos, aelod o staff bar neu swyddogion diogelwch, heddwas, gweithiwr meddygol proffesiynol neu aelod o’ch teulu. Os nad ydych chi gydag unrhyw un y gallwch ymddiried ynddo, yna ffoniwch rywun a chyrraedd gofod diogel. Byddwch yn wyliadwrus o dderbyn cymorth gan ddieithryn a pheidiwch â gadael gyda rhywun nad ydych yn ei adnabod.

 

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn dechrau teimlo eich bod chi wedi cael eich sbeicio, dylech chi fynd i'r ysbyty gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddynt. Mewn argyfwng, dylech ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.

 

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o effeithiau cael eich sbeicio fel y gallwch fod yn ymwybodol o'ch diogelwch eich hun, ond hefyd i fod yn ymwybodol o ddiogelwch pobl eraill. Os byddwch chi'n dechrau teimlo efallai eich bod chi wedi cael eich sbeicio, neu fod ffrind yn dechrau ymddwyn yn wahanol, yna gallwch chi weithredu.

 

Mae sbeicio diodydd yn drosedd felly, pan fyddwch yn siŵr nad oes perygl uniongyrchol, darllenwch ein tudalen Dioddefwyr Troseddau i gael gwybodaeth am sut i roi gwybod i’r awdurdodau. Mae gwybodaeth ar y dudalen hon hefyd am y cymorth y gallwch ei gael yn y Brifysgol.

 

Os ydych wedi profi unrhyw fath o drais, cam-drin, neu ymddygiad annerbyniol ac yr hoffech gael cymorth, gallwn helpu. Dewch o hyd i rai dolenni cymorth cysylltiedig isod.

 

  • Cyngor ar frys os oes angen cyngor ar frys neu y tu allan i oriau gwaith arnoch chi neu unrhyw un arall, dyma wybodaeth am bwy y dylech gysylltu â nhw.
  • Cymorth ar unwaith a diogelwch os ydych chi wedi bod yn rhan o ddigwyddiad sydd wedi achosi anaf neu niwed.
  • Cysylltu â'n Tîm Diogelwch sy’n patrolio'r campws ac yn hapus i sgwrsio os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am ddiogelwch.
  • Tîm Ymateb i Ddatgeliadau os yw achos o drais, cam-drin neu ymddygiad digroeso sy'n peri gofid neu'n sarhaus wedi effeithio arnoch chi.
  • Diogelu eich hun a'ch eiddo i gael awgrymiadau ar ddiogelwch personol ac atal trosedd.
  • Diogelwch ar-lein a'ch hanes pori, diogelu e-byst a chyfrineiriau 
  • Lawrlwythwch ein ap Safezone i roi gwybod i’r tîm Diogelwch bod angen help neu gymorth arnoch ar y cwmpws. Os ydych oddi ar y campws bydd yr ap yn rhoi gwybod i'r heddlu.
  • Adnoddau trais a cham-drin os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am allu adnabod mathau o ymddygiad afiach, treisgar neu ddifrïol a rhagor o wybodaeth am gydsyniad.
  • Cymorth Cwnsela a Lles os byddwch chi eisiau siarad â rhywun i reoli eich iechyd a’ch lles emosiynol.

 

Sbeicio a chael cymorth

Hoffech chi roi gwybod i Heddlu De Cymru beth sydd wedi digwydd? Os mai dyma’r opsiwn cywir i chi, dewch o hyd i ffyrdd o gysylltu â’r heddlu isod:

 

Gallwch roi gwybod am unrhyw beth amheus, neu unrhyw sefyllfa sy'n eich gwneud yn bryderus am eich diogelwch neu ddiogelwch eraill: Gallwch gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu gysylltu â’r gwasanaethau brys ar 999 os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl uniongyrchol. Gallwch hefyd riportio digwyddiad i Heddlu De Cymru ar-lein:

E-bost: publicservicecentre@south-wales.police.uk.

Gwefan: bit.ly/SWPReportOnline

 

 

Atal

Gall y camau canlynol helpu i atal rhywun rhag sbeicio eich diod:

  • Peidiwch byth â gadael eich diod heb oruchwyliaeth;
  • Peidiwch byth â derbyn diod gan unrhyw un nad ydych yn ei adnabod nac yn ymddiried ynddynt;
  • Cadwch lygad ar ddiodydd eich ffrindiau;
  • Ystyriwch lynu at ddiodydd potel a dal eich bawd dros yr agoriad rhwng sipiau;
  • Cadwch eich diod yn eich llaw yn hytrach na’i rhoi i lawr;
  • Peidiwch â rhannu na chyfnewid diodydd;
  • Peidiwch ag yfed diodydd sy’n weddill. “Dim minesweeping”;
  • Mae'n bwysig cofio, os ydych chi eisoes wedi bod yn yfed, y gallai eich gwneud yn llai ymwybodol o unrhyw berygl;
  • Cyn mynd allan, rhowch wybod i rywun ble rydych chi'n mynd a faint o'r gloch rydych chi'n disgwyl bod adref;
  • Gwnewch gynlluniau ar gyfer eich taith adref gyda ffrindiau a pheidiwch â gadael heb eich gilydd;
  • Os oes angen i chi gael Tacsi adref, ffoniwch gwmni ag enw da, ac os nad oes gennych yr arian arnoch, yna defnyddiwch ein cynllun tacsi diogel. Gallwch ffonio Dragon ar 029 2033 3333, gan ddyfynnu "Cynllun tacsi diogel, eich rhif myfyriwr a'ch enw".

 

 

Mentrau Diogelwch Undeb Myfyrwyr Caerdydd

 

Mae Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol ers blynyddoedd lawer i gyflwyno mentrau a fydd yn helpu i sicrhau eich diogelwch personol yn ystod y nos. Mae'r mentrau hyn ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i’w defnyddio: 

 

Bws Diogelwch 

Rydym wedi partneru â Heddlu De Cymru i ddarparu Bws Diogelwch Caerdydd. Mae'r bws yn patrolio canol y ddinas bob nos Fercher, Gwener a Sadwrn a bydd yn rhoi cymorth i unrhyw un sydd ei angen.

 

Staff Meddygol Preifat 

Yn ystod pob digwyddiad noswaith clwb, rydym yn talu am staff preifat sydd wedi'u hyfforddi'n feddygol, gydag o leiaf dau barafeddyg hyfforddedig, i fod yn ein lleoliadau i gefnogi unrhyw faterion meddygol sy'n codi.

 

Cynllun Tacsi Diogel 

Ble bynnag yng Nghaerdydd mae myfyrwyr, gallwch gyrraedd adref yn ddiogel gyda dim ond eich cerdyn myfyriwr diolch i'n Cynllun Tacsi Diogel. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Dragon Taxis i helpu myfyrwyr i gyrraedd adref yn ddiogel heb unrhyw arian parod. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun yma.

 

Pecynnau Profi Sbeicio Diodydd

Rydym yn cymryd diogelwch personol ein mynychwyr o ddifrif. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich sbeicio yn ein lleoliadau, rhowch wybod i aelod o staff a fydd yn hysbysu'r parafeddyg ar y safle am gymorth. Rydym wedi buddsoddi mewn citiau profi diod i roi opsiynau profi i chi ar unwaith yn ein lleoliadau a byddem yn annog unrhyw fyfyriwr sy'n poeni amdanynt eu hunain neu ffrind yn ein digwyddiadau i siarad ag aelod o staff i gael mynediad i un o'r rhain. 

 

Peidiwch ag oedi cyn cymryd pecyn profi am sbeicio yn yr Undeb, ni fydd unrhyw gamau yn cael eu cymryd o ganlyniad i brawf positif am gyffuriau a gymerwyd yn fwriadol. Cyflogir staff meddygol er eich diogelwch.

 

Caeadau Diodydd

Mae Poteli Spikey hefyd ar gael yn rhad ac am ddim ym mhob un o fariau UM Caerdydd ar gyfer y rhai sydd eisiau diogelwch ychwanegol ar gyfer eu diod. Rydym wedi archebu gorchuddion diod ar gyfer gwydrau mwy.

 

Efallai y bydd rhai clybiau eraill yn cynnig topiau poteli gwrth-sbeicio “Spikey”. Topiau plastig bach yw'r rhain sy'n ffitio i ben potel maint safonol ac sydd ag agorfa sy'n ddigon mawr i welltyn yn unig. Unwaith y caiff gwelltyn ei fewnosod, mae'n dod yn anodd iawn ychwanegu unrhyw beth at y ddiod, ac felly maent yn lleihau'r risg o sbeicio. Mae'r cynhyrchion hyn yn rhai defnydd un tro ac maent ond yn diogelu diodydd sy'n cael eu gweini mewn poteli. 

 

Dylech fod yn ofalus o hyd os ydych chi'n defnyddio'r dyfeisiau hyn. Byddwch yn wyliadwrus iawn, er enghraifft, os ydych chi'n derbyn diodydd gan ddieithriaid, oherwydd gallai'r ddiod gael ei sbeicio cyn i chi roi eich topyn i mewn.

 

Staff diogelwch 

Rydym yn cyflogi tîm diogelwch mawr i sicrhau diogelwch mynychwyr mewn digwyddiadau. Mae hyn yn cynnwys sawl swydd benodol mewn rolau arsylwi i wylio am ymddygiad amhriodol a gweithredu arno. 

 

Chwiliadau wrth ddod mewn  

Rydym yn cynnal chwiliadau ar hap fel amod mynediad. Ar gyfer digwyddiadau achlysurol, defnyddir cŵn synhwyro i gefnogi adnabod sylweddau anghyfreithlon. Mae gennym ni agwedd dim goddefgarwch tuag at feddiant o gyffuriau yn ein lleoliadau, gall y rhai sy’n cael eu dal wynebu gwaharddiad oes i bob digwyddiad (nosweithiau clwb, gigs a digwyddiadau allanol) ac efallai y byddwn yn adrodd i’r heddlu.  

 

CCTV helaeth a Chamerâu Corff 

Rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn system teledu cylch cyfyng sydd â dros 300 o gamerâu ar waith ar draws ein lleoliadau. Ar ben hyn, bydd llawer o'n staff diogelwch yn gwisgo camerâu corff i'w helpu i gael ffilm o ddigwyddiadau lle bo angen er mwyn cynorthwyo ymchwiliadau'r heddlu. 

 

Rhaglen Hyfforddi Staff  

Rydym yn datblygu ein rhaglen hyfforddi staff i gynnwys gwybodaeth am sut i ymdrin ag ymddygiad amhriodol ac i ganfod arwyddion o ymyrryd â diodydd. 

Mae'r mentrau hyn yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i ddeall effeithiolrwydd a chroesawn unrhyw adborth neu awgrymiadau ar gyfer gwella drwy e-bostio SUCustomerServices@caerdydd.ac.uk

 

Cyngor y GIG

 

Gweler tudalennau’r GIG am ragor o wybodaeth am sbeicio diodydd, symptomau sbeicio diodydd, beth i’w wneud os yw eich diod wedi’i sbeicio a sut i atal eich diod rhag cael ei sbeicio.

 

Sut Rydyn ni'n Eich Cadw Chi'n Ddiogel yn Ein Lleoliadau

 

Mae clwb nos Y Plas yn un o glybiau mwyaf Undeb y Myfyrwyr yn y DU. Bob wythnos, ar gyfartaledd mae 8,000 o fyfyrwyr yn mynychu’r nosweithiau clwb poblogaidd – rydym yn falch bod y digwyddiadau hyn yn rhan greiddiol o brofiad myfyrwyr Caerdydd i gyfran helaeth o gorff y myfyrwyr. 

 

Bydd cefnogi myfyrwyr i gael hwyl mewn modd diogel bob amser yn rhan sylfaenol o'r ffordd yr ydym yn trefnu ac yn cyflwyno digwyddiadau. Fel lleoliad nid-er-elw, rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn mentrau diogelwch fel yr ydym wedi'u hamlinellu isod. Yn gyfnewid am hyn, rydym yn gofyn i'n mynychwyr helpu i gadw eu hunain ac eraill yn y clwb yn ddiogel trwy chwarae eu rhan i gadw cymuned y myfyrwyr yn ddiogel a sicrhau bob amser bod eu hymddygiad yn y clwb yn unol â'n côd ymarfer. 

 

Er mai ychydig iawn o ddigwyddiadau difrifol sydd yn ein clybiau, rydym yn ymwybodol y gall, ar brydiau, gweithgaredd niweidiol ddigwydd o hyd. Rydym yn cymryd pob adroddiad o ymddygiad amhriodol, niweidiol ac anghyfreithlon o ddifrif ac rydym am annog unrhyw fyfyriwr sy’n profi’r mathau hyn o ymddygiadau i roi gwybod amdano. Mae ein staff a’n tîm diogelwch wrth law yn ystod digwyddiadau i ymdrin â chwynion, os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus i adrodd ar y pryd, gweler yr adran Adrodd a Mynediad i Gymorth isod.

 

Rydym hefyd yn gofyn i chi a'ch cyfoedion fod yn wyliadwrus o'n Disgwyliadau Ymddygiad Myfyrwyr os ydych yn dod i mewn i'n lleoliadau.

 

Cyngor i Fyfyrwyr

Mae ein gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn rhoi cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Rydym yn annibynnol o'r Brifysgol a'n rôl yw rhoi cyngor ac arweiniad diduedd i chi a'ch helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Os yw cael eich sbeicio yn effeithio ar eich lles a/neu eich gallu i astudio a pherfformio ar eich lefel arferol, gallwn, ymhlith pethau eraill:

  • eich cynghori ar sut i roi gwybod i'r Brifysgol am Amgylchiadau Esgusodol;
  • eich cynghori ar sut i gyflwyno Apêl Academaidd os ydych wedi methu'r dyddiad cau ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol, neu os gwrthodwyd eich cais;
  • eich cynghori ar sut i Ohirio'ch Astudiaethau a beth sydd angen i chi ei ystyried wrth benderfynu beth i'w wneud;
  • eich cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill.

 

Cysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr

Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410