Tîm Ymateb i Ddatgeliadau
Staff arbenigol yn y Brifysgol sydd wedi cael eu hyfforddi i ymateb i ddatgeliadau o drais a
chamdriniaeth
yw'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau. Maen nhw’n cefnogi myfyrwyr sydd wedi’u
heffeithio gan
aflonyddu, troseddau casineb, cam-drin o fewn perthynas a ffurfiau eraill o ymddygiad annerbyniol.
Os ydych chi'n credu eich bod mewn perygl uniongyrchol neu'n poeni am eich diogelwch, dysgwch
sut i gael
rhagor o gymorth a chadwch
eich hun yn ddiogel.
Sut y gall y Tîm Ymateb i Ddatgeliadau helpu
Mae'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau yn cynnig cymorth ymarferol i chi, gan gynnwys:
- cefnogaeth i reoli pryderon parhaus ynghylch diogelwch
- cyswllt wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein, i sôn am eich profiad a'r holl
opsiynau
cymorth sydd ar gael
- cyngor ymarferol ar anghenion tai, ariannol ac academaidd
- cymorth os yw'r person sydd wedi bod yn dreisgar/camdriniol yn byw neu’n astudio gyda
chi
- cyfeirio at wasanaethau cymorth arbenigol.
I gael y cymorth hwn, gwnewch ddatgeliad gyda’ch enw drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Rhoi gwybod
Cwblhewch y ffurflen
ddatgeliad ar-lein i wneud datgeliad gyda neu heb enw.
Nod y Tîm Ymateb i Ddatgeliad yw ymateb i bob datgeliad o fewn dau ddiwrnod gwaith, o fewn yr
oriau
09:00-16:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.
Rydym yn deall y gall fod yn anodd ymddiried mewn pobl eraill a dweud wrthynt beth sydd wedi digwydd.
Mae rhai
pryderon cyffredin o ran rhannu’r profiadau hyn yn cynnwys:
- beth os nad oes unrhyw un yn fy nghredu?
- beth os yw eraill yn fy meirniadu?
- nid yw’r hyn sydd wedi digwydd imi mor wael â hynny
- rwy’n nabod yr unigolyn sy’n gyfrifol.
Eich dewis chi yw p'un a ydych yn dweud wrth rywun am eich profiadau ai peidio. Fodd bynnag,
mae'n bwysig
gwybod bod y brifysgol yn gallu eich cefnogi.
Mae'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau yn cymryd pob datgeliad o ddifrif ac yn credu'r hyn a
ddywedwch
wrthynt.
Os byddai’n well gennych chi beidio â llenwi’r ffurflen, ond hoffech chi gael
cymorth, anfonwch
ebost atom: [email protected].
Mae hwn
yn fewnflwch cyfrinachol, dim ond aelodau o'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau sydd â
mynediad iddo.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Bydd aelod o'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau yn cysylltu â chi i gynnig apwyntiad i roi
cyngor ac
arweiniad. Byddant yn egluro'r gwahanol opsiynau cymorth sydd ar gael, a gallant eich cyfeirio
at
wasanaethau arbenigol, os byddwch yn dewis.
Datgeliadau dienw
Os byddwch yn penderfynu datgelu eich profiad o drais neu gam-drin, gallwch barhau i fod yn ddienw
neu ddewis i
gyflwyno eich hun er mwyn i ni allu cysylltu â chi a chynnig cymorth.
Os ydych yn dewis i gyflwyno datgeliad dienw, ni allwn gymryd camau i ymateb i’r wybodaeth
rydych yn ei
rhannu. Fodd bynnag, gallwn ddefnyddio'r wybodaeth i edrych ar dueddiadau mewn perthynas â
digwyddiadau ar ac oddi ar y campws, sy'n helpu i lywio sut rydym yn addysgu myfyrwyr ac yn ein
helpu i
gymryd rhagofalon i wella diogelwch myfyrwyr.
Lawrlwythwch ap Bright Sky
Mae Bright Sky yn ap rhad ac am ddim i’w lawrlwytho sy’n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth i
unrhyw un a
allai fod yn profi camdriniaeth neu i’r rhai sy’n poeni am rywun maent yn ei nabod.
Mae’r ap ar gael yn Saesneg, Pwyleg, Pwnjabeg ac Wrdw.
Lawrlwytho’r ap o’r App
Store.
Lawrlwytho'r
ap
ar Google Play.
Lawrlwythwch ap SafeZone
Mae Prifysgol Caerdydd yn darparu mynediad i ap a SafeZone i bob myfyriwr, lle gallwch gysylltu â Diogelwch y
Brifysgol yn
uniongyrchol drwy rannu eich lleoliad a chyfathrebu'n gyflym drwy neges destun. Os ydych
chi'n
teimlo'n anniogel yn unrhyw le ar y campws, gallwch ddefnyddio'r ap SafeZone i roi gwybod am
hyn a
cheisio cymorth ar unwaith. Bydd hefyd yn dangos i chi eich lleoliad i ar y campws mewn amrywiaeth o
ffyrdd.
Mae ffynonellau allanol eraill o gyngor a chymorth yn cynnwys
Byw Heb Ofn: cynllun gan y Llywodraeth sy'n
cynnig help i
bob goroeswr, dioddefwr, gweithiwr proffesiynol, ac unrhyw un pryderus arall. Mae Byw Heb Ofn yn
cynnig cyngor
arbenigol ar bob math o drais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, gan gynnwys
treisio,
aflonyddu rhywiol, a stelcio. Croesewir pob hunaniaeth rhyw, rhywioldeb, ethnigrwydd a gallant
gyfeirio at
wasanaethau ychwanegol os hoffwch. Mae eu dewis llinell iaith yn golygu nad yw iaith yn rhwystr, ac
mae holl
weithwyr cymorth y llinell gymorth yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Llinell gymorth y tu allan
i oriau
0808 80 10 800, [email protected]
Refuge: Llinell Gymorth Genedlaethol
Camdriniaeth Ddomestig
24 awr am ddim i fenywod a phlant
Cymorth i Fenywod Caerdydd: Llinell gymorth 24/7
029 2046 0566
Llinell Gyngor i Ddynion: Cyngor a chymorth i ddynion
sy'n
dioddef trais a chamdriniaeth ddomestig 0808 801 0327
Galop: Llinell Gymorth Genedlaethol Camdriniaeth Ddomestig
LHDT+ 0800 999
5428 [email protected]
Cyngor i Fyfyrwyr
Gall Cyngor i Fyfyrwyr hefyd roi cyngor a chymorth ymarferol i chi. Gallwn roi cyngor ar dai ac
unrhyw oblygiadau
o’r gamdriniaeth ar eich astudiaethau. Os yw’r troseddwr yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd,
gallwn roi
cyngor ar sut i wneud cwyn yn ei erbyn i’r Brifysgol. Gallwn eich cefnogi gyda’ch cwyn
a’ch
cynghori ar gyflwyno amgylchiadau esgusodol neu ohirio astudiaethau os bydd angen.