Croeso i dudalennau Apeliadau Academaidd Undeb y Myfyrwyr. Yma dewch o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynglŷn â Pholisi a Gweithdrefn Apeliadau Academaidd y Brifysgol ac arweiniad ar gyflwyno apêl academaidd llwyddiannus.
Rydym wedi rhannu'r wybodaeth ac adnoddau gall fod eu hangen arnoch i'r tudalennau isod.
Cwestiynau Cyffredin
Cael Eich Canlyniadau
Rwyf newydd dderbyn fy nghanlyniad, pryd alla i apelio?
Mae pob canlyniad yn ddarpariaethol nes eu bod wedi’u cadarnhau gan Fwrdd Arholi. Fel arfer, bydd Byrddau Arholi yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y flwyddyn, tua Mai/Mehefin ac yna Awst/Medi ar gyfer arholiadau ailsefyll. Mae'r Weithdrefn Apeliadau ond yn caniatáu i chi apelio yn erbyn canlyniad sydd wedi'i gadarnhau gan Fwrdd Arholi. Dylech dderbyn cadarnhad o’ch canlyniadau mewn trawsgrifiad canlyniadau swyddogol, fel arfer trwy e-bost ac maent ar gael ar adran Trawsgrifiadau eich cyfrif SIMS.
Gallwch gyflwyno Apêl Academaidd o fewn 28 diwrnod wedi derbyn eich Trawsgrifiad Canlyniadau Swyddogol. Mae Trawsgrifiadau Canlyniadau Swyddogol fel arfer yn cael eu rhyddhau ym mis Mehefin/Gorffennaf, fel arfer trwy e-bost ac maent ar gael ar adran Trawsgrifiadau eich cyfrif SIMS.
Rhy gynnar i apelio: Os byddwch yn cael canlyniad yng nghyfnod asesu mis Ionawr, neu yn wir unrhyw bryd cyn i'r Bwrdd Arholi gyfarfod, ac nid ydych yn hapus, bydd angen i chi aros tan yn llawer hwyrach yn y flwyddyn cyn y gallwch gyflwyno apêl. Os byddwch yn clicio ar y tab 'rheoli/cyflwyno apêl' ar eich cyfrif SIMS, ac nid ydych wedi derbyn eich canlyniadau ffurfiol eto, fe welwch fod neges yn ymddangos yn egluro hyn. Os yw hyn yn berthnasol i chi, rydym yn eich cynghori'n gryf i gadw unrhyw dystiolaeth yn ddiogel fel y gallwch ei defnyddio i gefnogi eich apêl yn nes ymlaen.
Yn bwysig, os ydych chi'n ystyried apêl ar sail Amgylchiadau Esgusodol ac nid ydych wedi rhoi gwybod am hynny eto, rydym yn eich cynghori'n gryf i geisio adrodd hyn ar unwaith a gweld beth mae eich Ysgol yn ei ddweud. Efallai y byddant yn gwrthod eich amgylchiadau ond os ydych yn aros am gyfnod hir bydd angen i chi ddarparu rheswm da iawn dros yr oedi.
Rhy hwyr i apelio: Os byddwch yn colli'r cyfnod o 28 diwrnod, gallwch barhau i gyflwyno Apêl Academaidd, ond bydd yn rhaid i chi gysylltu ag Achosion Myfyrwyr a rhoi rheswm da iawn am fethu'r dyddiad cau cychwynnol. Os fernir nad yw’ch rheswm yn ddigon da, bydd eich apêl yn cael ei gwrthod. Cyfeiriwch at yr adran Apeliadau Hwyr ar ein tudalen Broses Apelio am wybodaeth ar sut i gyflwyno apêl hwyr.
Os ydych yn rhy gynnar neu'n rhy hwyr i apelio ac angen cyngor pellach ar y pwynt hwn, cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr.
Nid wyf yn deall fy nhrawsgrifiad, beth mae'r codau yn eu golygu?
Côd |
Ystyr |
P |
Asesiad wedi’i basio |
F |
Asesiad wedi’i fethu |
X |
Absennol o'r asesiad heb achos da |
A |
Amgylchiadau esgusodol a dderbyniwyd nad sydd wedi cael eu datrys ar gyfer yr asesiad |
B |
Amgylchiadau esgusodol a dderbyniwyd yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig nad sydd wedi cael eu datrys ar gyfer yr asesiad |
UA |
Camymddwyn Academaidd wedi'i gadarnhau ar gyfer yr asesiad |
UM |
Camymddwyn Academaidd wedi'i gadarnhau ar gyfer y modiwl |
XW |
Wedi'u tynnu o'r rhaglen astudio |
I |
Toriad Astudiaethau |
T |
Trosglwyddo Rhaglen |
OA |
Disgwyl Canlyniad |
D |
Asesiad wedi'i effeithio gan Weithredu Diwydiannol |
Z |
Ddim yn llwyddiannus mewn asesiad ffurfiannol |
A all fy ngwaith gael ei ail-farcio?
Mae Rheoliadau Academaidd Prifysgol Caerdydd yn nodi'n glir na all myfyrwyr herio barn academaidd. Nid yw'n bosibl gofyn am ail-farcio, nac ail farn ar eich asesiad.
Os ydych chi'n credu bod gwall rhifyddol wrth gyfrifo'ch marc, gallwch ofyn i'ch marc gael ei wirio. Gallwch gysylltu â'ch ysgol yn anffurfiol yn gyntaf a thrafod y mater gyda nhw. Os nad yw'r Ysgol yn gallu datrys hyn yn anffurfiol, gallwch gyflwyno apêl i gael y cyfrifiad wedi’i wirio.
Rwy'n credu bod fy narlithydd wedi rhoi marc isel i mi'n fwriadol. Sut allaf herio hyn?
Nid oes polisi o fewn Rheoliadau Academaidd Prifysgol Caerdydd sy’n galluogi myfyrwyr i herio barn academaidd. Nid yw'n bosibl gofyn am ail-farcio, nac ail farn ar eich asesiad.
Os oes gennych dystiolaeth i awgrymu eich bod wedi profi anghysondeb yn y canllawiau a/neu adborth gwnaethoch dderbyn yn ymwneud â'r asesiad, a allai fod wedi eich camarwain i ennill marc isel, yna efallai gallwch apelio.
Rwy’n ailsefyll asesiad, a fydd yn cael ei gapio i’r marc pasio?
Os ydych wedi methu asesiad, efallai y bydd gofyn i chi ailsefyll er mwyn symud ymlaen at y lefel nesaf.
Os gynhaliwyd yr asesiad gwnaethoch fethu cyn mis Mawrth bydd y marc yn cael ei gapio.
Efallai na fydd hyn yn wir os wnaethoch gyflwyno amgylchiadau esgusodol ar gyfer yr asesiad dan sylw. Os nad ydych yn siŵr bod cydnabyddiaeth o’r amgylchiadau esgusodol wedi’i gosod ar gyfer yr asesiad, byddem yn eich cynghori i gyfeirio'n ôl at yr ohebiaeth amgylchiadau esgusodol a gawsoch gan eich Ysgol, neu i gysylltu â'ch Ysgol am eglurhad.
Os gawsoch amgylchiadau esgusodol yn gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig wedi’u derbyn, efallai eich bod wedi cael cynnig ailsefyll asesiad gwnaethoch basio. Os felly, y bwriad yma yw rhoi cyfle i chi wella eich marc.
Os fethoch asesiad a gynhaliwyd wedi mis Mawrth gall y Polisi Rhwyd Diogelwch fod yn berthnasol. Os felly, caniateir ymgais arall ond bydd rhif yr ymgais yn aros yr un peth h.y. os ydych wedi methu modiwl ar yr ymgais gyntaf, bydd y rhif ymgais ailsefyll yn aros ar ymgais un ac ni fydd y marc ailsefyll yn cael ei gapio ar y marc pasio isaf. Os mai hwn yw eich ail ymgais ar y modiwl, bydd y rhif ymgais ailsefyll yn aros ar ymgais dau ond bydd y marc yn parhau i gael ei gapio ar y marc pasio.
Dyma fydd fy ymgais olaf ar yr asesiad, beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Os ydych yn Fyfyriwr Is-raddedig, ac wedi methu eich ail ymgais ar fodiwl wedi mis Mawrth, bydd y rhif ailsefyll yn aros ar ymgais dau a bydd y marc yn parhau i gael ei gapio ar y marc pasio.
Os gynhaliwyd eich dau ymgais gyntaf ar yr asesiad hwn cyn mis Mawrth, gellir ystyried hyn yn drydedd ymgais a'r olaf ar gyfer y modiwl, oni bai eich bod yn derbyn addasiad gan fwrdd arholi drwy'r Weithdrefn Amgylchiadau Esgusodol. Os fyddwch yn methu'ch ymgais olaf ar y modiwl, efallai y cewch eich tynnu'n o'ch cwrs.
Os ydych yn Fyfyriwr Ôl-raddedig, ac wedi methu eich ymgais gyntaf ar fodiwl wedi mis Mawrth, bydd y rhif ailsefyll yn aros ar ymgais un a bydd y marc yn parhau heb ei gapio.
Os gynhaliwyd eich ymgais gyntaf yn yr asesiad cyn mis Mawrth, gellir ystyried hyn fel ail ymgais a'ch ymgais olaf ar gyfer y modiwl, oni bai eich bod derbyn addasiad gan fwrdd arholi drwy'r Weithdrefn Amgylchiadau Esgusodol. Os fyddwch yn methu'ch ymgais olaf ar y modiwl, efallai y cewch eich tynnu o'ch cwrs.
Nawr fod gen i fy nghanlyniadau, rwyf am apelio yn erbyn modiwl o'r llynedd er mwyn gwella fy marc terfynol, sut alla i wneud hyn?
Gallwch gyflwyno Apêl Academaidd ar gyfer asesiadau a gynhaliwyd mewn blwyddyn academaidd flaenorol, fodd bynnag, ystyrir hyn fel apêl hwyr gan y dylech fod wedi apelio o fewn 28 diwrnod o dderbyn eich trawsgrifiad swyddogol yn y flwyddyn academaidd honno. Byddem yn eich cynghori i wneud apêl hwyr cyn gynted â phosibl.
Mae angen cyflwyno apêl hwyr yn ysgrifenedig i'ch Pennaeth Achosion Myfyrwyr. Wrth gyfathrebu bydd angen i chi gynnwys rheswm dros pam nad oedd yn bosibl neu'n rhesymol i chi gyflwyno apêl o fewn y terfyn amser. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi'ch esboniad.
Y Weithdrefn Apelio
Pa mor hir mae'r Weithdrefn Apeliadau Academaidd yn ei chymryd?
Mae'r Rheoliadau Academaidd yn nodi y gall y weithdrefn apelio gymryd tua 90 diwrnod.
Rydw i fod i raddio ym mis Awst, a fydd fy apêl yn cael ei phrosesu erbyn hynny?
Mae'r weithdrefn apelio fel arfer yn cymryd tua 90 diwrnod o'r dyddiad y byddwch yn cyflwyno eich apêl.
Os byddwch yn cyflwyno apêl o dan sail un, bydd canlyniad yr apêl fel arfer yn cael ei ryddhau yn gynt na'r amserlen benodedig.
Os ydych yn eich blwyddyn olaf a'ch bod wedi methu asesiad, ni fyddwch yn gallu graddio nes eich bod wedi cwblhau nifer briodol o gredydau yn llwyddiannus. Os fyddwch yn cyflwyno apêl o dan sail dau neu dri, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi ailsefyll yr asesiad dan sylw cyn y gallwch raddio. Ni fydd yr asesiad hwn yn cael ei gapio tra byddwch yn disgwyl canlyniad eich apêl.
Os ydych chi i fod i raddio a'ch bod yn apelio gradd wedi'i basio gyda'r bwriad o gael credydau wedi’u hail-ystyried, mae'n debygol y byddwch chi'n dal i raddio. Fodd bynnag, efallai y bydd Dosbarth eich gradd yn newid hyd nes y byddwch yn derbyn canlyniad eich apêl, a bydd tystysgrif gradd newydd yn cael ei hanfon atoch.
Mae 90 diwrnod yn rhy hir, a oes modd cyflymu’r broses?
Yn ôl Gweithdrefn Apeliadau Academaidd 19/20 ni allwch ofyn i apeliadau unigol gael eu cyflymu.
Pa asesiadau alla i apelio?
Os ydych chi eisiau, gallwch apelio'r holl asesiadau ar eich trawsgrifiad. Fodd bynnag, gallwch ond gyflwyno Apêl Academaidd o dan un o’r rhesymau penodol a amlinellir yn y Weithdrefn Apeliadau Academaidd. Os nad yw eich apêl yn dod o dan y rhesymau hyn, efallai na fydd y Brifysgol yn ei hystyried. Os ydych yn credu bod gennych reswm priodol dros apelio, ond nad yw'n cyd-fynd ag unrhyw un o'r seiliau penodedig, awgrymwn eich bod yn siarad ag un o'n cynghorwyr.
Gallwch hefyd gyflwyno apêl academaidd ar gyfer asesiadau neu ganlyniadau modiwlau a gawsoch mewn blynyddoedd academaidd blaenorol, ond byddai hyn yn cael ei hystyried yn apêl hwyr. Wrth gyflwyno apêl hwyr, mae angen i chi ddarparu rheswm da iawn dros fethu'r dyddiad cau gwreiddiol.
A fydd fy apêl yn effeithio fy mherthynas gyda'r Brifysgol?
Mae'r broses Apeliadau Academaidd wedi'i chynllunio i ganiatáu i fyfyrwyr herio eu marciau o dan seiliau penodol. Rydym yn deall y gallech fod yn amharod i fynegi anfodlonrwydd â'ch profiad rhag ofn y bydd ganddo ôl-effeithiau ar eich asesiadau yn y dyfodol.
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd rydych yn ddefnyddiwr gwasanaeth. Mae'n bwysig eich bod yn gallu apelio yn erbyn canlyniad nad ydych yn hapus ag ef, ac ni ddylech dderbyn rhagfarn neu wahaniaethu am wneud hynny.
Os ydych yn credu eich bod yn cael eich trin yn anffafriol o ganlyniad i apêl, ystyriwch ymgysylltu â Gweithdrefn Cwynion y Brifysgol.
Pa ddatrysiadau gallaf eu derbyn o'r Weithdrefn Apeliadau?
Gan ddefnyddio'r weithdrefn Apeliadau Academaidd gallwch ofyn am ddatrysiadau academaidd gan gynnwys:
- Ar gyfer Apeliadau Sail 1: dylid diwygio'r gwall a dylid diwygio unrhyw benderfyniad ar ddilyniant neu wobr yn unol â hynny
- Ar gyfer Apeliadau Sail 2: gall y Brifysgol ddisgowntio marciau asesu lle ceir diffyg neu anghysondeb. Efallai y byddant hefyd yn gallu cynnig cyfle i chi ailsefyll yr asesiad ar gyfer marc uwch.
- • Ar gyfer Apeliadau Sail 3: os dderbynnir eich amgylchiadau esgusodol, bydd eich achos yn cael ei gyfeirio yn ôl at Fwrdd Arholi wedi'i ailymgynnull a all:
- Diystyru unrhyw ymdrechion a fethwyd a chaniatáu ymgais arall - cyntaf, ail neu drydydd (yn dibynnu ar ba un yr oeddech chi arno).
- Disgowntio marciau ar gyfer asesiadau yr ydych wedi'u pasio wrth gyfrifo eich dosbarthiad. Ar gyfer 2019/20, mae'r rheol hon ond yn berthnasol i amgylchiadau esgusodol cyn mis Mawrth - oni bai bod eich amgylchiadau'n ymwneud â nodwedd warchodedig.
- o Os yw eich amgylchiadau'n ymwneud â nodwedd warchodedig, gall y Bwrdd hefyd gynnig cyfle i chi ailsefyll asesiad rydych eisoes wedi'i basio, gyda'r bwriad o wella eich marc.
- Ni all y Bwrdd Arholi gynyddu eich marciau o ganlyniad i'ch amgylchiadau esgusodol.
Ni allwch dderbyn datrysiad gwleidyddol neu ariannol o'r Weithdrefn Apeliadau. Os ydych yn edrych am ganlyniad nad sydd wedi'i amlinellu uchod, efallai y byddai'n briodol i chi ymgysylltu â Gweithdrefn Gwynion y Brifysgol yn ogystal â, neu yn lle’r Weithdrefn Apeliadau Academaidd.
A oes modd derbyn datrysiad ariannol?
Nac oes. Os ydych yn edrych am ddatrysiad ariannol, efallai y byddai'n briodol i chi ymgysylltu â Gweithdrefn Cwynion y Brifysgol yn ogystal â, neu yn lle’r Weithdrefn Apeliadau Academaidd.
Oes rhaid i mi dalu i apelio?
Nac oes. Mae'r Weithdrefn Apeliadau ar agor i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n anhapus gyda chanlyniadau. Nid oes angen i chi dalu i gyflwyno apêl academaidd.
Os, o ganlyniad i'ch apêl, y cewch gyfle i ailsefyll asesiad yn y flwyddyn academaidd nesaf, efallai y bydd hyn yn arwain at ffioedd ychwanegol. Efallai y bydd y Tîm Cynghori Ariannol a Chyllido yn gallu eich cynghori os yw hyn yn wir.
Yn ogystal, os ydych chi eisiau cyngor cyfreithiol proffesiynol pellach i gefnogi'ch apêl, efallai y byddwch yn gallu talu darparwr annibynnol ond nid yw hyn yn ofyniad angenrheidiol ar gyfer y Weithdrefn Apeliadau Academaidd.
Oes rhaid i mi dalu i ailsefyll?
Nid oes costau ychwanegol ar gyfer ailsefyll asesiad yn y cyfnod ailsefyll ym mis Awst.
Ond, os o ganlyniad i'ch apêl cewch gyfle i ailsefyll asesiad yn y flwyddyn academaidd nesaf, efallai y bydd hyn yn arwain at ffioedd ychwanegol. Gall ffioedd dysgu amrywio yn dibynnu a ydych yn cyflawni’r flwyddyn fel myfyriwr mewnol neu allanol.
Efallai y bydd y Tîm Cynghori Ariannol a Chyllido yn gallu eich cynghori os yw hyn yn wir.
Ysgrifennu Eich Apêl
Nid Saesneg yw fy iaith gyntaf, a all rhywun ysgrifennu fy apêl ar fy rhan?
Yn anffodus, nid yw Cyngor i Fyfyrwyr yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu neu wirio apêl.
Rydym yn darparu ystod o adnoddau, gan gynnwys cyfres o dudalennau gwe manwl, fideos gwybodaeth ar apeliadau, ac adnodd i'ch helpu i ysgrifennu a strwythuro eich apêl yn effeithiol.
Os ydych chi'n teimlo na allwch ysgrifennu apêl effeithiol oherwydd rhwystr iaith dylech ofyn am gymorth proffesiynol, cyfreithiol. Sylwer, mae’n rhaid cyflwyno pob apêl yn Gymraeg neu Saesneg.
Beth yw'r Generadur Apeliadau?
Mae Cyngor i Fyfyrwyr wedi creu'r Generadur Apeliadau i gynorthwyo myfyrwyr i ysgrifennu eu hapeliadau.
Bydd y ffurflen ar-lein yn eich gofyn am holl fanylion eich apêl, ac yna bydd yn anfon e-bost atoch gydag atodiad dogfen eiriau sy'n cynnwys drafft. Mae'r adnodd hwn wedi'i gynllunio i gefnogi'r broses ysgrifennu apêl, ond ni ddylid cymryd yn ganiataol y bydd eich apêl yn cael ei chymeradwyo'n awtomatig oherwydd hyn. Yn gyntaf dylech edrych ar dudalennau Ysgrifennu Eich Apêl.
Beth yw Nodwedd Warchodedig?
Mae nodweddion gwarchodedig yn gategorïau a ddiffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Os yw eich apêl yn ymwneud ag amgylchiadau sydd wedi cael eu heffeithio gan nodwedd warchodedig, efallai y byddwch yn gymwys am gymorth neu ddatrysiadau ychwanegol.
Os ydych yn credu bod eich astudiaethau wedi cael eu heffeithio gan amgylchiadau esgusodol sy'n ymwneud â nodwedd warchodedig, byddem yn eich cynghori i sôn am hyn yn eich apêl.
Oes angen tystiolaeth arnaf?
Fel arfer, mae'n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi popeth a ddywedwch yn eich apêl. Yn ddelfrydol, dylai tystiolaeth fod yn annibynnol a chefnogi pob elfen o'ch dadl.
Eich cyfrifoldeb chi yw darparu'r holl dystiolaeth a gwybodaeth yr ydych am gael ei hystyried pan fyddwch yn cyflwyno’ch apêl.
Ni fydd y Brifysgol yn cysylltu â thrydydd parti (e.e. meddygon, tiwtoriaid, yr heddlu, adrannau ysgol neu brifysgol) i gael y dystiolaeth hon ar eich rhan.
Os ydych yn datgan bod eich amgylchiadau a'ch apêl yn ymwneud â nodwedd warchodedig, mae'n bwysig eich bod yn darparu tystiolaeth o hyn hefyd.
Ni allaf gael tystiolaeth ar hyn o bryd - a allaf apelio beth bynnag?
Os na allwch gyflwyno tystiolaeth gyda'ch apêl, dylech nodi pam nad yw'r dystiolaeth wedi'i chynnwys a nodi pryd y bydd yn cael ei darparu. Bydd y Pennaeth Achosion Myfyrwyr yn ystyried a yw'n briodol caniatáu amser ychwanegol i chi ddarparu'r dystiolaeth.
Y Camau Nesaf
Beth os yw fy apêl yn cael ei gwrthod? A allaf herio'r penderfyniad?
Os wrthodir eich apêl, gallwch ofyn am adolygiad o'r penderfyniad gan ddefnyddio Gweithdrefn Adolygu’r Brifysgol.
Mae gennych 14 diwrnod o dderbyn penderfyniad eich Apêl Academaidd i wneud cais am adolygiad. Byddem yn eich cynghori'n gryf i fod yn rhagweithiol wrth ymgysylltu â'r weithdrefn hon fel na fyddwch yn methu'r dyddiad cau.
Os gwrthodir eich cais am adolygiad, a'ch bod yn teimlo bod hyn yn afresymol o ystyried manylion, tystiolaeth, ac amgylchiadau eich apêl, efallai y gallwch apelio drwy'r Swyddfa Dyfarnwr Annibynnol (OIA). Os yw hwn yn gam gweithredu y mae angen i chi ei ddilyn, cysylltwch â chynghorydd.