Cymraeg

Withdrawing from Study

Withdrawing from study is a big decision that can have financial and academic consequences. Before withdrawing from study, we recommend that you consider all your options and get advice to understand the implications of any decision you make. 

 

Advice

Student Advice can discuss your options with you and advise you through the process you choose to follow. 

 

Your Personal Tutor or Research Supervisor can discuss any concerns you may have about your course. 

 

Advice & Money is a University team that can advise on the implications for your student loan, funding and bursaries, and finances.

 

International Student Support can advise international students on any visa implications.

 

Other Options

Withdrawing is a permanent change. If you want to return to study you will have to re-apply to University, and there is no guarantee that you will be granted a place. Other possible options may be:

  • Changing course If you want to withdraw because you are unhappy with your course, you may be able to request a transfer. 
  • Interruption of Study This can give you up to 12 months away from University, while remaining a student and keeping your place on your course.
  • Extenuating Circumstances If there are difficult personal circumstances that are affecting you, you can report those to the University using the Extenuating Circumstances Procedure.
  • Adjustments and Exam Arrangements If you are affected by a long term health condition, are unable to sit your exams in Cardiff, or there is any other reason for you wanting to withdraw from study, then speak to Student Advice. The University has an obligation to put reasonable adjustments in place for students who manage long term health conditions, and we can advise you if you are having difficulty getting what you need.

 

If you have considered the above information and decided that you definitely want to withdraw from study, then you must formally notify the University through SIMS online.

 

After you Withdraw

  • The University will notify all relevant school and administrative offices within the University. They will also notify sponsors, UK Visas and Immigration and the Student Loans Company within 10 days of your withdrawal.
  • If you live in University residences, you will be released from your contract and you only pay rent until the day you hand in your keys or when you withdraw on SIMS, whichever is later.
  • If you live in a shared house, you will normally be bound by the contract and may need to find a replacement if you do not want to carry on paying rent for the length of the tenancy. 
  • You will not be exempt from Council Tax after withdrawing.
  • You must return your ID card.
  • You must return all University library books, pay any outstanding fines or debts.

 

Contact Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410

 


Tynnu'n ôl o’ch Astudiaethau

Mae tynnu'n ôl o’ch astudiaethau yn benderfyniad mawr a all arwain at ganlyniadau ariannol ac academaidd. Cyn tynnu'n ôl o'ch astudiaethau, rydym yn argymell eich bod yn ystyried eich holl opsiynau ac yn cael cyngor i ddeall goblygiadau unrhyw benderfyniad a wnewch. 

 

Cyngor

Gall Cyngor i Fyfyrwyr drafod eich opsiynau gyda chi a'ch cynghori drwy'r broses rydych chi'n dewis ei dilyn. 

 

Gall eich Tiwtor Personol neu Oruchwyliwr Ymchwil drafod unrhyw bryderon sydd gennych am eich cwrs. 

 

Cyngor ac Arian yw Tîm y Brifysgol sy'n gallu cynghori ar y goblygiadau i'ch benthyciad myfyriwr, cyllid a bwrsariaethau, a chyllid.

 

Gall Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol gynghori myfyrwyr rhyngwladol ar unrhyw oblygiadau fisa.

 

Opsiynau Eraill

Mae tynnu'n ôl yn newid parhaol. Os ydych am ddychwelyd i astudio, bydd yn rhaid i chi ailymgeisio i'r Brifysgol, ac nid oes sicrwydd y byddwch yn cael lle. Gall opsiynau posibl eraill fod:

  • Newid cwrs Os ydych am dynnu'n ôl oherwydd eich bod yn anhapus â'ch cwrs, efallai y gallwch ofyn am drosglwyddiad. 
  • Gohirio Astudiaethau Gall hyn roi hyd at 12 mis i ffwrdd o'r Brifysgol, tra'n parhau i fod yn fyfyriwr a chadw eich lle ar eich cwrs.
  • Amgylchiadau Esgusodol Os oes amgylchiadau personol anodd sy'n effeithio arnoch chi, gallwch roi gwybod i'r Brifysgol gan ddefnyddio'r Weithdrefn Amgylchiadau Esgusodol.
  • Addasiadau a Threfniadau Arholiadau Os ydych yn cael eich effeithio gan gyflwr iechyd tymor hir, yn methu sefyll eich arholiadau yng Nghaerdydd, neu os oes unrhyw reswm arall gennych dros eisiau tynnu'n ôl o’ch astudiaethau, yna siaradwch â Chyngor i Fyfyrwyr. Mae gan y Brifysgol rwymedigaeth i roi addasiadau rhesymol ar waith ar gyfer myfyrwyr sy'n rheoli cyflyrau iechyd hirdymor, a gallwn eich cynghori os ydych yn cael trafferth cael yr hyn sydd ei angen arnoch.

 

Os ydych wedi ystyried y wybodaeth uchod ac wedi penderfynu eich bod yn bendant eisiau tynnu'n ôl o’ch astudiaethau, yna mae'n rhaid i chi hysbysu'r Brifysgol yn ffurfiol drwy SIMS ar-lein.

 

Ar ôl i chi Dynnu'n ôl

  • Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r holl swyddfeydd ysgol a gweinyddol perthnasol yn y Brifysgol. Byddant hefyd yn hysbysu noddwyr, Fisâu a Mewnfudo’r DU a'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr o fewn 10 diwrnod ar ôl i chi dynnu'n ôl.
  • Os ydych yn byw ym mhreswylfeydd y Brifysgol, cewch eich rhyddhau o'ch contract a byddwch ond yn talu rhent tan y diwrnod y byddwch yn rhoi eich allweddi neu pan fyddwch yn tynnu'n ôl ar SIMS, pa bynnag un sydd hwyraf.
  • Os ydych yn byw mewn tŷ a rennir, byddwch fel arfer yn rhwym i'r contract ac efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i un newydd os nad ydych am barhau i dalu rhent am hyd y denantiaeth. 
  • Ni fyddwch wedi'ch eithrio rhag Treth y Cyngor ar ôl tynnu'n ôl.
  • Rhaid i chi ddychwelyd eich cerdyn adnabod.
  • Rhaid i chi ddychwelyd holl lyfrau llyfrgell y Brifysgol, talu unrhyw ddirwyon neu ddyledion sy'n ddyledus.

 

Cysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr

Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410