Results and Resits

Understanding your Transcript

 

When you receive your results, a transcript will be included that tells you if you have passed your modules. 
 

Your transcript may seem quite complex at first, and you can contact us if you are struggling to understand it.

 


 

Arguably the most important information should appear on the front page: this tells you whether you are able to progress to the next academic year, or graduate from your programme, whether you are required to repeat any assessments, or whether you have been withdrawn.
 

We would encourage you to look specifically at the Grade Codes that you have received. You can use the key at the end of your transcript to help you see what your mark means, or why you have been awarded the mark that you see.
 

Getting results that you are not happy with can be quite a shock. If you have not successfully passed the year, you might get an opportunity to repeat the modules you have failed. You may find that you are required to resit in the August Resit Period, or in some cases, you may be required to repeat the year.
 

We appreciate that “repeating the year” can seem quite daunting, especially when you are unsure what this means. If you are required to repeat the year, in most cases you will only be required to repeat assessments that you have either failed or not sat/submitted. Please note, repeating the year will have financial implications on you that you may not be aware of. Please see more on Fees and Funding below.
 

You may also be given the opportunity to decide whether you will sit the year as an internal student or an external student. Your transcript may say that you have to repeat internally or externally, but it may give you the choice.
 

If it says that you are to repeat the year as an external student, you will have the option to request to repeat as an internal student during the online enrolment process. Your school will need to approve any such request.
 

Important: Please note, if you have been told you have to repeat the year, you cannot appeal that decision, unless there is an error in your marks and you have actually passed the assessment. The University’s rules are very clear that you have to pass a set amount of credits in order to progress to the next year/stage of study. The only decision you can appeal, if there is no error, is the capping of any marks (please see below).

 

Repeating as an internal student

 

Repeating as an internal student means you will not progress to the next level of your course and you are required to attend lectures, seminars and tutorials as you did the first time you studied the modules.  You will normally only be required to attend modules you have failed. An exception to this may be if you are on a professional programme. Your School should advise you on what is required. 
 

The University's Academic Regulations state;

"Where a student repeats module(s) as an internal student, the student will attend all teaching and be assessed in the same way as other students taking the module during the session. Internal repeating students will only be assessed in elements of the assessment that they have not successfully completed in that module, against the original learning outcomes of the module. Students will be credited with the highest mark achieved for any failed component."

 

Fees & Funding

 

You will be charged a pro-rata amount for each module you are required to repeat. How much this will be will depend on whether you are a home or international student and your level of study. For example, if you pay £9,000 fees usually, you will be charged £750 per 10 credit you will be repeating. For confirmation on how much fees you will be charged, please contact the Fees Office.
 

The general rule for undergraduate student funding is every student is entitled to funding for the length ordinarily required to complete their course, plus one additional year.
 

  • If you haven't used this additional year, you could be entitled to full funding for the time you are required to attend and repeat.
     
  • If you are studying full time but repeating part time, you would usually still receive your full funding for the year.
     
  • If you have studied in the past and you have used your additional year of funding, you would be entitled to a maintenance loan only for your repeat year.

 

If you are funded by the NHS and you need to repeat part of your course, you can be considered for NHS funding for repeat study. This includes Medicine and Dentistry students in an NHS funded year. Your case for repeat NHS funding requires the support of your School and is usually only considered on medical or compassionate ground. Applications for repeat NHS funding is not guaranteed.
 

If you are eligible for the reduced undergraduate Maintenance Loan, you can apply for this during a repeat year even if you are not entitled to the NHS Bursary.
 

If you do not qualify for NHS funding for repeat study, you might be eligible to apply for 'full' financial support via your student finance service.
 

If you are in receipt of a Postgraduate Masters Loan, no additional amount is awarded if you are required to repeat a year.
 

If you need further student finance because you have compelling personal reasons, you could be entitled to further funding. You must provide evidence of this.
 

Depending on your circumstances this may be:

  • medical evidence from your GP;
  • evidence from Social Services; or
  • evidence from the student advisory service at your university or college that substantiates your personal or family crisis.
     

Your compelling reasons will be considered carefully before a decision is made about your entitlement.
 

For further advice on fees and funding, you can contact the University's Advice & Money Team.

 

Repeating as an external student

 

As an external student, you are only expected to attend University to re-sit the exams or submit coursework you have failed.
 

  • You would not usually attend any lectures, seminars and tutorials.
     
  • You will not be given a student card, or normally have access to the library or computers. Sometimes, access to the library and computer facilities can be arranged through your School.
     
  • You must enrol as an external student. If you do not enrol, the University will initiate the Non-engagement with Study procedure.
     

Please be aware that if your exam results require you to repeat the year as an external student, you will have the option to request to repeat as an internal student during the online enrolment process. Your school will need to approve any such request.
 

The University's Academic Regulations state;

“Where a student repeats module(s) as an external student, the student will not be required to attend teaching sessions and will only be assessed in elements of the assessment that they have not successfully completed in that module, against the original learning outcomes applicable when the student attempted the module as an internal student. Students will be credited with the highest mark achieved for any failed component."

 

Fees & Funding

 

You will not have to pay tuition fees but you will have to pay a one off external examination fee. In 2023/24 the fee is £144, no matter how many exams you re-sit. We would advise you to confirm the cost of an external repeat year on this page of the Student Intranet.
 

You will not receive student funding (e.g. student loans or grants for fees or living costs) as you are not required to attend your course. It is your responsibility to inform the relevant student finance service of your situation, including:

  • if you have already applied for student funding as if you were progressing on your course
  • if you are already receiving funding, such as a maintenance loan.

Any errors could lead to problems with your future funding.


You will need to plan how you will support yourself during this time. You are unlikely to qualify for state benefits, as you are still classed as a student, having not abandoned your course.

 

Can I choose to be an internal or External student?

 

Your transcript will usually state that you can choose to repeat internally or externally.
 

There may be exceptions to this if you have failed a number of modules, or if you are studying on a professional programme such as Optometry, Dentistry or Medicine.
 

We strongly advise you to talk about your repeat year with your Personal Tutor.

 

Will my repeat assessments be capped?

 

Whether or not your repeat assessment will be capped depends on what attempt number the repeat will be deemed to be. If your repeat is deemed to be a further 1st attempt, it will not be capped. If it is deemed to be a 2nd or 3rd attempt, it will be capped at the minimum pass mark.

 

The Academic Regulations state that; 
 

  • A student who is re-assessed in a module, resitting or repeating, and who passes an assessment in which they have previously failed, will be credited with the minimum assessment mark for a pass; if re-assessment is by a synoptic assessment, the module mark will be capped at the minimum pass mark. 

 

If my assessments are capped can I appeal the decision?

 

Yes, you may be able to appeal the decision by using the Academic Appeals Procedure.
 

The Academic Appeals Procedure specifically has three grounds under which students can appeal their results. The process can also take some months to complete. This means that when you initially return to study, your repeat year is likely to remain capped, but may be uncapped later should your academic appeal be successful.

The only way to have an assessment mark uncapped is to have that attempt deemed as a 1st attempt. This means that you would need to have any prior attempts at the assessment disregarded.
 

The Appeals Procedure has a strict 28-day deadline from the date that you receive your Official Transcript. If you are appealing a transcript that you received over 28 days ago, this will be considered a late appeal. If this is the case, we would strongly advise you to contact us for guidance.

 

Why does my transcript state I am to be withdrawn from study?

 

Students are usually withdrawn from study if they have exhausted the number of attempts available to them, or they will not be able to complete their course within the permitted time limit:
 

Number of attempts

 

An undergraduate student is normally permitted three attempts to achieve the award of credit in a module (a first attempt and two re-assessment attempts).
 

A postgraduate student is normally permitted two attempts to achieve the award of credit in a module (a first attempt and a re-assessment attempt).
 

Any failed attempts for which you reported (and your School accepted) Extenuating Circumstances should be diresgarded. This only covers circumstances reported for an Examining Board remedy, not to request an extension.
 

If you are concerned that the number of permitted attempts has been calculated incorrectly, you should contact your Academic School in the first instance. If you are not happy with their response, contact Student Advice.
 

Permitted time for completion

 

An Examining Board will withdraw you from study if you are unable to complete the programme within the specified time limit. The time-limit for a full-time student to complete their Programme is no more than 2 years beyond the approved duration of the Programme.
 

This period may be extended in exceptional circumstances, by the Academic Standards and Quality Committee.

 

Can I appeal this decision to withdraw me from study and if it is successful can I return to study?

You may be able to appeal the decision by using the Academic Appeals Procedure. This is the only way to challenge the decision of the University regarding your academic progress. As above, there are limited grounds for appeal and the process can take many months to complete.
 

Given that this tis the case, it is likely that even if your appeal is successful and you are permitted a further attempt, you will not be allowed to return to study with immediate effect; in most cases, you may be permitted to re-join your programme from the start of the next academic year, with a view to either repeating the year, or completing any outstanding assessments in the August Resit Period.

 

How will the Repeat year impact on my visa?

 

Repeating a year can have a serious impact on your immigration status. Further information is available on the University's intranet page.
 

If you have a UK Student visa, it is only valid for study as an international student. If you are repeating as an external student, you will no longer be attending lectures or classes and so won't be fulfilling the conditions of your UK Student visa.
 

If there will be more than 60 days between the start of the next academic period and the date of your first re-sit exam or course work submission deadline, the University will inform the Home Office that you are no longer studying. Your visa will be curtailed (cancelled) as a result and you must leave the UK.
 

You will need to make the appropriate visa application from overseas in order to return to your studies. Please contact Student Visa Support for guidance about the most appropriate visa application for you.
 

International students can find out more about re-sitting or repeating as an external student  on the Student Visa Support intranet page.

 

Sponsorship

 

Repeating a year may affect your sponsorship. Before deciding how to repeat your year of study contact your sponsor to confirm if funding will continue to be available. Your School Finance Officer might also be able to assist you 

 

Important Considerations

 

Whether to repeat internally or externally is a big decision which some potentially serious implications either way. You will need to consider:

 

  • If you need to attend teaching and have full access to all resources and if this will give a better chance of academic success. Do you think you have a realistic chance of achieving what you want to achieve without attending?
  • If you want or need to undertake assessments again that you have already passed. This is an important consideration because, if you repeat externally, you will only repeat the failed elements of your repeat module(s). If you repeat internally, you have to repeat the entire module, even if you have previously passed elements of it;
  • If you do choose to repeat internally and so have to repeat assessments that you have already passed, will the new mark be capped or uncapped? This will depend on what attempt your repeat is deemed to be (see above);
  • If you are you able to finance your study through Student Finance as an internal student and how will this impact on the future funding of your course;
  • If you opt to repeat as an external student, will you be able to find work or self-fund? Most students are not entitled to claim benefits and you will keep your student status during an external repeat year, even though you are not in attendance. You will need to be able to fund yourself during this period;
  • How your Student visa be effected if you repeat externally or internally;
  • If your sponsor will cover the cost of a repeat year of study.

 

Contact Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410

 

Canlyniadau ac Ailsefyll

 

Deall eich trawsgrifiad

 

Pan fyddwch yn derbyn eich canlyniadau, bydd trawsgrifiad yn cael ei gynnwys a fydd yn dweud wrthoch os wnaethoch basio eich modiwlau.
 

Gall eich trawsgrifiad edrych ychydig yn gymhleth i ddechrau, a gallwch gysylltu â ni os ydych yn cael trafferth ei ddehongli.

 


 

Fel arfer bydd y wybodaeth fwyaf pwysig yn ymddangos ar y dudalen flaen: hynny yw, os ydych yn gallu symud ymlaen at y flwyddyn academaidd nesaf neu raddio o'ch rhaglen, neu os oes angen i chi ailsefyll unrhyw asesiadau, neu os ydych wedi cael eich tynnu o'ch cwrs.
 

Byddem yn eich annog i edrych ar y Codau Gradd penodol rydych wedi'u derbyn. Gallwch ddefnyddio'r allwedd ar ddiwedd eich trawsgrifiad i'ch helpu i ddeall eich marciau.
 

Gall derbyn canlyniadau gwael fod yn dipyn o sioc. Os nad ydych wedi llwyddo pasio'r flwyddyn, efallai cewch gyfle i ailsefyll modiwlau rydych wedi'u methu. Efallai y bydd gofyn i chi ailsefyll yng nghyfnod ailsefyll Awst, neu mewn rhai achosion bydd gofyn i chi ailsefyll y flwyddyn gyfan.
 

Rydym yn gwerthfawrogi y gall ailsefyll blwyddyn fod yn achos pryder, yn enwedig os ydych yn ansicr beth mae hyn yn ei olygu. Os oes gofyn i chi ailsefyll blwyddyn, bydd fel arfer gofyn i chi ailsefyll asesiadau gwnaethoch eu methu neu ni wnaethoch eu heistedd. Nodwch, gall ailsefyll blwyddyn ddod gyda goblygiadau ariannol nad ydych yn ymwybodol ohonynt. Gweler mwy yn yr adran Ffioedd a Chyllid isod.
 

Efallai byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis os ydych yn ailsefyll y flwyddyn fel myfyriwr mewnol neu fyfyriwr allanol. Gall eich trawsgrifiad nodi os oes angen i chi ailsefyll fel myfyriwr mewnol neu allanol, neu roi'r dewis i chi.
 

Os yw'n dweud bod angen i chi ailsefyll y flwyddyn fel myfyriwr allanol, gallwch wneud cais i'w ailsefyll fel myfyriwr mewnol yn ystod y proses cofrestru ar-lein. Bydd angen i'ch ysgol cymeradwyo'r cais yma.
 

Pwysig: Nodwch, os oes gofyn i chi ailsefyll blwyddyn, ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad, oni bai bod gwall yn eich marciau a'ch bod wedi pasio asesiad mewn gwirionedd. Mae rheolau'r Brifysgol yn glir iawn fod rhaid pasio nifer penodol o gredydau er mwyn symud ymlaen at y flwyddyn nesaf/graddio. Yr unig benderfyniad gallwch ei apelio, os nad oes gwall, yw capio unrhyw farciau (gweler mwy o wybodaeth isod).

 

Ailsefyll fel Myfyriwr Mewnol

 

Mae ailsefyll fel myfyriwr mewnol yn golygu na fyddwch yn symud ymlaen at lefel nesaf eich cwrs a bydd gofyn i chi fynychu darlithoedd, seminarau, a thiwtorialau fel gwnaethoch y tro cyntaf i chi astudio'r modiwlau. Fel arfer bydd dim ond angen i chi fynychu modiwlau gwnaethoch eu methu. Eithriad i hyn yw os ydych ar raglen broffesiynol. Dylai eich ysgol rhoi gwybod am beth sy'n ofynnol.
 

Mae Rheoliadau Academaidd y Brifysgol yn datgan;

"Lle bod myfyriwr yn ailsefyll modiwl(au) fel myfyriwr mewnol, bydd y myfyriwr yn mynychu'r holl addysgu ac yn cael eu hasesu yn yr un ffordd â myfyrwyr eraill sy'n cymryd y modiwl yn ystod y sesiwn. Bydd myfyrwyr mewnol sy'n ailsefyll ond yn cael eu hasesu ar elfennau o'r asesiadau nad ydyn nhw wedi'u cwblhau'n llwyddiannus ar y modiwl, yn erbyn canlyniadau dysgu gwreiddiol y modiwl. Bydd myfyrwyr yn derbyn y marc uchaf maent yn ei gyflawni ar unrhyw elfen a fethwyd."

 

Ffioedd & chyllid

 

Bydd angen i chi dalu swm pro-rata ar gyfer pob modiwl y mae angen i chi ei hailadrodd. Bydd y gost yma yn dibynnu ar os ydych yn fyfyriwr cartref neu ryngwladol, a beth yw eich lefel astudio. Er enghraifft, os ydych fel arfer yn talu ffi o £9,000, codir tâl o £750 arnoch ar gyfer pob credyd byddwch yn ei hailadrodd. Ar gyfer cadarnhad am faint y bydd angen i chi ei dalu, cysylltwch â'r Swyddfa Ffioedd.
 

Y rheol gyffredinol yw bod pob myfyriwr israddedig yn gymwys am gyllid ar gyfer y cyfnod arferol y mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs ac un flwyddyn ychwanegol.
 

  • Os nad ydych wedi defnyddio'r flwyddyn ychwanegol hon, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cyllid llawn ar gyfer yr amser y mae disgwyl i chi ei ailsefyll.
  • Os ydych yn astudio llawn amser, ond yn ailadrodd rhan-amser, byddech fel arfer yn derbyn eich cyllid llawn am y flwyddyn ta beth.
  • Os ydych wedi astudio yn y gorffennol ac wedi defnyddio eich blwyddyn ychwanegol o gyllid, byddech yn gymwys ar gyfer benthyciad cynhaliaeth yn unig ar gyfer y flwyddyn rydych yn ei ailadrodd.

 

Os ydych wedi'ch cyllido gan y GIG a bod angen i chi ailsefyll rhan o'ch cwrs, gallech gael eich ystyried ar gyfer cyllid ailsefyll y GIG. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr meddygaeth a deintyddiaeth ar flwyddyn wedi'i chyllido gan y GIG. Bydd angen cefnogaeth eich ysgol ar gyfer cais am gyllid ailsefyll y GIG a bydd fel arfer ond yn cael ei hystyried ar seiliau meddygol neu dosturiol. Nid yw ceisiadau ar gyfer cyllid ailsefyll y GIG wedi'u gwarantu.
 

Os ydych yn gymwys ar gyfer y benthyciad cynhaliaeth is, gallwch wneud cais am hyn yn ystod blwyddyn ailsefyll hyd yn oed os nad ydych yn gymwys ar gyfer bwrsariaeth y GIG.
 

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer cyllid y GIG wrth ailsefyll, efallai y gallwch ymgeisio ar gyfer cefnogaeth ariannol 'lawn' trwy'ch gwasanaeth cyllid myfyrwyr.
 

Os ydych yn derbyn benthyciad meistr ôl-raddedig, ni fyddwch yn derbyn unrhyw gyllid ychwanegol os oes angen i chi ailsefyll blwyddyn.
 

Os oes gennych resymau personol dros ailsefyll, gallech fod yn gymwys ar gyfer cyllid pellach. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau gall hyn gynnwys:

  • tystiolaeth feddygol gan eich GP;
  • tystiolaeth wrth Wasanaethau Cymdeithasol; neu
  • tystiolaeth wrth wasanaeth cynghori myfyrwyr y Brifysgol sy'n cadarnhau amgylchiadau personol neu deuluol.
     

Bydd eich rhesymau yn cael eu hystyried yn ofalus cyn i'ch cais cael ei gadarnhau.
 

Am ragor o gyngor ar ffioedd a chyllid, gallwch gysylltu â Thîm Cyngor & Arian y Brifysgol.

 

Ailadrodd fel Myfyriwr Allanol

 

Fel myfyriwr allanol, mae ond disgwyl i chi fynychu'r Brifysgol er mwyn ailsefyll arholiadau neu ailgyflwyno gwaith cwrs gwnaethoch eu methu.
 

  • Fel arfer ni fyddech yn mynychu darlithoedd, seminarau, na thiwtorialau.
     
  • Ni fyddwch yn derbyn cerdyn myfyriwr, neu fynediad arferol at lyfrgelloedd a chyfrifiaduron. Weithiau gall mynediad at y cyfleusterau yma cael ei drefnu trwy eich ysgol.
     
  • Rhaid i chi gofrestru fel myfyriwr allanol. Os nad ydych yn cofrestru, bydd y Brifysgol yn gweithredu'r Weithdrefn Diffyg Ymgysylltiad.
     

Byddwch yn ymwybodol, os oes gofyn i chi ailsefyll y flwyddyn fel myfyriwr allanol o ganlyniad i'ch canlyniadau arholiadau, cewch opsiwn i wneud cais er mwyn ailsefyll fel myfyriwr mewnol yn ystod y broses cofrestru ar-lein. Bydd angen i'ch ysgol cymeradwyo cais o'r fath.
 

Mae Rheoliadau Academaidd y Brifysgol yn datgan;

“Lle bod myfyriwr yn ailadrodd modiwl(au) fel myfyriwr allanol, ni fydd gofyn iddynt fynychu sesiynau addysgu, a byddant ond yn cael eu hasesu ar elfennau o'r asesiadau nad ydynt wedi'u cwblhau'n llwyddiannus ar y modiwl, yn erbyn y canlyniadau dysgu gwreiddiol a oedd yn berthnasol pan wnaeth y myfyriwr rhoi cynnig ar y modiwl fel myfyriwr mewnol. Bydd myfyrwyr yn derbyn y marc uchaf maent yn ei gyflawni ar gyfer unrhyw elfen a fethwyd."

 

Ffioedd & chyllid

 

Ni fydd angen i chi dalu ffioedd dysgu dim ond ffi arholi allanol untro. Yn 2023/24 roedd y ffi yn £144, dim ots faint o arholiadau sy'n cael eu hailsefyll. Byddem yn cynghori cadarnhau'r gost o ailadrodd blwyddyn fel myfyriwr allanol ar y dudalen hon o'r fewnrwyd myfyrwyr.
 

Ni fyddwch yn derbyn cyllid myfyrwyr (e.e. benthyciadau myfyrwyr, neu grantiau ar gyfer ffioedd neu gostau byw) gan nad oes gofyn i chi fynychu eich cwrs. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i'r gwasanaeth cyllid myfyrwyr perthnasol am eich sefyllfa, gan gynnwys:

  • os ydych eisoes wedi ymgeisio ar gyfer cyllid myfyrwyr fel pe baech yn symud ymlaen ar eich cwrs
  • os ydych eisoes yn derbyn cyllid, megis benthyciad cynhaliaeth.

 

Gall unrhyw wallau arwain at broblemau gyda'ch cyllid yn y dyfodol.


Bydd angen i chi gynllunio sut i gefnogi eich hunain yn ystod y cyfnod hwn. Rydych yn annhebygol o fod yn gymwys ar gyfer budd-daliadau gan y Llywodraeth, gan eich bod wedi'ch ystyried yn fyfyriwr o hyd.

 

A allaf ddewis bod yn fyfyriwr mewnol neu allanol?

 

Bydd eich trawsgrifiad fel arfer yn datgan eich bod yn gallu dewis ailsefyll yn fewnol neu'n allanol.
 

Efallai y bydd eithriadau i hyn os wnaethoch fethu nifer o fodiwlau, neu os ydych yn astudio rhaglen broffesiynol megis optometreg, deintyddiaeth, neu feddygaeth.
 

Rydym yn cynghori'n gryf eich bod yn siarad gyda'ch Tiwtor Personol am eich blwyddyn ailsefyll.

 

A fydd fy asesiadau'n cael eu capio?

 

Bydd capio marciau ar asesiadau rydych yn eu hailsefyll yn dibynnu ar ba ymgais yw'r ailsefyll. Os dyfernir bod eich blwyddyn ailsefyll yn parhau i fod yn ymgais 1af, ni fyddant yn cael eu capio. Os dyfernir taw dyma eich 2il neu 3ydd ymgais, byddant yn cael eu capio i'r marc pasio isaf.

 

Mae'r Rheoliadau Academaidd yn datgan;

“Bydd myfyriwr sy'n cael eu hailasesu mewn modiwl, yn ailsefyll, neu'n ailadrodd, ac sy'n pasio'r asesiad gwnaethon nhw ei fethu o'r blaen, yn derbyn y marc pasio isaf; os yw'n asesiad synoptig bydd y modiwl yn cael ei gapio i'r marc pasio isaf."

 

Os yw fy asesiadau wedi'u capio a allaf apelio'r penderfyniad?

 

Gallwch, mae modd apelio'r penderfyniadau trwy ddefnyddio'r Weithdrefn Apeliadau Academaidd.
 

Mae gan y Weithdrefn Apeliadau Academaidd tair sail benodol y gall myfyrwyr gwneud apeliadau arnynt. Gall y broses cymryd rhai misoedd i'w gwblhau, sy'n golygu pan fyddwch yn dychwelyd at eich astudiaethau i ddechrau, efallai y bydd y cap mewn lle o hyd ond yn cael ei dynnu yn hwyrach yn y flwyddyn os yw'ch apêl yn llwyddiannus.

 

Yr unig ffordd i asesiad peidio cael ei gapio yw os yw'n cael ei ystyried yn ymgais 1af. Golygir hyn y byddai angen i chi gael unrhyw ymdrechion blaenorol wedi'u diystyru.
 

Mae gan y Weithdrefn Apeliadau terfyn amser llym o 28 diwrnod ar ôl derbyn eich trawsgrifiad swyddogol. Os ydych yn apelio trawsgrifiad gwnaethoch ei dderbyn dros 28 diwrnod yn ôl, ystyrir hyn yn apêl hwyr. Os taw dyma'r sefyllfa, byddem yn eich cynghori'n gryf i gysylltu â ni am arweiniad.

 

Pam bod fy nhrawsgrifiad yn datgan fy mod wedi fy nhynnu o'r cwrs?

 

Bydd myfyrwyr fel arfer yn cael eu tynnu o'u cwrs os ydynt wedi defnyddio'r holl gynigion sydd ar gael iddynt, neu ni fydd modd iddynt gwblhau'r cwrs o fewn y terfyn amser a chaniateir.
 

Nifer o gynigion

 

Bydd myfyriwr israddedig fel arfer yn cael tri chynnig er mwyn cyflawni credydau angenrheidiol modiwl (ymgais cyntaf a dau ymgais ailsefyll).
 

Bydd myfyriwr ôl-raddedig fel arfer yn cael dau gynnig er mwyn cyflawni credydau angenrheidiol modiwl (ymgais cyntaf ac ymgais ailsefyll).
 

Dylai unrhyw ymdrechion aflwyddiannus lle gwnaethoch adrodd (a gwnaeth eich ysgol derbyn) amgylchiadau esgusodol cael eu diystyru. Mae hyn ond yn berthnasol ar gyfer amgylchiadau a adroddwyd ar gyfer datrysiad gan y bwrdd arholi, yn hytrach na cheisiadau ar gyfer estyniad.
 

Os ydych yn pryderu bod eich ceisiadau wedi cael eu cyfrifo'n anghywir, dylech gysylltu â'ch ysgol academaidd. Os nad ydych yn hapus gyda'u hymateb, cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr.
 

Amser a ganiateir ar gyfer cwblhau

 

Bydd bwrdd arholi yn eich tynnu o'ch cwrs os nad oes modd i chi gwblhau'r rhaglen o fewn y terfyn amser penodedig. Mae'r terfyn amser ar gyfer myfyrwyr llawn-amser dim mwy na 2 flynedd yn hirach na hyd arferol eu cwrs.
 

Mae modd cynyddu'r cyfnod yma mewn amgylchiadau arbennig, gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd.

 

A allaf apelio penderfyniad i fy nhynnu o'r cwrs ac os yw'n llwyddiannus a gaf i ddychwelyd at fy astudiaethau?

 

Gallwch apelio'r penderfyniad trwy ddefnyddio'r Weithdrefn Apeliadau Academaidd. Dyma'r unig ffordd o herio penderfyniadau Prifysgol ynglŷn â'ch cynnydd academaidd. Fel uchod, mae yna seiliau cyfyngedig ar gyfer apeliadau a gall y broses gymryd misoedd i'w gwblhau.
 

O ganlyniad mae'n debygol, hyd yn oed os yw'ch apêl yn llwyddiannus a chewch geisiadau pellach, ni fydd modd i chi ddychwelyd at eich astudiaethau ar unwaith. Yn y rhan fwyaf o achosion efallai cewch ail-ymuno a'ch rhaglen ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf, gyda'r bwriad o ailsefyll y flwyddyn neu gwblhau unrhyw asesiadau sydd eu hangen yn ystod cyfnod ailsefyll Awst.

 

Sut fydd ailsefyll blwyddyn yn effeithio ar fy fisa

 

Gall ailsefyll blwyddyn cael effaith sylweddol ar eich statws mewnfudo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen fewnrwyd y Brifysgol.
 

Os oes gennych fisa fyfyriwr DU, mae ond yn ddilys ar gyfer astudiaethau fel myfyriwr rhyngwladol. Os ydych yn ailsefyll fel myfyriwr allanol, ni fyddwch yn mynychu darlithoedd na gwersi rhagor, felly ni fyddwch yn cyflawni cyflyrau eich fisa fyfyriwr DU.
 

Os fydd mwy na 60 diwrnod rhwng dechrau'r cyfnod academaidd nesaf a dyddiad eich arholiad ailsefyll cyntaf neu ddyddiad cau gwaith cwrs, bydd y Brifysgol yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Gartref nad ydych yn astudio rhagor. Bydd eich fisa yn cael ei chwtogi (canslo) o ganlyniad a rhaid i chi adael y DU.
 

Bydd angen i chi wneud cais fisa perthnasol o dramor er mwyn dychwelyd i'ch astudiaethau. Cysylltwch â Chymorth Fisa Fyfyrwyr am arweiniad ynglŷn â'r cais fisa mwyaf addas ar eich cyfer.
 

Gall myfyrwyr rhyngwladol ddysgu mwy am ailsefyll neu ailadrodd fel myfyriwr allanol ar dudalen mewnrwyd Cymorth Fisa Fyfyrwyr.

 

Nawdd

 

Gall ailsefyll blwyddyn effeithio ar eich nawdd. Cyn penderfynu sut i ailsefyll eich blwyddyn cysylltwch â'ch noddwr i gadarnhau os byddant yn parhau i'ch ariannu. Efallai gall Swyddog Cyllid eich ysgol eich cynorthwyo.

 

Ystyriaethau pwysig

 

Boed os ydych yn ailsefyll yn fewnol neu'n allanol mae'n benderfyniad mawr a all cael goblygiadau mawr y naill ffordd neu'r llall. Bydd angen i chi ystyried:

 

  • Os oes angen i chi fynychu gwersi a chael mynediad at yr holl adnoddau, ac a bydd hyn yn cynyddu eich siawns o lwyddiant academaidd? Oes gennych siawns realistig o lwyddo heb fynychu?
  •  

  • Os ydych eisiau neu angen cwblhau asesiadau rydych eisoes wedi'u pasio eto? Mae hon yn ystyriaeth bwysig oherwydd os ydych yn ailsefyll yn allanol bydd ond angen i chi gwblhau'r elfennau a fethoch yn eich modiwl(au). Os ydych yn ailsefyll yn fewnol bydd gofyn i chi ailsefyll y modiwl cyfan, hyd yn oed os gwnaethoch basio elfennau o'r blaen.
  •  

  • Os ydych yn dewis ailsefyll yn fewnol ac felly yn gorfod ailsefyll asesiadau rydych eisoes wedi'u pasio, a fydd y marc newydd wedi'i gapio neu beidio? Bydd hyn yn dibynnu ar sawl ymgais rydych wedi'u cael (gweler rhagor am hyn uchod).
  •  

  • Os ydych yn medru ariannu eich astudiaethau trwy Gyllid Myfyrwyr fel myfyriwr mewnol a sut bydd hyn yn effeithio ar gyllido gweddill eich cwrs yn y dyfodol.
  •  

  • Os ydych yn dewis ailsefyll fel myfyriwr allanol, a fyddwch yn gallu dod o hyd i waith neu ariannu eich hunain? Nid yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gymwys ar gyfer budd-daliadau gan y Llywodraeth gan fyddant yn cadw eu statws fel myfyrwyr yn ystod blwyddyn ailsefyll, hyd yn oed os nad ydynt yn bresennol. Bydd angen i chi ariannu eich hunain yn ystod y cyfnod hwn.
  •  

  • Sut fydd eich fisa fyfyriwr yn cael ei heffeithio os ydych yn ailsefyll yn allanol neu'n fewnol?
  •  

  • Os bydd eich nawdd yn parhau am y flwyddyn ailsefyll.

 

Cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr

Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410