Canlyniadau ac ailsefyll
Mae trawsgrifiadau fel arfer yn cael eu rhyddhau dwywaith y flwyddyn - yng Ngorffennaf ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ac ym mis Medi ar gyfer unrhyw ailsefyll yn ystod cyfnod ailsefyll Awst. Bydd rhai rhaglenni'n rhyddhau canlyniadau ar adegau gwahanol - gwiriwch lawlyfr eich cwrs am ddyddiadau. Bydd eich trawsgrifiad yn cadarnhau os allwch symud ymlaen at flwyddyn nesaf eich astudiaethau, os ydych wedi cwblhau eich rhaglen, neu os oes gennych asesiadau i'w pasio neu i'w cwblhau o hyd.
Os ydych wedi methu unrhyw asesiadau gall fod yn ddryslyd deall beth yw'r cam nesaf. Mae'r cyngor isod ar gyfer rhaglenni modiwlaidd. Os ydych ar raglen an-fodiwlaidd bydd eich llawlyfr cwrs yn cynnwys gwybodaeth am ailsefyll.
Trawsgrifiad Gorffennaf
Bydd trawsgrifiad Gorffennaf yn datgan os fydd angen i chi sefyll unrhyw asesiadau yng nghyfnod ailsefyll Awst, ailsefyll blwyddyn, neu os ydych wedi cwblhau eich astudiaethau. Gall hyn fod oherwydd byddwch yn graddio neu fod y Brifysgol wedi penderfynu rhoi dyfarniad atodol i chi.
Bydd fel arfer angen i chi sefyll asesiadau yn Awst os ydych wedi methu modiwl neu wedi gohirio asesiad oherwydd amgylchiadau esgusodol.
Os oes angen i chi ailsefyll mwy o gredydau ym mis Awst na'r swm derbyniol arferol, efallai y bydd angen i chi ailsefyll y flwyddyn gyfan.
Trawsgrifiad Medi
Bydd trawsgrifiad Medi yn cadarnhau os gewch symud ymlaen at eich blwyddyn nesaf o astudio, os gewch raddio, neu os yw'r Brifysgol wedi penderfynu ar ddyfarniad atodol.
Mae dyfarniadau atodol yn cael eu rhoi;
Os nad ydych wedi cyflawni'r isafswm o gredydau er mwyn parhau gyda'ch rhaglen, neu;
Os ydych wedi defnyddio eich holl geisiadau ar gyfer asesiad (fel arfer 3 ar gyfer Israddedigion a 2 ar gyfer Ôl-raddedigion).
Mae asesiadau ailsefyll fel arfer wedi'u capio oni bai eich bod wedi gohirio gydag amgylchiadau esgusodol.
Gall trawsgrifiadau fod yn anodd eu deall. Gallwch ganfod gwybodaeth ddefnyddiol yma.
Gallwch apelio eich canlyniadau mewn amodau penodol. Gellir canfod rhagor o wybodaeth am y broses hon yma.
Ailsefyll
Gallwch fod yn gymwys i ailsefyll unrhyw asesiad rydych wedi'i fethu yng nghyfnod ailsefyll Awst. Mae cyfyngiad ar faint o asesiadau gallwch ailsefyll yn ystod y cyfnod hwn - gwiriwch gyda'ch ysgol academaidd gan fod y cyfyngiad yn amrywio o raglen i raglen.
Os na allwch ailsefyll yr asesiad(au) yng nghyfnod ailsefyll Awst efallai gallwch eu hailsefyll ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd ond efallai gall hyn eich atal rhag dechrau ar lefel nesaf eich cwrs. Dyma fyddai ailsefyll blwyddyn.
Gellir canfod mwy o wybodaeth yma.
Ailadrodd y flwyddyn fel myfyriwr mewnol
Bydd rhai rhaglenni yn gofyn i chi ailadrodd fel myfyriwr mewnol yn enwedig os oes gennych unrhyw asesiadau ymarferol neu waith grŵp. Bydd angen i chi fynychu darlithoedd a seminarau, a bydd ffioedd yn daladwy.
Bydd dim ond angen i chi ailadrodd y modiwlau gwnaethoch fethu, oni bai eich bod ar raglen broffesiynol wedyn efallai y bydd rhaid ailsefyll yr holl fodiwlau - gall eich ysgol academaidd eich cynghori'n bellach.
Rydym yn argymell gofyn am gyngor gan y Tîm Cyngor a Chyllid ynghylch eich Cyllid Myfyriwr.
Gellir canfod mwy o wybodaeth yma.
Ailsefyll y flwyddyn fel myfyriwr allanol
Os fyddwch yn ailsefyll y flwyddyn fel myfyriwr allanol ni fydd rhaid i chi fynychu darlithoedd neu seminarau. Bydd rhaid i chi ailsefyll yr asesiadau gwnaethoch fethu yn unig ac ni fydd rhaid i chi dalu ffioedd dysgu, ond mi fydd ffi arholi allanol untro.
Rydym yn argymell gofyn am gyngor gan y Tîm Cyngor a Chyllid ynghylch eich Cyllid Myfyriwr.
Gellir canfod mwy o wybodaeth yma.
Os oes angen cyngor arnoch, cysylltwch ag aelod o'r tîm er mwyn i ni eich cynghori. Nid yw Cyngor i Fyfyrwyr yn rhan o Brifysgol Caerdydd. Mae ein cyngor yn annibynnol a'n gyfrinachol - e-bostiwch advice@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02920 781 410.
Os ydych yn cael trafferth gyda'ch astudiaethau oherwydd amgylchiadau personol mae cymorth ar gael. Gallwch gysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr a/neu eich Tiwtor Personol. Mae Gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol hefyd yno helpu.
Cwestiynau Cyffredin
Beth fydd yn digwydd i fy Fisa Myfyriwr?
Ni ddylai ailsefyll eich arholiadau yng nghyfnod ailsefyll Awst effeithio ar eich statws mewnfudo os ydych yn fyfyriwr israddedig.
Os fyddwch yn ailsefyll y flwyddyn fel myfyriwr allanol ni fyddwch bellach yn mynychu darlithoedd neu wersi felly ni fyddech yn cyflawni amodau eich fisa myfyriwr.
Os fyddwch yn ailsefyll y flwyddyn fel myfyriwr mewnol mae rheolau cymhleth ynghylch amodau eich fisa. Rhaid i chi wirio gyda'r Tîm Cefnogaeth Fisa ar 02922 518 888 neu ar studentconnect@caerdydd.ac.uk. Gellir canfod mwy o wybodaeth yma.
Os ydych wedi tynnu allan o'ch astudiaethau bydd angen i chi ofyn am arweiniad gan y Tîm Cymorth Fisa cyn gynted â phosib.
A fydd rhaid i mi dalu Treth Gyngor os fyddaf yn ailsefyll blwyddyn?
Os ydych yn ailsefyll eich blwyddyn olaf fel myfyriwr allanol bydd rhaid i chi dalu Treth Gyngor.
Os ydych yn ailsefyll fel myfyriwr mewnol byddwch yn derbyn tystysgrif eithrio.
Gellir canfod mwy o wybodaeth yma.
A allaf symud ymlaen at flwyddyn nesaf fy astudiaethau ac ailsefyll asesiad?
Os yw'n fodiwl gorfodol rhaid i chi basio cyn symud at flwyddyn nesaf eich astudiaethau.
Os ydych wedi methu gormod o gredydau bydd rhaid i chi ailsefyll y flwyddyn. Gwiriwch reolau dilyniant eich ysgol ar gyfer y nifer o gredydau rhaid i chi eu cwblhau ar gyfer eich rhaglen.
Yn anffodus ni all myfyrwyr herio neu apelio penderfyniadau dilyniant.
Rydw i wedi cael fy nhynnu allan o fy astudiaethau - Beth allaf wneud?
Os yw eich trawsgrifiad yn datgan eich bod wedi eich tynnu o'ch rhaglen, yr unig ffordd o ailgysylltu gyda'ch rhaglen yw trwy gyflwyno apêl academaidd a'i chael wedi'i chymeradwyo.
Ni allaf fynychu sesiynau ailsefyll yn Awst - Beth ddylen ei wneud?
Os na allwch fynychu bydd wedi'i nodi eich bod wedi methu a chyflwyno neu fod yn bresennol, a byddwch yn derbyn marc o sero.
Efallai hoffech gyflwyno amgylchiadau esgusodol er mwyn gwneud cais i ohirio asesiad tan y cyfnod asesu nesaf. Ond nodwch, gallai hyn olygu bod yn rhaid i chi ailsefyll y flwyddyn.
Rwy'n ailsefyll blwyddyn fel myfyriwr allanol ond rydw i wedi arwyddo cytundeb llety ar gyfer y flwyddyn nesaf - Beth allaf ei wneud?
Os fyddwch yn penderfynu gadael Caerdydd rhaid i chi roi gwybod yn ffurfiol i'ch landlord er mwyn gadael eich cytundeb tenant a dod â'ch atebolrwydd rhent i ben. Cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr am ragor o gyngor ar hyn.
Mae fy ysgol wedi dweud byddaf yn ailadrodd yn fewnol/allanol – A oes modd trafod hyn?
Bydd gan eich ysgol rheswm da am ofyn i chi ailadrodd y flwyddyn yn y modd maent wedi'i ddewis. Efallai maent yn teimlo y byddai o fudd i chi i fynychu gwersi a chwblhau gwaith grŵp ymarferol.
Yn y pen draw eich ysgol bydd yn penderfynu sut allwch ailsefyll y flwyddyn ond gall fod gwerth gofyn am drafodaeth er mwyn gwneud addasiadau neu ddeall eu penderfyniad.
A fydd fy asesiadau wedi'u capio wrth ailsefyll?
Bydd pob asesiad ailsefyll wedi'u capio ar y marc pasio - 40 ar gyfer israddedigion a 50 ar gyfer ôl-raddedigion. Gallwch apelio'r penderfyniad hwn. Cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr am gyngor ar hyn.
Yr eithriad i hyn yw os wnaethoch ohirio asesiad i'r cyfnod ailsefyll trwy'r weithdrefn amgylchiadau esgusodol - ni ddylai'r asesiadau yma gael eu capio os wnaethoch ohirio eich cynnig cyntaf.
Os oes rhaid i mi ailsefyll blwyddyn beth fydd yn digwydd i fy nghyllid myfyriwr DU?
Bydd angen i chi ofyn am gyngor gan Dîm Cyngor a Chyllid y Brifysgol.
Os oes rhaid i mi ailsefyll a allaf ddechrau gwaith ar fy nhraethawd hir neu brosiect Meistr?
Rydym ar ddeall bod yn rhaid i chi gwblhau'r adran o'ch rhaglen a addysgir cyn symud ymlaen at eich traethawd hir. Rydym yn argymell siarad gyda'ch ysgol academaidd am arweiniad pellach.
Oes rhaid i mi dalu ffioedd er mwyn ailsefyll yn Awst neu ailsefyll blwyddyn?
Ni ddylai fod yn rhaid i chi dalu er mwyn ailsefyll asesiadau ym mis Awst. Os ydych yn ailsefyll blwyddyn fel myfyriwr mewnol bydd ffioedd yn daladwy a gall Tîm Cyngor a Chyllid y Brifysgol gadarnhau faint fydd y gost, neu cysylltwch â'r Tîm Ffioedd.
Nid wyf am ailsefyll - Beth allaf ei wneud?
Os ydych wedi derbyn Dyfarniad Atodol gallwch benderfynu peidio ailsefyll unrhyw asesiadau gwnaethoch eu methu a chadw'r dyfarniad. Dylech gysylltu â'ch ysgol i ddysgu mwy am eich dyfarniad.