Room Bookings for Student Groups
Affiliated student groups can book rooms for their activity across the Students’ Union and University. Rooms are free to book for affiliated groups, but you may need to pay for any additional requirements such as equipment hire, staff, security costs and catering.
SU Room Bookings
Student groups can make room booking requests for SU meeting rooms and studio space using the Room Booking System. Groups can also view, manage and remove their bookings in this system.
All Groups have their own login to this system, get in touch with your staff contact if you do not know yours.
Click here if you want to find out more about the rooms available and click here to read the Terms of Use.
University Room Bookings
Student group Presidents and Secretaries can use the 'Society Bookings' page on Resource Booker. You can request one-off or reoccurring bookings.
Unfortunately, Heath Park rooms are not available for societies to request, ask your staff contact if you would like to request a Heath Park room.
Making a request does not confirm your booking, you will receive confirmation when the room is booked.
Regular Room Bookings
Student Groups can request regular/reoccurring room bookings in the Students’ Union using the Regular Room Booking Request Form. This form will be circulated to committee members before the start of each semester. You will not be able to request regular or reoccurring room bookings on the SU Room Booking System.
If you want to request University Rooms on a regular basis, presidents and secretaries can use the University Resource Booker linked above.
Regular bookings can be made at any point in the year subject to availability. Please contact your staff contact for more information.
Guest Speakers
A guest or external speaker is anyone invited onto campus who is not a current Cardiff University student or Cardiff University lecturer.
Guest speakers at any of your events must be declared to the Students' Union using a Guest Speaker Form at least 21 days before the proposed event. Send the form to your staff contact for review and approval.
University Sport Facilities
Student Groups can hire University Sport Facilities at any of the following sites (depending on availability):
- Cardiff University Sports Training Village - Talybont
- Cardiff University Fitness and Squash Centre - Senghennydd Road
- Cardiff University Strength and Conditioning Centre - Park Place
- Cardiff University Sports Fields - Llanrumney
Further information on each facility can be found here.
If you'd like to make an enquiry about a booking within the next 7 days you should contact the relevant centre reception. If you'd like to make an enquiry about a booking beyond 7 days you can email Sportbookings@Cardiff.ac.uk.
Please note that all bookings will be charged at student rates and bookees are responsible for making payment.*
*Sports Clubs don't need to pay for any of their regular bookings for training and BUCS fixtures.
Archebu Ystafelloedd ar gyfer Grwpiau Myfyrwyr
Gall grwpiau myfyrwyr yr UM archebu ystafelloedd ar gyfer eu gweithgareddau ar draws yr Undeb a'r Brifysgol. Gall grwpiau archebu ystafelloedd am ddim, ond efallai y bydd angen i chi dalu am unrhyw anghenion ychwanegol megis cyfarpar, staff, costau diogelwch, ac arlwyaeth.
Archebu Ystafelloedd UM
Gall grwpiau myfyrwyr gwneud ceisiadau ar gyfer ystafelloedd cyfarfod yr UM a gwagleoedd stiwdio gan ddefnyddio'r System Archebu Ystafell. Gall grwpiau hefyd gweld, rheoli, a dileu eu harchebion ar y system hon.
Mae gan bob grŵp manylion mewngofnodi ar gyfer y system - cysylltwch â'ch cyswllt staff os nad ydych yn gwybod eich manylion.
Cliciwch yma os hoffech ddysgu mwy am yr ystafelloedd sydd ar gael, a chliciwch yma i ddarllen y Telerau Defnydd.
Archebu Ystafelloedd Prifysgol
Gall Llywyddion ac Ysgrifenyddion grwpiau myfyrwyr ddefnyddio'r dudalen 'Archebion Cymdeithasau' trwy'r Archebwr Adnoddau. Gallwch wneud cais am archeb untro neu reolaidd.
Yn anffodus, nid oes modd i gymdeithasau gwneud ceisiadau am ystafelloedd Parc y Mynydd Bychan - gofynnwch eich cyswllt staff os hoffech wneud cais am ystafell ym Mharc y Mynydd Bychan.
Nid yw gwneud cais yn cadarnhau eich archeb, byddwch yn derbyn cadarnhad yn hwyrach.
Archebion Ystafell Reolaidd
Gall grwpiau myfyrwyr gwneud cais am archebion ystafelloedd rheolaidd/parhaol yn yr Undeb Myfyrwyr gan ddefnyddio'r Ffurflen Archebu Ystafell Reolaidd. Bydd y ffurflen hon yn cael ei rhannu gydag aelodau pwyllgorau ar ddechrau pob semester. Ni allwch wneud cais am ystafell reolaidd ar System Archebu Ystafell yr UM.
Os hoffech wneud cais am ystafell Prifysgol reolaidd, gall Llywyddion ac Ysgrifenyddion ddefnyddio Adnodd Archebu'r Brifysgol - gweler y ddolen uchod.
Gellir gwneud archebion rheolaidd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn yn ddibynnol ar argaeledd. Cysylltwch â'ch cyswllt staff am ragor o wybodaeth.
Siaradwyr Gwadd
Mae gwestai neu siaradwr gwadd yn cynnwys unrhyw un wedi'u gwahodd i'r campws nad sy'n fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Caerdydd na'n darlithydd gyda'r Brifysgol.
Rhaid datgan unrhyw siaradwyr gwadd i'r Undeb Myfyrwyr gan ddefnyddio Ffurflen Siaradwr Gwadd o leiaf 21 diwrnod cyn y digwyddiad arfaethedig. Anfonwch y ffurflen i'ch cyswllt staff iddynt ei hadolygu a'i chymeradwyo.
Cyfleusterau Chwaraeon y Brifysgol
Gall grwpiau myfyrwyr llogi Cyfleusterau Chwaraeon y Brifysgol yn unrhyw un o'r lleoliadau canlynol (yn ddibynnol ar argaeledd):
- Pentref Hyfforddiant Chwaraeon - Talybont
- Canolfan Ffitrwydd a Sboncen - Ffordd Senghennydd
- Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol - Plas y Parc
- Meysydd Chwarae - Llanrhymni
Gellir canfod rhagor o wybodaeth ar bob cyfleuster yma.
Os hoffech holi am archeb o fewn y 7 diwrnod nesaf, dylech gysylltu â derbynfa'r ganolfan berthnasol. Os hoffech wneud ymholiad am archeb tu hwnt i hyn gallwch e-bostio Sportbookings@Caerdydd.ac.uk.
Nodwch y codir tâl ar bob archeb ar gyfradd myfyrwyr ac rydych chi'n gyfrifol am wneud y taliad.*
*Nid oes angen i glybiau chwaraeon dalu am eu sesiynau rheolaidd ar gyfer hyfforddi a gemau BUCS.