
Cymraeg
Industrial Action
Updates
The University College Union (UCU) annouced on Friday 17th February that they would be pausing strike action for a period of two weeks. This means any strike action planned between Tuesday 21st February - Friday 3rd March will no longer take place, with the next strike date now being Thursday 16th March 2023. UCU members will be continuing with measures relating to Action Shorts of Strike (ASOS), where members will work only to their contract avoiding overtime and additional responsibilities where necessary.
Read the full statement from your Sabbatical Officers here.
Read the open letter from the Sabbatical Officers to the Vice Chancellor: Cymraeg / English
Read the response to the open letter from the Vice Chancellor: Cymraeg / English
General Information
What is UCU Industrial Action?
The University College Union (UCU) members working in UK universities have voted in favour of strike action through a national ballot. This is in relation to two issues: one regarding pensions, and the second regarding pay and working conditions.
1. Pensions:
- The overall Universities Superannuation Scheme (USS) pension fund has been valued with a significant deficit – meaning the projection of future money in the pot does not meet the money promised to future pensioners. The valuation methodology used has been highly contested by UCU, as the current valuation was taken at the start of the COVID-19 pandemic, when markets had begun to crash.
- Pension changes to reduce this pension deficit gap propose both the employers (Universities) and members (University Staff) to contribute more money, with less money paid out to members in retirement than the current scheme offers.
2. Pay and Working Conditions:
- Universities rely on a significant number of staff on precarious or casual contracts which do not provide secure or sustainable working conditions.
- UCU have calculated that the below-inflation pay rises since 2009 have meant university staff pay has received a 20% real-terms cut, and are asking for pay increases to keep up with the Retail Price Index (RPI), especially within the current cost of living crisis that is affecting both staff and students.
- The gender pay gap is an issue across many universities. Cardiff University’s gender pay gap in 2018 was 21.6%, UCU are demanding concrete action to close gender, disability and ethnicity pay gaps.
- University staff are also routinely relied upon to work unpaid overtime – respondents from previous Cardiff University annual Staff Surveys said they could meet the requirements of their job without ‘regularly working unreasonable hours’.
What happens next?
Following the recent UCU national ballot, through which over 70,000 university staff at 150 universities voted ‘yes’ to such action, UCU have proposed eighteen days of industrial action throughout February and March. These days are as follows:
- Wednesday 1st February
- Thursday 9th February
- Friday 10th February
- Tuesday 14th February
- Wednesday 15th February
- Thursday 16th February
- Tuesday 21st February [Strike Action has been paused, action will no longer take place on this day]
- Wednesday 22nd February [Strike Action has been paused, action will no longer take place on this day]
- Thursday 23rd February [Strike Action has been paused, action will no longer take place on this day]
- Monday 27th February [Strike Action has been paused, action will no longer take place on this day]
- Tuesday 28th February [Strike Action has been paused, action will no longer take place on this day]
- Wednesday 1st March [Strike Action has been paused, action will no longer take place on this day]
- Thursday 2nd March [Strike Action has been paused, action will no longer take place on this day]
- Thursday 16th March
- Friday 17th March
- Monday 20th March
- Tuesday 21st March
- Wednesday 22nd March
Industrial Action could take different forms:
- Strike Action means not completing any work in the days as specified as strike days. This includes all work such as teaching, researching, marking, administration, meetings etc. Any staff taking part in Strike Action will lose their pay for days absent as a result of participating in the strike.
- Action Short Of a Strike (ASOS), is activity that impacts on general business and workplace functions (for example, not covering or supporting others). This may include Assessment & Feedback boycotts, which may mean assessments are not marked and thus may cause delays to return of results. Any staff taking part in Action Short Of a Strike (ASOS) will lose pay proportionate to the amount of work not undertaken.
Not all staff at Cardiff University and postgraduates are members of UCU and some UCU members may also decide they do not want to participate in Industrial Action for a variety of reasons. However, students may see significant disruption to their learning during this period.
The Students' Union and Industrial Action
Does the Students’ Union support Industrial Action?
In November 2022, students at the Annual General Meeting (attended by over 600 students) voted to support the UCU strike action. Many postgraduate students we represent are also members of UCU and are affected by precarious contracts. The Sabbatical Officers are fully supporting the proposed action.
However, we recognise that for some students, there is a significant concern about the amount of disruption strike action could cause. Whilst the SU has a stance supporting the strike, Student Advice are still able to provide free and impartial advice covering disrupted learning; fee queries; and extenuating circumstances to all students.
The University will make a saving on staff wages during any Industrial Action, particularly if there are strikes. The Students’ Union would ask for transparency on where this saving will be spent and will lobby for money to go back into supporting strike complaints, hardship funds and reimbursing fees for lost contact hours.
Impact on Students
The impact on students is likely to vary for every individual. Although industrial action has been proposed, individual lecturers and academic staff who are UCU members may not declare in advance that they individually will be participating in action. Schools will endeavour to inform students of the disruption where they can and often school offices/hubs will be able to provide more up to date information.
The university is required to continue to offer the service they have promised to students. If school staff take part in Industrial Action, there will be measures in place to reduce the impact on students, and to ensure students are not disadvantaged by the disruption.
If you are concerned about the disruption this will have for you, contact your school or our Student Advice service for information and advice. Student Advice can also help you with a formal complaint should you feel this was necessary.
Stay Up to Date
I’ve still got questions, what do I do?
If you have other questions not covered by the above FAQ’s please let us know. Email StudentsUnion@cardiff.ac.uk or come to Student Advice on the 3rd floor of the Students’ Union where we can advise you in more detail on individual cases.
Where can I get further updates about Industrial Action?
- From UCU – you can find out further information from their website, locally and nationally.
- From the University – they will be providing regular information via email and the intranet.
- From the Students’ Union – we will be keeping this page updated and will be providing more regular information via social media
- For specific Student Advice information, please see here for contact information.
Upcoming events
Gweithredu Diwydiannol
Diweddariadau
Cyhoeddodd yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) ddydd Gwener 17 Chwefror y byddent yn gohirio gweithredu diwydiannol am gyfnod o bythefnos. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw streic a gynlluniwyd rhwng dydd Mawrth 21 Chwefror - dydd Gwener 3 Mawrth yn digwydd mwyach, gyda dyddiad y streic nesaf bellach yn ddydd Iau 16 Mawrth 2023. Bydd aelodau UCU yn parhau â mesurau sy’n ymwneud a Gweithredu sy’n Fyr o Streic (ASOS), lle bydd aelodau'n gweithio dim ond i'w contract gan osgoi goramser a chyfrifoldebau ychwanegol lle bo angen.
Darllenwch y datganiad llawn gan eich Swyddogion Sabothol yma.
Darllenwch y llythyr agored oddi wrth y Swyddogion Sabothol at yr Is-Ganghellor: Cymraeg / Saesneg
Darllenwch ymateb yr Is-Ganghellor i'r llythyr agored: Cymraeg / Saesneg
Gwybodaeth Gyffredinol
Beth yw Gweithredu Diwydiannol UCU?
Mae aelodau Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) sy'n gweithio ym mhrifysgolion y DU wedi pleidleisio o blaid streicio drwy bleidlais genedlaethol. Mae hyn yn ymwneud â dau fater: un mewn perthynas â phensiynau, a'r ail ynghylch cyflog ac amodau gwaith.
1. Pensiynau:
- Mae’r Cynllun Pensiwn Prifysgolion (USS) cyffredinol wedi’i brisio â diffyg sylweddol – sy’n golygu nad yw’r rhagamcan o arian y gronfa yn y dyfodol yn ddigonol o gymharu â’r arian a addawyd i bensiynwyr. Mae’r fethodoleg brisio a ddefnyddiwyd wedi’i herio’n fawr gan UCU, gan fod y prisiad presennol wedi’i gymryd ar ddechrau’r pandemig COVID-19, pan oedd marchnadoedd wedi dechrau chwalu.
- Mae newidiadau pensiwn i leihau’r bwlch diffyg pensiwn hwn yn cynnig i’r cyflogwyr (Prifysgolion) ac aelodau (Staff y Brifysgol) gyfrannu mwy o arian, gyda llai o arian yn cael ei dalu i aelodau ar ôl ymddeol nag y mae’r cynllun presennol yn ei gynnig.
2. Tâl ac Amodau Gwaith:
- Mae prifysgolion yn dibynnu ar nifer sylweddol o staff ar gontractau ansefydlog neu achlysurol nad ydynt yn darparu amodau gwaith diogel na chynaliadwy.
- Mae UCU wedi cyfrifo bod y codiadau cyflog-is-na-chwyddiant ers 2009 wedi golygu bod cyflog staff y brifysgol wedi cael toriad o 20%, ac maent yn gofyn am godiadau cyflog i adlewyrchu’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), yn enwedig o fewn yr argyfwng costau byw presennol sy'n effeithio ar staff a myfyrwyr.
- Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn broblem ar draws llawer o brifysgolion. Yn 2018, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ym Mhrifysgol Caerdydd oedd 21.6%. Mae UCU yn mynnu camau pendant i gau bylchau cyflog rhwng rhywiau, anableddau ac ethnigrwydd.
- Yn ogystal, mae cyfrifoldeb cyson ar staff y Brifysgol i weithio oriau ychwanegol di-dâl. Dywedodd atebwyr o Arolygon Staff blynyddol blaenorol Prifysgol Caerdydd y gallent fodloni gofynion eu swydd heb 'weithio oriau afresymol yn rheolaidd'.’.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Yn dilyn pleidlais genedlaethol ddiweddar UCU, lle pleidleisiodd dros 70,000 o staff prifysgolion mewn 150 o brifysgolion 'ie' i weithredu o'r fath, mae UCU wedi cynnig deunaw diwrnod o weithredu diwydiannol trwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth. Mae'r rhain fel a ganlyn:
- Dydd Mercher 1af Chwefror
- Dydd Iau 9fed Chwefror
- Dydd Gwener 10fed Chwefror
- Dydd Mawrth 14eg Chwefror
- Dydd Mercher 15fed Chwefror
- Dydd Iau 16eg Chwefror
- Dydd Mawrth 21ain Chwefror [Streicio wedi'i ohirio, ni fydd gweithredu diwydiannol ar y diwrnod hwn bellach]
- Dydd Mercher 22ain Chwefror [Streicio wedi'i ohirio, ni fydd gweithredu diwydiannol ar y diwrnod hwn bellach]
- Dydd Iau 23ain Chwefror [Streicio wedi'i ohirio, ni fydd gweithredu diwydiannol ar y diwrnod hwn bellach]
- Dydd Llun 27ain Chwefror [Streicio wedi'i ohirio, ni fydd gweithredu diwydiannol ar y diwrnod hwn bellach]
- Dydd Mawrth 28ain Chwefror [Streicio wedi'i ohirio, ni fydd gweithredu diwydiannol ar y diwrnod hwn bellach]
- Dydd Mercher 1af Mawrth [Streicio wedi'i ohirio, ni fydd gweithredu diwydiannol ar y diwrnod hwn bellach]
- Dydd Iau 2il Mawrth [Streicio wedi'i ohirio, ni fydd gweithredu diwydiannol ar y diwrnod hwn bellach]
- Dydd Iau 16eg Mawrth
- Dydd Gwener 17eg Mawrth
- Dydd Llun 20fed Mawrth
- Dydd Mawrth 21ain Mawrth
- Dydd Mercher 22ain Mawrth
Gallai Gweithredu Diwydiannol fod ar wahanol ffurfiau:
- Mae Streic yn golygu peidio â chwblhau unrhyw waith yn y dyddiau a nodir fel diwrnodau streic. Mae hyn yn cynnwys yr holl waith megis addysgu, ymchwilio, marcio, gweinyddu, cyfarfodydd ac ati. Bydd unrhyw staff sy’n cymryd rhan yn Streic yn colli eu cyflog am ddiwrnodau absennol o ganlyniad i gymryd rhan yn y streic.
- Mae Gweithredu sy'n Fyr o Streic (ASOS), yn weithgaredd sy'n effeithio ar fusnes cyffredinol a swyddogaethau'r gweithle (er enghraifft, ddim yn cymryd lle neu'n cefnogi eraill). Gall hyn gynnwys boicotio Asesu ac Adborth, a all olygu na chaiff asesiadau eu marcio ac felly achosi oedi wrth ddychwelyd canlyniadau. Bydd unrhyw staff sy'n cymryd rhan yn ASOS yn colli cyflog sy'n gymesur â swm y gwaith na chaiff ei gwblhau.
Nid yw holl staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Caerdydd yn aelodau o UCU ac efallai y bydd rhai aelodau o UCU hefyd yn penderfynu nad ydynt am gymryd rhan mewn Gweithredu Diwydiannol am amrywiaeth o resymau. Fodd bynnag, gall myfyrwyr weld amhariad sylweddol ar eu dysgu yn ystod y cyfnod hwn.
Undeb y Myfyrwyr a Gweithredu Diwydiannol
A yw Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi Gweithredu Diwydiannol?
Ym mis Tachwedd 2022, pleidleisiodd myfyrwyr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (a fynychwyd gan dros 600 o fyfyrwyr) dros gefnogi streic UCU. Mae llawer o fyfyrwyr ôl-raddedig rydym yn eu cynrychioli hefyd yn aelodau o UCU ac yn cael eu heffeithio gan gontractau ansefydlog. Mae'r Swyddogion Sabothol yn cefnogi'r cam gweithredu arfaethedig yn llwyr.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod pryder sylweddol i rai myfyrwyr ynghylch faint o aflonyddwch y gallai streic ei achosi. Er bod gan Undeb y Myfyrwyr safiad yn cefnogi'r streic, mae Whilst the SU has a stance supporting the strike, Cyngor i Fyfyrwyr yn parhau i allu darparu cyngor diduedd am ddim ar addysg a darfwyd arni; ymholiadau ffioedd; ac amgylchiadau esgusodol i bob myfyriwr.
Bydd y Brifysgol yn gwneud arbedion ar gyflogau staff yn ystod unrhyw Weithredu Diwydiannol, yn enwedig os bydd streiciau yn mynd yn eu blaen. Byddai Undeb y Myfyrwyr yn gofyn am dryloywder o ran ble bydd yr arbediad hwn yn cael ei wario a bydd yn lobïo i arian i gael ei ddychwelyd i gefnogi cwynion streic, cronfeydd caledi ac ad-dalu ffioedd am oriau cyswllt a gollwyd.
Effaith ar Fyfyrwyr
Mae'r effaith ar fyfyrwyr yn debygol o amrywio ar gyfer pob unigolyn. Er bod gweithredu diwydiannol wedi'i awgrymu, ni chaiff darlithwyr unigol a staff academaidd sy'n aelodau o UCU ddatgan ymlaen llaw os ydynt yn cymryd rhan yn y gweithredu. Bydd ysgolion yn ymdrechu i roi gwybod i fyfyrwyr am yr aflonyddwch pan fo’n bosib ac yn aml bydd swyddfeydd ysgolion yn gallu darparu gwybodaeth fwy cyfredol.
Mae'n ofynnol i'r brifysgol barhau i gynnig y gwasanaeth y maent wedi ei addo i fyfyrwyr. Os bydd staff ysgol yn cymryd rhan mewn Gweithredu Diwydiannol, bydd mesurau ar waith i leihau'r effaith ar fyfyrwyr, ac i sicrhau nad yw myfyrwyr o dan anfantais o ganlyniad i’r aflonyddwch.
Os ydych chi'n pryderu am yr aflonyddwch, cysylltwch â'ch ysgol neu ein gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr am wybodaeth a chyngor. Gall Cyngor i Fyfyrwyr hefyd eich helpu gyda chwyn ffurfiol os teimlwch fod hyn yn angenrheidiol.
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
Mae gen i gwestiynau o hyd, beth ddylwn i ei wneud?
Os oes gennych gwestiynau eraill nad ydynt wedi'u hateb uchod, rhowch wybod i ni. E-bostiwch StudentsUnion@caerdydd.ac.uk neu dewch i weld Cyngor i Fyfyrwyr ar 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr lle gallwn roi cyngor mwy manwl i chi ar achosion unigol.
Ble alla i gael diweddariadau pellach am Weithredu Diwydiannol?
- O UCU – gallwch gael rhagor o wybodaeth ar eu gwefan, yn lleol ac yn genedlaethol.
- O’r Brifysgol – byddant yn darparu gwybodaeth reolaidd drwy e-bost a’r fewnrwyd.
- O Undeb y Myfyrwyr - byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn darparu gwybodaeth fwy rheolaidd trwy gyfryngau cymdeithasol
- I gael gwybodaeth benodol am y cyngor sydd ar gael i fyfyrwyr, gweler yma am fanylion cyswllt.
Digwyddiadau sydd i ddod