Cymorth Tai
Ydych chi’n cael trafferth gyda llety i fyfyrwyr? Rydym ni yma i helpu.
Gall dod o hyd i’r lle iawn i fyw deimlo’n ormod, o ddewis pwy i fyw gyda, i ddeall contractau, i sylwi ar unrhyw broblemau cudd posibl. Dyna pam, gyda chefnogaeth Cyngor i Fyfyrwyr, rydyn ni’n cynnal cyfres o stondinau Cymorth Tai, gan roi’r cyfle i chi gael cyngor arbenigol am ddim ar bopeth sy’n ymwneud â thai cyn i chi lofnodi'ch tenantiaeth.
P’un a oes gennych chi gwestiynau am rentu, eisiau gwirio’ch contract, neu newydd ddechrau meddwl am lety’r flwyddyn nesaf, rydyn ni yma i’ch helpu. Galwch heibio i un o’n stondinau i sgwrsio â'r tîm, codi adnoddau a gwneud yn siŵr eich bod chi'n hyderus am eich cam nesaf.
CDewch draw, gofynnwch gwestiynau, a chael yr help sydd ei angen arnoch!
Digwyddiad Cwrdd â Chyd-letywyr
Chwilio am gyd-letywyr ar gyfer y flwyddyn nesaf? Dewch draw i’n digwyddiad Cwrdd â Chyd-letywyr – lle hamddenol a chyfeillgar i gwrdd â myfyrwyr eraill sydd hefyd yn chwilio am bobl i fyw gyda nhw.
P’un a ydych chi’n newydd i Gaerdydd neu dim ond eisiau llenwi ystafell sbâr, mae hon yn ffordd wych o ddod o hyd i’ch gyd-letywyr mewn amgylchedd hwyliog, di-bwysauBydd gennym gemau i ddechrau sgyrsiau rhwng pobl a hwyluso pethau, ynghyd â lluniaeth ysgafn i gadw’r amgylchedd yn ymlaciedig wrth i chi sgwrsio a dod i adnabod eich gilydd.
Archebwch eich tocyn am ddim isod a dewch draw!
Templedi E-bost
Rydyn ni i gyd yn gwybod y gall e-bostio fod yn anodd – weithiau mae’n anodd gwybod yn union beth i’w ddweud neu sut i gyfleu eich pwynt.
Dyma pam mae ein tîm cynghori wedi creu set o dempledi e-bost parod i’w defnyddio i wneud pethau ychydig yn haws. P’un a ydych chi’n cysylltu â landlord, yn estyn allan at asiant gosod neu'n gofyn am atgyweiriadau neu fanylion contract, mae'r templedi hyn yma i'ch helpu i gyfathrebu'n glir ac yn hyderus.
Lawrlwythwch y templedi fel dogfennau Word isod a’u golygu i gyd-fynd â'ch sefyllfa - yn gyflym, yn syml, heb straen.
Mwy o wybodaeth
Mae ein tudalennau gwe Cyngor i Fyfyrwyr hefyd yn darparu llawer o wybodaeth am bopeth sy’n ymwneud â thai. Darganfyddwch fwy drwy glicio'r botwm isod.
Digwyddiadau Cymorth Tai