Croeso i Glwb Athletau Prifysgol Caerdydd!

Hwyl, cyflym a chyfeillgar. O rediadau cymdeithasol achlysurol i bencampwriaethau cenedlaethol i gymdeithasu yn yr UM, mae gan Glwb Athletau Prifysgol Caerdydd (CUAC) rywbeth i chi. P'un a ydych chi'n chwilio am glwb chwaraeon hwyliog, hyfforddi ar gyfer eich camp nesaf neu eisiau cystadlu ar y lefel uchaf, byddai'n wych eich cael chi’n rhan o’r clwb!

 

Hyfforddiant:

Rydym yn trefnu hyfforddiant ar bob lefel ac ar gyfer pob math o athletwr. O drac a chae, i rasio traws gwlad a ffordd, i loncian o amgylch Caerdydd, rydym yn cynnig rhywbeth i bawb. Gweler ein tudalennau Hyfforddiant DygnwchHyfforddiant Maes a Hyfforddiant Sbrint i gael manylion llawn am beth sydd ar gael a phwy i gysylltu â, a'r Llwybrau i ddarganfod ble i fynd. Mae ein sesiynau sbrintiau, maes a dygnwch yn cael eu hyfforddi’n broffesiynol i ddarparu amgylchedd hwyliog a diogel i chi ddatblygu fel athletwr.

Digwyddiadau Cymdeithasol:

Mae nosweithiau clwb yn yr UM yn eiconig am reswm, a byddwn yno, yn ogystal â mewn tafarndai ar ôl rasys, picnics a phartïon ty - rydym bob amser yn ymwybodol o'n lefelau hydradiad. Mae gennym ddigwyddiadau cymdeithasol sy'n addas i bawb. Dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy'n digwydd bob wythnos. 

 

Ar ôl rasys mawr fel BUCS, mae traddodiad gwych o barti gyda phob prifysgol ar ôl y digwyddiad. Bob blwyddyn rydym yn cynnig Taith clwb yn ystod y Pasg i redeg ras ffordd yn Ewrop neu ddigwyddiad trac a maes rhyngwladol.

 

 

Cit:

Mae gan y clwb amrywiaeth o eitemau gwahanol o offer ar gael. Mae festiau unigryw cystadlaethau Pactimo yn paru'n hyfryd gyda'n gwisg anffurfiol gan Rhino & Copa. I gael manylion llawn am yr hyn sydd ar gael a sut i gael gafael arno, gweler y dudalen Cit.

 

Cystadlaethau:

O'r Parkrun i hanner marathon Caerdydd, cynghrair traws gwlad Gwent i BUCS traws gwlad, cyfarfodydd trac agored i Bencampwriaethau Prydain, mae gennym athletwyr yn cystadlu ar bob lefel! Mae yna o hyd ddigwyddiad i hyfforddi ar ei gyfer, gyda digwyddiadau Varsity a BUCS yn uchafbwyntiau bob blwyddyn. I gael manylion llawn am yr hyn sy'n digwydd a sut i gymryd rhan, ewch i'r Dudalen rasys a chystadlaethau, a dilynwch y clwb ar gyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf. I weld beth sy'n digwydd yn BUCS, ewch i dudalen BUCS, ac am ganlyniadau'r gorffennol a chofnodion y clwb gweler Canlyniadau.


 

Ffisiotherapi a thylino chwaraeon:

Mae anafiadau'n digwydd pan fyddwch chi'n hyfforddi'n galed neu o ganlyniad i ddamweiniau, a rhyngom ni rydym wedi profi ambell un. Yn ffodus, mae sesiynau ffisiotherapi a thylino chwaraeon cymorthdaledig ar gael i aelodau'r clwb, a byddwn hefyd yn eich helpu gyda thraws-hyfforddiant. Am wybodaeth lawn gweler y dudalen Ffisiotherapi a thylino chwaraeon.

 

Cyfryngau cymdeithasol:

Dilynwch y clwb ar InstagramFacebook a Twitter, ac ymunwch â grwpiau Facebook a WhatsApp — siaradwch ag unrhyw aelod o’r pwyllgor er mwyn cael eich ychwanegu. Tagiwch y clwb yn eich lluniau hyfforddi a'ch canlyniadau athletau ac efallai y byddwch yn cael shoutout, rydym yn hynod o falch o'r hyn y mae ein haelodau yn ei gyflawni!

 

Aelodaeth:

Dim ond £28 yw aelodaeth safonol am y flwyddyn gyfan, sy'n llai na £1 yr wythnos! Mae aelodaeth 'Tri' o £14 hefyd ar gael ar gyfer y rhai o glybiau eraill sydd ond eisiau cynrychioli'r clwb mewn cystadlaethau.

 

Prynwch aelodaeth i fynychu'r sesiynau hyfforddi proffesiynol sy'n cael eu rhedeg gan y clwb, cael mynediad am bris gostyngol neu am ddim a theithio i rasys, a thriniaeth ffisio chymorthdaledig. Dewch draw i'n sesiynau Rho Gynnig Arni cyn ymrwymo i brynu aelodaeth, neu gysylltwch â ni i drefnu eich bod yn mynychu rhai sesiynau i weld beth sy’n digwydd.