This product is not on sale.

Black History Month

 

October marks Black History Month (BHM), a time to commemorate the history of Black communities and celebrate their immense contribution to society. BHM is an opportunity to be educated on, and celebrate, the wonderfully diverse cultures and histories of Black people in the UK and across the world, whilst contributing to the fight against racial prejudice and discrimination.

 

Time for Change: Action Not Words

 

The theme for Black History Month 2022 is “Time for Change: Action Not Words”.

 

As your Students’ Union we will be using our platforms to bring this campaign to life by celebrating the achievements and contributions of Black people in Cardiff and around the world to promote inclusivity and strengthen our student community. Our support to the Black community in Cardiff does not stop here, as we pledge to ensure that Black history is represented and celebrated all year round.

 

You can find more about this on the official website for Black History Month

 

Black History Month Events

 

Throughout October, we are hosting and promoting events, sharing resources, and starting conversations online and across campus. Information will be added to this page throughout the month so keep checking back to find out how you can get involved.

 

If you, your group or your School are hosting an event or initiative for Black History Month and would like the Students’ Union support through promotion, attendance or other actions, please fill in this form and we will get back to you as soon as we can.

 

 


 

Mis Hanes Pobl Dduon

 

Mae mis Hydref yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon (BHM), sy’n gyfle anhygoel i ni goffáu hanes cymunedau Du a dathlu eu cyfraniadau aruthrol i gymdeithas. Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn gyfle i gael ein haddysgu ar, a dathlu, diwylliannau hynod amrywiol a hanesion y grwpiau hyn, wrth gyfrannu at y frwydr yn erbyn rhagfarn a gwahaniaethu hiliol.

 

Amser am Newid: Gweithredu Nid Geiriau

 

Thema Mis Hanes Pobl Dduon 2022 yw “Amser am Newid: Gweithredu Nid Geiriau”.

 

Fel eich Undeb Myfyrwyr byddwn yn defnyddio ein llwyfannau i ddod â’r ymgyrch hon yn fyw drwy ddathlu cyflawniadau a chyfraniadau pobl Dduon yng Nghaerdydd a ledled y byd i hybu cynhwysiant a chryfhau ein cymuned myfyrwyr. Nid yw ein cefnogaeth i’r gymuned Ddu yng Nghaerdydd yn dod i ben yma, wrth i ni wneud addewid i sicrhau bod hanes Du yn cael ei gynrychioli a’i ddathlu drwy gydol y flwyddyn.

 

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am hyn ar y wefan swyddogol ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon.

 

Digwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon

 

Drwy gydol mis Hydref, rydym yn cynnal ac yn hyrwyddo digwyddiadau, yn rhannu adnoddau, ac yn dechrau sgyrsiau ar-lein ac ar draws y campws. Bydd gwybodaeth yn cael ei hychwanegu at y dudalen hon trwy gydol y mis felly cadwch lygad allan i ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan.

 

Os ‘ych chi, eich grwp neu’ch Ysgol yn cynnal digwyddiad neu fenter ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon a hoffech chi i Undeb y Myfyrwyr gefnogi drwy hyrwyddo, bod yn bresennol neu weithredu, llenwch y ffurflen hon os gwelwch yn dda a wnawn ni ymateb cyn gynted ag y gallwn.