English

Mae Diwrnod Shwmae Sumae yn ddiwrnod blynyddol ar 15fed o Hydref sy’n ysgogi pobl i ddechrau bob sgwrs yn y Gymraeg boed hynny mewn caffi, wrth dorri eich gwallt, yn yr archfarchnad - yn unrhyw le! Rydyn ni yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn falch iawn o’r Gymraeg â’n myfyrwyr Cymraeg. Edrychwch isod am beth sydd i’w gynnig i fyfyrwyr Cymraeg a dysgwyr.

Diwrnod Shwmae Su’ mae Hapus!

Mae'r Gymraeg yn rhan allweddol a phwysig o fywyd bob dydd yn y Brifddinas ac yn ogystal â chlywed y Gymraeg o amgylch y campws a’r ddinas, mae llwyth o gyfleuoedd i fyfyrwyr gael cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymdeithasau Cymraeg Undeb y Myfyrwyr

Y Gym Gym

Y Gym Gym yw Cymdeithas Gymraeg mwyaf Prifysgol Caerdydd, a gyda bron i 200 o aelodau, mae’n un o gymdeithasau mwyaf bywiog y Brifysgol. Mae cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Gym Gym yn ffordd wych ichi ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill y Brifysgol, ac mae’n eich galluogi i fyw a bod drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd.
Dilynwch eu cyfrifon ar trydar a facebook.

Ymaelodi â'r Gym Gym

Clwb y Mynydd Bychan

Cymdeithas Cymraeg myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd Caerdydd yw Clwb y Mynydd Bychan. Mae’r gymdeithas yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gofal iechyd gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dilynwch eu cyfrifon ar trydar a facebook.

Ymaelodi â Chlwb y Mynydd Bychan

Y Waun Ddyfal

Os yw’r celfyddydau a pherfformio yn mynd â’ch bryd, yna dylech ymuno ag Aelwyd y Waun Ddyfal. Mae ymuno â’r côr yn eich galluogi i gymryd rhan mewn côr llwyddiannus o safon uchel, yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi gwrdd â siaradwyr Cymraeg o ledled Cymru.
Dilynwch eu cyfrifon ar trydar a facebook.

Cysylltwch â Chôr y Waun Ddyfal ar facebook er mwyn gwybod mwy am ymaelodi.


Eich Hawliau

Fel myfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd, mae gennych nifer o hawliau i ddefnyddio’ch Cymraeg o ddydd i ddydd o fewn y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion gyda derbyn yr hawliau isod, neu os nad ydych yn teimlo bod eich hawliau wedi cael eu cynnig a’i hysbysebu i chi, cysylltwch â Swyddog y Gymraeg, Owain Beynon.

Cysylltu â Swyddog y Gymraeg

Eich hawliau o fewn y Brifysgol

O ganlyniad i Safonau’r Gymraeg sydd wedi eu gosod ar y Brifysgol gan Lywodraeth Cymru, mae gennych nifer o hawliau i ddefnyddio’ch Cymraeg o fewn y Brifysgol. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys:

  • Yr hawl i gyflwyno unrhyw draethawd neu arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Yr hawl i gael tiwtor personol sy’n medru’r Gymraeg.
  • Yr hawl i gael mynediad i fewnrwyd cyfrwng Cymraeg.
  • Yr hawl i gyfathrebu yn uniaith Gymraeg gyda’r Brifysgol.
  • Yr hawl i fynegi dymuniad am lety penodedig Cymraeg.

Dysgu mwy am eich hawliau

Eich hawliau o fewn yr Undeb

  • Yr hawl i gyfathrebu’n uniaith Gymraeg gydag unrhyw aelod o staff neu swyddog etholedig
  • Yr hawl gyfrannu’n Gymraeg mewn unrhyw gyfarfod democrataidd
  • Yr hawl i dderbyn gwybodaeth gan yr Undeb yn Gymraeg dros e-bost neu dros y cyfryngau cymdeithasol.
  • Yr hawl i lenwi ffurflenni a holiaduron yn Gymraeg.


Shwmae Sumae Day is an annual day on the 15th of October to celebrate the Welsh language and culture and encourage people to start conversations in Welsh - whether it's in a cafe, when you're cutting your hair, in the supermarket - anywhere! Shwmae or Su’mae depending on where you’re from in Wales is simply ‘How are you’ in one simple word. We at Cardiff University Students’ Union are very proud of the Welsh language. It’s a day for everyone, Welsh speakers, Welsh learners and those who have an interest in the culture.

Happy Shwmae Su’ mae Day!

The Welsh language is a key and important part of daily life in the Capital and as well as hearing Welsh around campus and the city, there are loads of opportunities for students to socialize, learn and embrace the Welsh language and culture.

I want to learn Welsh...

Be one in a million

The Welsh Government has stated it's ambition to increase the number of speakers who use and enjoy the Welsh language to 1 million by 2050. You can be one of those million speakers, all you have to do is give it shot!

You can learn more about the Welsh Goverment's a million Welsh speakers stratergy here.

Welsh for all

The ‘Welsh for all’ is a scheme that give students the opportunity to receive free Welsh lessons side by side with their university courses. A lot of employers and companies are looking for graduates who have the ability to converse in Welsh, and this is a great opportunity for students to take advantage of Welsh for all’s professional and expert provision. A variety of different courses are offered, suitable for learners of all levels. For more information, contact welshforall@cardiff.ac.uk.

Learn Welsh with Welsh for all


Welsh Societies at the Students' Union

Y Gym Gym

Y Gym Gym is Cardiff’s largest Welsh society, and with almost 200 members, it is one of Cardiff’s liveliest societies. Taking part in y Gym Gym’s activities is a great way for you to get to know other Welsh speakers in the University, and it allows you to live through the medium of Welsh in Cardiff.
Follow their accounts on Twitter and Facebook.

Join the Gym Gym

Clwb y Mynydd Bychan

Clwb y Mynydd Bychan is Cardiff’s medicine and healthcare students’ Welsh society. The society gives healthcare students the opportunity to take part in social and extracurricular activities through the medium of Welsh.
Follow their accounts onTwitter and Facebook.

Join Clwb y Mynydd Bychan

Y Waun Ddyfal

If you like performing and the arts, then you should join Aelwyd y Waun Ddyfal! Joining this choir will allow you to take part in successful choir, as well as giving you the opportunity to meet Welsh speakers from all over Wales. Every year the choir compete in the Urdd Eisteddfod, and they often win a lot of competitions.
Follow their accounts on Twitter and Facebook.

Contact Y Waun Ddyfal on facebook to join.


Welsh Language Culture

If learning a whole new language is a daunting thought, why not start by enjoying some Welsh culture? It's often said that language is the key to culture but often culture can also be the key to language. Here are some links to get you started:

Music

TV Programmes

Podcasts