Revision Tips

Make it happen

If you're lacking in revision motivation, it's super important to get organised. This will help you use your time in the most beneficial way. Know the best work patterns that will help you out - whether it's getting up a little earlier in the morning or having late night sessions in the library (but make sure you're getting enough sleep, as your brain needs this too!) Research shows that shorter 20-30 minute revision sessions work best, so it really is ok to take a lot of revision breaks to keep you focussed. 

  • Make a revision timetable.
  • Have a look at lecture notes or powerpoints.
  • Your lecturers don’t tell you to do past papers for no reason, they are a vital part of revision and great for practising exam style questions.

Keep it interesting

Don't get bogged down with boring notes, sometimes it helps to swap between different topics so you don't get bored. Other times, physical activity is really important for keeping your mind active, so why not go out for a short jog or pop to the gym. Exercise is great to release all that stress too.

  • Use colour! Put all those highlighters and coloured pens to good use and make your revision beautiful, it’ll make it easier to memorise too. 
  • Include other people, whether it's course mates, friends or family. Talking through what you're learning will help you remember it better. 'If you're revising with your course mates, make sure you're up to scratch with the University's Academic Integrity Policy and Academic Misconduct Procedure, so you don't create a problem for yourself after the assessments are complete.
  • Try recording your revision notes - that way you can listen to it whilst exercising or walking somewhere.
  • Get some revision cards and make bright and colourful summary notes. 
  • Treat yourself! You need to break up your revision and treat yourself every once in a while, why not go to the cinema or go for a coffee with some friends. 

Things to take with you

Now we know that exam period is a stressful time, so here’s our handy checklist of all the things you need to remember when packing your bag for your big adventure to the library.

  • Pens, lots and lots of pens
  • Highlighters and coloured pens - It will make your revision look oh so pretty, and it’ll help you memorise it better
  • Phone charger - All that time tweeting about your exam revision is going to drain your battery
  • Extension lead - You’ll be the most popular guy, gal or non-binary pal in the library with that bad boy.
  • Water - Because revision is thirsty work
  • Lots of snacks - Get down to the shops and do a revision food shop. Make sure you get some fruit as well as cookies!
  • Laptop charger - come on, that’s just common sense.
  • Headphones - To block out the cries & whimpering of the poor souls around you
  • Your revision - Kind of the most important bit to remember 

Awgrymiadau Adolygu

Dyma dy Gyfle

Os mae’ch cymhelliant i adolygu’n brin, mae'n bwysig iawn bod yn drefnus. Bydd hyn yn eich helpu i ddefnyddio’ch amser yn y modd mwyaf buddiol. Mae’n bwysig gwybod pa batrymau sy’n gweithio orau i'ch helpu chi - boed hynny'n codi ychydig yn gynharach yn y bore neu sesiynau nos hwyr yn y llyfrgell (ond gwnewch yn siwr eich bod chi'n cael digon o gwsg, gan fod angen hyn ar eich ymennydd hefyd!). Mae ymchwil yn dangos taw sesiynau adolygu byrrach o 20-30 munud sy’n gweithio orau, felly mae'n iawn iawn i gymryd llawer o seibiau i wella’ch canolbwyntio. 

  • Gwnewch amserlen adolygu.
  • Edrychwch ar nodiadau darlith neu sleidiau PowerPoint.
  • Mae yna reswm pam fod eich darlithwyr yn dweud wrthoch am wneud hen bapurau arholiadau, maent yn rhan hanfodol o adolygu ac yn wych er mwyn ymarfer arddull cwestiynau arholiad. 

Byddwch yn greadigol

Peidiwch â boddi mewn nodiadau diflas, weithiau mae'n dda cyfnewid rhwng gwahanol bynciau fel nad ydych yn diflasu. Ar adegau eraill, mae gweithgarwch corfforol yn bwysig iawn er mwyn cadw eich meddwl yn effro, felly ewch am jog cyflym neu ewch i’r gym. Mae ymarfer yn ffordd dda i ryddhau’r holl straen.

  • Bod yn lliwgar! Defnyddiwch eich pennau lliwgar i harddu’ch adolygu, fe fydd yn haws i chi gofio eich gwaith hefyd.
  • Cynnwys pobl eraill, boed yn ffrindiau cwrs, ffrindiau neu deulu. Mae siarad am beth rydych chi'n dysgu yn eich helpu i chi gofio yn well. Os ydych chi'n adolygu gyda'ch cyd-fyfyrwyr, gwnewch yn siwr eich bod chi'n gyfarwydd â Pholisi Gonestrwydd Academaidd a Gweithdrefn Camymddygiad Academaidd y Brifysgol, fel nad ydych chi'n creu problem ar ôl i'ch asesiadau gael eu cwblhau.
  • Recordio’ch nodiadau adolygu- gallwch wrando arnynt wrth wneud ymarfer corff neu gerdded rhywle.
  • Defnyddio cardiau adolygu a gwnewch nodiadau lliwgar. 
  • Sbwylio'ch hun! Mae angen i chi dorri eich adolygu i lawr a sbwylio eich hun weithiau, pam na ewch chi i’r sinema neu fynd am goffi gyda ffrindiau?  

Pethau i fynd gyda chi

Rydym yn gwybod fod cyfnod arholiadau yn gyfnod llawn straen, felly dyma ein rhestr wirio defnyddiol gyda’r holl bethau y mae angen i chi gofio pan fyddwch yn pacio eich bag ar gyfer eich antur fawr i'r llyfrgell.

  • Beiros, a llawer o feiros
  • Beiros lliw - Bydd hyn yn harddu eich nodiadau, ac fe fydd yn haws i’w gofio
  • Charger ffôn- Bydd yr holl amser yn trydar am adolygu ar gyfer yr arholiadau yn lladd eich batri
  • Lîd estyniad - chi fydd y person mwyaf poblogaidd yn y llyfrgell.
  • Dwr- Oherwydd bod adolygu yn waith sychedig
  • Digon o ddanteithion - Ewch i’r siop i brynu digon o fwyd ar gyfer yr adolygu. Gwnewch yn siwr bod gennych ffrwythau yn ogystal â’r bisgedi!
  • Charger laptop - mae hynny’n synnwyr cyffredin.
  • Clustffonau- i ddileu’r swn crio’r holl fyfyrwyr o’ch amgylch
  • Eich nodiadau adolygu - Y peth mwyaf pwysig i’w gofio