Costau Byw
Cefnogi Myfyrwyr. Ysgogi Newid.
Mae mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw yn un o'n prif flaenoriaethau eleni. Rydym yn ymwybodol bod costau cynyddol yn cael effaith sylweddol ar fyfyrwyr, o rent a biliau ynni i gostau bwyd, trafnidiaeth ac astudio. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan gynnwys ymgyrchu am fwy o gymorth ariannol a gwell mynediad at wasanaethau cymorth.
Rydym yn cefnogi myfyrwyr drwy fentrau fel Y Pantri, Urddas Mislif, mannau astudio a chymdeithasu hygyrch, gweithgareddau lles, opsiynau bwyd rhad a chyfleoedd cyflogaeth drwy’r Siopswyddi, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn drwy gydol y flwyddyn.
Y dudalen hon yw’r canolbwynt ar gyfer ein holl waith ar gostau byw. Yma, fe welwch gymorth ymarferol, adnoddau arbed arian a diweddariadau ar ymgyrchoedd drwy gydol y flwyddyn.
Beth Rydyn ni’n ei Wneud
Fel eich Undeb Myfyrwyr, rydym yn defnyddio adborth gan fyfyrwyr i hyrwyddo gwelliannau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau myfyrwyr.
Mae ein gwaith yn cynnwys:
- Ymgyrchu am gymorth ariannol gwell i fyfyrwyr.
- Gweithio gyda'r Brifysgol i sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei gynrychioli wrth wneud penderfyniadau.
- Hyrwyddo mynediad at gymorth ariannol, grantiau a bwrsariaethau.
- Darparu cymorth ymarferol drwy wasanaethau fel Y Pantri, Cyngor i Fyfyrwyr a’r Siopswyddi.
- Casglu adborth gan fyfyrwyr i lywio ymgyrchoedd a blaenoriaethau yn y dyfodol.
Dychwelyd eleni?
Hyd yn oed os oeddech chi'n teimlo'n gyfforddus yn ariannol y llynedd, gallai costau bwyd, ynni a byw cynyddol olygu eich bod yn wynebu heriau newydd eleni. Mae cymorth ar gael i bob myfyriwr, p'un a ydych chi'n profi anawsterau ariannol am y tro cyntaf neu angen cymorth ychwanegol i reoli costau cynyddol.
Rydym ni eisiau clywed gennych CHI
A yw costau byw cynyddol yn effeithio ar eich profiad fel myfyriwr? Rydym eisiau clywed gennych. Rhannwch eich profiadau, eich pryderon a’ch syniadau, a helpwch ni i nodi lle mae angen newid fwyaf.
Gostyngiadau ac Arbedion i Fyfyrwyr
Gall gwneud i'ch arian fynd ymhellach wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gallwch gael mynediad at ystod eang o ostyngiadau a chynigion ar bopeth, o fwyd a siopa i deithio, technoleg ac adloniant.
Mae llwyfannau disgownt myfyrwyr poblogaidd yn cynnwys:
- UNiDAYS - Mynediad at ostyngiadau gan gannoedd o frandiau, manwerthwyr a bwytai mawr.
- Student Beans - Darganfod cynigion unigryw i fyfyrwyr ar-lein ac yn y siop.
- TOTUM - Mynediad at ostyngiadau, cynigion ac arbedion i fyfyrwyr ar draws ystod eang o frandiau.
Peidiwch ag anghofio manteisio i'r eithaf ar gynlluniau teyrngarwch a gwobrwyo hefyd. Mae llawer o fanwerthwyr yn cynnig gostyngiadau, pwyntiau ac chynigion personol trwy gardiau aelodaeth am ddim, gan gynnwys:
Mae llawer mwy o gynlluniau gostyngiadau a gwobrau ar gael yn ogystal â'r rhai a restrir uchod. Wrth siopa yn y siop neu ar-lein, cadwch lygad am gardiau teyrngarwch, rhaglenni gwobrwyo a chynigion i fyfyrwyr. Gall cymryd ychydig o amser i ymuno yn aml arwain at arbedion sylweddol ar eich gwariant bob dydd drwy gydol y flwyddyn.
Cymorth a Chyfleoedd
Siopswyddi
Chwilio am waith rhan-amser ochr yn ochr â'ch astudiaethau? Mae’r Siopswyddi yn wasanaeth cyflogaeth rhad ac am ddim i fyfyrwyr, wedi'i leoli yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, sy'n anelu at ddod o hyd i waith â thâl i fyfyrwyr cofrestredig Prifysgol Caerdydd.
Dysgu mwy→
Cyngor i Fyfyrwyr
Mae Cyngor i Fyfyrwyr yn wasanaeth rhad ac am ddim, cyfrinachol ac annibynnol ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae ein tîm cyfeillgar a gwybodus yn helpu myfyrwyr i ddeall eu hopsiynau ac yn eich cyfeirio at y gwasanaethau cymorth priodol i gael y cymorth sydd ei angen arnoch..
Dysgu mwy→
Y Pantri
Wedi'i agor yn 2025, mae'r Pantri yn darparu bwyd ac eitemau hanfodol am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n wynebu caledi ariannol neu'n cael trafferth gyda chostau cynyddol eitemau hanfodol bob dydd.
Dysgu mwy→
Tîm Cyngor ac Arian Prifysgol Caerdydd
Gall rheoli cyllid fel myfyriwr fod yn heriol. Gall Tîm Cyngor ac Arian y Brifysgol ddarparu arweiniad ar gyllid, cyllidebu a chymorth ariannol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol.
Dysgu mwy →
Cronfa Cymorth Ariannol
Os ydych chi mewn caledi ariannol a methu â thalu am eich costau hanfodol, efallai bod cymorth ar gael drwy'r Gronfa Cymorth Ariannol
Mae rhagor o wybodaeth am ymgeisio i'r Gronfa Cymorth Ariannol ar gael ar Fewnrwyd y Myfyrwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflen, anfonwch e-bost at
[email protected].
Dysgu mwy →
I gael gwybodaeth am gymorth ehangach y Brifysgol – gan gynnwys cymorth gyda chostau byw, cyllidebu, cyllid a lles – ewch i dudalen Cymorth Costau Byw Prifysgol Caerdydd.→
Angen cymorth nawr?
Os ydych chi'n poeni am arian, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael, a gall cysylltu â ni'n gynnar eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr.