How to prepare for rising bills as a student | Sut i baratoi ar gyfer biliau cynyddol fel myfyrwyr

normal
No ratings yet. Log in to rate.

As the weather gets colder, many students start to worry about the cost of keeping their homes warm. Energy bills can put extra pressure on a student budget, especially when rent, food and travel already take up a large share of your money. With energy prices changing, it can be difficult to know what to expect this winter. The energy price cap is forecast to rise +23% in January.

 

Five ways to prepare for winter bills 

1. Check what you're paying for

Start by checking whether gas, electricity and water are included in your rent. If bills are included, find out whether your cap is based on £ spent or measures of energy.

If bills are separate, find out who supplies your home, when payments are due, and whether your bills are based on actual or estimated readings. Keep copies of bills and meter readings so you can query anything that doesn't look right.

2. Talk to your housemates early

If you share a house, agree on how bills will be split and who will pay each provider. Decide when everyone needs to transfer their share and keep a shared calendar or spreadsheet to keep track. A quick conversation now can prevent confusion when the first cold-weather bills arrive.

3. Give your winter budget a check-up

List your income and essential costs, including rent, bills, food and travel. Look ahead to the next Student Finance payment and work out how much you need to last until then. If you can, set aside a small amount for unexpected costs. If the numbers don't add up, seek advice early rather than waiting for a missed payment.

4. Use energy thoughtfully — but stay warm

Simple habits can help you avoid wasting energy: turn off lights and appliances when they're not needed, avoid heating empty rooms, and keep an eye on your usage. If you rent, check with your landlord before making changes to heating systems or the property. Don't put your health at risk by leaving your home uncomfortably cold; if you're struggling to afford adequate heating, ask for help.

5. Ask for support before things get worse

Ask what support or payment options may be available. You can speak to Cardiff University's Advice and Money service. In addition, you can contact Student Advice within the SU for help and guidance.


A little planning can make winter easier 

You can't control every change in energy prices, but you can check your bills, plan ahead, and get advice before a problem grows. Start with one small step today: review your next payment, message your housemates about the bills plan, or update your budget.

Need more help? Read our student bills page for practical advice on setting up bills, budgeting, dealing with unexpected charges, and avoiding scams.


Cost of living – We are working on it 

Your Sabbatical Officer Team continues to raise cost of living as a primary concern for students with Senedd members, MPs, Russell Group universities, Cardiff Council and more. In addition, we are sourcing ways to decrease pressure on students, from increases to hardship funding and resources like the Pantri, to student discounts from businesses and services. We are committed to tackling the challenge of the cost of living and ensuring students feel secure and comfortable while studying in Cardiff.

To see what we are working on, how to get involved or how to get support, please see our page on Cost of Living Support.


Wrth i'r tywydd oeri, mae llawer o fyfyrwyr yn dechrau poeni am y gost o gadw eu cartrefi'n gynnes. Gall biliau ynni roi pwysau ychwanegol ar gyllideb myfyrwyr, yn enwedig pan fo rhent, bwyd a theithio eisoes yn cymryd cyfran fawr o'ch arian. Gyda phrisiau ynni yn newid, gall fod yn anodd gwybod beth i'w ddisgwyl y gaeaf hwn. Rhagwelir y bydd cap ar brisiau ynni yn codi +23% ym mis Ionawr.


Pum ffordd i baratoi ar gyfer biliau'r gaeaf 

1. Gwiriwch beth rydych chi'n talu amdano

Dechreuwch drwy wirio a yw nwy, trydan a dŵr wedi'u cynnwys yn eich rhent. Os yw biliau wedi'u cynnwys, darganfyddwch a yw'r terfyn yn seiliedig ar y swm a wariwyd (mewn £) neu ar fesuriadau ynni.

Os yw'r biliau ar wahân, darganfyddwch pwy sy'n cyflenwi'r gwasanaethau i'ch cartref, pryd mae angen gwneud taliadau, ac a yw'r biliau'n seiliedig ar ddarlleniadau gwirioneddol neu amcangyfrif. Cadwch gopïau o'r biliau a darlleniadau'r mesurydd, fel y gallwch holi am unrhyw beth nad yw'n edrych yn gywir.

2. Siaradwch â'ch cyd-breswylwyr mewn digon o bryd

Os ydych chi'n rhannu tŷ, cytunwch ar sut y bydd biliau'n cael eu rhannu a phwy fydd yn talu pob darparwr. Penderfynwch pryd mae angen i bawb drosglwyddo eu cyfran, a chadwch galendr neu daenlen ar y cyd i gadw golwg ar bethau. Gall sgwrs fer nawr atal dryswch pan fydd y biliau tywydd oer cyntaf yn cyrraedd.

3. Gwiriwch eich cyllideb ar gyfer y gaeaf

Rhestrwch eich incwm a'ch costau hanfodol, gan gynnwys rhent, biliau, bwyd a chostau teithio. Edrychwch ymlaen at y taliad nesaf gan Gyllid Myfyrwyr a chyfrifwch faint sydd ei angen arnoch i fyw arno tan hynny. Os gallwch, rhowch swm bach ar gyfer costau annisgwyl i'r ochr. Os nad yw'r cyfrifiadau'n cyd-fynd, gofynnwch am gyngor yn gynnar yn hytrach nag aros nes i daliad gael ei fethu.

4. Byddwch yn feddylgar yn eich defnydd o ynni — ond cadwch yn gynnes

Gall arferion syml eich helpu i osgoi gwastraffu ynni: diffoddwch oleuadau ac offer pan nad oes eu hangen, peidiwch â gwresogi ystafelloedd gwag, a chadwch lygad ar faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. Os ydych chi'n rhentu, gwiriwch gyda'ch landlord cyn gwneud newidiadau i systemau gwresogi neu i'r eiddo. Peidiwch â rhoi eich iechyd mewn perygl drwy adael eich cartref yn anghyfforddus o oer; os ydych chi'n cael trafferth fforddio gwresogi digonol, gofynnwch am gymorth.

5. Gofynnwch am gymorth cyn i bethau waethygu

Gofynnwch pa gymorth neu opsiynau talu sydd ar gael. Gallwch siarad â gwasanaeth Cyngor ac Arian Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn yr UM i gael cymorth ac arweiniad.


Gall ychydig o gynllunio wneud y gaeaf yn haws 

Allwch chi ddim rheoli pob newid ym mhrisiau ynni, ond gallwch wirio eich biliau, cynllunio ymlaen llaw, a chael cyngor cyn i broblem waethygu. Cymerwch un cam bach heddiw: edrychwch ar eich taliad nesaf, anfonwch neges at y bobl rydych chi'n byw gyda nhw ynglŷn â'r cynllun talu biliau, neu diweddarwch eich cyllideb.

Angen mwy o gymorth? Darllenwch ein tudalen ar filiau i fyfyrwyr i gael cyngor ymarferol ar drefnu biliau, llunio cyllideb, ymdopi â chostau annisgwyl, ac osgoi sgamiau. 


Costau byw – Rydym yn gweithio ar hyn 

Mae eich tîm o Swyddogion Sabothol yn parhau i godi mater costau byw fel y prif bryder i fyfyrwyr, wrth drafod gydag Aelodau o’r Senedd, Aelodau Seneddol, prifysgolion y Grŵp Russell, Cyngor Caerdydd ac eraill. Yn ogystal, rydym yn chwilio am ffyrdd o leihau’r pwysau ar fyfyrwyr, o gynyddu cyllid ar gyfer caledi a darparu adnoddau fel Y Pantri, i sicrhau gostyngiadau i fyfyrwyr gan fusnesau a gwasanaethau. Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â her y costau byw, a sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus wrth astudio yng Nghaerdydd.

I weld ar beth rydym yn gweithio arno, sut i gymryd rhan, neu sut i gael cymorth, ewch i’n tudalen ar Gymorth gyda Chostau Byw. 


Comments