Cymraeg
On Tuesday 6th December, the Cardiff Students’ Union Annual General Meeting passed a motion titled ‘Cops Off Campus’ by clear majority decision. Among other resolves, this motion called for a condemnation of South Wales Police’s apparent and clear systematised levels of violence, particularly towards those of ethnic minority descent in Wales, those struggling with mental health issues, and those of other minority groups. The following is not intended to insult South Wales Police, or to rile up external groups, but instead to state clearly that we as a Students’ Union blanketly condemn the discrimination and violence shown on a systemic level within South Wales Police.
The following will contain mention of violence against minority groups, sexual assault, and harassment, among other sensitive topics, reader discretion is advised.
We recognise that given the overwhelming support for the motion and the harrowing statements both provided within the motion, and those told to us by students when debating the motion, that we as an institution need to do more to protect our students and oppose the racism and discrimination faced by many in South Wales.
Statistics from Cardiff University’s Wales Governance Centre, as published by Voice Wales and Cardiff University in March of 2022 highlight a worrying continuation of the discriminatory nature of policing in Wales.
"Black people in Wales account for almost 1 in 10 instances of firearms used by cops on the public yet make up only 0.6% of the population."
(Voice Wales)
"Asian people were also disproportionately threatened with firearms by Welsh cops, with guns being used against people of Asian descent for 5.1% of all instances but only accounting for just under 2% of the population."
(Voice Wales)
"In 2020/21, of every 1,000 people:
- Eight white people living in Wales were stopped and searched
- 56 black people
- 16 asian people
- 28 people who identify as being from a mixed ethnic background."
(Cardiff University 2022)
As a Students’ Union we recognise that these figures are not acceptable, and we commit to hold the organisations we work with to the highest standards to ensure student safety. Despite the partnership work between SWP and the Police and Crime commissioner to address racial discrimination through the joint race equality plan, the data demonstrates slow progress and systematic issues in the Welsh police force. We would like to echo the sentiment of a statement put out by Black Lives Matter Cardiff and Vale: "There is no road to freedom and liberation for ethnic minorities that includes the police, Wales should be a region that knows more than most. From the Cardiff Three, to Siyanda Mngaza, to Christopher Kapessa and to Mohamud [Hassan] and Mouayed [Bashir], the system was built to oppress us."
Alongside the known racism and discrimination within the police force, the comparatively high levels of sexual misconduct and assault allegations aimed at the officers is another matter of concern. This figure demonstrates deep flaws within the institution which until resolved will create a divide between the student body and law enforcement in South Wales.
As mandated within the motion, Cardiff Students’ Union will release the terms of reference for the audit into our engagement with the police to ensure the completion of the other resolves. We will also be inviting societies, student groups, and organisations within Cardiff to collaborate with us in resisting police violence, and in implementing educational and community-based initiatives to address harms and violence at its roots.
In June 2020, Cardiff Students’ Union released a response to the Black Lives Matter movement and the sentiment remains the same, "Silence is an unacceptable response to racism." We acknowledge that more can always be done to tackle racism and discrimination and we will endeavour to listen to the voices of those facing injustice both within our Students’ Union and externally and push for serious change within our community.
Click here to find out more about the Task and Finish group
Ddydd Mawrth 6ed Rhagfyr yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Myfyrwyr Caerdydd pasiwyd cynnig o'r enw 'Cops Oddi ar y Campws' drwy benderfyniad mwyafrif clir. Ymhlith penderfyniadau eraill roedd y cynnig hwn yn galw am gondemniad o lefelau trais systematig ymddangosol a chlir Heddlu De Cymru, yn enwedig tuag at y rhai o dras lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, y rhai sy'n cael trafferth gyda materion iechyd meddwl, a rhai grwpiau lleiafrifol eraill. Nid yw’r canlynol wedi’u bwriadu i sarhau Heddlu De Cymru, nac i gynhyrfu grwpiau allanol, ond yn hytrach i ddatgan yn glir ein bod ni fel Undeb Myfyrwyr yn condemnio pob math o wahaniaethu a thrais a ddangosir ar lefel systemig o fewn Heddlu De Cymru.
Bydd y canlynol yn cynnwys sôn am drais yn erbyn grwpiau lleiafrifol, ymosodiad rhywiol, ac aflonyddu, ymhlith pynciau sensitif eraill, cynghorir disgresiwn darllenydd.
Rydym yn cydnabod, o ystyried y gefnogaeth aruthrol o blaid y cynnig a’r datganiadau dirdynnol a ddarparwyd o fewn y cynnig, a’r rhai a ddywedwyd wrthym gan fyfyrwyr wrth drafod y cynnig, fod angen i ni fel sefydliad wneud mwy i amddiffyn ein myfyrwyr a gwrthwynebu’r hiliaeth a’r gwahaniaethu a wynebir gan lawer yn Ne Cymru.
Mae ystadegau gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, fel y cyhoeddwyd gan Llais Cymru ym mis Mawrth 2022 yn amlygu parhad pryderus o natur wahaniaethol plismona yng Nghymru.
"Mae pobl Dduon yng Nghymru yn cyfrif am bron i 1 o bob 10 achos o ddrylliau a ddefnyddir gan heddluoedd ar y cyhoedd ond eto dim ond 0.6% o’r boblogaeth yw’r rhain.”
(Voice Wales)
“Roedd pobl Asiaidd hefyd yn cael eu bygwth yn anghymesur â drylliau gan heddluoedd Cymru, gyda gynnau’n cael eu defnyddio yn erbyn pobl o dras Asiaidd am 5.1% o’r holl achosion, ond dim ond yn cyfrif am ychydig o dan 2% o’r boblogaeth.”
(Voice Wales)
“Yn 2020/21, o bob 1,000 o bobl:
- Cafodd wyth o bobl wynion sy'n byw yng Nghymru eu stopio
- 56 o bobl dduon
- 16 o bobl asiaidd
- 28 o bobl sy'n nodi eu bod o gefndir ethnig cymysg."
(Prifysgol Caerdydd 2022)
Fel Undeb Myfyrwyr rydym yn cydnabod nad yw’r ffigurau hyn yn dderbyniol, ac rydym yn ymrwymo i gadw’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw i’r safonau uchaf er mwyn sicrhau diogelwch myfyrwyr. Er gwaethaf y gwaith partneriaeth rhwng Heddlu De Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil drwy'r cynllun cydraddoldeb hiliol ar y cyd, mae'r data'n dangos cynnydd araf a materion systematig o fewn yr heddlu Cymreig. Hoffem adleisio teimlad datganiad a gyhoeddwyd gan Mae Bywydau Duon o Bwys Caerdydd a’r Fro: “Does dim ffordd i ryddid a rhyddhad i leiafrifoedd ethnig sy’n cynnwys yr heddlu, fe ddylai Cymru fod yn rhanbarth sy’n gwybod mwy na’r mwyafrif. O’r Tri Caerdydd, i Siyanda Mngaza, i Christopher Kapessa ac i Mohamud [Hassan] a Mouayed [Bashir], adeiladwyd y system i’n gormesu.”
Ochr yn ochr â’r hiliaeth a’r gwahaniaethu hysbys o fewn yr heddlu, mae’r lefelau cymharol uchel o honiadau o gamymddwyn rhywiol ac ymosodiad a anelir at y swyddogion yn destun pryder arall. Mae'r ffigur hwn yn dangos diffygion dwfn o fewn y sefydliad a fydd, hyd nes y cânt eu datrys, yn creu rhaniad rhwng corff y myfyrwyr a’r swyddogion gorfodi'r gyfraith yn Ne Cymru.
Fel y mandadwyd yn y cynnig, bydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn rhyddhau'r cylch gorchwyl ar gyfer yr archwiliad i'n hymgysylltiad â'r heddlu i sicrhau bod y penderfyniadau eraill yn cael eu cwblhau. Byddwn hefyd yn gwahodd cymdeithasau, grwpiau myfyrwyr, a sefydliadau o fewn Caerdydd i gydweithio â ni i wrthsefyll trais yr heddlu, ac i roi mentrau addysgol a chymunedol ar waith i fynd i’r afael â niwed a thrais yn ei wreiddiau.
Ym mis Mehefin 2020, rhyddhaodd Undeb Myfyrwyr Caerdydd ymateb i’r mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac mae’r teimlad yn aros yr un fath, “Mae distawrwydd yn ymateb annerbyniol i hiliaeth.” Rydym yn cydnabod y gellir bob amser gwneud mwy i fynd i'r afael â hiliaeth a gwahaniaethu a byddwn yn ymdrechu i wrando ar leisiau'r rhai sy'n wynebu anghyfiawnder o fewn ein Hundeb Myfyrwyr ac yn allanol a gwthio am newid difrifol o fewn ein cymuned.
Cliciwch yma i ddarganfod ragor am y Grwp Gorchwyl a Gorffen.