We've been shortlisted! #WUSCA23 | 'Dyn ni ar y rhestr fer! #WUSCA23

Cardiff Students’ Union has been shortlisted for 2023’s WhatUni Student Choice Awards (WUSCA), the leading higher education awards ceremony based solely on student choice.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

Cardiff Students’ Union has been shortlisted for 2023’s WhatUni Student Choice Awards (WUSCA), the leading higher education awards ceremony based solely on student choice.

The annual WUSCAs highlight the incredible work carried out by institutions, like Cardiff Students’ Union, for their students benefit. Over 30,000 student-reviews are collated from campuses across the UK, with Cardiff Students’ Union narrowly missing out on the top spot in 2022.

Daniel Palmer, Cardiff Students’ Union’s Chief Executive, said: “It is a huge achievement being shortlisted for the WhatUni Student Choice Awards for a seventh consecutive year; and to be recognised so highly by our students at Cardiff University for the hard work we do for them is an incredible feeling.”

“We will continue to do whatever we can to amplify student voice and allow students to have the freedom to enjoy their university experience, all whilst having an inclusive, safe space here at the Students’ Union.”

“I want to take this opportunity to thank each and every person that has taken the time to leave a review about their university experience at Cardiff Students’ Union, as well as the hard-working staff that do so much work behind the scenes to reach these achievements.”

A Cardiff University spokesperson said “We know how much our students love being able to take advantage of having one of the UK’s best Students’ Unions on their doorstep, enabling them to thrive and be supported throughout their study journey. Our SU being nominated for this award by our students feels extra special and goes to show how important a positive student life experience is to our students as part of their time in Cardiff."

The WUSCAs 2023 awards will be taking place on Wednesday 26th April, where Cardiff Students’ Union will be joined by other shortlisted Unions around the country. 


Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni 2023, sef y brif seremoni wobrwyo addysg uwch yn seiliedig ar ddewis myfyrwyr yn unig.

Mae'r Gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni blynyddol yn tynnu sylw at y gwaith anhygoel y mae sefydliadau, fel Undeb Myfyrwyr Caerdydd, yn ei wneud er budd i'w myfyrwyr. Caiff dros 30,000 o adolygiadau gan fyfyrwyr eu casglu o gampysau ledled y DU, gydag Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn agos at y brig yn 2022.

Dywedodd Daniel Palmer, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Caerdydd: "Mae hi'n gyflawniad aruthrol cael ein cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni am yr wythfed flwyddyn yn olynol; ac mae gweld ein myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn meddwl mor uchel ohonom am y gwaith caled a wnawn drostynt yn deimlad anhygoel."

"Byddwn yn parhau i wneud beth bynnag y gallwn i amlygu llais y myfyrwyr a galluogi myfyrwyr i gael y rhyddid i fwynhau eu profiad prifysgol, i gyd wrth gael gofod cynhwysol a diogel yma yn Undeb y Myfyrwyr."

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un person sydd wedi cymryd yr amser i adael adolygiad am eu profiad prifysgol yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, yn ogystal â'r staff sy'n gweithio'n galed ac yn gwneud cymaint o waith y tu ôl i'r llenni er mwyn gwireddu’r cyflawniadau hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd "Rydym yn gwybod faint mae ein myfyrwyr wrth eu boddau’n gallu manteisio ar gael un o Undebau Myfyrwyr gorau'r DU ar garreg eu drws, gan eu galluogi i ffynnu a chael eu cefnogi drwy gydol eu taith astudio. Mae’r ffaith bod ein Hundeb Myfyrwyr wedi’i enwebu am y wobr hon gan ein myfyrwyr yn teimlo'n hynod o arbennig ac yn dangos pa mor bwysig yw profiad bywyd myfyrwyr cadarnhaol i'n myfyrwyr fel rhan o'u hamser yng Nghaerdydd."

Cynhelir gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni 2023 ar ddydd Mercher 26 Ebrill, lle fydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn ymuno ag Undebau eraill ar y rhestr fer sy’n dod o ledled y wlad.

Comments

No comments have been made. Please log in to comment.
 
Cardiff University Students’ Union, registered in Wales. Nothing here in contained constitutes an order for goods or services unless accompanied by an official order

Telephone | 029 2078 1400 Email | StudentsUnion@Cardiff.ac.uk Website | cardiffstudents.com Address | Park Place Cardiff CF10 3QN Charity No. | 1137163 Company Registration No. | 07328777
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, wedi’i gofrestru yng Nghymru. Nid oes dim yn gynwysedig yma yn gorchymyn am nwyddau neu wasanaeth oni bai bod archeb swyddogol yn cyd-fynd ag ef

Ffôn | 029 2078 1400 E-bost | StudentsUnion@Cardiff.ac.uk Gwefan | cardiffstudents.com Cyfeiriad | Plas y Parc Caerdydd CF10 3QN Rhif Elusen | 1137163 Rhif Cofrestredig y Cwmni | 07328777