Welsh Varsity 2023 | Varsity Cymru 2023

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

Welsh Varsity returns to the capital for 25th tournament

The 2023 Welsh Varsity tournament will be returning to Cardiff for the first time since 2019 as student teams from Swansea and Cardiff University go head-to-head in its 25th year.

For what is arguably the biggest day on the student calendar, Welsh Varsity is a festival of sport which sees students from Swansea University and Cardiff University battle it out in over 30 sports, including both the men’s and women’s rugby matches which will be played at Cardiff Arms Park.

Varsity has been ever-present on the sporting calendar for both Swansea University and Cardiff University since it began in 1997 and has gone from strength-to-strength each year. For its quarter-century anniversary, the sporting showpiece will be taking place on Wednesday, April 26 2023, with over 10,000 students cheering on the teams in the Welsh capital.

After being cancelled in 2020 and 2021 due to Covid-19 restrictions, The Welsh Varsity made a hugely successful return in 2022 at Swansea’s Sketty Lane and the Swansea.com Stadium.

Olivia Evans, VP Sports and Athletic Union President at Cardiff University, said: “It is so exciting to have Varsity back in Cardiff after 4 years away and I have no doubt that our Team Cardiff will be on top form for this monumental home fixture. This year we will be giving the Cardiff leg of the fixture a fresh look and feel with some exciting new developments planned for the day, we can’t wait to announce those in the coming weeks.”

Jonathan Davies, Sports Officer at Swansea University Students’ Union, said: “We’re really looking forward to this year’s Varsity and it’s set to be a fantastic day. Our teams are in great shape, are looking good and are ready to face off against Cardiff for another huge day of student sport in Wales.”

The 2023 tournament will take place in venues across the city, including Sport Wales and Cardiff Arms Park. Cardiff will be looking to retain the shield for another year, after reclaiming it in Swansea last year.

One of the highlights of the day includes the Ladies and Men’s rugby fixtures, which will take place this year in Cardiff Arms Park. Cardiff University Ladies will be looking to keep the momentum up following last year’s winning performance at the Swansea.com Stadium, whilst the Swansea Men’s team will be looking to take home the cup for the second year in a row.


Gŵyl Varsity Cymru'n dychwelyd i'r brifddinas wrth iddi gael ei chynnal am y 25ain tro

Bydd gŵyl Varsity Cymru 2023 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 2019 wrth i dimau o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd fynd benben â'i gilydd yn ei 25ain flwyddyn.

Ar gyfer efallai'r diwrnod mwyaf yng nghalendr y myfyrwyr, mae Varsity Cymru’n ŵyl chwaraeon lle mae myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn mwy na 30 o gampau, gan gynnwys gemau rygbi'r dynion a'r menywod a gaiff eu chwarae ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd.

Mae Varsity Cymru wedi bod yn rhan hollbresennol o galendr chwaraeon Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd ers i'r ŵyl ddechrau ym 1997 ac mae wedi mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. Bydd y digwyddiad chwaraeon blaenllaw'n dathlu ei chwarter canmlwyddiant ddydd Mercher 26 Ebrill, wrth i fwy na 10,000 o fyfyrwyr gefnogi eu timau ym mhrifddinas Cymru. Canslwyd Varsity Cymru yn 2020 a 2021 o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, ond dychwelodd mewn modd hynod lwyddiannus yn 2022 yn Lôn Sgeti yn Abertawe a Stadiwm Swansea.com.

Meddai Olivia Evans, Is-lywydd Chwaraeon a Llywydd Undeb Athletau Prifysgol Caerdydd: “Mae'n hynod gyffrous croesawu Varsity Cymru yn ôl i Gaerdydd ar ôl bwlch o bedair blynedd ac rwy'n siŵr y bydd Tîm Caerdydd ar ei orau wrth i'r cystadlaethau hollbwysig hyn gael eu cynnal ar dir cartref. Eleni byddwn ni'n rhoi gwedd wahanol ar dro Caerdydd i gynnal y digwyddiad ac mae rhai datblygiadau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer y diwrnod. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gyhoeddi'r rhain yn ystod yr wythnosau i ddod.”

Meddai Jonathan Davies, Swyddog Chwaraeon yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: “Mae Varsity Cymru eleni'n destun cyffro mawr i ni ac mae'n siŵr o fod yn ddiwrnod arbennig. Mae ein timau'n edrych yn wych ac maen nhw’n barod i wynebu Caerdydd am ddiwrnod mawr arall i chwaraeon myfyrwyr yng Nghymru.”

Bydd gŵyl 2023 yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ledled y ddinas, gan gynnwys Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a Pharc yr Arfau yng Nghaerdydd. Bydd Caerdydd am gadw gafael ar y darian am flwyddyn arall, ar ôl ei hadennill yn Abertawe y llynedd.

Mae un o uchafbwyntiau'r diwrnod yn cynnwys gemau rygbi'r menywod a'r dynion, a fydd yn cael eu cynnal eleni ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd. Bydd Menywod Prifysgol Caerdydd am barhau â'r momentwm yn dilyn eu buddugoliaeth y llynedd yn Stadiwm Swansea.com, a bydd Dynion Abertawe yn ceisio ennill y cwpan am yr ail flwyddyn yn olynol.

Comments

No comments have been made. Please log in to comment.