We continue to stand with our striking staff and those demanding better, in their fight for fair pay, better working conditions, and a secure pension, as mandated by our students in our 2022 Annual General Meeting.
Cymraeg
Last week, on the 5th of April, the University and College Union (UCU) served notice to employers of a marking and assessment boycott (MAB) to begin on Thursday 20 April. This means that academic staff may “cease undertaking all summative marking and associated assessment activities/duties”. This action has been taken following a successful re-ballot after the negotiations during the strike action across February and March did not resolve the dispute.
We continue to stand with our striking staff and those demanding better, in their fight for fair pay, better working conditions, and a secure pension, as mandated by our students in our 2022 Annual General Meeting.
We understand that this news may bring uncertainty, especially to those who are due to graduate this year. We want to reassure you that we are working closely with the university so that the appropriate mitigations are implemented, and you are kept informed throughout to minimise the effect the action may have on your studies. Our number one priority is supporting all of our students, both undergraduate and postgraduate, and we will do everything we can to provide support and assistance in this turbulent time.
If you would like to know more about the UCU dispute and the actions and events run by the SU related to it, please visit our Industrial Action page and if you need any advice relating to the action or otherwise, please contact our Student Advice service.
Yr wythnos ddiwethaf, ar y 5ed o Ebrill, cyflwynodd Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) rybudd i gyflogwyr am y boicot marcio ac asesu (MAB) a fydd yn dechrau ddydd Iau 20 Ebrill. Mae hyn yn golygu y gallai staff academaidd "roi'r gorau i wneud yr holl weithgareddau marcio crynodol a gweithgareddau/dyletswyddau asesu cysylltiedig". Mae'r camau hyn wedi eu cymryd yn dilyn ail-bleidlais lwyddiannus, a ddaeth ar ôl i'r trafodaethau yn ystod y streicio ar draws mis Chwefror a mis Mawrth ddim datrys yr anghydfod.
Rydym yn parhau i sefyll gyda'n staff sy’n streicio a'r rhai sy'n mynnu gwell, yn eu brwydr am gyflog teg, amodau gwaith gwell, a phensiwn diogel, fel y mandadwyd gan ein myfyrwyr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022.
Rydym yn deall y gallai'r newyddion hyn ddod ag ansicrwydd, yn enwedig i'r rhai sydd i fod i raddio eleni. Rydym am eich sicrhau ein bod yn gweithio'n agos gyda'r brifysgol fel bod y mesurau lliniaru priodol yn cael eu gweithredu, ac eich bod yn cael eich hysbysu drwyddi draw er mwyn lleihau'r effaith y gallai’r gweithredu ei gael ar eich astudiaethau. Ein prif flaenoriaeth yw cefnogi ein holl fyfyrwyr, israddedig ac ôl-raddedig, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cymorth yn y cyfnod cythryblus hwn.
Os hoffech wybod mwy am anghydfod UCU a'r camau gweithredu a'r digwyddiadau a gynhelir gan yr UM sy'n gysylltiedig â hi, ewch i'n tudalen Gweithredu Diwydiannol ac os oes angen unrhyw gyngor arnoch yn ymwneud â'r gweithredu neu fel arall, cysylltwch â'n gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr.