Statement: Fossil Free Careers | Datganiad: Gyrfaoedd heb Ffosil

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

Cardiff Students' Union are thrilled to announced that the motion 'Fossil Free Careers', initially presented in our AGM, has been passed by Student Senate. This project, in collaboration with People & Planet, is aimed at lobbying Cardiff University to change their policy regarding fossil fuel and mining companies by:

  • Refusing all new relationships with oil, gas, and mining companies.
  • Declining to renew any current relationships with oil, gas and mining companies after the contractually obligated period ends.
  • Adopting a publicly available Ethical Careers Policy that explicitly excludes oil, gas and mining companies from recruitment opportunities.

This policy proposal, in line with Cardiff University’s policy regarding the tobacco industry, was supported by the student body via Student Senate, who believe that an issue of the magnitude of climate change is worthy of similar, if not greater, action.

We will have a full-time Sabbatical Officer working alongside our Ethical and Environmental Campaign Officer to actively collaborate with the Fossil Free Careers campaign and People & Planet to ensure the Students’ Union work is linked up with grassroots campaigners. We’ll be restricting access to SU-organised events for oil, gas, or mining companies and refusing the use of the SU name, logo or endorsement to events which include these companies. Finally, we’ll be fully restricting the presence of these companies in any SU-controlled physical or digital space.

This is only an initial step in the fight against climate change, but we feel it is a necessary one to create a better future for our students, in collaboration with our students.

Here you can find our AGM agenda and notes which contains the original Fossil Free Careers motion.

Here you can find more about People & Planet’s UK-wide Fossil Free Careers campaign.


Datganiad Gyrfaoedd heb Ffosil

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wrth eu bodd yn cyhoeddi bod y cynnig 'Gyrfaoedd heb Ffosil', a gyflwynwyd i ddechrau yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, wedi cael ei basio gan Senedd y Myfyrwyr. Nod y prosiect, ar y cyd â People & Planet, yw lobïo Prifysgol Caerdydd i newid eu polisi o ran cwmnïau tanwydd ffosil a mwyngloddio drwy:

  • Gwrthod pob perthynas newydd gyda chwmnïau olew, nwy, a mwyngloddio.
  • Gwrthod adnewyddu unrhyw berthynas bresennol gyda chwmnïau olew, nwy a mwyngloddio ar ôl i'r cyfnod cytundebol orfodol ddod i ben.
  • Mabwysiadu Polisi Gyrfaoedd Moesegol sydd ar gael yn gyhoeddus sy'n eithrio cwmnïau olew, nwy a mwyngloddio yn benodol o gyfleoedd recriwtio.

Cafodd y cynnig polisi hwn, yn unol â pholisi Prifysgol Caerdydd ynglŷn â'r diwydiant tybaco, ei gefnogi gan gorff y myfyrwyr drwy Senedd y Myfyrwyr, sy'n credu bod y mater o faint newid yn yr hinsawdd yn deilwng o weithredu tebyg, os nad mwy.

Bydd gennym Swyddog Sabothol llawn amser yn gweithio ochr yn ochr â'n Swyddog Ymgyrchu Moesegol ac Amgylcheddol i gydweithio'n weithredol ag ymgyrch Gyrfaoedd heb Ffosil a People & Planet i sicrhau bod gwaith Undeb y Myfyrwyr yn gysylltiedig ag ymgyrchwyr ar lawr gwlad. Byddwn yn cyfyngu mynediad cwmnïau olew, nwy, neu fwyngloddio at ddigwyddiadau a drefnir gan UM ac yn gwrthod y defnydd o enw, logo neu gymeradwyaeth Undeb y Myfyrwyr i ddigwyddiadau sy'n cynnwys y cwmnïau hyn.

Yn olaf, byddwn yn cyfyngu'n llawn ar bresenoldeb y cwmnïau hyn mewn unrhyw ofod corfforol neu ddigidol a reolir gan UMC.

Dim ond cam cychwynnol yw hwn yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ond teimlwn ei fod yn un angenrheidiol i greu dyfodol gwell i'n myfyrwyr, mewn cydweithrediad â'n myfyrwyr.

Yma, gallwch ddod o hyd i'n hagenda a'n nodiadau CCB sy'n cynnwys y cynnig Gyrfaoedd heb Ffosil gwreiddiol.

Yma, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ymgyrch Gyrfaoedd heb Ffosil People & Planet ledled y DU.

Comments

 
dominos