Cardiff University to celebrate Pride 2023 | Prifysgol Caerdydd i ddathlu Pride 2023

Cardiff University and Cardiff Students’ Union are proud to be taking part and supporting Cardiff’s most colourful event of the year, Pride Cymru 2023.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

Cardiff University and Cardiff Students’ Union are proud to be taking part and supporting Cardiff’s most colourful event of the year, Pride Cymru 2023.

Throughout February, Cardiff Students’ Union celebrated LGBTQ+ History Month and engaged with over 500 students by hosting multiple events such as film and book clubs, pride showcases, introduced guest speakers to talk about their stories and held stalls across campus to educate students about sexual health; but these celebrations don’t stop here.

Pride Cymru is one of the most colourful days of the year in the Capital, being a volunteer-led charity that works to promote the elimination of discrimination of sexual orientation, gender, race, religion, or ability.

Gina Dunn, President of Cardiff Students’ Union, said “I’m so pleased that Cardiff University and the Students’ Union will be attending, and parading at, Pride Cymru 2023. It is amazing to see how much support this incredible event has received in the past, and it’s so important that we represent our students and staff – past, present and future.”

“There is still work to be done to improve the experience of our LGBTQ+ Students but attending Pride Cymru 2023 is a huge step in the right direction.”

Cardiff University’s Vice-Chancellor and President, Colin Riordan, said: “This is an exciting first for Cardiff University’s LGBTQ+ community. Our staff and students have a long and proud tradition of supporting Pride Cymru – especially the annual parade. With the University and the Students’ Union coming together as partners for the first time, we will be officially represented under one Cardiff University banner at Pride Cymru 2023. This sends a clear message that as a University we are united in our determination to recognise, celebrate and defend our LGBTQ+ community.”

Cardiff University and Cardiff Students’ Union are delighted to be a part of the Pride Cymru 2023 parade, as Diversity and inclusion is at the heart of what Cardiff Students' Union does. The organisational vision is clear: to work with every Cardiff student to enhance their University experience. The Students' Union and the University are committed to supporting, developing and promoting equality and diversity in all practices and activities.

Pride Cymru’s Big Weekend has become a family-friendly community event, enabling diverse groups to come together and find out more about one another and the matters that affect the LGBTQ+ community.

Pride Cymru will be taking place in Cardiff on Saturday 17th and Sunday 18th June, and you can show your support by getting tickets here: https://www.pridecymru.com/


Mae Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn falch o gymryd rhan a chefnogi digwyddiad mwyaf lliwgar y flwyddyn yng Nghaerdydd, Pride Cymru 2023.

Drwy gydol mis Chwefror, bu Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn dathlu Mis Hanes LHDTC+ ac yn ymgysylltu â dros 500 o fyfyrwyr drwy gynnal sawl digwyddiad megis clybiau ffilm a llyfrau, arddangosiadau balchder, cyflwyno siaradwyr gwadd i rannu eu straeon a chynnal stondinau ar draws y campws i addysgu myfyrwyr ynghylch iechyd rhywiol; Ond nid yw'r dathliadau hyn yn dod i ben yma.

Pride Cymru yw un o ddiwrnodau mwyaf lliwgar y flwyddyn yn y Brifddinas, fel elusen a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n gweithio i ddileu gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, hil, crefydd, neu allu.

Dywedodd Gina Dunn, Llywydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd "Rydw i mor falch y bydd Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr yn mynychu, ac yn paredio yn Pride Cymru 2023. Mae'n anhygoel gweld faint o gefnogaeth mae'r digwyddiad arbennig yma wedi'i gael yn y gorffennol, ac mae mor bwysig ein bod yn cynrychioli ein myfyrwyr a'n staff - gorffennol, presennol a dyfodol."

"Mae yna waith i'w wneud o hyd i wella profiad ein Myfyrwyr LHDTC+ ond mae mynychu Pride Cymru 2023 yn gam enfawr i'r cyfeiriad cywir."

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd a'r Llywydd Colin Riordan: "Dyma dro cyntaf gyffrous i gymuned LHDTC+ Prifysgol Caerdydd. Mae gan ein staff a'n myfyrwyr draddodiad hir a balch o gefnogi Pride Cymru - yn enwedig yr orymdaith flynyddol. Wrth i'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ddod at ei gilydd fel partneriaid am y tro cyntaf, byddwn yn cael ein cynrychioli'n swyddogol o dan un faner Prifysgol Caerdydd yn Pride Cymru 2023. Mae hyn yn anfon neges glir ein bod fel Prifysgol yn unedig yn ein penderfyniad i gydnabod, dathlu ac amddiffyn ein cymuned LHDTC+."

Mae Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn falch iawn o fod yn rhan o orymdaith Pride Cymru 2023, gan fod amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd yr hyn mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn ei wneud. Mae'r weledigaeth sefydliadol yn glir: gweithio gyda phob myfyriwr caerdydd i wella eu profiad yn y Brifysgol. Mae Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob arfer a gweithgaredd.

Mae Penwythnos Mawr Pride Cymru wedi dod yn ddigwyddiad cymunedol, sy'n addas i deuluoedd, gan alluogi grwpiau amrywiol i ddod ynghyd a darganfod mwy am ei gilydd a'r materion sy'n effeithio ar y gymuned LHDTC+.

Bydd Pride Cymru yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18 Mehefin, a gallwch ddangos eich cefnogaeth trwy gael tocynnau yma: https://www.pridecymru.com/

Comments

No comments have been made. Please log in to comment.