To mark the start of Period Dignity week, Cardiff Students’ Union will be breaking the stigma surrounding talking about periods by promoting the menstruation conversation, educating students about their periods, and providing support through offering free period pads, tampons and menstrual cups.
Cymraeg
To mark the start of Period Dignity week, Cardiff Students’ Union will be breaking the stigma surrounding talking about periods by promoting the menstruation conversation, educating students about their periods, and providing support through offering free period pads, tampons and menstrual cups.
The campaign aims to improve the experiences for those who menstruate and the impact of all future periods in their life, through combating the silence surrounding periods, educating about menstruation and management choices, and diminishing the associated stigma.
Rebecca Deverell, Vice President for Welfare and Campaigns at Cardiff Students’ Union said: “Access to menstrual products is a right. Period. Here at Cardiff Students’ Union, we believe that everyone should have the right to free, sustainable period products. Our commitment to period dignity still stands. We are dedicated to combating the silence surrounding periods, providing education about menstruation, and diminishing the stigma.”
The Period Dignity campaign was first launched in 2020, with Cardiff Students’ Union making the campaign a major focus ever since. Period Dignity prioritises putting an end to period poverty; it is estimated that 1-in-8 people will be unable to afford the sanitary products that they need in 2023, which is why the Union will have stalls across its campuses which aim to educate and encourage conversation surrounding periods as well as giving away free products to those who need them.
EmpowerPeriods, who visited the Union last December, will also be leading a talk on the 9th February at Cardiff Students’ Union with the aim of encouraging students to get rid of all taboos surrounding periods. EmpowerPeriods is a brand which has been built by a Cardiff University Alumni, who is addressing stigma, and the lack of education, around the menstrual cycle. Education includes the phases of the menstrual cycle, symptoms, and foods that will help you flourish. You can follow ‘@empowerperiods’ on Instagram.
In addition to breaking down stigma, an important goal surrounding the Period Dignity campaign is to educate students on what support is available to them. Cardiff Students’ Union has made free period products available to those who need them within the Union building, since March 2022. Although this initiative is limited to the Union building, we encourage Cardiff University students to access the products they need to manage their periods, particularly if they may be struggling with the Cost-of-Living Crisis.
Cardiff Students’ Union will continue to offer free period products and encourage open conversations about periods. If you would like to find out more about what we’re doing to support students during this campaign, click here: https://www.cardiffstudents.com/advice/health-and-wellbeing/perioddignity/
Cynnyrch mislif am ddim diolch i ymgyrch Urddas Mislif Undeb Myfyrwyr Caerdydd
I nodi dechrau wythnos Urddas Mislif, bydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn torri'r stigma sy'n gysylltiedig â siarad am y mislif trwy hyrwyddo'r sgwrs mislif, addysgu myfyrwyr am eu mislif, a darparu cefnogaeth trwy gynnig padiau mislif a thamponau am ddim.
Dywedodd Rebecca Deverell, Is-lywydd Lles ac Ymgyrchoedd Undeb Myfyrwyr Caerdydd: “Mae mynediad at gynhyrchion mislif yn hawl. Atalnod llawn. Yma yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, credwn y dylai fod gan bawb yr hawl i gynnyrch mislif cynaliadwy am ddim. Mae ein hymrwymiad i urddas mislif yn dal i sefyll. Rydym yn ymroddedig i frwydro yn erbyn y distawrwydd sy'n gysylltiedig â’r mislif, darparu addysg am y mislif, a lleihau'r stigma.”
Mae'r ymgyrch hefyd yn ceisio gwella profiadau pobl sy'n cael mislif, trwy dorri ar y tawelwch sy'n gysylltiedig â’r mislif, addysgu am y mislif a dewisiadau rheoli a lleihau'r stigma cysylltiedig.
Lansiwyd yr ymgyrch Urddas Mislif am y tro cyntaf yn 2021, ac mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi bod yn gefnogwr mawr o'r ymgyrch ers hynny. Mae Urddas Mislif yn blaenoriaethu rhoi terfyn ar dlodi mislif; amcangyfrifir na fydd 1-mewn-8 o bobl yn gallu fforddio'r cynhyrchion mislif sydd eu hangen arnynt yn 2023, a dyna pam y bydd gan yr Undeb stondinau ar draws ei gampysau sy'n anelu at addysgu ac annog sgwrs am y mislif yn ogystal â rhoi cynhyrchion am ddim i'r rhai sydd eu hangen.
Bydd EmpowerPeriods, a ymwelodd â'r Undeb fis Rhagfyr diwethaf, hefyd yn arwain sgwrs ar 9fed Chwefror yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd gyda'r nod o annog myfyrwyr i gael gwared ar yr holl dabŵs o amgylch y mislif. Mae EmpowerPeriods yn frand sydd wedi'i adeiladu gan Gyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd, sy'n mynd i'r afael â stigma, a'r diffyg addysg, o amgylch y gylchred mislifol. Mae addysg yn cynnwys camau cylchred y mislif, symptomau a bwydydd a fydd yn eich helpu i ffynnu. Gellir dod o hyd i '@empowerperiods' ar Instagram.
Yn ogystal â chwalu'r stigma, un o nodau pwysig yr ymgyrch Urddas Mislif yw addysgu myfyrwyr ynghylch pa gymorth sydd ar gael iddynt. Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi sicrhau bod cynhyrchion mislif am ddim ar gael i'r rhai sydd eu hangen o fewn adeilad yr Undeb, ers mis Mawrth 2022. Er bod y fenter hon wedi'i chyfyngu i adeilad yr Undeb, rydym yn annog myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i gael mynediad at y cynhyrchion sydd eu hangen arnynt i reoli eu mislif, yn enwedig os ydynt yn cael trafferth gyda'r Argyfwng Costau Byw.
Bydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn parhau i gynnig cynnyrch mislif am ddim ac yn annog sgyrsiau agored am y mislif. Os hoffech wybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud i gefnogi myfyrwyr drwy’r ymgyrch hon, cliciwch yma: https://www.cardiffstudents.com/advice/health-and-wellbeing/perioddignity/