Officers Update on Student Encampment 2025 | Diweddariad Swyddogion ar Wersyll Myfyrwyr 2025

normalwelsh

An Update from Your Sabbatical Officers on Cardiff University Student Encampment 2025

As you may be aware an encampment in support of the Palestinian people has returned outside the University’s main building.  

Last year we were pleased to have worked with the Encampment and the University, which cumulated in the University agreeing to a number of commitments. We share the frustration of our students who are disappointed with the University for failing to keep to these commitments, including undertaking several reviews without significant student engagement. We will continue to lobby the University, as we have done throughout the year, to keep to their commitments and engage students in their decision making.  

As the Students’ Union Sabbatical Officers, we attended the Encampment yesterday afternoon and are committed to maintaining an open line of communication with students participating in the Encampment to support the wellbeing of our student community.  

The situation in Gaza and the West Bank continues to horrify us and is unacceptable. We condemn this violence in the strongest possible terms and continue to call for an immediate ceasefire, as voted for by our students at our Annual General Meeting in November 2023, and for humanitarian aid to be allowed to reach those in need without delay.  

We also stand firmly against any Islamophobia, Antisemitism, and racism, which has spiked since the escalations.  Antisemitism, Islamophobia, and racism has no place in our Students’ Union, University or wider community and we will continue to be a Union, directed by our members, who stand against such instances wherever they may occur.   

Cardiff Students’ Union actively supports every student’s right to peacefully protest and is committed to supporting the wellbeing of our student community. As underlined by our student’s passing of the motion ‘Protect our freedom to express solidarity with Palestine’, we condemn the use of any punitive measures against students taking part in peaceful and lawful protest. We encourage all student activity, including protest, to take place in a way that remains peaceful and lawful, and that fosters a safe environment for all students, even where views may differ. 

We understand this may be a difficult time for students. Any student requiring support is encouraged to reach out to the Union’s Student Advice team or CU Student Life Support Services. The Students’ Union Student Advice team is a free, confidential and impartial advice service who can be contacted via email at advice@cardiff.ac.uk.   

In solidarity,  

Your Sabbatical Officer Team, 2024-25 

 

Diweddariad gan Eich Swyddogion Sabothol am Wersyll Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 2025

Fel y byddwch efallai’n ymwybodol mae gwersyll sy’n datgan cefnogaeth i bobl Palesteina wedi dychwelyd y tu allan i brif adeilad y Brifysgol.  

Y llynedd roeddem yn falch gweithio gyda’r Gwersyll a’r Brifysgol, gyda’r gwaith hyn yn arwain at y Brifysgol yn cytuno i nifer o ymrwymiadau. Rydym yn rhannu rhwystredigaeth ein myfyrwyr sy’n siomedig nad yw’r Brifysgol wedi cadw at yr ymrwymiadau hyn, gan gynnwys cynnal sawl adolygiad heb ymgysylltu’n ddigonol gyda myfyrwyr. Byddwn yn parhau i lobïo’r Brifysgol, fel rydym wedi’i wneud trwy gydol y flwyddyn, i gadw at eu hymrwymiadau ac ymgysylltu gyda myfyrwyr wrth wneud penderfyniadau.  

Fel Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr, fe wnaethom fynychu’r Gwersyll prynhawn ddoe ac rydym wedi ymrwymo i gynnal cyfathrebu agored gyda’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y Gwersyll er mwyn cefnogi lles ein cymuned fyfyrwyr.  

Mae’r sefyllfa yn Gaza a’r Lan Orllewinol yn parhau i'n harswydo ac mae’n annerbyniol. Rydym yn condemnio’r trais hwn ac yn parhau i alw am gadoediad ar unwaith, fel y pleidleisiodd ein myfyrwyr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Nhachwedd 2023, ac am ganiatáu i gymorth dyngarol gyrraedd y rheiny sydd ei angen heb oedi. 

Rydym hefyd yn sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw islamoffobia, gwrthsemitiaeth, neu hiliaeth sydd wedi cynyddu ers y gwaethygiadau. Nid oes gan wrthsemitiaeth, islamoffobia, nac hiliaeth unrhyw le yn ein Hundeb Myfyrwyr, Prifysgol, neu gymuned ehangach, a byddwn yn parhau i fod yn Undeb, wedi’i arwain gan ein haelodau, sy’n sefyll yn erbyn digwyddiadau o’r fath ble bynnag maent yn digwydd.  

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn cefnogi hawl pob myfyriwr i brotestio’n heddychlon ac mae wedi ymrwymo i gefnogi lles ein cymuned fyfyrwyr. Fel y tanlinellwyd gan basio’r cynnig ‘Amddiffyn ein rhyddid i fynegi undod â Phalesteina’ gan ein myfyrwyr, rydym yn condemnio’r defnydd o fesurau cosbol yn erbyn myfyrwyr sy’n protestio’n heddychlon a’n gyfreithlon. Rydym yn annog myfyrwyr i gynnal eu holl weithgareddau, gan gynnwys protestio, mewn modd heddychlon a chyfreithlon, ac mae hynny’n meithrin amgylchedd diogel ar gyfer pob myfyriwr, hyd oed pan nad yw pawb yn cytuno.  

Rydym yn deall y gall hyn fod yn gyfnod anodd i fyfyrwyr. Rydym yn annog unrhyw fyfyriwr sydd angen cefnogaeth i gysylltu â thîm Cyngor i Fyfyrwyr Undeb y Myfyrwyr neu Wasanaethau Cefnogaeth Bywyd Myfyrwyr PC. Mae Cyngor i Fyfyrwyr Undeb y Myfyrwyr yn wasanaeth cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim, a gellir cysylltu â nhw trwy e-bostio advice@caerdydd.ac.uk.   

Cydsafwn,  

Eich Swyddogion Sabothol, 2024-25