Nominate for a Societies, Volunteering & Media Award | Gwobr Cymdeithasau, Gwirfoddoli a'r Cyfryngau

The Societies, Volunteering and Media Awards are back, and there are over 20 awards up for grabs - Nominate now!

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

The Societies, Volunteering and Media Awards are back, and there are over 20 awards up for grabs!

The awards celebrate everything our student groups have achieved this year. We’ve had an action-packed year, from club nights to showcases, competitions to debates or study sessions to volunteering – and what better way to celebrate this than to nominate someone for a Societies, Volunteering and Media Award!

You can nominate a society, volunteering project, media group or an individual who you think deserves to be recognised for their hard work and achievements within the Guild of Societies, Student Media groups and/or Cardiff Volunteering this year (Or, if you think you deserve it, nominate yourself!)

These awards celebrate and recognise the students who take the time to run societies and events alongside their studies, contributing to the growth of Cardiff Students’ Union.

See below the full list of awards you can submit a nomination for

  • Society of the Year (Big)
  • Society of the Year (Small)
  • Save a Society of the Year
  • Most Improved
  • Outstanding Contribution
  • Event of the Year (Big)
  • Event of the Year (Small)
  • Student Led Campaign of the Year
  • Fundraisers of the Year
  • Student-Led Service (SLS) of the Year
  • Volunteer of the Year
  • Volunteering Project of the Year
  • Heath Park Award
  • Best Newcomer
  • Collaboration of the Year
  • Student Leader of the Year
  • Outstanding Achievement 

Plus, each category of society will have a ‘society of the year’ award:

  • Activity and Appreciation
  • Course Based
  • Cultural and International
  • Discussion, Campaign and Awareness
  • Heath Based
  • Performance and Artistic
  • Political and Ideological

Shreshth Goel, VP Societies and Volunteering said “I am so excited that this year we are joining hands with student media groups to mark this momentous celebration. I have enjoyed watching all of our student groups achieve great things this year and it’s time to recognise their hard work!”

Nominations will close on Tuesday 11th April, and the shortlisted nominees will be revealed within 24 hours of nominations closing. The awards ceremony will be taking place on Friday 12th May 2023, with the winners being announced on Cardiff Students’ Union’s website shortly afterwards.

To nominate, please follow this link where you can find out more about each category: http://bit.ly/40pBSd9


Mae Gwobrau Cymdeithasau, Gwirfoddoli a'r Cyfryngau yn ôl, ac mae dros 20 gwobr ar gael!

Mae'r gwobrau'n dathlu popeth y mae ein grwpiau myfyrwyr wedi'i gyflawni eleni. Rydym wedi cael blwyddyn llawn gweithgaredd, o nosweithiau clwb i arddangosfeydd, cystadlaethau i drafodaethau neu sesiynau astudio i wirfoddoli — a pha ffordd well o ddathlu hyn nag enwebu rhywun ar gyfer Gwobr Cymdeithasau, Gwirfoddoli a'r Cyfryngau!

Gallwch enwebu cymdeithas, prosiect gwirfoddoli, grŵp cyfryngau neu unigolyn yr ydych chi’n credu sy’n haeddu cael eu cydnabod am eu gwaith caled a'u cyflawniadau o fewn Urdd y Cymdeithasau, grwpiau Cyfryngau Myfyrwyr a/neu Gwirfoddoli Caerdydd eleni (Neu, os ydych yn credu eich bod yn haeddu hynny, enwebwch eich hun!)

Mae'r gwobrau hyn yn dathlu ac yn cydnabod y myfyrwyr sy'n rhoi o'u hamser i gynnal cymdeithasau a digwyddiadau ochr yn ochr â'u hastudiaethau, gan gyfrannu at dwf Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

Gweler isod y rhestr lawn o wobrau y gallwch gyflwyno enwebiad ar eu cyfer
 

  • Cymdeithas y Flwyddyn (Mawr)
  • Cymdeithas y Flwyddyn (Bach)
  • Cymdeithas wedi’i Hachub y Flwyddyn
  • Mwyaf o Welliant
  • Cyfraniad Eithriadol
  • Digwyddiad y Flwyddyn (Mawr)
  • Digwyddiad y Flwyddyn (Bach)
  • Ymgyrch dan Arweiniad Myfyrwyr y Flwyddyn
  • Codwyr Arian y Flwyddyn
  • Gwasanaeth dan Arweiniad Myfyrwyr (SLS) y Flwyddyn
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn
  • Prosiect Gwirfoddoli'r Flwyddyn
  • Gwobr Parc y Mynydd Bychan
  • Aelod Newydd Gorau
  • Cydweithio Gorau’r Flwyddyn
  • Arweinydd Myfyrwyr y Flwyddyn
  • Cyflawniad Rhagorol 

Hefyd, bydd gwobr 'cymdeithas y flwyddyn' ar gyfer pob un o’r categorïau isod:

  • Gweithgaredd a Gwerthfawrogiad
  • Yn Seiliedig ar Gwrs
  • Diwylliannol a Rhyngwladol
  • Trafodaeth, Ymgyrch ac Ymwybyddiaeth
  • Yn Seiliedig ar y Mynydd Bychan
  • Perfformio ac Artistig
  • Gwleidyddol ac Ideolegol

Dywedodd Shreshth Goel, Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli “Dw i mor gyffrous ein bod eleni yn ymuno â grwpiau cyfryngau myfyrwyr i nodi'r dathliad pwysig hwn. Dw i wedi mwynhau gwylio pob un o'n grwpiau myfyrwyr yn cyflawni pethau gwych eleni ac mae'n bryd cydnabod eu gwaith caled!”

Bydd yr enwebiadau'n cau ddydd Mawrth 11 Ebrill, a bydd yr enwebeion ar y rhestr fer yn cael eu datgelu o fewn 24 awr ar ôl i'r enwebiadau gau. Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Gwener 12 Mai 2023, gyda'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar wefan Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn fuan wedyn.

I enwebu, dilynwch y ddolen hon lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob categori: http://bit.ly/40pBSd9

Comments

No comments have been made. Please log in to comment.