From Pride Showcases to film screenings, Cardiff Students’ Union will be spotlighting celebrations for LGBTQ+ History Month with a series of events throughout February.
Cymraeg
From Pride Showcases to film screenings, Cardiff Students’ Union will be spotlighting celebrations for LGBTQ+ History Month with a series of events throughout February.
LGBTQ+ History Month is marked across the UK throughout February as an opportunity to celebrate LGBTQ+ culture and progress towards equality over time, reflect on the past and present of the LGBTQ+ Community, and how the history of this community can educate us for the future.
Events will be kicking off on the 3rd February under Cardiff Students’ Union’s PrEPare Campaign with a PrEP stall. PrEP is a pill that prevents the contraction of HIV while having unprotected sex, and the stall aims to provide students with information on how to have sex safely, offer free condoms, lubricant, and information on PrEP and pregnancy. Pronoun badges will be given out to students with giveaways of Pride inspired merchandise from Cardiff Students’ Union’s own clothing store.
To further the LGBTQ+ History Month celebrations, and to learn more about the history of the LGBTQ+ community, the Union will be hosting a film screening on the 7th February, showing the 2014 BAFTA winning film Pride.
Based in Wales, Pride is a heart-warming retelling of inspiring true events during the 1984 miners’ strike, telling the story of a group of London gay and lesbian activists who banded together to support the miners, which makes it the perfect pick for LGBTQ+ History Month.
On Monday 13th February, the Union will be hosting a Pride Showcase, bringing together students in an ultimate celebration of queer talent. All students are invited to take part whether they are queer, or just an ally. Performances include dance numbers, singing, poetry, drag performances and much more, being the perfect blend of entertainment and education.
For the first time in Cardiff Students’ Union’s history, a drag queen will be taking over the Balconi Bar at the student night on Wednesday 22nd February. Popular amongst the queer community, Cardiff drag queen Nicki Knockers will be attending Cardiff Students’ Union’s new Balconi to celebrate YOLO night for a sass and class, not to be missed.
Shreshth Goel, Cardiff Students’ Union’s Vice President for Societies and Volunteering said “LGBTQ+ History month is so important not only to celebrate how far we have come as a society, but also to acknowledge the struggle and sacrifices of those who helped us get where we are now. There is still a huge war ahead of us, but I believe it is important to celebrate our community and all the progress that we have made! Planning the events for this incredible month has been a big highlight of my role this year and I hope I am able to spread more awareness about LGBTQ+ history month through all of these events.”
Cardiff Students’ Union will also be hosting a book club reading session with a focus on LGBTQ+ authors and stories, as well as producing a podcast that highlights the importance of LGBTQ+ History. The first book that will be discussed is the historical, queer romcom Infamous by Lex Croucher, a non-binary, bisexual author.
To round off the month, special guest speakers have been invited to talk at the LGBTQnA event on the 27th February in the Sir Stanley Thomas Lecture Theatre.
Representatives from LGBTQymru and The Queer Emporium will be at the LGBTQ&A, joining the former Chair of Cardiff University’s LGBTQ+ staff network, Karen Harvey-Cooke to talk openly to students about the challenges, victories and advice about being gay in today’s society.
Diversity and inclusion are at the heart of what Cardiff University Students' Union does. The organisational vision is clear: to work with every Cardiff student to enhance their university experience. The Students' Union and the University are committed to supporting, developing and promoting equality and diversity in all practices and activities.
If you want to find out more about what Cardiff Students’ Union is doing for LGBTQ+ History Month, click here: https://www.cardiffstudents.com/your-voice/campaigns/lgbtqplus/
Sut mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn dathlu Mis Hanes LHDTC+
O Arddangosfeydd Balchder i ddangosiadau ffilm, bydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn tynnu sylw at ddathliadau Mis Hanes LHDTC+ gyda chyfres o ddigwyddiadau drwy gydol mis Chwefror.
Mae Mis Hanes LHDTC+ yn cael ei nodi ledled y DU drwy gydol mis Chwefror fel cyfle i ddathlu diwylliant LHDTC+ a chynnydd tuag at gydraddoldeb dros amser, myfyrio ar orffennol a phresennol y Gymuned LHDTC+, a sut y gall hanes y gymuned hon ein haddysgu ar gyfer y dyfodol.
Bydd digwyddiadau yn cychwyn ar y 3ydd o Chwefror o dan Ymgyrch PrEPare Undeb Myfyrwyr Caerdydd gyda stondin PrEP. Mae PrEP yn bilsen sy'n atal HIV wrth gael rhyw heb ddiogelwch, a nod y stondin yw rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr ar sut i gael rhyw yn ddiogel, cynnig condomau am ddim, hylif iro, a gwybodaeth am PrEP a beichiogrwydd. Bydd bathodynnau rhagenwau yn cael eu dosbarthu i fyfyrwyr gyda chyfleoedd i ennill nwyddau wedi'u hysbrydoli gan Pride o siop ddillad Undeb Myfyrwyr Caerdydd ei hun.
Er mwyn parhau gyda’r dathliadau Mis Hanes LHDTC+, ac i ddysgu mwy am hanes y gymuned LHDTC+, bydd yr Undeb yn cynnal dangosiad ffilm ar 7 Chwefror, gan ddangos y ffilm Pride a enillodd BAFTA yn 2014.
Wedi'i leoli yng Nghymru, mae Pride yn ail-adroddiad emosiynol o ddigwyddiadau ysbrydoledig go iawn yn ystod streic y glowyr 1984, gan adrodd hanes grŵp o ymgyrchwyr hoyw a lesbiaidd yn Llundain a weithiodd gyda'i gilydd i gefnogi'r glowyr, sy'n ei wneud yn ddewis perffaith ar gyfer Mis Hanes LHDTC+.
Ar ddydd Llun 13eg Chwefror, bydd yr Undeb yn cynnal Arddangosfa Balchder, gan ddod â myfyrwyr at ei gilydd mewn dathliad eithaf o dalent cwiar. Gwahoddir pob myfyriwr i gymryd rhan p'un a ydynt yn gwiar, neu jest yn gynghreiriaid. Mae perfformiadau yn cynnwys eitemau dawns, canu, barddoniaeth, perfformiadau drag a llawer mwy, y cyfuniad perffaith o adloniant ac addysg.
Am y tro cyntaf yn hanes Undeb Myfyrwyr Caerdydd, bydd brenhines drag yn meddiannu Bar Balconi yn ystod noson y myfyrwyr ar nos Fercher 22ain Chwefror. Yn boblogaidd ymhlith y gymuned cwiar, bydd brenhines drag Caerdydd, Nicki Knockers, yn mynychu Balconi newydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd i ddathlu noson YOLO gyda chwarëusrwydd a steil, nid yw’n gyfle i’w golli.
Dywedodd Shreshth Goel, Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli Undeb Myfyrwyr Caerdydd “Mae mis Hanes LHDTC+ mor bwysig nid yn unig i ddathlu pa mor bell yr ydym wedi dod fel cymdeithas, ond hefyd i gydnabod brwydr ac aberth y rhai a'n helpodd i gyrraedd lle'r ydym ni nawr. Mae rhyfel enfawr o'n blaenau o hyd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig dathlu ein cymuned a'r holl gynnydd yr ydym wedi'i wneud! Mae cynllunio'r digwyddiadau ar gyfer y mis anhygoel hwn wedi bod yn uchafbwynt mawr yn fy rôl eleni ac rwy'n gobeithio y gallaf ledaenu mwy o ymwybyddiaeth ynghylch mis hanes LHDTC+ drwy'r holl ddigwyddiadau hyn.”
Bydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd hefyd yn cynnal sesiwn ddarllen clwb llyfrau gyda ffocws ar awduron a straeon LHDTC+, yn ogystal â chynhyrchu podlediad sy'n amlygu pwysigrwydd Hanes LHDTC+. Y llyfr cyntaf a fydd yn cael ei drafod yw'r romcom cwiar, hanesyddol Infamous gan Lex Croucher, awdur anneuaidd, deurywiol.
I orffen y mis, gwahoddwyd siaradwyr gwadd arbennig i siarad yn y digwyddiad Cwestiwn ac Ateb LHDTC+ ar 27ain Chwefror yn Narlithfa Syr Stanley Thomas.
Bydd cynrychiolwyr o LGBTQymru a The Queer Emporium yn y sesiwn Cwesitwn ac Ateb LHDTC+, byddent yn ymuno â Cadeirydd rhwydwaith staff LHDCT+ Prifysgol Caerdydd, Karen Harvey-Cooke i siarad yn agored â myfyrwyr am yr heriau, buddugoliaethau a chyngor ynghylch bod yn hoyw yn ein cymdeithas heddiw.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd yr hyn y mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn ei wneud. Mae'r weledigaeth sefydliadol yn glir: gweithio gyda phob myfyriwr yng Nghaerdydd i wella eu profiad yn y Brifysgol. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a’n gweithgareddau.
Os hoffet ti ddarganfod rhagor ynglŷn â beth mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn ei wneud ar gyfer Mis Hanes LHDCT+, cliciwch yma: https://www.cardiffstudents.com/your-voice/campaigns/lgbtqplus/