CSU voted 2nd best in the UK by students! Myfyrwyr yn pleidleisio mai UMC yw’r 2ail gorau yn y DU!

After eight years of being voted as top 10 student unions in the UK, Cardiff Students’ Union has had another successful year reaching 2nd spot in What Uni’s Student Choice Award in the Students’ Union of the year category.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

After eight years of being voted as top 10 student unions in the UK, Cardiff Students’ Union has had another successful year reaching 2nd spot in What Uni’s Student Choice Award in the Students’ Union of the year category. 

Since 2012, What Uni have collected around 35,000 reviews from students at over 240 institutions across the country about their universities, receiving honest opinions on important topics like facilities, support, career prospects and more.  

Thanks to our students’ reviews, Cardiff Students’ Union received a score of 4.55, placing second in the Students’ Union of the Year category, with nine other UK Students’ Unions being shortlisted for the award. 

Overall satisfaction scores for Students’ Unions have increased significantly since the pandemic, with the SU question now scoring the third highest (up from last place in 2022) of all the questions asked. 

"I feel honoured to be part of such a strong community. As many other students, I was apprehensive when I moved to Cardiff to pursue my studies. Leaving our homes, our loved ones and our countries is not easy, and I cannot help but feel grateful and lucky to have had the support of Cardiff Students’ Union, who not only was there throughout the hard times, but was an essential part of the best ones!” 
 

"Cardiff Students’ Union gives us students the opportunity to pursue our passions and discover new ones. It is the place where we meet our best friends, and people that we will keep for the rest of our lives." 

Angie Flores Acuña, VP Postgraduate 2022/23 and SU President Elect 2023/24

Cardiff Students’ Union is at the heart of Cardiff student life. The Students’ Union exists to support students to thrive, and to have their backs when things don’t go as planned, in a safe, inclusive space where students can be who they want to be. Spanning both the Cathays and Heath Park campuses, the purpose-built Students’ Union building operates 24-hours a day and houses cafes, shops, bars, music venues, a letting agency and study spaces for students to make the most of their time at university. All profits from our commercial activity go to support bigger and better services and activities for our students.  

"I could not be prouder of what we have achieved, not only in the past year, but the previous eight years we have been shortlisted for this award. We have a passionate, creative and brilliant team of staff and volunteers who work tirelessly to improve students’ lives and this award is a testament to their tireless dedication. It’s wonderful to see that our representation, activities and services have been recognised by our students."
 

"From our award-winning Student Media to our Guild of Societies, or the Athletic Union to our Skills Development Service, there is something for everyone at Cardiff SU. We are proud to be a safe, inclusive space for students where our main aim is to amplify student voices and to work with them to deliver the best possible student outcomes.” 

Daniel Palmer, Chief Executive Officer at Cardiff Students’ Union

In addition to being voted the 2nd best students’ union, the wider University also placed 3rd for the Best Student Life category. 

Cardiff Students’ Union will continue to work with colleagues in the wider University to create the best possible student experience and maintain our reputation of being one the UK’s leading student organisations. 

You can see all the results here.


Ar ôl wyth mlynedd o fod cael ein pleidleisio i'r 10 uchaf nghategori undeb myfyrwyr gorau’r DU, mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi cael blwyddyn lwyddiannus arall wrth gyrraedd yr 2il safle yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni yng nghategori Undeb Myfyrwyr y flwyddyn. 

Ers 2012, mae What Uni wedi casglu tua 35,000 adolygiad gan fyfyrwyr mewn dros 240 o sefydliadau ledled y wlad am eu prifysgolion, gan dderbyn barn onest ar bynciau pwysig fel cyfleusterau, cefnogaeth, rhagolygon gyrfa a mwy.  

Diolch i adolygiadau ein myfyrwyr, fe dderbyniodd Undeb Myfyrwyr Caerdydd sgôr o 4.55, ac yr ail safle yng nghategori Undeb Myfyrwyr y Flwyddyn, gyda naw o Undebau Myfyrwyr eraill y DU ar restr fer y wobr. 

Mae sgoriau boddhad cyffredinol Undebau Myfyrwyr wedi cynyddu'n sylweddol ers y pandemig, gyda'r cwestiwn UM bellach yn sgorio'r trydydd uchaf (i fyny o'r safle olaf yn 2022) o'r holl gwestiynau a ofynnwyd. 

"Mae'n anrhydedd i mi gael bod yn rhan o gymuned mor gryf. Fel llawer o fyfyrwyr eraill, roeddwn i'n bryderus pan symudais i Gaerdydd i astudio. Dydy gadael ein cartrefi, ein hanwyliaid a'n gwledydd ddim yn hawdd, a dwi methu helpu ond teimlo'n ddiolchgar ac yn lwcus o fod wedi cael cefnogaeth Undeb Myfyrwyr Caerdydd, oedd nid yn unig yno drwy gydol yr amseroedd caled, ond oedd yn rhan hanfodol o'r rhai gorau!” 
 

"Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn rhoi cyfle i ni fyfyrwyr ddilyn ein diddordebau a darganfod rhai newydd. Dyma'r lle rydyn ni'n cwrdd â'n ffrindiau gorau, a phobl y byddwn yn eu cadw am weddill ein bywydau." 

Angie Flores Acuña, IL Ôl-raddedig 2022/23 a Llywydd UM etholedig 2023/24

Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wrth wraidd bywyd myfyrwyr Caerdydd. Mae Undeb y Myfyrwyr yn bodoli i gefnogi myfyrwyr i ffynnu, ac i’w cefnogi pan nad yw pethau'n mynd fel y cynlluniwyd, mewn gofod diogel, cynhwysol lle gall myfyrwyr fod yn bwy maen nhw eisiau bod. Yn ymestyn ar draws campysau Cathays a Pharc y Mynydd Bychan, mae adeilad pwrpasol Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu 24 awr y dydd ac yn cynnwys caffis, siopau, bariau, lleoliadau cerddoriaeth, asiantaeth osod a mannau astudio i fyfyrwyr wneud y gorau o'u hamser yn y brifysgol. Mae'r holl elw o'n gweithgarwch masnachol yn mynd i gefnogi gwasanaethau a gweithgareddau mwy a gwell i'n myfyrwyr.  

"Ni allwn fod yn fwy balch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni, nid yn unig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond yr wyth mlynedd flaenorol yr ydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Mae gennym dîm angerddol, creadigol a gwych o staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n ddiflino i wella bywydau myfyrwyr ac mae'r wobr hon yn dyst i'w hymroddiad diflino. Mae'n hyfryd gweld bod ein cynrychiolaeth, gweithgareddau a gwasanaethau wedi cael eu cydnabod gan ein myfyrwyr."
 

"O'n cyfryngau myfyrwyr sydd wedi ennill gwobrau i'n Hurdd y Cymdeithasau, neu'r Undeb Athletau i'n Gwasanaeth Datblygu Sgiliau, mae rhywbeth i bawb yn UM Caerdydd. Rydym yn falch o fod yn ofod diogel, cynhwysol i fyfyrwyr lle ein prif nod yw grymuso lleisiau myfyrwyr a gweithio gyda nhw i ddarparu'r canlyniadau gorau posibl iddynt.” 

Daniel Palmer, Prif Swyddog Gweithredol Undeb Myfyrwyr Caerdydd

Yn ogystal â’r dyfarniad mai UMC yw’r 2il undeb myfyrwyr gorau, wnaeth y Brifysgol ehangach hefyd gyrraedd y 3ydd safle yn y categori Bywyd Myfyrwyr Gorau. 

Bydd Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yn y Brifysgol ehangach i greu'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr, a chadw ein henw da o fod yn un o brif sefydliadau myfyrwyr y DU. 

Gallwch weld yr holl ganlyniadau yma.


 

Comments

 
dominos