Cymraeg

With September rapidly approaching, you may be wondering what you need to do before leaving and what's going on when you arrive at Uni? Don’t panic, we’ve put together some of the things you need to think about in September to set you up for a great Uni year!
Before you arrive
Reach out to flatmates and people on your course
One of the scariest things about starting uni is moving to a place where you are likely to know no one. People are going to be in the same situation as you and reaching out to others can make this process much less scary! There are many ways you can find your flatmates or course mates. There are Facebook groups for offer holders where people can post what course they are taking and where they are going to be staying, meaning that people can find you and get in contact.
There is also an app called Umii in which you can also find other people going to Cardiff (and even to your specific course!) and message people individually. Through this quite a lot of people choose to make group chats in apps such as Snapchat or WhatsApp for their courses, houses, and flats. This gives you lots of people to talk to and means it can be less scary for people to move in if they feel they already know the people they will be with. But don't worry - if you haven’t reached out to others before you come to Cardiff, you’ll have plenty of opportunities to meet people and make lots of friends!
Buy your Freshers' tickets
I recommend buying tickets before you start in September. Don't worry if you haven't met people yet, you will find people in your halls of residence who are also going and you can meet people in the Freshers' groups to organise meeting up.
Packing
When you are moving to uni, you are likely to have lots of stuff that you will be taking with you and so packing is a stressful but necessary process. Starting early by packing all the things you may have bought specifically for uni, or items you don’t use very often, will help take the pressure off your last few days at home. Using up any storage you plan to use at uni is a great way to make sure you are utilising the space that will already be being used up in whatever way you are travelling to uni. For example, any under bed storage or a suitcase you will be using for holidays. Making sure you are prepared and planning ahead will be your best plan for what could be a very busy week!
TV License
Most people do not realise that you may need a TV license when you are in halls. People often believe they are covered by their parent’s license, but this is not the case for most. Students need to have a license if the way they plan on watching TV (this includes live tv channels, or other forms of watching live TV such as YouTube or Amazon Prime Video, or catch-up services such as BBC iPlayer) even if they do not have a TV in their room. You will not be covered by your parent’s license if you use any device that is: not only powered by its own internal batteries, has an aerial, or plugs into the wall including when charging. This is something that could get you into trouble if you do not follow the rules, as it can lead to a £1,000 fine or a criminal conviction. You can claim back the summer months of your license, so the overall cost will be lower than it appears!
Organise Medical needs
When you go to uni, you may need access to medical facilities such as a doctor’s surgery. Signing up to your local GP surgery is an important step to make sure you will be safe when at uni. There are many surgeries in Cardiff who allow students to register and so signing up is easy with only a few online forms needing to be filled in. All of your other medical information will be sent to your new GP by your old doctor’s surgery, meaning that you will be given care that works with any other medical issues you may already have.
When you arrive
Join societies
Societies and sports clubs, are a great way to meet new friends who have similar interests to you, while doing something you enjoy! Lots of people make lifelong friends through societies and it allows you to get to know people who may not be in the same year as you; people join societies from their first year all the way to postgraduate studies. Cardiff has a great variety of societies for you to choose from, whether it is something you’ve done all your life, or something you have only just found out about and want to try! Societies will have a membership cost, often as low as £1, but most run Give it a Go sessions early in the year where people can come and experience a taster session for free (or at a very low cost for some societies).
You can find out more about everything Freshers’ here.
Organise yourself for classes
While it may not be the first thing on your mind when you first start uni, you will be soon starting your course. Being organised ahead of starting your modules allows you to be ready to start learning straight away, preventing you from falling behind at the start. This includes things such as:
- making sure your devices are all connected to the Wi-Fi
- having folders for all modules
- having any needed stationary prepared
- having any equipment or textbooks required for your course (you will be made aware if this is the case)
Enjoy yourself
While moving to uni may seem stressful, you will also have the best time! Freshers' is a period in your time at uni that many people say is their favourite. It is a chance for you to settle in and start letting your hair down a bit in this new chapter of your life. Make sure you allow yourself to enjoy freshers, as it will only ever happen once!
This will be quite a scary step for most people, but everyone is going through the same thing, so you won’t be alone! Uni, especially Freshers', will go past in a flash, so don’t worry too much and enjoy yourself!
Gyda mis Medi'n prysur agosáu, efallai eich bod chi'n pendroni beth sydd angen i chi ei wneud cyn gadael a beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cyrraedd y brifysgol? Peidiwch â phoeni, rydyn ni wedi gwneud nodyn o'r pethau sydd angen i chi feddwl amdanynt ym mis Medi er mwyn eich paratoi ar gyfer blwyddyn wych yn y brifysgol!
Cyn i chi gyrraedd
Cysylltu â chydletywyr a phobl ar eich cwrs
Un o'r pethau brawychus am ddechrau prifysgol yw symud i rywle lle nad ydych yn debygol o nabod unrhyw un. Mae pobl yn mynd i fod yn yr un sefyllfa â chi ac mae cysylltu gydag eraill yn gallu gwneud y broses hon yn llawer llai brawychus! Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch ddod o hyd i'ch ffrindiau fflat neu ffrindiau cwrs. Mae grwpiau Facebook ar gyfer deiliaid cynigion lle gall pobl bostio pa gwrs maen nhw'n ei astudio a lle maen nhw'n mynd i fod yn aros, sy'n golygu y gall pobl ddod o hyd i chi a chysylltu gyda chi.
Mae yna hefyd ap o'r enw Umii lle gallwch chi ddod o hyd i bobl eraill sy’n mynd i Gaerdydd (a hyd yn oed pobl sydd ar eich cwrs penodol!) ac anfon neges at bobl yn unigol. Drwy hyn mae cryn dipyn o bobl yn dewis gwneud grwpiau sgwrs mewn apiau fel Snapchat neu WhatsApp ar gyfer eu cyrsiau, tai, a fflatiau.Mae hyn yn eich rhoi mewn cysylltiad gyda llawer o bobl ac yn golygu y gall fod yn llai brawychus i bobl symud i mewn os ydyn nhw'n teimlo eu bod eisoes yn adnabod y bobl bydd yn byw gyda nhw. Ond peidiwch â phoeni - os nad ydych chi wedi cysylltu gydag eraill cyn i chi ddod i Gaerdydd, fe gewch chi ddigon o gyfleoedd i gwrdd â phobl a gwneud llawer o ffrindiau!
Prynwch docynnau Y Glas
Rwy'n argymell prynu tocynnau cyn cychwyn ym mis Medi. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi cwrdd â phobl eto, fe welwch chi bobl yn eich neuaddau preswyl sydd hefyd yn mynd a gallwch gwrdd â phobl yng ngrwpiau'r Glas i drefnu cyfarfod.
Pacio
Pan fyddwch chi'n symud i'r brifysgol, rydych chi'n debygol o gael llawer o bethau i’w symud ac felly mae pacio yn broses sy'n achosi straen, ond mae’n angenrheidiol. Bydd dechrau'n gynnar drwy bacio'r holl bethau rydych chi wedi'u prynu'n benodol ar gyfer y brifysgol, neu eitemau nad ydych yn eu defnyddio'n aml iawn, yn helpu i osod lai o straen ar eich dyddiau olaf gartref. Mae defnyddio unrhyw storfa rydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio yn y brifysgol yn ffordd wych o wneud yn siwr eich bod yn defnyddio'r gofod a fydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ym mha bynnag ffordd rydych chi'n teithio i'r brifysgol. Er enghraifft, unrhyw storfa dan wely neu gês y byddwch chi'n ei ddefnyddio ar gyfer gwyliau. Mae paratoi a chynllunio ymlaen llaw yn syniad da ar gyfer yr hyn a allai fod yn wythnos brysur iawn!
Trwydded deledu
Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli efallai y bydd angen trwydded deledu arnoch chi pan fyddwch chi yn eich neuaddau preswyl. Mae pobl yn aml yn credu y gallent ddefnyddio trwydded eu rhieni, ond nid yw hyn yn wir yn y mwyafrif o achlysuron. Mae angen i fyfyrwyr gael trwydded os ydynt yn bwriadu gwylio'r teledu (mae hyn yn cynnwys sianeli teledu byw, neu fathau eraill o wylio teledu byw fel YouTube neu Amazon Prime Video, neu wasanaethau dal i fyny fel BBC iPlayer) hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw deledu yn eu hystafell. Ni fydd trwydded eich rhiant yn ddigonol os ydych chi'n defnyddio unrhyw ddyfais sydd: ddim yn cael ei bweru gan fatris mewnol yn unig, sydd ag awyrol, neu sy’n plygio i mewn i'r wal gan gynnwys wrth wefrio. Mae hyn yn rhywbeth a allai eich arwain at drwbl os nad ydych yn dilyn y rheolau, oherwydd gall arwain at ddirwy o £1,000 neu euogfarn droseddol. Gallwch hawlio tâl eich trwydded dros fisoedd yr haf yn ôl, felly bydd y gost gyfan yn is nag y mae'n ymddangos!
Trefnu Anghenion Meddygol
Pan fyddwch chi'n mynd i'r brifysgol, efallai y bydd angen i chi gael mynediad at gyfleusterau meddygol fel meddygfa. Mae cofrestru gyda’ch meddygfa leol yn gam pwysig i sicrhau y byddwch yn ddiogel pan yn y brifysgol. Mae llawer o feddygfeydd yng Nghaerdydd sy'n caniatáu i fyfyrwyr gofrestru ac felly mae cofrestru yn hawdd, gydag ychydig o ffurflenni ar-lein i’w cwblhau. Bydd eich holl wybodaeth feddygol arall yn cael ei hanfon at eich meddyg teulu newydd gan eich hen feddygfa, sy'n golygu y byddwch yn cael gofal sy'n ategu at unrhyw faterion meddygol eraill sydd gennych eisoes.
Pan fyddwch chi’n cyrraedd
Ymunwch â chymdeithasau
Mae cymdeithasau a chlybiau chwaraeon , yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd sydd â diddordebau tebyg i chi, tra'n gwneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau! Mae llawer o bobl yn gwneud ffrindiau oes drwy gymdeithasau ac mae'n caniatáu ichi ddod i adnabod pobl nad sydd yn yr un flwyddyn â chi; mae pobl yn ymuno â chymdeithasau yn eu blwyddyn gyntaf ac yn parhau i fod yn aelod tan eu hastudiaethau ôl-radd. Mae gan Gaerdydd amrywiaeth fawr o gymdeithasau i chi ddewis ohonyn nhw, boed yn rhywbeth rydych chi wedi'i wneud ar hyd eich oes, neu'n rhywbeth sy’n gwbl newydd i chi ac rydych am roi cynnig arni! Bydd cost aelodaeth i gymdeithasau, yn aml mor isel â £1, ond mae'r rhan fwyaf yn rhedeg sesiynau Rho Gynnig Arni yn gynnar yn y flwyddyn lle gall pobl ddod i gael blas ar sesiwn am ddim (neu am gost isel iawn i rai cymdeithasau).
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bopeth i wneud gyda chyfnod y Glas yma.
Paratoi ar gyfer dosbarthiadau
Er efallai nad dyma'r peth cyntaf ar eich meddwl pan fyddwch chi'n dechrau'r brifysgol, byddwch chi'n dechrau eich cwrs cyn bo hir. Mae cael trefn ar bethau cyn dechrau eich modiwlau yn caniatáu i chi fod yn barod i ddechrau dysgu yn syth, gan sicrhau eich bod ar ben eich gwaith o’r dechrau. Mae hyn yn cynnwys pethau fel:
- sicrhau bod eich dyfeisiau i gyd wedi'u cysylltu â'r Wi-Fi
- cael ffolderi ar gyfer pob modiwl
- paratoi eich nwyddau ysgrifennu a phapurach
- cael gafael ar offer neu werslyfrau sydd eu hangen ar gyfer eich cwrs (byddwch yn cael gwybod os yw hyn yn angenrheidiol)
Mwynhewch eich hun
Er bod symud i’r brifysgol yn gallu achosi straen, fe gewch chi amser anhygoel! Mae cyfnod y Glas yn uchafbwynt prifysgol i nifer o bobl. Mae'n gyfle i chi ymgartrefu a dechrau ymlacio ychydig yn y bennod newydd hon o'ch bywyd. Gwnewch yn siwr eich bod yn mwynhau eich hun yn ystod cyfnod y Glas, gan ei fod yn brofiad unigryw a fydd ond yn digwydd unwaith!
Er bod symud i’r brifysgol yn gallu achosi straen, fe gewch chi amser anhygoel! Mae cyfnod y Glas yn uchafbwynt prifysgol i nifer o bobl. Mae'n gyfle i chi ymgartrefu a dechrau ymlacio ychydig yn y bennod newydd hon o'ch bywyd. Gwnewch yn siwr eich bod yn mwynhau eich hun yn ystod cyfnod y Glas, gan ei fod yn brofiad unigryw a fydd ond yn digwydd unwaith!