Cymraeg
Starting university is unlike anything you have done before. You leave home and all normalcy with it, be it friends, family or just your own bed. Don’t be fooled by the façade of fellow freshers Instagrams; starting university is a great experience but this doesn’t mean it doesn’t come with a few challenges. To give you a heads up, here are 5 things I wish I’d known as a fresher…
1) You probably won’t feel at home straight away… (but that’s okay!!)
No amount of fairy lights can compensate for feeling slightly overwhelmed as a fresher. Decorating your room does help you to feel more comfortable but feeling homely won’t come overnight. Don’t force it and don’t feel pressured by others being seemingly more settled that you are. Maybe you’ll feel at home when you find that little café that no one seems to know about or that walk home with a new friend that you have loads in common with. It happens slowly but trust me, it will happen.
2) You won’t stay friends with everyone you meet during freshers…
Freshers is a time where a bunch of strangers cling to the first people they find to ease their discomfort of not knowing anyone. Try to find people you enjoy spending time with to make freshers more comfortable, but don’t put pressure on friendships. You are more likely to find your closer friends on your course or doing things you enjoy, not in the girl’s toilets at YOLO (although this will definitely give you the ego boost you need).
3) You don’t need to bring all that stuff…
I thought it was a good idea to take my whole wardrobe and the entire contents of my room when I moved into halls, only to realise that I wore the same dungaree and t-shirt combo’s most days and didn’t even unpack all of my photos. Yes, you need your essentials, but you will accumulate a lot of stuff too… I won 3 wooden spoons during freshers, and probably used one pen for my whole first year.
4) You will spend more than you expect…
If you’re like the majority of people I met this year, you will probably spend way too much money on Ubers and Domino’s. Of course, you should treat yourself occasionally but it’s easy to slip into bad habits. Try to create a budget for how much you want to spend each week and keep an eye on where you spend the most, online banking will be your best friend.
5) The work will be challenging but you are not alone…
The transition between each year of your education so far will have been challenging but when you go to university, you are not only learning more challenging content but also learning to live independently. Don’t feel disheartened if the work doesn’t click straight away, in my experience, if you don’t understand something it is likely that everyone feels the same. Try to ask for help when you need it, that is what the lecturers are there for (and what you’re paying for).
I’m sure you will grow to love your freshers experience as much as I did, but if you need some extra help with your Wellbeing, get in touch with wellbeingandcounselling@cardiff.ac.uk
Mae dechrau yn y brifysgol yn wahanol i unrhyw beth rydych chi wedi'i wneud o'r blaen. Rydych chi'n gadael cartref a phob elfen o normalrwydd, boed yn ffrindiau, teulu neu hyd yn oed eich gwely eich hun. Peidiwch â chael eich twyllo gan ffasâd Instagrams y glasfyfyrwyr eraill; mae dechrau yn y brifysgol yn brofiad gwych ond nid yw hyn yn golygu nad oes hefyd ychydig o heriau. I’ch rhoi ar ben ffordd, dyma 5 peth hoffwn fod wedi eu gwybod fel glasfyfyriwr…
1) Mae’n bosib na fyddwch chi’n teimlo’n gartrefol yn syth bin… (ond mae hynny’n iawn!!)
Ni all unrhyw faint o oleuadau tylwyth teg rwystro’r teimladau llethol sy’n naturiol fel glasfyfyriwr. Mae addurno'ch ystafell yn eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus ond ni fydd teimlo'n gartrefol yn dod dros nos. Peidiwch â'i orfodi a pheidiwch â theimlo pwysau gan eraill sy'n ymddangos yn fwy sefydlog nag ydych chi. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n gartrefol pan fyddwch chi'n dod o hyd i'r caffi bach hwnnw nad oes neb arall yn gwybod amdano neu'n cerdded adref gyda ffrind newydd sydd â llawer yn gyffredin â chi. Mae'n digwydd yn araf ond wir i chi, bydd yn digwydd yn y pen draw.
2) Ni fyddwch chi'n aros yn ffrindiau gyda phawb rydych chi'n cwrdd â nhw yn ystod cyfnod y Glas…
Mae’r Glas yn gyfnod lle mae criw o ddieithriaid yn glynu wrth y bobl gyntaf y maen nhw'n dod o hyd iddyn nhw i leddfu’r teimlad annifyr o beidio adnabod neb. Ceisiwch ddod o hyd i bobl rydych yn mwynhau treulio amser gyda nhw i wneud cyfnod y Glas yn fwy cyfforddus, ond peidiwch â gorfodi cyfeillgarwch. Rydych chi'n fwy tebygol o ddod o hyd i'ch ffrindiau agosaf ar eich cwrs neu wrth wneud pethau rydych chi'n eu mwynhau, nid yn nhoiledau'r merched yn YOLO (er y bydd hyn yn bendant yn rhoi'r hwb ego sydd ei angen arnoch chi).
3) Nid oes angen i chi ddod â'r holl bethau hynny...
Roeddwn i'n meddwl ei fod yn syniad da mynd â'm cwpwrdd dillad cyfan a holl gynnwys fy ystafell pan symudais i mewn i'r neuaddau, dim ond i sylweddoli fy mod yn gwisgo'r un cyfuniad o ddyngarîs a chrys-t bron bob dydd ac ni wnes i hyd yn oed ddadbacio fy holl ddillad. Oes, mae angen eich hanfodion, ond byddwch yn casglu llawer o bethau hefyd… Enillais 3 llwy bren yn ystod y Glas, a dim ond defnyddio un beiro drwy’r flwyddyn gyntaf siwr o fod.
4) Byddwch yn gwario mwy nag yr ydych yn ei ddisgwyl…
Os ydych chi’n debyg i’r mwyafrif o bobl i mi gyfarfod â nhw eleni, mae'n debyg y byddwch yn gwario llawer gormod o arian ar Ubers a Domino's. Wrth gwrs, dylech dretio eich hun yn achlysurol ond mae'n hawdd dechrau arferion drwg. Ceisiwch greu cyllideb ar gyfer faint rydych chi am ei wario bob wythnos a chadwch lygad ar ble rydych chi'n gwario’r mwyaf, bancio ar-lein fydd eich ffrind gorau.
5) Bydd y gwaith yn heriol ond nid ydych chi ar eich pen eich hun…
Bydd y cyfnod pontio rhwng pob blwyddyn o’ch addysg hyd yn hyn wedi bod yn heriol ond pan ewch i’r brifysgol, rydych nid yn unig yn dysgu cynnwys mwy heriol ond hefyd yn dysgu byw’n annibynnol. Peidiwch â theimlo'n ddigalon os nad yw'r gwaith yn gwneud synnwyr yn syth, yn fy mhrofiad i, os nad ydych chi'n deall rhywbeth mae'n debygol bod pawb yn teimlo'r un peth. Ceisiwch ofyn am help pan fyddwch ei angen, dyna beth mae'r darlithwyr yno ar ei gyfer (a beth rydych chi'n talu amdano).
Rwy’n siwr y byddwch chi’n caru eich profiad fel glasfyfyriwr gymaint ag y gwnes i, ond os oes angen rhywfaint o help ychwanegol arnoch gyda’ch Lles, cysylltwch â llescynghori@caerdydd.ac.uk