Top tips on how to enjoy Freshers' to the fullest when you're staying sober.
Cymraeg

Going to University is often associated with its' drinking culture. If you don't drink you may not know what to expect from Freshers' Fortnight and other events. This is how I felt last year before joining Cardiff Uni. For me personally, I choose not to drink because I don’t like the taste or effect. Before I started Uni I was worried about attending events, and I found that I was worried that I wouldn’t fit in because I didn’t drink.
In preparation for this September I’ve put together all of my top tips from my first year which helped me enjoy Freshers'!
Alcohol free accommodation
Cardiff University offer special accommodation where there is no alcohol allowed. This is a great place for you to find like-minded sober people to live with! These accommodations are available in Talybont North and Senghennydd Court. If you’ve already got your accommodation, you can still have a great year! I was in Talybont South (known as the most social accommodation) and found that people were super accepting that I don’t drink and never tried to pressure me.
You don't have to explain yourself
When you tell people you don’t drink, there first question is always “why?”. A sober uni student isn’t someone that many people have come across so there is always a natural curiosity of why you chose not to drink. I’m happy discussing why I don’t drink, but others have a much more personal and private reason why they may not. No one is owed an explanation of why you don’t drink, so never feel you need to tell someone why if you don’t want to.
There are many things you can say instead! Here are some suggestions:
- “Actually, it’s a topic I don’t like discussing” this tells people that it’s a sensitive subject and will stop them from asking anymore about it;
- “Oh, I just don’t like it” a common reason, but vague enough to be used to deflect from any private reason you may not want to share;
- “It’s a decision I’ve come to over time for a number of reasons” this is accurate in most situations, but doesn’t tell the person much about your reasoning.
It should also be noted that many people may not even realise you don’t drink if you don’t tell them! I often used to drink squash or other non-alcoholic drinks at parties that looked just like other drinks, so no one would have known.
Choose alcohol-free activities
Whether your flatmates and friends drink or not, there is still a great range of things you can do in Cardiff without booze! Suggest an activity you think everyone would like - it’s a great way to get to know people without the need for alcohol.
Some of my favourite things to do in Cardiff are:
- Go for brunch,
- Book a Give it a Go trip,
- Go (vintage) shopping,
- Go to Silent Cinema,
- Go to Crazy Golf,
- Go to an escape room.
Find good drinks
Whether you like the taste of alcoholic drinks or not, there’s a great range of alcohol-free drinks available in most places these days! There’s been a huge increase in sober lifestyles (as well as the classic “designated driver” situation) so the drinks menus normally include a good range now! If you’re happy being around other people drinking, pubs and bars can have a great atmosphere so they’re still a fun place to go. Some great places are:
- The Taf - you can’t beat the Student’s Union own bar (especially for the Thursday night pub quiz!). They have a great range of drinks available.
- Turtle Bay – They have some great mocktails and other non-alcoholic drinks available (and great food!) if you want to go there with friends for bottomless brunch or food.
- The Alchemist – while not a regular drinking location for most students, this is often chosen for birthdays and special occasions. They have a range of non-alcoholic or low alcohol drinks (just make sure you choose the right ones from this section) which are just as exciting as the alcohol drinks!
There’s also a great advantage to not drinking: the drinks are much cheaper! No alcohol tax means you’ll save a huge amount across the year that you can then spend (or save)!
Join in with others
Just because you don’t drink, doesn’t mean you won’t like “drinking” activities such as nightclubs! If the music is right and you’ve got your friends with you, nightclubs are a great night when sober! I found that the “disco” rooms always had such good music that alcohol didn’t feel necessary at all (though that might just be my cheesy music taste!)
Say no
If you don’t like a certain type of drinking (or any) activity, always remember you can say no! There were lots of nights out and parties I chose not to go to because I wasn’t feeling it or I was simply tired, so don’t feel you have to say yes to them all. Focus on what’s best for you and your mental health, people might actually envy you for your ability to say no!
Join a society or sports club
This is the advice given by everyone, but that’s for a reason! No matter what your interest is - from ballroom dancing to baking - there is probably a society that you will be interested in! Have a look on the SU website or keep an eye out for the Freshers’ Fairs when you arrive in Cardiff, and there’ll be a society you may not have ever thought of that’ll interest you! And if you do have an idea that isn’t there, you can always set it up yourself as there might be others interested! There’s also a great variety of sports clubs you could join. Even if you don’t enjoy some of the more classic sports, such as football, you may find that there are sports you may never have thought of, such as aerial fitness or caving and canyoning club!
Those are all the things I’ve picked up during my first year at uni, but there is one last important thing left: enjoy yourself! Your year will fly by, so try not to worry and just do what you want to do. Enjoy your year and prove to others that sober is just as fun!
Mae mynd i'r Brifysgol yn aml yn cael ei gysylltu gyda’r diwylliant yfed. Os nad ydych yn yfed efallai nad ydych yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan Bythefnos y Glas a digwyddiadau eraill. Dyma sut roeddwn i'n teimlo'r llynedd cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd. I mi'n bersonol, dwi'n dewis peidio yfed achos dwi ddim yn hoffi'r blas na'r effaith. Cyn i mi ddechrau yn y Brifysgol roeddwn i'n poeni am fynychu digwyddiadau, ac roeddwn i'n gweld fy mod i'n poeni na fyddwn i'n ffitio i mewn oherwydd nad oeddwn i'n yfed.
Wrth baratoi ar gyfer mis Medi rwyf wedi cyfuno fy awgrymiadau gorau o fy mlwyddyn gyntaf a helpodd fi i fwynhau Freshers'!
Llety di-alcohol
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llety arbennig lle na chaniateir alcohol. Dyma le gwych i chi ddod o hyd i bobl sobr gyffelyb i fyw gyda nhw! Mae'r lletyau hyn ar gael yng Ngogledd Talybont a Llys Senghennydd. Os ydych eisoes wedi derbyn eich llety, gallwch barhau i gael blwyddyn wych! Roeddwn yn Ne Talybont (sy'n cael ei adnabod fel y llety mwyaf cymdeithasol) ac roeddwn i'n gweld bod pobl yn hynod o dderbyniol o’r ffaith nad ydw i'n yfed a byth yn ceisio rhoi pwysau arna i.
Does dim rhaid i chi egluro eich hun
Pan ti'n dweud wrth bobl nad wyt ti'n yfed, y cwestiwn cyntaf yw "pam?" bob tro. Nid yw myfyriwr prifysgol sobr yn rhywun y mae llawer o bobl wedi dod ar ei draws felly mae yna wastad chwilfrydedd naturiol ynglyn â pham dewisoch chi i beidio ag yfed. Dwi'n hapus yn trafod pam nad ydw i'n yfed, ond mae gan eraill resymau llawer mwy personol a phreifat pam nad ydyn nhw’n yfed. Does neb yn ddyledus i esboniad pam nad ydych chi'n yfed, felly peidiwch byth â theimlo bod angen i chi esbonio wrth rywun os nad ydych chi eisiau.
Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu dweud yn lle hynny! Dyma rai awgrymiadau:
- “A dweud y gwir, mae'n bwnc nad ydw i'n hoffi ei drafod" mae hyn yn dweud wrth bobl ei fod yn bwnc sensitif a bydd yn eu hatal rhag gofyn unrhyw beth arall;
- “Oh, O, dwi jest ddim yn hoff ohono" rheswm cyffredin, ond digon annelwig i'w ddefnyddio i gymryd sylw i ffwrdd o unrhyw reswm preifat efallai nad ydych chi am ei rannu;
- “Mae'n rhywbeth dwi wedi penderfynu arno am nifer o resymau" mae hwn yn wir yn y mwyafrif o sefyllfaoedd, ond nid yw'n dweud llawer wrth y person am eich rhesymau penodol chi.
Dylid nodi hefyd efallai na fydd llawer o bobl hyd yn oed yn sylweddoli nad ydych chi'n yfed os nad ydych chi'n dweud wrthyn nhw! Roeddwn i'n aml yn arfer yfed sgwash neu ddiodydd di-alcohol eraill mewn partïon oedd yn edrych yn union fel diodydd eraill, felly fyddai neb wedi gwybod.
Dewiswch weithgareddau di-alcohol
P'un a yw'ch cyd-letywyr a'ch ffrindiau'n yfed ai peidio, mae yna amrywiaeth fawr o bethau y gallwch chi eu gwneud yng Nghaerdydd o hyd heb alcohol!Awgrymwch weithgaredd rydych chi'n meddwl y bydd pawb yn hoff ohono - mae'n ffordd wych o ddod i adnabod pobl heb yr angen am alcohol.
Dyma rai o fy hoff bethau i wneud yng Nghaerdydd:
- Ewch am brunch,
- Gwnewch sesiwn Rho Gynnig Arni,
- Ewch i siopa (ail-law neu vintage),
- Ewch i Sinema Fud,
- Ewch i Golff Gwyllt,
- Ewch i Escape Room.
Dewch o hyd i ddiodydd da
P'un a ydych chi'n hoffi blas diodydd alcoholig ai peidio, mae’r rhan fwyaf o lefydd yn cynnig amrywiaeth wych o ddiodydd di-alcohol y dyddiau hyn! Mae cynnydd enfawr wedi bod mewn ffordd o fyw sobr (yn ogystal â'r sefyllfa "gyrrwr dynodedig" clasurol) felly mae'r bwydlenni diodydd fel arfer yn cynnwys ystod dda erbyn nawr! Os ydych chi'n hapus i fod o gwmpas pobl eraill sy’n yfed, mae tafarndai a bariau yn gallu cynnig awyrgylch wych felly maen nhw dal yn llefydd hwyliog i dreulio amser. Dyma rai llefydd gwych:
- Y Taf - does dim gwell na bar Undeb y Myfyrwyr ei hun (yn enwedig ar gyfer y cwis tafarn nos Iau!). Maent yn cynnig amrywiaeth wych o ddiodydd.
- Turtle Bay – Mae ganddyn nhw mocktails gwych a diodydd di-alcohol eraill (a bwyd gwych!) os ydych chi am fynd yno gyda ffrindiau am brunch di-derfyn neu fwyd.
- The Alchemist – er nad yw'n lleoliad yfed cyffredin i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, mae hyn yn aml yn cael ei ddewis ar gyfer penblwyddi ac achlysuron arbennig.Mae ganddynt amrywiaeth o ddiodydd alcoholig neu alcohol isel (gwnewch yn siwr eich bod yn dewis y rhai cywir o'r adran hon) sydd yr un mor gyffrous â'r diodydd alcoholig!
Mae yna fantais fawr i beidio yfed hefyd: mae'r diodydd llawer yn rhatach! Nid oes treth alcohol, sydd yn golygu y byddwch chi'n arbed swm enfawr ar draws y flwyddyn y gallwch wedyn ei wario (neu gynilo)!
Ymuno gydag eraill
Dyw'r ffaith nad ydych chi'n yfed, ddim yn golygu na fyddwch chi'n hoffi gweithgareddau "yfed" fel clybiau nos! Os yw'r gerddoriaeth yn iawn ac mae eich ffrindiau gyda chi, mae clybiau nos yn noson wych pan yn sobor! Roeddwn i'n gweld bod yr ystafelloedd "disgo" wastad â cherddoriaeth mor dda fel nad oedd alcohol yn teimlo'n angenrheidiol o gwbl (er efallai mai dyna yw fy chwaeth gerddoriaeth gawslyd!)
Dywedwch na
Os nad ydych yn hoffi math penodol o weithgaredd yfed (neu unrhyw weithgaredd), cofiwch bob amser gallwch ddweud na! Roedd llawer o nosweithiau allan a phartïon y dewisais i beidio â mynd iddyn nhw oherwydd doedd gen i ddim awydd neu yn syml, roeddwn i wedi blino, felly peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi ddweud ie wrthyn nhw i gyd. Canolbwyntiwch ar yr hyn sydd orau i chi a'ch iechyd meddwl, efallai y bydd pobl mewn gwirionedd yn genfigennus o’ch gallu i ddweud na!
Ymuno â chymdeithas neu glwb chwaraeon
Dyma'r cyngor sy'n cael ei roi gan bawb, ond mae rheswm am hyn! Waeth beth yw eich diddordeb - o ddawnsio neuadd i bobi - mae'n sicr bod cymdeithas sy’n addas i chi! Mynnwch gip ar wefan y Brifysgol Agored neu cadwch lygad allan am Ffeiriau'r Glas pan fyddwch yn cyrraedd Caerdydd, ac efallai bydd cymdeithas sy’n gwbl newydd i chi yn denu eich diddordeb! Ac os oes gennych chi syniad am gymdeithas newydd, gallwch chi ei sefydlu eich hun - efallai bod gan eraill ddiddordeb hefyd! Mae amrywiaeth fawr o glybiau chwaraeon y gallech chi ymuno â nhw hefyd. Hyd yn oed os nad ydych chi'n mwynhau rhai o'r chwaraeon mwy clasurol, fel pêl-droed, efallai y gwelwch fod yna gampau nad ydych chi erioed wedi eu hystyried o’r blaen, fel ffitrwydd o'r awyr neu glwb ogofâu a chanwio!
Dyna'r holl bethau dwi wedi eu dysgu a’u defnyddio yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol, ond mae un peth pwysig olaf ar ôl: mwynhewch eich hun!Bydd eich blwyddyn yn hedfan heibio, felly ceisiwch beidio â phoeni a gwnewch beth rydych chi am ei wneud. Mwynhewch eich blwyddyn a phrofwch i eraill fod sobr yr un mor hwyl!