Here’s a handy list of things that were a great help during my first year that you may not have thought of! | Dyma restr gyfleus o bethau oedd o gymorth mawr yn ystod fy mlwyddyn gyntaf efallai nad ydych chi wedi meddwl amdanyn nhw!
Cymraeg
So you need to buy stuff for uni but still have no idea what you will actually need? Here’s a handy list of things that were a great help during my first year that you may not have thought of!
Kitchen
Plates, bowls, cups and cutlery
An essential for any kitchen, you’ll use these every day! But what type and how many?
- Try and find unique looking plates and bowls - everyone in your flat will have them and most of them may look the same, so this helps make finding your stuff easier!
- Don’t buy too many - everyone thinks you need lots but in actual fact you probably only need 2 sets. If you are worried about people coming round, ask your flatmates if you can borrow a plate for a meal and wash it up after! You can buy cheap sets in most supermarkets (big Tesco has some really well-priced items) to replace with if you break anything!
Utensils and other cooking equipment
There are so many things that your parents may have at home that you aren’t sure if you’ll need, so how do you work out what you do need? One of the best plans is to look at what meals you want to cook at uni and what you need to make them. Some things I found useful to bring were:
- Saucepans
- A wok
- A frying pan
- Baking tray
- Wooden spoon
- Spatula
- Chopping board
- Knives
Utensil pot
This was something I found super helpful as it differentiated my things from other people’s. They're super inexpensive and easy to find in shops such as Ikea (a future uni student’s favourite shop).
Tupperware
This is something that was extremely helpful for me at uni. I found that they were great to store leftovers in (I would usually make two portions of food and save one for the next day to not have to cook again) and for storing food in the cupboards. A similar, but slightly different, thing I would recommend is storage organiser (this is the one that I used) for packets and loose vegetables.
Dishmatic
This was one of the most useful purchases for uni as it makes washing up much quicker and simpler (even when people leave washing up in the sink). It has your washing up liquid inside the handle and dispenses the right amount onto the sponge, meaning you don’t have to waste too much liquid washing up each time.
Bedroom
Underbed storage
Under most beds in Cardiff accommodation there is room that you can put boxes in, which is a great way to maximise your storage. I used this to store bedding, towels, and any cooking equipment I couldn’t fit in the kitchen.
Desk or Bedside Lamp
A lot of people found that the overhead lights in the evenings could be quite harsh and so used a lamp in the evenings instead.
Pins/command strips for photos
Your uni room can look quite bare when you first arrive so adding photos to your room can make it feel much more personalised! Some accommodations have pin boards above the desk which can be used for photos, but if your room doesn’t then command strips are a great way to put up photos without risking any damage to the walls. Having these photos can also help with feeling home sick as you still feel like you are connected to your life back home.
Door wedge
Not only convenient when you’re moving in, a door wedge is a great way to encourage your flatmates to socialise with you. By propping your door open, it says to people that you’re happy to chat and so people can get to know you more.
Over the door hooks
This may not be something that works for all Cardiff Uni accommodations, but it worked great for my accommodation (Talybont South). If you have an ensuite, you can buy hooks that fit over the bathroom door and allow you to hang things from them.
Extension lead
While there are quite a few plug sockets in your room, sometimes there are things that you need extra sockets for (such as chargers) and so an extension lead is a great way to make better use of the sockets you do have.
Clothes horse (dryer)
A clothes horse, often known as a clothes dryer, is a great way to save some money when doing your washing. The laundry facilities at uni are a little pricey and so cutting out the need for the tumble dryer will save you a lot of money throughout the year, plus it will be much better for the environment!
Bathroom
Storage box
A great addition whether you have an en suite or shared bathroom!
Miscellaneous
Big rucksack
This is probably the best purchase I made for uni and was a lifesaver when it came to carrying home a food shop. This bag is also really helpful for when you are going home for holidays and weekends on the train as you can fit a lot in there and means you need less bags.
Sliders
As much as your flat will try and keep everything clean, the kitchen floor will inevitably be a little dirty and so having a pair of sliders helps make sure you keep your socks clean when walking around the flat. Sliders are a better choice for wearing around the flat than flip flops, because then you can keep your socks on during the winter, or slippers, as they aren’t as easy to clean if you step in something. They are also great for shared bathrooms because you then can walk to the shower without stepping in anything.
Washing bag
A Laundry hamper is not always the most convenient at uni, so most people use a large bag with handles! I found that a common choice is the Ikea blue bags because they can fit a lot in and are only £0.75. They also are waterproof so there won’t be any problems when carrying your wet clothes back from the laundry building!
Suitcase
A suitcase is easier to use in train stations than multiple large bags and, when paired with the large rucksack suggested earlier, gives you a really good amount of space! Your suitcase can also be used as storage throughout the year (I stored mine under my bed, but to do this you probably need a cabin case rather than a large suitcase).
These are the things that I’ve found helpful throughout the year, but there are always going to be different preferences, so do what seems best for you! Remember, even if you do forget something when you get to Cardiff, there’ll be plenty of places you can get anything you need - so don’t panic and enjoy the rest of your summer!
Felly, mae angen i chi brynu stwff ar gyfer y brifysgol ond does dim syniad gennych beth fydd ei angen arnoch chi mewn gwirionedd? Dyma restr gyfleus o bethau oedd o gymorth mawr yn ystod fy mlwyddyn gyntaf efallai nad ydych chi wedi meddwl amdanyn nhw!
Cegin
Platiau, powlenni, cwpanau a chyllyll a ffyrc
Yn hanfodol mewn unrhyw gegin, byddwch chi'n defnyddio'r rhain bob dydd! Ond pa fath a sawl un?
- Ceisiwch ddod o hyd i blatiau a phowlenni unigryw - bydd rhai gan bawb yn eich fflat ac efallai y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn edrych yr un fath, felly mae hyn yn eich helpu i wahaniaethu eich eiddo chi!
- Peidiwch â phrynu gormod - mae pawb yn credu bod angen llawer ond mewn gwirionedd mae'n debyg mai dim ond 2 set sydd eu hangen arnoch chi. Os ydych chi'n poeni am bobl yn galw heibio, gofynnwch i'ch cydletywyr a allwch chi fenthyg plât am bryd o fwyd a'i olchi ar ôl! Gallwch gael setiau rhad yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd (mae gan Tesco mawr rai eitemau sydd wedi'u prisio'n dda iawn) os ydych chi'n torri unrhyw beth!
Offer cegin ac offer coginio eraill
Mae cymaint o bethau sydd efallai gan eich rhieni gartref nad ydych chi'n siwr a fydd angen arnoch chi, felly sut ydych chi'n penderfynu beth sydd ei angen arnoch chi? Un o'r cynlluniau gorau yw edrych ar ba brydau rydych chi am eu coginio yn y brifysgol a'r hyn sydd ei angen i’w gwneud nhw. Rhai pethau roeddwn i'n eu ddefnyddio’n aml oedd:
- Sosbenni
- Wok
- Padell ffrio
- Hambwrdd pobi
- Llwy bren
- Sbatwla
- Bwrdd torri
- Cyllyll
Pot llestri
Roedd hyn yn rhywbeth hynod o ddefnyddiol gan ei fod yn gwahaniaethu fy mhethau oddi wrth bobl eraill. Maen nhw'n hynod o rad ac yn hawdd dod o hyd iddyn nhw mewn siopau fel Ikea Ikea (hoff siop unrhyw fyfyriwr prifysgol).
Cynwysyddion plastig
Mae hyn yn rhywbeth oedd o gymorth mawr i mi yn y brifysgol. Roedden nhw’n wych er mwyn storio unrhyw fwyd dros ben (fel arfer byddwn yn gwneud dwy gyfran o fwyd ac yn arbed un am y diwrnod wedyn i beidio gorfod coginio eto) ac i storio bwyd yn y cypyrddau. Peth tebyg, ond ychydig yn wahanol, fyddwn i'n ei argymell yw trefnydd storio (dyma'r un a ddefnyddiais) ar gyfer pacedi a llysiau rhydd.
Dishmatic
Dyma oedd un o'r pethau mwyaf defnyddiol ar gyfer y brifysgol gan ei fod yn gwneud golchi yn llawer cyflymach a symlach (hyd yn oed pan fydd pobl yn gadael llestri yn y sinc). Mae’r hylif golchi llestri y tu mewn i'r ddolen ac mae'n dosbarthu'r swm cywir i'r sbwng, sy'n golygu nad oes rhaid i chi wastraffu gormod o hylif wrth olchi bob tro.
Ystafell wely
Storfa dan y gwely
O dan y rhan fwyaf o welyau yn llety Caerdydd mae lle i chi roi bocsys, sy'n ffordd wych o ddefnyddio’ch storfa’n ddoeth. Roeddwn i'n defnyddio hwn i storio dillad gwely, tywelion, ac unrhyw offer coginio doeddwn i ddim yn gallu ffitio yn y gegin.
Desg neu Lamp Gwely
Canfu llawer o bobl y gallai'r prif oleuadau fod yn eithaf llachar ac felly'n defnyddio lamp gyda'r nos yn lle.
Pins/stribedi gorchymyn ar gyfer lluniau
Gall eich ystafell brifysgol edrych yn eithaf llwm pan fyddwch chi'n cyrraedd gyntaf felly gall ychwanegu lluniau i'ch ystafell wneud iddi deimlo'n llawer mwy personol! Mae gan rai llety fyrddau pin uwchben y ddesg y gellir eu defnyddio ar gyfer lluniau, ond os nad oes un yn eich ystafell yna mae stribedi gorchymyn yn ffordd wych o hongian lluniau heb achosi unrhyw ddifrod i'r waliau. Gall y lluniau hyn hefyd helpu gyda theimlo’n hiraethus gan eich bod yn dal i deimlo cysur eich bywyd yn ôl adref.
Stop drws
Nid yn unig yn gyfleus pan fyddwch yn symud i mewn, mae stop drws yn ffordd wych o annog eich cydletywyr i gymdeithasu â chi. Drwy adael eich drws ar agor, mae'n dweud wrth bobl eich bod chi'n hapus i sgwrsio a bydd pobl yn gallu dod i'ch adnabod yn haws.
Bachau dros y drws
Efallai nad yw hyn yn rhywbeth sy'n gweithio i bob llety Prifysgol Caerdydd, ond gweithiodd yn wych yn fy llety i (De Tal-y-bont). Os oes gennych en suite, gallwch brynu bachau sy'n ffitio dros ddrws yr ystafell ymolchi a chaniatáu ichi hongian pethau arnynt.
Gwifren Estyniad
Er bod tipyn o socedi plwg yn eich ystafell, weithiau mae angen socedi ychwanegol arnoch ar gyfer rhai pethau (fel gwefrwyr) ac felly mae gwifren estyniad yn ffordd wych o wneud defnydd llawn o'r socedau sydd gennych.
Hors ddillad (sychwr)
Mae hors ddillad, sy'n cael ei hadnabod yn aml fel sychwr dillad, yn ffordd wych o arbed rhywfaint o arian wrth wneud eich golch. Mae'r cyfleusterau golchi dillad yn y brifysgol ychydig yn ddrud ac felly bydd peidio defnyddio’r peiriant sychu dillad yn arbed llawer o arian i chi drwy gydol y flwyddyn - bydd hefyd yn llawer gwell i'r amgylchedd!
Ystafell ymolchi
Blwch storio
Ychwanegiad gwych p'un a oes gennych en suite neu ystafell ymolchi a rennir!
Amrywiol
Bag cefn mawr
Mae'n bosib mai dyma'r peth gorau i mi brynu i ar gyfer y brifysgol ac roedd yn hynod o ddefnyddiol wrth gario bwyd adref o’r siop. Mae'r bag hwn hefyd yn ddefnyddiol iawn pan rydych chi'n mynd adref ar gyfer gwyliau a phenwythnosau ar y trên gan ei fod yn dal llawer sy’n golygu bod angen llai o fagiau arnoch.
Sliders
Er cymaint y byddwch yn ceisio cadw popeth yn lân, mae'n anochel y bydd llawr y gegin ychydig yn fudr ac felly mae cael pâr o sliders yn helpu cadw'ch sanau'n lân wrth gerdded o amgylch y fflat. Mae sliders yn well i’w gwisgo o gwmpas y fflat na fflip fflops, oherwydd gallwch gadw'ch sanau ymlaen yn ystod y gaeaf, neu sliperi, gan nad ydyn nhw mor hawdd i'w glanhau os ydych chi'n camu mewn rhywbeth. Maen nhw hefyd yn wych ar gyfer ystafelloedd ymolchi a rennir oherwydd gallwch chi wedyn gerdded i'r gawod heb gamu mewn unrhyw beth.
Bag ymolchi
Nid yw basged olchi dillad yn gyfleus yn y brifysgol bob amser, felly mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio bag mawr gyda dolen! Sylwais fod bagiau glas Ikea yn ddewis cyffredin gan eu bod yn dal llawer o ddillad a dim ond £0.75 ydyn nhw. Maen nhw hefyd yn ddiddos ac felly fydd yna ddim problemau wrth gario eich dillad gwlyb nôl o’r lle golchi dillad!
Cês
Mae cês yn haws i'w ddefnyddio mewn gorsafoedd trên na nifer o fagiau mawr ac, ynghyd â'r sach gefn fawr a awgrymwyd yn gynharach, yn rhoi llawer iawn o le i chi! Gellir hefyd ddefnyddio eich cês fel storfa drwy gydol y flwyddyn (roeddwn i'n storio fy un i o dan fy ngwely, ond i wneud hyn efallai bydd angen cês llai arnoch chi).
Dyma'r pethau dwi wedi eu ffeindio'n ddefnyddiol drwy gydol y flwyddyn, ond mae pethau gwahanol yn gweithio i bobl wahanol, felly gwnewch beth sydd orau i chi! Cofiwch, hyd yn oed os ydych chi'n anghofio rhywbeth wrth gyrraedd Caerdydd, bydd digon o lefydd y gallwch chi gael unrhyw beth sydd ei angen arnoch chi - felly peidiwch â chynhyrfu a mwynhewch gweddill eich haf!