The Ultimate Christmas Dinner on a Budget | Y Cinio Nadolig Gorau ar Gyllideb

The Christmas break is fast approaching and so a flat or house Christmas is the best way to end the semester with your friends. A big roast dinner seems daunting and expensive, but it doesn’t have to be! Here’s a great way to do a Christmas dinner with all the trimmings, without breaking the bank.

normalwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

The Christmas break is fast approaching and so a flat or house Christmas is the best way to end the semester with your friends. A big roast dinner seems daunting and expensive, but it doesn’t have to be! Here’s a great way to do a Christmas dinner with all the trimmings, without breaking the bank. 

 

Tips Before You Start 

Here are a few tips that you should think about before you make your dinner 

  • How many people are you feeding and are there any dietary restrictions – make sure you check if anyone has allergies or is vegetarian/vegan to be inclusive in your meal 

  • Choose what you want – you don’t have to stay traditional with the dinner, it’s yours to do what you want with (no parents nagging you to eat your sprouts this Christmas)! 

  • Stay realistic – as much as it would be nice to have everything that you want, plan what you can manage to cook with the oven and hob space you have. No one wants to buy food to then realise you can’t cook it all! 

  • Plan ahead – plan what you want and need to buy before you go to the shops to make sure that you have everything you need on your list, can’t be forgetting the best bits!  

  • Don’t cook too much – having leftovers is nice, but don’t cook so much that you have to throw food away! 

 

Main Meat or Meat Replacement 

The classic Christmas has a turkey, but that doesn’t mean that yours has to! Turkeys are generally quite big and so are most likely not to be right for your dinner. Chicken is a great alternative as it is smaller, while still giving the same taste. Chickens are also more easily available as most people choose turkey, meaning that you have more chance of finding a good one in the shops. 

If you don’t like chicken or turkey, you can choose a different meat to have. There are a lot of people who choose to have ham or beef joints which can make your roast feel a bit more personal than the traditional roast. Make sure that you check that your group all eat any different meat you choose, as some people don’t eat specific meats such as for religious reasons. 

Vegetarians and vegans are usually left with a plate of potatoes and veg, but they don’t have to be when you make it! Choosing a centrepiece to the meal such as vegan sausages or a Quorn fillet (be aware, these aren’t vegan but are vegetarian) makes the dinner feel complete for all. Most supermarkets have their own plant-based brands, so you don’t always need to choose some of the expensive branded options! 

Roast Potatoes 

Roast potatoes are a much-loved part of every roast, crispy on the outside and fluffy in the middle. Frozen roast potatoes can be a good way to make a roast when you aren’t wanting to spend too much time cooking and still taste great! Wanting to make your own roast potatoes? Here’s the way that I make them to make great roasties every time: 

 

1. Peel 1.5kg of potatoes and chop into large chunks (the large chunks increase the surface area of the potatoes and makes them go crispier in the oven – the ultimate aim!) 

2. Boil the potatoes for 8-10 minutes in a large saucepan with a lid until they are fork-tender (this just means that when you poke them with a fork, they fall back off again) 

3. While the potatoes are boiling, pour a thin layer of oil in a roasting tin (use two if you don’t have one big enough) and preheat for 10 minutes at 230°C/210°C Fan/Gas Mark 8. Preheating the oil is integral to getting crispy potatoes! 

4. Drain the potatoes and then put back into the empty saucepan with the lid on and shake the potatoes (this fluffs the potatoes up to – you guessed it – make them crispy!) 

5. Put the potatoes into the roasting tin(s) with the preheated oil and cook for 30-40 minutes, making sure you turn the potatoes halfway 

6. Serve the potatoes, without eating them all first – the hardest part of the whole process! 

Stuffing 

Stuffing is something that can split the room, but it is common in a Christmas dinner! This is something that does take a lot of effort to make, so I recommend buying a packet mix. Sage and Onion stuffing is a good standard for most people and works for vegetarians and vegans. If you prefer sausage meat stuffing, you can also buy this in shops, but this is likely to be more expensive. There is also an option that if a vegetarian or vegan doesn’t like or want a meat replacement, they can have a slightly bigger portion of stuffing which still makes the dinner feel substantial. I would recommend cooking the stuffing in a dish rather than in balls. This stops the stuffing from going dry and makes it easy to adjust serving sizes for different people.  

Pigs in Blankets 

Something that people look forward to at Christmas, pigs-in-blankets are a popular item. You can buy frozen pigs in blankets which are cheaper and also means that you can cook the amount you need and save some for a different time. This helps make the dinner cheaper and reduces the waste. Vegetarians and vegans, don’t worry you don’t have to be left out! Sainsbury’s do their own vegan pigs in blankets so there’s an option for everybody. 

Yorkshire Puddings 

While they may not be the most filling, everyone would miss them if they were gone! Frozen Yorkshire puddings are a good way of saving some money and only take a few minutes to cook, so they don’t take up much needed oven space. If you are feeling adventurous, you can always make your own Yorkshire puddings with a recipe such as this one

Vegetables 

You’ve got to have some vegetables on the plate even if they aren’t the favourite part. Peas and carrots are a pretty standard option that most people will like so these are good ones to choose if you aren’t sure. Brussel sprouts are a traditionally hated vegetable, but that doesn’t mean that they have to be boring! Cooking them with some bacon pieces gives the Brussel sprouts some extra flavour. They also work well roasted (more on this below). 

Roasted veg is a great way of jazzing up the veg in your roast dinner and is super simple to do! I normally choose to have carrots, parsnips and Brussel sprouts roasted in maple syrup (honey can work if you have no vegans!). Here’s how to make it: 

1. Peel and chop the veg into small to medium size pieces (don’t cut them too big because then they won’t cook properly, but too small and they could burn) 

2. Preheat the oven to 200 °C/180 °C Fan/Gas Mark 6 

3. Place the Brussel sprouts into a roasting tin and cover with a small amount of oil and a drizzle of maple syrup or honey 

4. Cook the Brussel sprouts for 10 minutes before adding the other veg 

5. Cook for half an hour and serve 

Gravy 

Most students don’t have time to make their own gravy from scratch, but if this is something you are interested in doing, here’s a recipe that you can follow. My best recommendation if you don’t want to make your own gravy or have vegetarian/vegans to feed is to use instant gravy granules as this are simple to make and won’t take too much time. If you do have vegetarians, make sure you check the ingredients before you buy the gravy as some do have meat in them. No one wants to be left with a dry roast dinner! 

Extras 

We’ve chosen the standard items in this list, but that doesn't mean that it’s all that you can have on your dinner! People often choose to have cauliflower cheese on their roast dinner, and you can buy premade ones in supermarkets which take much less time to do. Mashed potatoes are also another thing people choose to have on their dinner and can be made with any leftover potatoes from making the roast potatoes, you can add extra flavour with things like cheese or herbs such as chives! Finally, you may want to have some different sauces or condiments such as mint jelly or cranberry sauce so make sure you decide if you want any of these on your dinner. 

Dessert 

If you’re not already stuffed from eating the roast, you have to plan what dessert you want afterwards. The traditional option is a Christmas pudding, but let’s face it, it isn’t a very popular option anymore! You can have whatever you want to have as your pudding, choose what you like! For my house’s dessert we chose a yule log to keep vaguely traditional while still getting a chocolatey dessert which tastes amazing. A cheesecake is also a popular option and can be made ahead of time or bought premade. Choosing something like these last two options also allows people to choose exactly how much they want as it is easy to adjust portion sizes! 

The Cost 

Planning a Christmas dinner is fun, but you don’t want to break the bank while doing it! Here’s how much it would cost you to make the roast dinner we have suggested for 6 people (we used ALDI for this, so other supermarkets may cost more or less): 

  • Chicken: £3.99 for a Large Chicken 

  • Roast Potatoes: £0.95 for a 2kg bag – you only need 1.5kg so you have 0.5kg leftover to make a different dinner or your mashed potato 

  • Stuffing: £0.43 for Sage and Onion Stuffing, you might want 1.5 boxes if you want big portions of stuffing! 

  • Pigs in Blankets: £1.99 for 2 per person 

  • Yorkshire Puddings: £0.50 for a 15 pack (2 each and 3 spare) 

  • Carrots: £0.24 for 500g 

This will come to a total of £13.30, which is only £2.22 per person, what a bargain! 

While making a Christmas dinner can be stressful, there’s not as much pressure as you think there is. Even if you mess it up completely, it doesn’t matter! You can always eat the bits that did work out or just order a takeaway! Whatever happens, the people you are spending the time with is more important so have a fun Christmas and enjoy the end of the semester! 

 


Mae gwyliau'r Nadolig yn prysur agosáu ac felly Nadolig cynnar yn eich fflat neu’ch ty yw'r ffordd orau o ddod â'r semester i ben gyda'ch ffrindiau. Mae cinio rhost mawr yn ymddangos yn anodd ac yn ddrud, ond does dim rhaid iddo fod! Dyma ffordd wych o wneud cinio Nadolig gyda'r holl drimins, heb dorri'r banc.

 

Awgrymiadau cyn i chi ddechrau

Dyma ychydig o awgrymiadau y dylech chi feddwl amdanynt cyn i chi wneud eich cinio

  • Faint o bobl ydych chi'n eu bwydo ac oes ganddyn nhw unrhyw gyfyngiadau deietegol – gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio a oes gan unrhyw un alergeddau neu'n llysieuol/figan i fod yn gynhwysol yn eich pryd

  • Dewiswch beth rydych chi ei eisiau – does dim rhaid i chi aros yn draddodiadol gyda'r cinio, eich un chi yw e i wneud beth rydych chi eisiau gyda fe (does dim rhieni'n swnian atych i fwyta'ch ysgewyll y Nadolig hwn)!

  • Byddwch yn realistig – cymaint ag y byddai'n braf cael popeth rydych chi ei eisiau, cynlluniwch beth allwch chi lwyddo i'w goginio gyda'r gofod ffwrn a hob sydd gennych. Does neb eisiau prynu bwyd wedyn sylweddoli nad ydych chi'n gallu coginio'r cyfan!

  • Cynlluniwch ymlaen llaw - cynlluniwch yr hyn ry’ch chi ei eisiau ac angen ei brynu cyn mynd i'r siopau i wneud yn siwr bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch ar eich rhestr, allwch chi ddim anghofio'r darnau gorau!

  • Peidiwch â choginio gormod - mae cael bwyd dros ben yn neis, ond peidiwch â choginio cymaint nes eich bod yn gorfod taflu bwyd!

 

Prif Gig neu Fwyd yn ei Le

Mae gan y Nadolig clasurol dwrci, ond dydy hynny ddim yn golygu bod rhaid i'ch un chi! Mae tyrcïod ar y cyfan yn eithaf mawr ac felly maent yn debygol o beidio bod yn iawn ar gyfer eich cinio. Mae cyw iâr yn ddewis arall gwych gan ei fod yn llai, tra'n dal i roi'r un blas. Mae cyw iâr hefyd yn haws i gael gafael arno gan fod y rhan fwyaf o bobl yn dewis twrci, sy'n golygu bod gennych chi fwy o obaith o ddod o hyd i un da yn y siopau.

Os nad ydych chi'n hoffi cyw iâr neu dwrci, mae'n bosib i chi ddewis cig gwahanol i'w gael. Mae yna lawer o bobl sy'n dewis cael cymalau ham neu gig eidion. Mae hyn yn gallu gwneud i'ch rhost deimlo ychydig yn fwy personol na'r rhost traddodiadol. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio bod eich grwp i gyd yn bwyta unrhyw gig gwahanol rydych chi'n ei ddewis, gan nad yw rhai pobl yn bwyta cigoedd penodol fel am resymau crefyddol.

Fel arfer mae llysieuwyr a figaniaid yn cael eu gadael gyda phlât o datws a llysiau, ond does dim rhaid iddyn nhw fod pan fyddwch chi'n ei greu! Mae dewis canolbwynt i'r pryd fel selsig figan neu ffiled Quorn (byddwch yn ymwybodol, nid yw'r rhain yn figan ond yn llysieuol) yn gwneud i'r cinio deimlo'n gyflawn i bawb. Mae gan y rhan fwyaf o archfarchnadoedd eu brandiau eu hunain o fwydydd sy'n seiliedig ar blanhigion, felly does dim angen i chi ddewis rhai o'r opsiynau brand drud bob tro!

Tatws Rhost

Mae tatws rhost yn rhan annwyl iawn o bob rhost, crensiog ar y tu allan a meddal yn y canol. Gall tatws rhost wedi'u rhewi fod yn ffordd dda o wneud rhost pan nad ydych chi eisiau treulio gormod o amser yn coginio ac maent yn dal i flasu'n wych! Eisiau gwneud eich tatws rhost eich hun? Dyma'r ffordd dw i'n eu gwneud nhw i wneud tatws rhost gwych bob tro:

 

1. Tynnwch croen 1.5kg o datws a’u torri i mewn i ddarnau mawr (mae'r darnau mawr yn cynyddu arwynebedd y tatws ac yn gwneud iddyn nhw fynd yn fwy crensiog yn y ffwrn - y prif nod!

2. Berwch y tatws am 8-10 munud mewn sosban fawr gyda chaead nes eu bod yn feddal i’r fforc (mae hyn jyst yn golygu pan fyddwch chi'n eu pocio nhw gyda fforc, maen nhw'n disgyn yn ôl i ffwrdd)

3. Tra bod y tatws yn berwi, tywalltwch haen denau o olew mewn tun rhostio (defnyddiwch ddau os nad oes gennych un digon mawr) a’u cynhesu am 10 munud ar 230°C/210°C Fan/Gas Mark 8. Mae cynhesu'r olew yn rhan annatod o gael tatws crensiog!

4. Draeniwch y tatws ac yna rhowch nhw yn ôl i mewn i'r sosban wag gyda'r caead ymlaen a siglwch y tatws (mae hyn yn gwneud y tatws yn fflwffog er mwyn – fe ddyfaloch chi – eu gwneud nhw'n grensiog!)

5. Rhowch y tatws i mewn i'r tun(iau) rhostio gyda'r olew wedi'i gynhesu ymlaen llaw a'u coginio am 30-40 munud, gan wneud yn siwr eich bod yn troi'r tatws hanner ffordd

6. Gweinwch y tatws, heb eu bwyta nhw i gyd gyntaf – dyma rhan anoddaf yr holl broses!

Stwffin

Mae stwffin yn rhywbeth sydd yn gallu hollti barn, ond mae'n gyffredin mewn cinio Nadolig! Mae hyn yn rhywbeth sy'n cymryd llawer o ymdrech i'w wneud, felly rwy'n argymell prynu cymysgedd mewn paced. Mae stwffin saets a nionyn yn stwffin sylfaenol dda i'r rhan fwyaf o bobl ac yn gweithio i lysieuwyr a figaniaid. Os yw'n well gennych stwffin cig selsig, gallwch chi hefyd brynu hyn mewn siopau, ond mae hyn yn debygol o fod yn ddrytach. Mae opsiwn hefyd, os nad yw llysieuwr neu figan yn hoffi neu eisiau cig llysieuol/feganaidd, gallant gael cyfran ychydig yn fwy o stwffin sy'n dal i wneud i'r cinio deimlo'n sylweddol. Byswn i'n argymell coginio'r stwffin mewn dysgl yn hytrach nag mewn peli. Mae hyn yn stopio'r stwffin rhag mynd yn sych ac yn ei gwneud hi'n hawdd addasu meintiau dognau ar gyfer gwahanol bobl.

Moch mewn blancedi

Rhywbeth y mae pobl yn edrych ymlaen ato adeg y Nadolig, mae moch-mewn-blancedi yn eitem boblogaidd. Gallwch brynu moch mewn blancedi wedi'u rhewi sy'n rhatach a hefyd yn golygu y gallwch goginio'r nifer sydd ei angen arnoch ac arbed rhywfaint am amser arall. Mae hyn yn helpu i wneud y swper yn rhatach ac yn lleihau'r gwastraff. Llysieuwyr a figaniaid, peidiwch â phoeni does dim rhaid i chi gael eich gadael allan! Mae Sainsbury's yn gwneud eu moch mewn blancedi figan eu hunain felly mae 'na opsiwn i bawb.

Pwdinau Efrog

Er efallai nad nhw fydd yn eich llenwi fwyaf, byddai pawb yn eu gweld eisiau pe baen nhw'n mynd! Mae pwdinau Efrog wedi’u rhewi yn ffordd dda o arbed rhywfaint o arian ac maent ond cymryd ychydig funudau i’w coginio, felly nid ydynt yn cymryd gormod o le angenrheidiol yn y ffwrn. Os ydych chi'n teimlo'n anturus, gallwch chi bob amser wneud eich pwdinau Efrog eich hun gyda rysáit fel yr un yma

Llysiau

Mae'n rhaid i chi gael rhai llysiau ar y plât hyd yn oed os nad nhw yw eich hoff ran. Mae pys a moron yn opsiwn eithaf safonol y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei hoffi felly mae'r rhain yn rhai da i ddewis os nad ydych chi'n siwr. Mae ysgewyll Brwsel yn lysiau sy'n cael eu casáu'n draddodiadol, ond nid yw hynny'n golygu bod yn rhaid iddyn nhw fod yn ddiflas! Mae eu coginio gyda rhai darnau cig moch yn rhoi rhyw flas ychwanegol i'r ysgewyll Brwsel. Maent hefyd yn gweithio'n dda wedi'u rhostio (mwy ar hyn isod).

Mae llysiau wedi'u rhostio yn ffordd wych o fywiogi llysiau yn eich cinio rhost ac mae'n hynod syml i'w wneud! Fel arfer, rwy'n dewis cael moron, pannas ac ysgewyll Brwsel wedi'u rhostio mewn surop masarn (gall mêl weithio os nad oes gennych feganiaid!). Dyma sut i'w wneud:

1. Tynnwch groen y llysiau a’u torri yn ddarnau bach i ganolig eu maint (peidiwch â'u torri'n rhy fawr oherwydd wedyn fyddan nhw ddim yn coginio'n iawn, ond yn rhy fach ac fe allen nhw losgi)

2. Cynheswch y popty i 200°C / 180°C Fan / Marc Nwy 6

3. Rhowch yr ysgewyll Brwsel i mewn i dun rhostio a'i orchuddio ag ychydig bach o olew a diferyn o surop masarn neu fêl

4. Coginiwch yr ysgewyll Brwsel am 10 munud cyn ychwanegu'r llysiau eraill

5. Coginiwch nhw am hanner awr a’u gweini

Grefi

Does gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr ddim amser i wneud eu grefi eu hunain o'r dechrau, ond os yw hyn yn rhywbeth mae gennych ddiddordeb mewn gwneud, dyma rysáit y gallwch ei ddilyn. Fy argymhelliad gorau os nad ydych am wneud eich grefi eich hun neu os oes gennych lysieuwyr/feganiaid i'w bwydo, yw defnyddio gronynnau grefi gan fod hyn yn syml i'w gwneud ac na fydd yn cymryd gormod o amser. Os oes gennych lysieuwyr, gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio'r cynhwysion cyn i chi brynu'r grefi gan fod gan rai gig ynddynt. Does neb eisiau cinio rhost sych!

Trimins ychwanegol

Rydym wedi dewis yr eitemau safonol yn y rhestr hon, ond nid yw hynny'n golygu mai dyma’r cyfan y gallwch ei gael yn eich cinio! Mae pobl yn aml yn dewis cael blodfresych a chaws ar eu cinio rhost, a gallwch brynu rhai wedi'u gwneud ymlaen llaw mewn archfarchnadoedd sy'n cymryd llawer llai o amser i'w wneud. Mae tatws stwnsh hefyd yn beth arall y mae pobl yn dewis ei gael ar eu cinio a gellir eu gwneud gydag unrhyw datws dros ben o wneud y tatws rhost, gallwch ychwanegu blas ychwanegol gyda phethau fel caws neu berlysiau fel cennin syfi! Yn olaf, efallai y byddwch chi eisiau cael rhai sawsiau gwahanol fel jeli mintys neu saws llugaeronen felly gwnewch yn siwr eich bod chi'n penderfynu os ydych chi eisiau unrhyw un o'r rhain ar eich cinio.

Pwdin

Os nad ydych eisoes yn llawn dop o fwyta'r rhost, mae'n rhaid i chi gynllunio pa bwdin rydych chi ei eisiau wedyn. Pwdin Nadolig yw'r opsiwn traddodiadol, ond y gwir amdani yw, nid yw'n opsiwn poblogaidd iawn bellach! Gallwch gael beth bynnag rydych chi eisiau ei gael fel eich pwdin, dewiswch beth rydych chi'n ei hoffi! Ar gyfer pwdin fy nhy i, fe ddewison ni gacen boncyff Nadolig i gadw'n rhywfaint o draddodiadol tra'n dal i gael pwdin siocledi sy'n blasu'n anhygoel. Mae cacen gaws hefyd yn opsiwn poblogaidd a gellir ei wneud o flaen llaw neu brynu un sydd wedi’i wneud yn barod. Mae dewis rhywbeth fel y ddau opsiwn diwethaf yma hefyd yn caniatáu i bobl ddewis faint yn union maen nhw ei eisiau gan ei bod hi'n hawdd addasu meintiau dogn!

Y gost

Mae cynllunio cinio Nadolig yn hwyl, ond dydych chi ddimeisiau torri'r banc wrth ei wneud! Dyma faint y byddai'n ei gostio i chi wneud y cinio rhost yr ydym wedi ei awgrymu ar gyfer 6 o bobl (defnyddion ni ALDI ar gyfer hyn, felly gall archfarchnadoedd eraill gostio mwy neu lai):

  • Tatws Rhost: £0.95 ar gyfer bag 2kg – dim ond 1.5kg sydd ei angen arnoch chi felly mae gennych 0.5kg dros ben i wneud cinio gwahanol neu eich tatws stwnsh

  • Stuffing: £0.43 for Sage and Onion Stuffing, you might want 1.5 boxes if you want big portions of stuffing! 

  • Moch mewn Blancedi: £1.99 ar gyfer 2 yr un

  • Pwdinau Efrog: £0.50 am becyn o 15 (2 yr un a 3 yn sbâr)

  • Moron: £0.24 am 500g

Bydd hyn yn dod i gyfanswm o £13.30, sef dim ond £2.22 y person, am fargen!

Er bod gwneud cinio Nadolig yn gallu bod yn straen, does dim cymaint o bwysau ag yr ydych chi'n meddwl sydd yna. Hyd yn oed os ydych chi'n creu llanast llwyr, does dim ots! Gallwch chi bob amser fwyta'r darnau a wnaeth weithio neu dim archebu tecawê! Beth bynnag sy'n digwydd, mae'r bobl rydych chi'n treulio'r amser gyda nhw yn bwysicach felly cewch Nadolig hwyliog a mwynhewch diwedd y semester!

 

Comments

No comments have been made. Please log in to comment.