Gair Rhydd turns 50 | Gair Rhydd yn dathlu 50 mlynedd

normalwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

Gair Rhydd, our student newspaper is celebrating its 50th anniversary this year! The newspaper has come so far since its first publication in October 1972. You can read the first ever issue here:

Gair Rhydd has received many awards over its history, including a number of the prestigious National Guardian Student Media Awards and SPA (Student publication Association) Awards, both regional and National. These awards range from Best Student Newspaper/Publication to individual awards, such as Best Sports Coverage, or Best Feature. The competition is fierce with other student publications around the country, so to win not only one but numerous awards is a great achievement and honor.

The Gair Rhydd teams cover all major events, such as the election of new Prime Ministers and political parties, resulting in exciting and powerful reporting, with the media office staying open throughout the night to obtain immediate results as they become available to deliver to the student population.

Gair Rhydd, which translates to ‘free speech’ aims to represent the student voice and covers a vast range of areas including news, reviews, politics, science, sports, and even has a welsh section!

With over 1100 issues published; the student newspaper remains a popular platform that our students love to engage with.

You can pick up your free issue of Gair Rhydd from the Students’ Union or one of our newspaper dispensers in the ASSL, CSL and the JOMEC building in Central Square.

If you wish to get involved and write for Gair Rhydd, please contact Rhydd@cardiff.ac.uk or find them on the website here


Gair Rhydd yn dathlu 50 mlynedd

Mae Gair Rhydd, ein papur newydd myfyrwyr, yn dathlu ei hanner can mlwyddiant eleni! Mae'r papur newydd wedi dod mor bell ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Hydref 1972. Gallwch ddarllen y rhifyn cyntaf erioed yma.

Mae Gair Rhydd wedi derbyn llawer o wobrau dros y blynyddoedd, gan gynnwys nifer o wobrau mawreddog Gwobrau Cyfryngau Myfyrwyr Cenedlaethol y Guardian a Gwobrau SPA (Student publication Association), yn rhanbarthol ac yn Genedlaethol. Mae'r gwobrau hyn yn amrywio o Bapur Newydd Myfyrwyr/Cyhoeddiad Gorau i wobrau unigol, fel y Sylw Chwaraeon Gorau, neu'r Erthygl Orau. Mae'r gystadleuaeth yn ffyrnig gyda chyhoeddiadau myfyrwyr eraill ledled y wlad, felly mae ennill nid yn unig un ond nifer o wobrau yn gyflawniad ac yn anrhydedd mawr.

Mae adrannau Gair Rhydd yn ymdrin â phob digwyddiad mawr, megis etholaeth Prif Weinidogion newydd a phleidiau gwleidyddol, gan arwain at gynnwys cyffrous a phwerus, gyda swyddfa'r cyfryngau yn aros ar agor drwy’r nos er mwyn bod y cyntaf i’r felin wrth gyflwyno newyddion i boblogaeth y myfyrwyr.

Nod Gair Rhydd, sy'n cyfieithu i 'siarad rhydd', yw cynrychioli llais y myfyrwyr ac mae'n cwmpasu ystod eang o feysydd gan gynnwys newyddion, adolygiadau, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth, chwaraeon, ac adran uniaith Gymraeg!

Gyda dros 1100 o rifynnau wedi'u cyhoeddi; mae papur newydd y myfyrwyr yn parhau i fod yn llwyfan poblogaidd y mae ein myfyrwyr wrth eu bodd yn ymgysylltu ag ef.

Gallwch gael eich rhifyn o Gair Rhydd yn rhad ac am ddim yn Undeb y Myfyrwyr neu o un o'n peiriannau papur newydd yn yr ASSL, CSL ac adeilad JOMEC yn y Sgwâr Canolog.

Os hoffech gymryd rhan ac ysgrifennu ar gyfer Gair Rhydd, cysylltwch â Rhydd@cardiff.ac.uk neu dewch o hyd iddynt ar y wefan yma.

Comments

No comments have been made. Please log in to comment.