Find out about the LGBTQ+ Community at Cardiff | Dysgwch am y Gymuned LHDT+ yng Nghaerdydd

Cardiff has a vibrant LGBTQ+ community, we have put together some of the communities you can join. | Mae gan Gaerdydd gymuned LHDT+ fywiog, ac rydym wedi gwneud nodyn o rai o'r cymunedau y gallwch ymuno â nhw.

No ratings yet. Log in to rate.

Cymraeg

CU Pride 

CU pride has roughly 300 members so it is a great way to meet new friends. The society often hosts 3 socials a week, there are weekly alcohol-optional socials which often include a party and at least 1 non-alcoholic social every week. 
 
Follow them on social media.

TANGGS 

In 2019 Lucas also set up a Trans+ Society called TANGGS. This is a fabulous society that hosts fortnightly discussion panels mixed in with fortnightly activity-based socials . Their aims as a society are: "to provide a social space for trans and non-binary people, as well as to educate anyone who is willing to learn about our identities".  

Trans Safe Space 

Cardiff University also hosts a recently established Trans Safe Space, which is run by and facilitated for transgender and non-binary students, which consists of meeting once a month to chat, rant and play some games in a room on Park Place. If you are interested in joining  Trans Safe Space, email at:?TransSpace@cardiff.ac.uk 

The wider city 

Cardiff as a wider city has several LGBT+ venues, such as the nightclub Pulse, Kings  and  other bars and pubs which are often visited by CU Pride for their socials. For LGBT+ people who are Christians or are interested in the Christian faith, there is an inclusive church space in the city centre called The Gathering, which aims to provide a safe space for people  to explore faith and spirituality. Additionally, there are other affirming churches in and around Cardiff, and the  SU’s Student Christian Movement society is one of these such groups.  

There is also a local Facebook group which was started by some local activists titled ‘Cardiff & Valleys Trans Meet Ups’ for trans and non-binary folk all across South Wales. They have held many social gatherings , and have also organised Trans Rights Protests in Cardiff City Centre. They also run a mutual aid page on Twitter (@SWTNMutualAid) where they host multiple projects to help our local community.  Another fantastic event in the LGBT+ Calendar is The Big Queer Picnic. This is an annual event hosted in Bute Park, which is an alternative Pride for all LGBT+ folk and can be found on Facebook.  Another venue Cardiff has to offer is Aubergine, a plant-based cafe in Riverside run by autistic and queer people which aims to be an accessible space for all.    Cardiff is also home to Glitter, a Black, Asian and Minority Ethnic LGBT+ group who recently held a virtual pride celebration and can be found on Twitter and Facebook under Glitter Cymru.  

Signposting 

Cardiff University 

Cardiff University Students Union 

Quick Links 

 


Pride Prifysgol Caerdydd  

Mae gan Pride Prifysgol Caerdydd oddeutu 300 o aelodau felly mae'n ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd. Mae'r gymdeithas yn aml yn cynnal 3 digwyddiad cymdeithasol yr wythnos, fel parti, er enghraifft, ble mae alcohol yn opsiynol ac o leiaf 1 digwyddiad di-alcohol bob wythnos.
 
Dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol.

TANGGS 

Yn 2019 sefydlodd Lucas Gymdeithas Draws+ hefyd o'r enw TANGGS. Mae hon yn gymdeithas wych sy'n cynnal paneli trafod bob pythefnos ynghyd â digwyddiadau cymdeithasol sy'n seiliedig ar weithgareddau penodol. Eu bwriad fel cymdeithas yw: “darparu gofod cymdeithasol i bobl draws ac anneuaidd, yn ogystal ag addysgu unrhyw un sy'n barod i ddysgu am ein hunaniaethau”.

Gofod Diogel i Bobl Traws

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnal Gofod Diogel i Bobl Traws, a sefydlwyd yn ddiweddar, sy'n cael ei gynnal ar gyfer myfyrwyr trawsryweddol ac anneuaidd, sy'n cynnwys cyfarfod unwaith y mis i sgwrsio, trafod a chwarae gemau mewn ystafell ym Mharc y Plas. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Gofod Diogel i Bobl Traws, ebostiwch: TransSpace@cardiff.ac.uk 

Y ddinas ehangach  

Mae gan Gaerdydd fel dinas ehangach sawl lleoliad LHDT+, fel y clwb nos Pulse, Kings a bariau a thafarndai eraill y mae Pride Prifysgol Caerdydd yn ymweld â nhw yn aml ar gyfer eu digwyddiadau cymdeithasol. Ar gyfer pobl LHDT+ sy'n Gristnogion neu sydd â diddordeb yn y ffydd Gristnogol, mae yna ofod eglwysig cynhwysol yng nghanol y ddinas o'r enw The Gathering, sydd â'r nod o ddarparu lle diogel i bobl archwilio ffydd ac ysbrydolrwydd. Yn ogystal, mae eglwysi cadarnhaol eraill yng Nghaerdydd ac ar gyrion y ddinas, ac mae  cymdeithas Mudiad Cristnogol Myfyrwyryr UM yn un o'r grwpiau hyn.

Mae yna hefyd grwp Facebook lleol a ddechreuwyd gan rai gweithredwyr lleol o'r enw 'Cardiff & Valleys Trans Meet Ups' ar gyfer pobl traws ac anneuaidd ledled de Cymru. Maent wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol, ac maent hefyd wedi trefnu Protestiadau Hawliau Traws yng nghanol Dinas Caerdydd. Maent hefyd yn rhedeg tudalen cyd-gymorth ar Twitter (@SWTNMutualAid) ) lle maent yn cynnal prosiectau lluosog i helpu ein cymuned leol. Digwyddiad gwych arall yn y Calendr LHDT+ yw The Big Queer Picnic. Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ym Mharc Bute, sy'n ddigwyddiad Pride amgen i bobl LHDT+ ac mae modd dod o hyd iddo ar Facebook. Lleoliad arall sydd gan Gaerdydd i'w gynnig yw Aubergine, caffi llysieuol yn Riverside sy'n cael ei redeg gan bobl awtistig a chwiar sydd â'r nod o fod yn ofod hygyrch i bawb. Mae Caerdydd hefyd yn gartref i Glitter, grwp LHDT+ Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a gynhaliodd ddathliad Pride rhithiol yn ddiweddar ac sydd i'w weld ar Twitter a Facebook o dan Glitter Cymru.

Arwyddbyst  

Prifysgol Caerdydd

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Dolenni Cyflym

 

Comments

No comments have been made. Please log in to comment.
 
Cardiff University Students’ Union, registered in Wales. Nothing here in contained constitutes an order for goods or services unless accompanied by an official order

Telephone | 029 2078 1400 Email | StudentsUnion@Cardiff.ac.uk Website | cardiffstudents.com Address | Park Place Cardiff CF10 3QN Charity No. | 1137163 Company Registration No. | 07328777
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, wedi’i gofrestru yng Nghymru. Nid oes dim yn gynwysedig yma yn gorchymyn am nwyddau neu wasanaeth oni bai bod archeb swyddogol yn cyd-fynd ag ef

Ffôn | 029 2078 1400 E-bost | StudentsUnion@Cardiff.ac.uk Gwefan | cardiffstudents.com Cyfeiriad | Plas y Parc Caerdydd CF10 3QN Rhif Elusen | 1137163 Rhif Cofrestredig y Cwmni | 07328777