Enjoy Cardiff’s Christmas events on a budget | Mwynhau digwyddiadau Nadoligaidd Caerdydd ar gyllideb

We’re gearing up for the Christmas period here at Cardiff Students’ Union, and we’ve found a variety of events which you can enjoy with your housemates during the holidays. From Winter Wonderland to immersive light shows, we’ve got all the information you need to enjoy the festive period on a budget!

normal
No ratings yet. Log in to rate.
A swirl of powerful LED lights at night time in Bute Park's light show

Cymraeg

We’re gearing up for the Christmas period here at Cardiff Students’ Union, and we’ve found a variety of events which you can enjoy with your housemates during the holidays. From Winter Wonderland to immersive light shows, we’ve got all the information you need to enjoy the festive period on a budget!

Winter Wonderland

During November, Winter Wonderland opened its doors to the public offering free admission to enter, with options to pay for ice skating, the famous Ferris wheel and tokens for the arcade attractions.

Split, once again, across two locations in the heart of the city centre, you can experience Cardiff’s Winter Wonderland at both Cardiff Castle and City Hall Lawn.

Make some magic moments this festive period with ice skating in Cardiff Winter Wonderland’s Ice Walk in the beautiful grounds of Cardiff Castle, with options of accessible sessions available every Wednesday afternoon between 13:30 – 14:30.

If this isn’t for you, then you could grab some festive food and drink in the Alpine Village, Ice Bar or Ski Lodge Bar – more information can be found here.

Christmas in Bute Park

Transport yourself into an awe-inspiring world of light and colour this Christmas as Wales’ biggest ever festive lights trail is back in Bute Park, with tickets now on sale.

The trail is a 1.4km route, with options of enjoying wintery street food along the way! From churros and hot dogs to pizzas and marshmallow roasting, there are options for everyone. There are three bars on the trail serving winter warmers including mulled wine and hot chocolate, so make sure to keep warm!

99% of the bulbs used on the trail are LED with the remaining 1% being high efficiency, low-energy lighting, with all generators being powered by Green D+, renewable and sustainable biofuel.

The trail includes pulsing, flashing and moving lighting effects that may affect people with photosensitive epilepsy.

Tickets are priced from £19.50, and you can book your tickets here.

Christmas Markets

One thing that is guaranteed with Cardiff’s Christmas Markets is you will be supporting talented, local producers who create amazing bespoke items. There are plenty of options to purchase original artwork, bespoke silver jewellery, traditional Welsh gifts and much more.

Find the list of all traders that are taking part on the Cardiff Christmas Market’s website here.

Immersive lightshow in St. John's Gardens (Free!)

Open daily from 8am-9pm until 11th Feb, a free lightshow installation, located in St John’s Gardens near Cardiff Market, invites people to immerse themselves in the responsive light and soundscape – which includes a version of the Welsh folksong Ar Lan y Môr, recorded by St John’s Choir.

The lightshow includes a light maze, designed by international designer Ben Busche of Brut Deluxe, which has never been seen before in Wales.

Each evening from 4pm-9pm, the Christmas Projection Show is displayed on the walls of The Old Library building on Working Street. It’s best viewed from inside St John’s Gardens so you can experience the Light Maze and Projection Show all in one evening – all for free!

Find out more here.

DIY Day Trips - Give it a Go

We have created the perfect way to explore Cardiff and must-see sights around the city. All trips are fun, accessible by foot, bike or an easily available public transport from the Students’ Union building and ideal for those on a budget.

It’s a great way to get to know Cardiff, so plan your trip using these guides:

 


Ry’n ni'n paratoi ar gyfer cyfnod y Nadolig yma yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, ac ry’n ni wedi dod o hyd i amrywiaeth o ddigwyddiadau y gallwch chi eu mwynhau gyda'ch cyd-letywyr yn ystod y gwyliau. O Wyl y Gaeaf i sioeau golau ymgolli, mae gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fwynhau’r wyl ar gyllideb!

Gwyl y Gaeaf

Yn ystod mis Tachwedd, agorodd Winter Wonderland ei ddrysau i'r cyhoedd gan gynnig mynediad am ddim, gydag opsiynau i dalu am sglefrio iâ, yr olwyn ffair enwog a thocynnau ar gyfer atyniadau’r arcêd.

Wedi’i rhannu, unwaith eto, ar draws dau leoliad yng nghanol y ddinas, gallwch brofi Gwyl y Gaeaf Caerdydd yng Nghastell Caerdydd yn ogystal â Lawnt Neuadd y Ddinas.

Gwnewch rai momentau hud y Nadolig hwn wrth sglefrio iâ ar Lwybr Iâ Gwyl y Gaeaf Caerdydd yn nhiroedd hyfryd Castell Caerdydd, gyda’r opsiwn o sesiynau hygyrch ar gael bob prynhawn Mercher rhwng 13:30 a 14:30 yma.

Nadolig ym Mharc Bute

Profwch fyd llawn golau a lliw y Nadolig hwn gan fod llwybr goleuadau Nadoligaidd mwyaf erioed Cymru yn ôl ym Mharc Bute, gyda thocynnau ar werth nawr.

Mae'r llwybr yn 1.4km o hyd, gydag opsiynau i fwynhau bwyd stryd y gaeaf ar hyd y ffordd! O churros a chwn poeth i pizzas a rhostio malws melys, mae opsiynau i bawb. Mae tri bar ar y llwybr sy'n gweini diodydd i’ch cynhesu yn ystod y gaeaf, gan gynnwys gwin cynnes a siocled poeth, felly gwnewch yn siwr o gadw'n gynnes!

Mae 99% o'r bylbiau a ddefnyddir ar y llwybr yn LED gyda'r 1% sy'n weddill yn oleuadau ynni isel, effeithlonrwydd uchel, gyda'r holl generaduron yn cael eu pweru gan Green D+, biodanwydd adnewyddadwy a chynaliadwy.

Mae'r llwybr yn cynnwys pylsio, fflachio ac effeithiau golau sy’n symud a allai effeithio ar bobl ag epilepsi ffotosensitif.

Pris y tocynnau yw £19.50, a gallwch archebu'ch tocynnau yma.

Marchnadoedd Nadolig Caerdydd

Un peth sy'n sicr gyda Marchnadoedd Nadolig Caerdydd yw byddwch chi'n cefnogi cynhyrchwyr lleol, talentog sy'n creu eitemau pwrpasol anhygoel. Mae digon o opsiynau i brynu gwaith celf gwreiddiol, gemwaith arian pwrpasol, anrhegion traddodiadol Cymreig a llawer mwy.

Dewch o hyd i'r rhestr o'r holl fasnachwyr sy'n cymryd rhan ar wefan Marchnad Nadolig Caerdydd yma.

Sioe goleuni ymdrochol yng Ngardd St. Johns (Am ddim!)

Ar agor bob dydd rhwng 8yb a 9yh tan 11 Chwefror, bydd sioe goleuni am ddim, a leolir yng Ngardd Sant Ioan ger Marchnad Caerdydd, yn gwahodd pobl i ymgolli yn y goleuni ymatebol a'r synau – sy'n cynnwys fersiwn o'r gân werin Gymraeg Ar Lan y Môr, a recordiwyd gan Gôr St John's.

Mae'r sioe goleuni yn cynnwys drysfa goleuni, a ddyluniwyd gan y dylunydd rhyngwladol Ben Busche o Brut Deluxe, sydd erioed wedi'i weld o'r blaen yng Nghymru.

Bob nos rhwng 4yh a 9yh, dangosir Sioe Daflunio Nadolig ar waliau adeilad yr Hen Lyfrgell ar Stryd Working. Mae'n cael ei weld orau o thu mewn i Erddi Sant Ioan er mwyn i chi gael profiad o'r Drysfa Goleuni a'r Sioe Daflunio i gyd mewn un noson – ac i gyd am ddim!


Cewch ragor o wybodaeth yma.

Teithiau Dydd DIY – Rho Gynnig Arni

Rydym wedi creu'r ffordd berffaith i archwilio Caerdydd a’r golygfeydd anhygoel o amgylch y ddinas. Mae'r holl deithiau'n hwyl, mae modd cyrraedd ar droed, beic neu mae trafnidiaeth cyhoeddus ar gael yn rhwydd o adeilad Undeb y Myfyrwyr. Maent hefyd yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd ar gyllideb.

Mae'n ffordd wych o ddod i adnabod Caerdydd, felly cynlluniwch eich taith gan ddefnyddio'r canllawiau hyn:


 

Comments

No comments have been made. Please log in to comment.