Cymraeg
Discussing Disability Sports at Cardiff University
"In my experience, I found that sports clubs has been one of the best parts about being at University"
With Welsh Varsity around the corner and Cardiff filled with the energy of the Six Nations, there’s no better time to think about your own potential in the world of sport.
Cardiff Student Union’s VP Sports and Athletic Union President, Olivia, is joined by third-year para-athletes Nils and Jacob. In this episode, they talk about the disability provision in sport at Cardiff University, and their personal experience of playing and competing at different levels. Their biggest message... 'You're just as much a part of the club as anybody else!'
Regardless of ability and previous experience within a sport, the group discusses the physical, mental and social benefits of joining a sports team or club - Every team member has the same goals in mind, meaning anybody is more than willing to have people join their sports clubs.
So why not get involved and join a club or society this term? As Nils says, no matter who you are 'the clubs are ready for you to join, you just need to come along, try it out and see if you enjoy it!'
Click below to listen to the convo, and maybe you’ll want to get involved!
For more information on the sports clubs and societies at Cardiff Student’s Union, check out our activities pages. For wellness support and information, Advice are always available!
Trafod Chwaraeon Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd
"O’m mhrofiad i, mae clybiau chwaraeon wedi bod yn un o'r pethau gorau am fod yn y Brifysgol"
Gyda Varsity Cymru rownd y gornel a Chaerdydd yn llawn cyffro'r Chwe Gwlad, does dim amser gwell i feddwl am eich potensial eich hun yn y byd chwaraeon.
Bydd para-athletwyr y drydedd flwyddyn, Nils a Jacob, yn ymuno ag Olivia, IL Chwaraeon a Llywydd Undeb Athletau Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Yn y bennod hon, maen nhw’n sôn am y ddarpariaeth anabledd mewn chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd, a’u profiad personol o chwarae a chystadlu ar wahanol lefelau. Eu neges fwyaf... 'Rwyt ti'n gymaint rhan o'r clwb ag unrhyw un arall!'
Beth bynnag yw gallu a phrofiad blaenorol pobl o fewn camp, mae’r grŵp yn trafod manteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol ymuno â thîm neu glwb chwaraeon - Mae gan bob aelod tîm yr un nodau mewn golwg, sy’n golygu bod unrhyw un ohonynt yn fwy na pharod i gael pobl yn ymuno â’u clybiau chwaraeon.
Felly beth am gymryd rhan ac ymuno â chlwb neu gymdeithas y tymor hwn? Fel y mae Nils yn ei ddweud, pwy bynnag ydych chi 'mae'r clybiau'n barod i chi ymuno â nhw, mae ond angen i chi ddod draw, rhoi cynnig arni a gweld a ydych chi'n mwynhau!'
Cliciwch isod i wrando ar y sgwrs, ac efallai y byddwch am gymryd rhan!
I gael rhagor o wybodaeth am glybiau a chymdeithasau chwaraeon Undeb Myfyrwyr Caerdydd, edrychwch ar ein tudalennau gweithgareddau. Ar gyfer cymorth a gwybodaeth lles, mae Cyngor wastad ar gael!