Shwmae! Trystan ydw i, rydw i’n astudio Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth a fi yw eich Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol.
Dechreuodd fy nghyflwyniad i weithredu cynaliadwy pan ddysgais am effaith niweidiol y diwydiant ffasiwn ar yr amgylchedd; gwnaeth hyn fy ysgogi i flaenoriaethu cynaliadwyedd gyda fy nillad i ac i fod yn llywydd ar y Gymdeithas Ffasiwn Gynaliadwy yn fy ail flwyddyn. Yn ystod fy nghyfnod yn y rôl tyfodd fy angerdd am gynaliadwyedd ynghyd â fy mharch tuag at yr holl unigolion sy’n gweithredu o blaid yr amgylchedd y cwrddais â fel rhan o’r gymuned. Fy nod, fel un o’ch cynrychiolwyr etholedig, yw gweithredu rhaglenni lleihau gwastraff megis system rhoi a benthyg gwisgoedd, a lleihau’r ôl troed carbon a gwastraff sy’n cael eu creu gan fwyd o fewn y Brifysgol.