Response to Cardiff Council Parking Consultation | Ymateb i Ymgynghoriad Parcio Cyngor Caerdydd

featured
No ratings yet. Log in to rate.

Students, we’re angry!

We know you’re all pretty used to us reaching out when it’s about academic matters— lectures, exams, feedback on teaching, or about campaigns that aim to make the University experience safer and more inclusive. But this time, we're talking about something different that could impact your day-to-day life here: parking.

Cardiff Council is running a consultation on new parking proposals around the city, and one of the big changes they’re suggesting? No more parking permits for students!

As members of the community, you have every right to make your voices heard on this. Whether you drive daily, need flexibility for work, make use of your friend's car, or don’t drive at all and just care about how accessible the area is for students, your input really matters. So, let’s make sure students aren’t left out of this conversation! Read on to find out how you can get involved and have your say.

Why us, why only students?

It is disappointing to see students singled out as a group that seemingly does not warrant equal access to essential services, which gives the impression that we are not valued residents of this city.

We know that students have a significant impact on the local economy, both in direct spending but also supporting thousands of jobs – to treat students as a separate class of resident in this manner suggests a lack of recognition for our vital contributions to Cardiff, both economically and socially.

Impact on the diverse needs of students

While we absolutely support Cardiff’s efforts to reduce environmental impacts and acknowledge the parking challenges in areas like Cathays, penalising students solely on the basis of our student status is unfair and creates a worrying divide.

Many of our students rely on cars for essential reasons:

  • Traveling to academic placements or part-time jobs - speak to the many medical and healthcare students travelling to remote parts of Wales on placement and ask them if the Welsh public transport system would be able to get them there?
  • Essential travel for students with access needs – some who have no choice but to drive to access their lectures or seminars as there are parts of the public transport system that are not accessible to their needs.
  • Students who have caring responsibilities – many of who may have to drive to classes in between taking children to nursery or caring for sick relatives.
  • Students travelling for activities – many students use their own vehicles to attend sporting fixtures or society events across different parts of the city and country. Early mornings and late starts to many activities mean public transport isn’t always an option, and we know it’s not always the most reliable!
  • Students going about day-to-day activities – from going to the supermarket (and may we add we carpool en masse to do this) to picking up furniture or attending GP appointments. The basic activities that other individuals in the community get the luxury of using their car for.

These needs reflect the diverse, complex lives of students, and to deny them permits risks treating students as second-class citizens.

Impact on Cardiff University

This proposal could have far-reaching implications, making studying at Cardiff University inaccessible for some students, restricting student liberties and potentially impacting student satisfaction, and it risks long-term repercussions on Cardiff’s reputation as a welcoming, inclusive city for students.

We will be asking the Vice Chancellor and University staff to support us in countering these proposals as we know this will impact how students see the city and University.

What next?

As a Students' Union, we will be launching a campaign in response to the consultation, we will be engaging directly with Cardiff Council to ensure students’ voices are clearly heard in this process.

We will be asking to meet with council leaders, local councillors, local MPs and Members of the Senedd and trying to build a coalition of stakeholders to support students in making this case.

We believe that together, we can advocate for a balanced solution that supports both environmental aims and the essential needs of our student population.

Get involved

If this sounds like something you want to support, here are the ways you can get involved in our campaign:

  1. Reply directly the parking consultation here - the more student voices to fill this in the louder we will be heard. You have until the 1st December to complete the response.
  2. Sign our petition here.
  3. Fill out our student survey here – we want to gather case studies on the diverse needs of students and why this decision will negatively impact you in many ways
  4. Write to your local MP / MS – speak directly to your local politicians who are suppose to represent your voice. Students in Cardiff are a significant part of the demographic and have a strong voice to use. Tell them to speak up for you.

Your Sabbatical Officer Team, 2024-25

Myfyrwyr, rydyn ni’n grac!

Rydyn ni'n gwybod eich bod wedi hen arfer â ni’n estyn allan ynglŷn â materion academaidd – darlithiau, arholiadau, adborth ar ddysgu, neu ynglŷn ag ymgyrchoedd gyda’r nod o wneud eich profiad Prifysgol yn fwy cynhwysol a’n ddiogel. Ond tro yma, rydym yn siarad am rywbeth gwahanol a all effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd yma: parcio.

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion parcio newydd o amgylch y ddinas, ac un o’r newidiadau mwyaf maent yn ei argymell? Dim mwy o drwyddedau parcio i fyfyrwyr!

Fel aelodau o’r gymuned, mae gennych bob hawl i leisio eich barn am hyn. Boed os ydych yn gyrru’n ddyddiol, angen hyblygrwydd ar gyfer gwaith, yn defnyddio car ffrind, neu ddim yn gyrru ond yn gwerthfawrogi pwysigrwydd hygyrchedd i fyfyrwyr, mae eich mewnbwn yn bwysig. Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn rhan o’r drafodaeth! Darllenwch ymhellach i ddysgu sut allwch gymryd rhan a chael eich dweud.

Pam ni, pam myfyrwyr yn unig?

Mae’n siomedig gweld myfyrwyr yn cael eu dynodi fel grŵp nad sydd, yn ôl pob golwg, yn haeddu mynediad cyfartal at wasanaethau hanfodol, sy’n rhoi’r argraff nad ydynt wedi’u gwerthfawrogi fel trigolion o’r ddinas hon.

Rydym yn gwybod bod myfyrwyr yn cael effaith sylweddol ar yr economi leol, trwy wario’n uniongyrchol ond hefyd trwy gefnogi miloedd o swyddi – mae trin myfyrwyr fel dosbarth gwahanol o drigolion yn y modd hwn yn awgrymu diffyg cydnabyddiaeth o’u cyfraniadau hanfodol i Gaerdydd, yn economaidd ac yn gymdeithasol.

Effaith ar anghenion amrywiol myfyrwyr

Tra ein bod yn gefnogol o ymdrechion Caerdydd i leihau effeithiau amgylcheddol, ac rydym yn cydnabod yr heriau parcio mewn ardaloedd fel Cathays, mae cosbi myfyrwyr ar sail eu statws fel myfyrwyr yn unig yn annheg ac yn creu rhaniad annymunol.

Mae llawer o’n myfyrwyr yn dibynnu ar geir am resymau hanfodol:

  • Teithio i leoliadau academaidd neu swyddi rhan-amser - siaradwch gyda’r holl fyfyrwyr meddygol a gofal iechyd sy’n teithio i ardaloedd anghysbell yng Nghymru ar gyfer lleoliadau, a gofynnwch iddynt a fyddai system drafnidiaeth gyhoeddus Cymru yn gallu eu cael nhw yno.
  • Teithio hanfodol ar gyfer myfyrwyr gydag anghenion hygyrchedd – yr unig opsiwn sydd gan rhai pobl yw gyrru er mwyn cael mynediad at eu darlithiau a seminarau gan nad yw rhannau o’r system drafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch ar gyfer eu hanghenion.
  • Myfyrwyr gyda chyfrifoldebau gofalu – gall fod angen i’r myfyrwyr yma gyrru i wersi rhwng mynd â’u plant i ysgol feithrin neu ofalu am berthnasau sy’n sâl.
  • Myfyrwyr sy’n teithio ar gyfer gweithgareddau – mae llawer o fyfyrwyr yn defnyddio eu cerbydau eu hunain i fynychu gemau chwaraeon neu ddigwyddiadau cymdeithasau ar draws y ddinas a’r wlad. Gall boreau cynnar a dechreuadau hwyr golygu nad yw trafnidiaeth gyhoeddus bob tro’n opsiwn, ac rydym yn gwybod nad yw’r mwyaf dibynadwy chwaith!
  • Gweithgarwch myfyrwyr o ddydd i ddydd – o fynd i’r archfarchnad (a hoffem ychwanegu ein bod fel arfer yn rhannu ceir mewn grwpiau mawr i wneud hyn), i gasglu dodrefn, neu fynychu apwyntiadau meddyg teulu. Gweithgareddau sylfaenol gall unigolion eraill yn gymuned defnyddio ceir ar eu cyfer.

Mae’r anghenion yma’n adlewyrchu bywydau amrywiol a chymhleth myfyrwyr, a thrwy wrthod trwyddedau iddynt mae perygl o drin myfyrwyr fel dinasyddion eilradd.

Effaith ar Brifysgol Caerdydd

Gallai’r cynnig hwn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol, gan wneud astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn anhygyrch ar gyfer rhai myfyrwyr, cyfyngu ar ryddid myfyrwyr, ac o bosib effeithio ar fodlonrwydd myfyrwyr, ynghyd â pheri risg o effeithiau hirdymor ar enw da Caerdydd fel dinas groesawgar a chynhwysol i fyfyrwyr.

Byddwn yn gofyn i’r Is-ganghellor a staff y Brifysgol ein cefnogi wrth wrthwynebu’r cynigion yma gan ein bod yn gwybod y bydd hyn yn effeithio ar sut mae myfyrwyr yn gweld y ddinas a’r Brifysgol.

Beth nesaf?

Fel Undeb Myfyrwyr, byddwn yn lansio ymgyrch mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan ymgysylltu’n uniongyrchol gyda Chyngor Caerdydd er mwyn sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed yn y broses.

Byddwn yn gofyn i gwrdd ag arweinwyr y cyngor, cynghorwyr lleol, AS lleol, ac Aelodau o’r Senedd, ac yn ceisio adeiladu cynghrair o randdeiliaid i gefnogi myfyrwyr wrth wneud yr achos hwn.

Rydym yn credu y gallwn, ar y cyd, eirioli dros ddatrysiad cytbwys sy’n cefnogi amcanion amgylcheddol ac anghenion hanfodol ein myfyrwyr.

Cymryd rhan:

Os hoffech gefnogi’r ymgyrch hon, mae yna nifer o ffyrdd gallwch gymryd rhan:

  1. Ymateb i’r ymgynghoriad parcio yma - po fwyaf o fyfyrwyr sy'n cyfrannu po fwyaf y bydd ein lleisiau’n cael eu clywed. Mae gennych tan y 1af o Ragfyr i gwblhau eich ymateb.
  2. Llofnodwch ein deiseb yma.
  3. Llenwch ein harolwg yma rydym am gasglu esiamplau o anghenion amrywiol myfyrwyr a sut y byddai’r penderfyniad hwn yn effeithio’n negyddol arnoch.
  4. Ysgrifennwch yn uniongyrchol at eich cynrychiolydd yn San Steffan ac AS lleol – siaradwch yn uniongyrchol gyda’ch gwleidyddion lleol sydd i fod i gynrychioli eich llais. Mae myfyrwyr yng Nghaerdydd yn rhan sylweddol o'r demograffig ac mae gennym lais cryf. Dywedwch wrthyn nhw i eirioli ar eich rhan.

Eich Tîm Swyddogion Sabothol, 2024-25

Comments