Parking news update | Y newyddion diweddaraf ynghylch parcio

No ratings yet. Log in to rate.

Last year we wrote to you, asking you to help us fight Cardiff Council’s ban on students getting parking permits in Cathays. Many of you submitted responses to surveys, filled in the council’s consultation and told us how this ban would impact you.

We have now spoken to the council and have received an update. Students are now allowed parking permits- but only one per household, while all other residents are allowed more. This still fails to take into account that the majority of students are dependent on work to fund their studies or need cars to undertake vital placements.

If this passes, students will be forced to have awkward chats with their housemates about who gets to have the car, not live with their course mates so that they can travel to placement or, as suggested by councillor Dan De’ath, not live in Cathays- away from their community, work and suitable housing.

We are still committed to fighting this discriminatory policy, who’s aim is to throw students under the bus in an attempt to gain votes in a Senedd election year. Cathays is a community and pitting students and other residents against each other benefits nobody.

This is where you come in. Below is a draft for a letter you can send to your local representatives (MPs, MSs or councillors), asking them to oppose this policy. We encourage you to personalise them as much as you can- bringing in your own personal experiences and how it’ll affect you. We also want to encourage you to register to vote in the upcoming Senedd elections. Students don’t traditionally turn out, and this empowers politicians to take us for granted or throw us under the bus when convenient. Being engaged is powerful and we will be advocating for more student issues as the election comes closer.

Maria, your SU President & the Sabbatical Officer team 2025-26

Open letters

Download Word docs: 

FOR GENERAL STUDENTS

FOR MEDICAL / HEALTHCARE STUDENTS


View pdfs: 

FOR GENERAL STUDENTS

FOR MEDICAL / HEALTHCARE STUDENTS

Y llynedd, ysgrifennon ni atoch chi, yn gofyn i chi ein helpu ni i ymladd yn erbyn gwaharddiad Cyngor Caerdydd ar fyfyrwyr rhag cael trwyddedau parcio yn Cathays. Cyflwynodd llawer ohonoch ymatebion i arolygon, yn ogystal â chwblhau ymgynghoriad y cyngor, a dywedoch wrthym sut y byddai'r gwaharddiad hwn yn effeithio arnoch chi.

Rydym bellach wedi siarad â'r cyngor ac wedi derbyn diweddariad. Caniateir trwyddedau parcio i fyfyrwyr nawr - ond dim ond un i bob aelwyd, er bod mwy yn cael eu caniatáu i bob preswylydd arall. Mae hyn yn dal i fethu â chymryd i ystyriaeth fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ddibynnol ar waith i ariannu eu hastudiaethau neu fod angen ceir arnynt i ymgymryd â lleoliadau gwaith hanfodol.

Os caiff hyn ei basio, bydd yn rhaid i fyfyrwyr gael sgyrsiau lletchwith â'u cyd-letywyr ynglŷn â phwy sy'n cael cadw’r car, peidio â byw gyda'u cyd-fyfyrwyr ar y cwrs fel y gallant deithio i leoliad gwaith neu, fel yr awgrymwyd gan y cynghorydd Dan De'ath, peidio â byw yn Cathays - i ffwrdd o'u cymuned, gwaith a thai addas.

Rydym yn dal i fod wedi ymrwymo i ymladd yn erbyn y polisi gwahaniaethol hwn, sydd â'r nod o daflu myfyrwyr dan y bws mewn ymgais i ennill pleidleisiau mewn blwyddyn etholiad Senedd. Mae Cathays yn gymuned, ac nid yw gosod myfyrwyr a thrigolion eraill benben â’i gilydd o fudd i neb.

Dyma ble rydych chi'n dod i mewn. Isod mae drafft ar gyfer llythyr y gallwch ei anfon at eich cynrychiolwyr lleol (ASau, ASCau neu gynghorwyr), yn gofyn iddyn nhw wrthwynebu'r polisi hwn. Rydym yn eich annog i'w gwneud nhw’n bersonol cymaint ag y gallwch - gan gynnwys eich profiadau eich hun a sut y bydd yr hyn a gynigir yn effeithio arnoch chi. Rydym hefyd eisiau eich annog i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd sydd ar ddod. Yn draddodiadol, nid yw myfyrwyr yn troi allan i bleidleisio, ac mae hyn yn rhoi cyfle i wleidyddion i'n cymryd yn ganiataol neu gymryd mantais ohonom pan fo hynny’n gyfleus. Mae bod yn ymgysylltiedig yn bwerus, a byddwn yn dadlau dros fwy o faterion myfyrwyr wrth i'r etholiad agosáu.

Maria, Llywydd eich Undeb Myfyrwyr a thîm y Swyddogion Sabothol 2025-26

LLYTHYRAU AGORED

Lawrlwytho dogfennau Word:

AR GYFER MYFYRWYR CYFFREDINOL

AR GYFER MYFYRWYR MEDDYGAETH / GOFAL IECHYD

Gweld ffeiliau pdf:

AR GYFER MYFYRWYR CYFFREDINOL

AR GYFER MYFYRWYR MEDDYGAETH / GOFAL IECHYD

 

Comments