Cynllun Treialu Prawf Anadl ar hyd y ddinas

Menter newydd gan Heddlu De Cymru

Cymraeg
No ratings yet. Log in to rate.

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn nifer o fentrau mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Mae’r cynllun prawf anadl presennol yn cael ei gyflwyno mewn lleoliadau ar draws y ddinas ac wedi’i weithredu gan dîm trwyddedu Heddlu De Cymru a wnaeth ofyn i Undeb y Myfyrwyr i gymryd rhan. Mae Undeb y Myfyrwyr yn hapus i gefnogi unrhyw ymgyrch sy’n hyrwyddo ac yn annog yfed yn gyfrifol, fel y gwelwyd drwy i ni ymwneud â ‘Know the Score’ a’r cynllun Bws Diogelwch. Nid oedd effaith masnachol, naill ai'n gadarnhaol neu'n negyddol, wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar benderfyniad Undeb y Myfyrwyr i gymryd rhan yn y cynllun prawf hwn.

Mae’r cynllun prawf anadl ond yn un rhan o’r broses o gael mynediad wrth y drws ac felly nid dyna fydd yr unig reswm dros wrthod mynediad. Yn gyfreithiol, ni all lleoliad trwyddedig weini person meddw neu eu galluogi i aros ar y safle. Mae ein staff wrth y bar a’r drws yn derbyn hyfforddiant ar hyn i’w helpu i ymdrin â chwsmeriaid yn y digwyddiadau. Fel lleoliad ar gyfer adloniant, mae Undeb y Myfyrwyr yn cymryd mesurau uwchlaw rhai lleoliadau masnachol eraill i sicrhau diogelwch a lles ei gwsmeriaid. Mae gan fyfyrwyr sy'n gadael Undeb y Myfyrwyr, a ystyrir gan staff diogelwch i fod mewn sefyllfa agored i niwed, fynediad i gynlluniau Bws Diogel a Chynllun Tacsi Diogel.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cymryd mesurau uwchlaw rhai lleoliadau masnachol eraill i sicrhau diogelwch a lles ei gwsmeriaid.

Mae Claire Blakeway, Llywydd Undeb Myfyrwyr eisiau chwalu unrhyw fythau fod hyn yn gynllun er mwyn i Undeb y Myfyrwyr wneud arian. "Mae hon yn fenter ar hyd y ddinas i hyrwyddo yfed cyfrifol y mae Undeb y Myfyrwyr yn cydweithredu âg, ac nid oes gennym unrhyw fwriad o gwbl ac nid ydym yn credu y byddwn yn gwneud unrhyw elw masnachol o hyn."

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd iechyd a lles ein haelodau o ddifri ac fe fyddwn yn parhau i gefnogi ymgyrchoedd a mentrau sy'n cyfrannu at hyn. Gall ein tîm Cyngor i Fyfyrwyr gynnig help a chyngor ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys yfed alcohol.

Comments

No comments have been made. Please log in to comment.
 
Cardiff University Students’ Union, registered in Wales. Nothing here in contained constitutes an order for goods or services unless accompanied by an official order

Telephone | 029 2078 1400 Email | StudentsUnion@Cardiff.ac.uk Website | cardiffstudents.com Address | Park Place Cardiff CF10 3QN Charity No. | 1137163 Company Registration No. | 07328777
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, wedi’i gofrestru yng Nghymru. Nid oes dim yn gynwysedig yma yn gorchymyn am nwyddau neu wasanaeth oni bai bod archeb swyddogol yn cyd-fynd ag ef

Ffôn | 029 2078 1400 E-bost | StudentsUnion@Cardiff.ac.uk Gwefan | cardiffstudents.com Cyfeiriad | Plas y Parc Caerdydd CF10 3QN Rhif Elusen | 1137163 Rhif Cofrestredig y Cwmni | 07328777