Cymraeg

The most important meal of the day

We all know breakfast is the most important meal for the day but do you know why? Apart from providing us with energy, breakfast foods are good sources of important nutrients such as calcium, iron and B vitamins as well as protein and fibre.

The body needs these essential nutrients and research shows that if these are missed at breakfast, they are less likely to be compensated for later in the day.

Getting the balance right

When you sleep, your metabolism slows because your body has fewer requirements. Starting your day with breakfast initiates the metabolic process of digesting and transporting food.

Avoiding illness

People who eat breakfast are half as likely to have blood-sugar problems, which can increase the risk of developing diabetes, having high cholesterol, and risk factor for heart disease.

Turn that frown upside down

Researchers believe that eating first thing in the morning may help to stabilise blood sugar levels, which regulate appetite and energy, making you feel ready to face anything the day has to throw at you.

Staying in shape

People who eat breakfast were third less likely to be obese compared to those who skipped the meal. 78% of people who lose weight and keep it off long term have breakfast regularly

Boosting brain power

Your brain needs fuel just as the rest of your body does. After fasting overnight, your brain’s supply of glucose, its main source of energy, is depleted. Having a good breakfast gives your brain the fuel it needs.

#EatWellCSU

 


Pryd pwysicaf y dydd

Mae pawb yn gwybod mai brecwast yw pryd pwysicaf y dydd ond ydych chi'n gwybod pam? Ar wahân i roi egni i ni, mae bwydydd brecwast yn ffynonellau da o faetholion pwysig fel calsiwm, haearn a fitaminau B yn ogystal â phrotein a ffibr.

Mae angen y maetholion hanfodol hyn ar y corff ac mae ymchwil yn dangos os caiff y rhain eu methu amser brecwast, maent yn llai tebygol o gael eu bwyta yn ddiweddarach yn y dydd.

Sicrhau Cydbwysedd

Pan fyddwch chi'n cysgu, mae eich metaboledd yn arafu oherwydd bod gan eich corff lai o ofynion. Mae dechrau eich diwrnod gyda brecwast yn cychwyn y broses metabolig o dreulio a chludo bwyd.

Osgoi salwch

Mae pobl sy'n bwyta brecwast hanner mor debygol o gael problemau siwgr gwaed, a all gynyddu'r risg o ddatblygu diabetes, cael colesterol uchel, ac yn ffactor risg ar gyfer clefyd y galon.

Peidiwch gwgu, gwenwch!

Mae ymchwilwyr yn credu y gallai bwyta peth cyntaf yn y bore helpu i sefydlogi lefelau siwgr yn y gwaed, sy'n rheoleiddio chwant bwyd ac egni, a’ch paratoi i wynebu heriau’r dydd.

Cadw’n ffit

Mae pobl sy'n bwyta brecwast yn drydydd yn llai tebygol o fod yn ordew o'u cymharu â'r rhai sy’n hepgor brecwast. Mae 78% o bobl sy'n colli pwysau ac yn cynnal y pwysau hwn yn hir dymor yn cael brecwast yn rheolaidd.

Hybu pŵer yr ymennydd

Mae angen egni ar eich ymennydd yn ogystal â gweddill eich corff. Ar ôl ymprydio dros nos, mae cyflenwad glwcos eich ymennydd, ei brif ffynhonnell egni, yn disbyddu. Mae cael brecwast da yn rhoi'r egni sydd ei angen ar eich ymennydd.