To apply, please fill in the Typeform
here. Ensure that you have read all the below information before applying.
The website is current under construction (as of 4th Sept 2026). The new application form will be live shortly)
Join the Give it a Go Team
The Give it a Go Team is made up of a small group of students who are passionate about helping others get the best out of their time at University. This is often travel - helping people to explore more of the UK both day trips and overnight trips - or sometimes small events, such as pumpkin carving, and welcoming others by offering campus, city & SU tours to new students.
Tell me more about the role
There are two roles available: trip leader and content creator.
The trip leader takes responsibility for the running of the trip, which includes taking attendance of students, working with the coach driver and making coach announcements. You’ll be a friendly face, whilst ensuring that processes are followed and the students are kept informed.
The content creator will be there to capture the day. You’ll be taking photos of the destination and turning them into stories for Instagram. You may also be creating fun and on-trend videos for reels/TikTok. An ideal candidate would be comfortable being on camera but this is not mandatory.
Both roles include a significant amount of free time in the destination – when you have no volunteering responsibilities, you are welcome to explore and enjoy at your leisure.
Though the roles are defined, there will be some overlap and we expect a willingness to support across the team. This may be the trip leader holding the camera to film the content creator or may mean the content creator helping to direct students back to the coach.
What is the commitment?
You’d be expected to volunteer on at least 3 trips (or, occasionally, events) in each the autumn and spring semesters – though there will often be scope to get more involved. Ad-hoc events run during summer that you can get involved in also.
There will be the opportunity for a select number of team members to go to Edinburgh on a 3 day trip, which previous volunteers have told us is a highlight.
What will you gain?
As well as a fantastic opportunity to get involved with us and the Students’ Union, gaining skills and experience you will also gain:
- A place as an upstanding member of the Give it a Go family
- A reference from the Students’ Union.
- First Aid Training
- Free leader places on Give it a Go Day Trips
- £15 lunch expenses for each excursion
Selection Process
You’ll be required to complete a typeform application. If you are successful at the application stage you will be invited to attend an interview.
Apply!
To apply please complete the Typeform below
Applications shut 5th October at 9am but we reserve the right to close applications earlier, so we suggest applying early.
If you have any questions we’d love to hear from you, feel free to email Karl, our GIAG Coordinator at [email protected]. Thank you for your time – best of luck!
Er mwyn ymgeisio, llenwch y ffurflen
hon. Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl wybodaeth isod cyn ymgeisio.
Ymuno â Thîm Rho Gynnig Arni
Mae tîm Rho Gynnig arni yn cynnwys yr unigolion mwyaf angerddol ac ymroddedig, sy’n ymdrechu i gyfrannu at, a gwella, profiad y myfyrwyr. Mae ganddynt yr ymroddiad a'r sgiliau i wneud penderfyniadau sy'n helpu Rho Gynnig Arni i esblygu. Mae rhywbeth at ddant pawb, o waith swyddfa yn cynllunio digwyddiadau bach neu drefnu teithiau dros nos, i arwain teithiau mewn lleoliadau anhygoel a chymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws y campws.
Mae hwn yn gyfle gwych i gymryd rhan yng nghyfleoedd Undeb y Myfyrwyr, gan agor y drws i gyfleoedd pellach a fydd yn edrych yn wych ar eich CV!
Mae tîm Rho Gynnig Arni wedi mynd ymlaen i fod yn hynod lwyddiannus, gydag aelodau'n dod yn swyddogion sabothol, myfyrwyr ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr a Llywyddion Undeb y Myfyrwyr. Roedd llywydd UCM Cymru 2022-2024 hyd yn oed ar y tîm, felly byddwch yn dilyn ôl traed unigolion gwych. Mae profiad fel hyn yn eich galluogi i dyfu a datblygu, yn ogystal â helpu gwella profiad myfyrwyr.
Beth yw’r rolau?
Mae gennym nifer o wahanol rolau, gyda graddau amrywiol o ymrwymiad. Mae'r rhain wedi'u rhannu'n ddau gategori: mae rolau swyddfa yn golygu cymryd cyfrifoldeb am faes allweddol o Rho Gynnig Arni, fel rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol neu ymchwil y tu ôl i'r llen; mae yna hefyd wirfoddolwyr sy’n mynd i ddigwyddiadau a theithiau er mwyn helpu eu cynnal, Neu gallwch chi wneud y ddau!
Aelodau'r Tîm Digwyddiadau & Theithiau
• Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio mewn tîm bach (fel arfer o 2) yn cefnogi teithiau a digwyddiadau Rho Gynnig Arni. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda myfyrwyr, gyrwyr bysiau, y cydlynydd digwyddiadau bach, a chydlynydd Rho Gynnig Arni. Mae’r digwyddiadau’n allanol gan amlaf, ond bydd disgwyl i chi ddod i sesiwn briffio yn y swyddfa gyda chydlynydd Rho Gynnig Arni cyn/ar ôl y daith neu'r digwyddiad. Byddem yn annog pawb sy'n gwirfoddoli gyda Rho Gynnig Arni i wneud cais i fod yn aelod o’r tîm, er nad yw hyn yn orfodol.
Arweinydd Tîm Digwyddiadau Bach (sawl rôl ar gael)
• Cynllunio ac arwain rhaglen o ddigwyddiadau bach ar gyfer Rho Gynnig Arni. Gall hyn gynnwys cynllunio digwyddiadau'n uniongyrchol, a goruchwylio a chynnal digwyddiadau a gynlluniwyd ymlaen llaw fel pêl-droed swigen a mini-golff yn yr UM. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn arwain gwahanol ddigwyddiadau, sesiynau briffio ar gyfer aelodau'r tîm, ac yn cysylltu â staff llawn amser. Mae'r rôl wedi'i lleoli yn yr UM, yn rhannol yn y swyddfa ac yn rhannol yn cynnal digwyddiadau. Bydd y rôl yn gweithio'n agos gyda chydlynydd Rho Gynnig Arni ac aelodau'r tîm.
Swyddog Gweithgareddau Cymdeithasol
• Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu rhaglen amrywiol a diddorol o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr sy'n gwirfoddoli, gan gynnwys cyfarfodydd, digwyddiadau cymdeithasol (alcohol a di-alcohol) a theithiau achlysurol. Bydd y rôl yn gymysgedd o waith swyddfa a chynnal digwyddiadau cymdeithasol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda chydlynydd Rho Gynnig Arni ac aelodau'r tîm.
Mwy o wybodaeth am y rolau
Beth yw’r ymrwymiad?
Mae’r ymrwymiad o fod yn wirfoddolwr Rho Gynnig Arni yn debyg i fod yn aelod o bwyllgor. Ar gyfer rolau gyda gwaith swyddfa, disgwylir 2 awr yr wythnos, naill ai wrth y ddesg neu mewn digwyddiadau lle bo angen. Ar gyfer rolau teithiau a digwyddiadau, byddai disgwyl i chi wirfoddoli mewn tua 3-4 digwyddiad y tymor. Bydd hefyd cyfarfodydd a digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd y bydd disgwyl i chi eu mynychu. Mae'r ymrwymiad yn para o fis Hydref i ddiwedd semester 2. Efallai y bydd digwyddiadau ad-hoc yn nhymor 3 ond ni fyddai'r un disgwyliadau ag yn y ddau semester cyntaf.
Beth yw’r budd i chi?
Yn ogystal â chyfle gwych i gymryd rhan gyda ni ac Undeb y Myfyrwyr, gan ennill sgiliau a phrofiad, byddwch hefyd yn ennill:
- Bod yn rhan o deulu Rho Gynnig Arni
- Geirda CV gan Undeb y Myfyrwyr
- Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
- Rôl arweiniol ar deithiau Rho Gynnig Arni
- Digwyddiadau cymdeithasol trwy gydol y flwyddyn
- £10 ar gyfer ciniawau tra ar deithiau
Y broses ddethol
Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gais. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam hwn, cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad.
Ymgeisio!
I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen isod
Bydd ceisiadau'n cau ar y 20fed o Ionawr 2025 am 9yb.
Cwestiynau Cyffredin
C. A yw hon yn swydd gyflogedig? A. Nid yw hon yn swydd gyflogedig – byddech chi, fodd bynnag, yn dod yn arbenigwr yn yr Undeb Myfyrwyr a bydd gennych ddealltwriaeth lawer gwell o'r holl gyfleoedd cyflogedig amrywiol o fewn Undeb y Myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn. Byddwch hefyd yn ennill ac yn datblygu nifer helaeth o sgiliau a fydd yn hybu eich cyflogadwyedd cyffredinol.
C. Sut fydd gwaith swyddfa yn cael ei ddyrannu? A. Byddwn yn trafod â chi pan fydd gennych eich amserlen ac yn dod o hyd i slot sy'n gweithio i chi bob wythnos.
C. A allaf reoli'r ymrwymiad hwn? A. Nid yw aelodau blaenorol o'r tîm wedi cael unrhyw broblemau wrth reoli'r ymrwymiadau. Rydym yn sicrhau bod yr ymrwymiad yn lleihau ymhell cyn arholiadau a dyddiadau cau gwaith cwrs mawr. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol o ymrwymo i ormod o brosiectau mawr, clybiau a chymdeithasau ar unwaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, byddem wrth ein bodd clywed gennych. Mae croeso i chi e-bostio Karl, cydlynydd Rho Gynnig Arni:
[email protected]. Diolch am eich amser – pob lwc!