To apply, please fill in the
Typeform
here.
Ensure that you have read all the below information before applying.
Join the Give it a Go Team
The Give it a Go Team is made up of a small
group of students who are passionate about helping others get the best out of their time at University. This is
often travel - helping people to explore more of the UK - or sometimes small events, such as pumpkin carving, and
welcoming others by offering campus, city & SU tours to new students.
Tell me more about the role
The role will involve working in a small team (usually of 2)
supporting Give it a Go trips and events. Typically, you'd be supporting a trip leader to run a
sucessful day trip, by answering student queries, providing directions and supporting those that need a
little help.
What is the commitment?
You’d be expected to volunteer on at
least 3 trips or events in the autumn and spring semester and there will often be scope to
get more involved. Ad-hoc events run during summer that you can get involved in but there
isn't the same expectation as in spring and autumn, as we know you may be busy with exams or
not in Cardiff.
What will you gain?
As well as a fantastic opportunity to get
involved with us and the Students’ Union, gaining skills and experience you will also
gain:
- A place as an upstanding member of the
Give it a Go family
- A CV reference from the Students’
Union.
- First Aid Training
- Free leader places on Give it a Go Day
Trips
- £10 lunch expenses for each
excursion
Selection Process
You’ll be required to complete a typeform
application. If you are successful at the application stage you will be invited to attend an
interview.
Apply!
To apply please complete the Typeform below
Applications shut 29th September 2025 at 9am
If you have any questions we’d love to
hear from you, feel free to email Karl, our GIAG Coordinator at giveitago@cardiff.ac.uk. Thank you for your
time – best of luck!
Er mwyn ymgeisio, llenwch
y ffurflen
hon. Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl
wybodaeth isod cyn ymgeisio.
Ymuno â Thîm Rho Gynnig Arni
Mae tîm Rho Gynnig arni yn
cynnwys yr unigolion mwyaf angerddol ac ymroddedig, sy’n ymdrechu i gyfrannu at, a gwella, profiad y
myfyrwyr. Mae ganddynt yr ymroddiad a'r sgiliau i wneud penderfyniadau sy'n helpu Rho Gynnig Arni i
esblygu. Mae rhywbeth at ddant pawb, o waith swyddfa yn cynllunio digwyddiadau bach neu drefnu teithiau dros
nos, i arwain teithiau mewn lleoliadau anhygoel a chymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws y campws.
Mae hwn yn gyfle gwych i gymryd rhan yng
nghyfleoedd Undeb y Myfyrwyr, gan agor y drws i gyfleoedd pellach a fydd yn edrych yn wych ar eich CV!
Mae tîm Rho Gynnig Arni wedi mynd
ymlaen i fod yn hynod lwyddiannus, gydag aelodau'n dod yn swyddogion sabothol, myfyrwyr ymddiriedolwyr
Undeb y Myfyrwyr a Llywyddion Undeb y Myfyrwyr. Roedd llywydd UCM Cymru 2022-2024 hyd yn oed ar y tîm,
felly byddwch yn dilyn ôl traed unigolion gwych. Mae profiad fel hyn yn eich galluogi i dyfu a
datblygu, yn ogystal â helpu gwella profiad myfyrwyr.
Beth yw’r rolau?
Mae gennym nifer o wahanol rolau, gyda
graddau amrywiol o ymrwymiad. Mae'r rhain wedi'u rhannu'n ddau gategori: mae rolau swyddfa yn
golygu cymryd cyfrifoldeb am faes allweddol o Rho Gynnig Arni, fel rhannu gwybodaeth ar gyfryngau
cymdeithasol neu ymchwil y tu ôl i'r llen; mae yna hefyd wirfoddolwyr sy’n mynd i
ddigwyddiadau a theithiau er mwyn helpu eu cynnal, Neu gallwch chi wneud y ddau!
Aelodau'r Tîm Digwyddiadau & Theithiau
• Bydd y rôl hon yn cynnwys
gweithio mewn tîm bach (fel arfer o 2) yn cefnogi teithiau a digwyddiadau Rho Gynnig Arni.
Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda myfyrwyr, gyrwyr bysiau, y cydlynydd digwyddiadau bach, a
chydlynydd Rho Gynnig Arni. Mae’r digwyddiadau’n allanol gan amlaf, ond bydd disgwyl i
chi ddod i sesiwn briffio yn y swyddfa gyda chydlynydd Rho Gynnig Arni cyn/ar ôl y daith
neu'r digwyddiad. Byddem yn annog pawb sy'n gwirfoddoli gyda Rho Gynnig Arni i wneud cais i
fod yn aelod o’r tîm, er nad yw hyn yn orfodol.
Arweinydd Tîm Digwyddiadau Bach (sawl
rôl ar gael)
• Cynllunio ac arwain rhaglen o
ddigwyddiadau bach ar gyfer Rho Gynnig Arni. Gall hyn gynnwys cynllunio digwyddiadau'n
uniongyrchol, a goruchwylio a chynnal digwyddiadau a gynlluniwyd ymlaen llaw fel pêl-droed
swigen a mini-golff yn yr UM. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn arwain gwahanol ddigwyddiadau,
sesiynau briffio ar gyfer aelodau'r tîm, ac yn cysylltu â staff llawn amser.
Mae'r rôl wedi'i lleoli yn yr UM, yn rhannol yn y swyddfa ac yn rhannol yn cynnal
digwyddiadau. Bydd y rôl yn gweithio'n agos gyda chydlynydd Rho Gynnig Arni ac
aelodau'r tîm.
Swyddog Gweithgareddau Cymdeithasol
• Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am
ddarparu rhaglen amrywiol a diddorol o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr sy'n
gwirfoddoli, gan gynnwys cyfarfodydd, digwyddiadau cymdeithasol (alcohol a di-alcohol) a theithiau
achlysurol. Bydd y rôl yn gymysgedd o waith swyddfa a chynnal digwyddiadau cymdeithasol. Bydd
deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda chydlynydd Rho Gynnig Arni ac aelodau'r tîm.
Mwy o wybodaeth am y rolau
Beth yw’r ymrwymiad?
Mae’r ymrwymiad o fod yn wirfoddolwr Rho
Gynnig Arni yn debyg i fod yn aelod o bwyllgor. Ar gyfer rolau gyda gwaith swyddfa, disgwylir 2
awr yr wythnos, naill ai wrth y ddesg neu mewn digwyddiadau lle bo angen. Ar gyfer rolau
teithiau a digwyddiadau, byddai disgwyl i chi wirfoddoli mewn tua 3-4 digwyddiad y tymor. Bydd
hefyd cyfarfodydd a digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd y bydd disgwyl i chi eu mynychu.
Mae'r ymrwymiad yn para o fis Hydref i ddiwedd semester 2. Efallai y bydd digwyddiadau
ad-hoc yn nhymor 3 ond ni fyddai'r un disgwyliadau ag yn y ddau semester cyntaf.
Beth yw’r budd i chi?
Yn ogystal â chyfle gwych i gymryd rhan
gyda ni ac Undeb y Myfyrwyr, gan ennill sgiliau a phrofiad, byddwch hefyd yn ennill:
- Bod yn rhan o deulu Rho Gynnig Arni
- Geirda CV gan Undeb y Myfyrwyr
- Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
- Rôl arweiniol ar deithiau Rho
Gynnig Arni
- Digwyddiadau cymdeithasol trwy gydol y
flwyddyn
- £10 ar gyfer ciniawau tra ar
deithiau
Y broses ddethol
Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gais. Os
byddwch yn llwyddiannus yn y cam hwn, cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad.
Ymgeisio!
I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen isod
Bydd ceisiadau'n cau ar y 20fed o Ionawr 2025 am 9yb.
Cwestiynau Cyffredin
C. A yw hon yn swydd gyflogedig? A.
Nid yw hon yn swydd gyflogedig – byddech chi, fodd bynnag, yn dod yn arbenigwr yn yr Undeb
Myfyrwyr a bydd gennych ddealltwriaeth lawer gwell o'r holl gyfleoedd cyflogedig amrywiol o fewn
Undeb y Myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn. Byddwch hefyd yn ennill ac yn datblygu nifer helaeth o sgiliau a
fydd yn hybu eich cyflogadwyedd cyffredinol.
C. Sut fydd gwaith swyddfa yn cael ei ddyrannu? A. Byddwn yn trafod â chi pan fydd gennych eich
amserlen ac yn dod o hyd i slot sy'n gweithio i chi bob wythnos.
C. A allaf reoli'r ymrwymiad hwn? A. Nid yw aelodau blaenorol o'r tîm wedi cael unrhyw
broblemau wrth reoli'r ymrwymiadau. Rydym yn sicrhau bod yr ymrwymiad yn lleihau ymhell cyn
arholiadau a dyddiadau cau gwaith cwrs mawr. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol o ymrwymo i ormod o
brosiectau mawr, clybiau a chymdeithasau ar unwaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, byddem wrth ein bodd clywed gennych. Mae croeso i chi e-bostio Karl,
cydlynydd Rho Gynnig Arni: giveitago@caerdydd.ac.uk. Diolch am eich amser – pob lwc!