Bydd Undeb y Myfyrwyr, yn cael copi cyfoes o'ch cofnod myfyrwyr yn uniongyrchol o Brifysgol Caerdydd
(oni bai eich bod wedi optio allan o aelodaeth Undeb y Myfyrwyr wrth gofrestru), o’r adeg y bu i chi gofrestru hyd ddiwedd eich cwrs. Caiff eich gwybodaeth ei storio ar ein gweinyddion diogel. Cewch wybod mwy am y trosglwyddiad data hwn drwy edrych ar
Gytundeb Rhannu Data’r Brifysgol. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn hysbysu bob aelod pan mae’r etholiadau yn cael eu cynnal yn unol ag
Erthygl 6 (e), er mwyn cynnal etholiadau teg mae prosesu data'r Myfyrwyr yn angenrheidiol ar gyfer cwblhau’r dasg er budd y cyhoedd neu i weithredu awdurdod swyddogol wedi ei freintio i’r rheolwr fel sydd yn ein memorandwm a Rhan 3 o
Orchymyn 13.
fel cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, bydd gennych hawl i barhau i ddefnyddio ein gwasanaethau, caiff eich cyfrif ei archifo'n awtomatig ar ddiwedd eich astudiaethau at ddibenion cofnodion cyrhaeddiad a rheoli hanes trafodion y cyfrif. Os ydych yn dymuno adennill mynediad llawn at yr amrywiaeth o wasanaethau ar ddiwedd eich astudiaethau, e-bostiwch ni ar
StudentsUnion@Caerdydd.ac.uk gan ddyfynnu "Cyfrif Cyn-fyfyrwyr yr Undeb".
Bydd Undeb y Myfyrwyr yn casglu eich data personol yn ystod eich cais ar-lein; byddwn yn parhau i brosesu eich data personol fel bod modd i ni reoli ein dyletswyddau cytundebol, gwarchod ein buddiannau cyfreithiol ni a'ch rhai chi, yn ogystal â chyflawni ein cyfrifoldebau statudol.
Caiff eich data personol ei ddefnyddio i wneud y canlynol
- rheoli eich cyfrif ar-lein - gan gynnwys aelodaethau a hawliau;
- eich galluogi i brynu a chael mynediad i docynnau ar gyfer digwyddiadau sydd wedi'u storio;
- rheoli mynediad i ddigwyddiadau a rhestrau gwestai;
- rhoi gwybod i chi am newidiadau;
- darparu gwasanaethau (darpariaeth fwyd a diod);
- cyflawni dyletswyddau cyfreithiol (gan gynnwys darparu gwybodaeth i eraill - gweler yr adran ddatgeliadau);
- defnyddio eich data i gynhyrchu demograffeg anhysbys;
- defnyddio eich manylion cyswllt at ddibenion hyrwyddo a marchnata lle rhoddir caniatâd o'ch gwirfodd.
Gellir casglu gwybodaeth bersonol ar wahân, wyneb yn wyneb neu drwy unrhyw ddull arall gan staff y mudiad, megis ein personél diogelwch neu staff rheoli digwyddiadau at ddibenion diogelwch y cyhoedd. Bydd unrhyw wybodaeth a gesglir yn cydymffurfio â GDPR, ac mewn achos o'r fath, caiff esboniad o pam a sut y caiff y data ei ddefnyddio a’i gyfathrebu.
Bydd Undeb y Myfyrwyr yn cadw cofnod o gysylltiadau busnes sydd gennym "Ni" neu sydd wedi darparu gwasanaeth i "Ni" ar sail busnes. Caiff yr wybodaeth hon ei chadw'n ddiogel a’i phrosesu'n gyfreithlon yn unol â'n buddiannau dilys i wneud hynny. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn defnyddio'r wybodaeth hon i gyfathrebu gwasanaethau busnes i fusnes ac i gyflawni dyletswyddau cytundebol. Rhennir y wybodaeth hon i gydymffurfio â gofynion statudol ac at ddibenion archwilio.