Cymraeg

Personal Safety

The importance of your personal safety cannot be overstated so, when you’re out and about, even if that is very near to your home, it’s important to take some sensible precautions to stay safe.

 

Urgent Advice

 

  • You should always dial 999 and then also inform Security Dial +44 (0)29 2087 4444, if the situation involves: imminent danger, suicidal intention, possessing a weapon, threats of harm, physical injury, death of a student or terrorism.

  • If you need medical assistance but are not sure if it is an emergency, you can now call CAV 24/7 on +44 (0)300 10 20 247.
  • If your concern relates to yourself or someone else’s safety in relation to violence and abuse, please complete the Disclosure Response Team Referral form on the Student Intranet. The Disclosure Response Team services are available 09:00-16:00 Monday-Friday.
  • If you are reading this and you are concerned about yourself or someone else’s safety in relation to thoughts of self-harm, suicide or mental health concerns we encourage you to complet this Referral Form for the University's Student Intervention Team.

 

Practical Safety Tips

 

  • Always think ahead and make a plan with other people as to how your are going to get home. If you are going out drinking, it is best to do this before you start. If you suddenly find yourself very drunk and wanting your bed, it is easy but potentially very dangerous to wander off alone. Although incidents are uncommon, they do happen and you need to be mindful of the risk you are taking if not with others.
  • Walk home in groups or with a friend when it is dark.
  • Stick to busy, well-lit areas and keep close to a group if you feel unsafe. 
  • Think about carrying a personal safety alarm with you when you’re out.
  • Stay alert and aware of your surroundings – don’t wear your headphones when you’re out alone.
  • Only use licensed taxis.
  • If you are getting a taxi, it is still sensible to do this with a friend. If you can’t go with someone, always let somebody know where you’re going and with who. The Students’ Union operates a Safe Taxi Scheme with Veezu Taxis, which is available for all Cardiff University students. This scheme allows you to travel even if you do not have any way to pay at the time. You will need to show your student card and will need to pay later.
  • Never leave drinks unattended in pubs or clubs. Both males and females can both be at risk of ‘spiking’. Keep an eye on yours and your friends’ drinks at all times and never return to a drink if you have left it unattended. 
  • If you cycle, make sure you’ve taken measures to secure your bike. Cardiff is a small city and bikes are a great mode of transport for students but they are expensive! Your bike lock may not be impenetrable so where possible, keep your bikes inside a bike shed, your property or in your garden, locked up with a sufficient bike lock.
  • Avoid showing cash or any items of value when out and about. Keep your cash, cards and personal belongings out of sight and make sure they are in a safe and secure area. If you don’t already, get a wallet or purse to store cards and cash - loose cards and change are easy to lose and can be a pain to replace. If you carry your wallet/purse in your bag, try to put it in the main part of the bag rather than the most accessible front pocket. If it’s easily accessible to you, it’s easily accessible to a thief too.
  • When using a cash machine, try to use it in daylight or well-lit areas. Be wary of people standing too close and conceal your PIN when you type it in. Take your card and cash promptly.
  • Report anything suspicious to police on 101 or University security control on +44 (0)29 2087 4444

 

Personal Safety Alarms

 

Cardiff University Security have personal safety alarms available free of charge. You can collect your alarm from the Security Centre on Park Place between the hours of 9am and 3pm.

 

 

Personal Safety Apps

 

Download Cardiff University's SafeZone app, that allows you to easily alert the University Security if you need help or assistance. Once the alert is sent, your location will be displayed on a map for the security officers to see. You will be offered the option to call Security. If you don’t do this, a security officer will call you, to understand how best to respond to your situation. The SafeZone app is free to download, and is accessible to all Cardiff University students.

 

You can also consider downloading other personal safety apps, such as Panicguard or Hollieguard. These apps work by sending your location and need for assistance to your chosen contacts.

 

 

Contact Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410


Diogelwch Personol

Mae eich diogelwch personol yn hollbwysig felly, pan fyddwch allan, hyd yn oed yn agos iawn at eich cartref, mae'n bwysig cymryd rhai mesuriadau synhwyrol i aros yn ddiogel.

 

Cyngor Brys

 

  • Dylech ffonio 999 ac yna roi gwybod i Ddiogelwch trwy ffonio +44 (0)29 2087 4444 os yw’r sefyllfa’n ymwneud â’r canlynol: perygl uniongyrchol, bwriad i gyflawni hunanladdiad, cario arf, bygythiad o niwed, anaf corfforol, marwolaeth myfyriwr neu ddigwyddiad terfysgol.
  • Os oes angen cymorth meddygol arnoch ond nid ydych yn siwr a yw'n argyfwng, gallwch nawr ffonio CAV 24/7 ar +44 (0) 300 10 20 247.
  • Os ydych yn pryderu am eich diogelwch chi’ch hun neu rywun arall mewn perthynas â thrais a chamdriniaeth, llenwch y ffurflen Cyfeirio at y Tîm Ymateb i Ddatgeliadau ar Fewnrwyd y Myfyrwyr. Mae gwasanaethau'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau ar gael 09:00-16:00 Dydd Llun i Ddydd Gwener.
  • Os ydych chi'n darllen hwn ac yn poeni am eich diogelwch chi'ch hun neu rywun arall mewn perthynas â meddwl am hunan-niweidio, hunanladdiad neu bryderon iechyd meddwl rydym yn eich annog i lenwi'r Ffurflen Atgyfeirio hon ar gyfer Tîm Ymyrraeth Myfyrwyr y Brifysgol.

 

Cynghorion Diogelwch Ymarferol

 

  • Meddyliwch ymlaen llaw bob amser a gwnewch gynllun gyda phobl eraill o ran sut rydych chi'n mynd i gyrraedd adref. Os ydych chi'n mynd allan i yfed, mae'n well gwneud hyn cyn i chi ddechrau. Os byddwch yn sydyn yn canfod eich hun yn feddw iawn ac eisiau eich gwely, mae'n hawdd ond yn beryglus iawn i grwydro ar eich pen eich hun. Er bod digwyddiadau peryglus yn anghyffredin, maen nhw'n digwydd ac mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r risg rydych chi'n ei chymryd os nad ydych gydag eraill.
  • Cerddwch adref mewn grwpiau neu gyda ffrind pan fydd hi'n dywyll.
  • Cadwch at ardaloedd prysur sydd wedi'u goleuo'n dda a chadwch yn agos at grwp os ydych chi'n teimlo'n anniogel.
  • Ystyriwch gario larwm diogelwch personol gyda chi pan fyddwch allan.
  • Byddwch yn effro ac yn ymwybodol o'r hyn sydd o'ch cwmpas – peidiwch â gwisgo'ch clustffonau pan fyddwch allan ar eich pen eich hun.
  • Defnyddiwch dacsis trwyddedig yn unig.
  • Os ydych chi'n cael tacsi, mae’n synhwyrol gwneud hyn gyda ffrind. Os na allwch chi fynd gyda rhywun, rhowch wybod i rywun bob amser ble rydych chi'n mynd a gyda phwy. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu Cynllun Tacsi Diogel gyda Veezu Taxis, sydd ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae'r cynllun hwn yn caniatáu i chi deithio hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw ffordd o dalu ar y pryd. Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn myfyriwr a bydd angen i chi dalu yn ddiweddarach.
  • Peidiwch byth â gadael diodydd heb oruchwyliaeth mewn tafarndai neu glybiau. Gall dynion a menywod fod mewn perygl o 'sbeicio'. Cadwch lygad ar eich diodydd chi a diodydd eich ffrindiau bob amser a pheidiwch byth â dychwelyd at ddiod os ydych wedi'i gadael heb oruchwyliaeth.
  • Os ydych yn beicio, gwnewch yn siwr eich bod wedi cymryd camau i ddiogelu eich beic. Mae Caerdydd yn ddinas fach ac mae beiciau yn ddull teithio gwych i fyfyrwyr ond maen nhw'n ddrud! Mae’n bosibl na fydd clo eich beic yn ddigon cryf felly lle bo’n bosibl, cadwch eich beiciau y tu mewn i sied feiciau, eich eiddo neu yn eich gardd, wedi’u cloi â chlo beic digonol.
  • Ceisiwch osgoi dangos arian parod neu unrhyw eitemau o werth pan fyddwch allan. Cadwch eich arian parod, eich cardiau a’ch eiddo personol o’r golwg a gwnewch yn siwr eu bod mewn man diogel. Os nad ydych chi yn eisoes, defnyddiwch waled neu bwrs i storio cardiau ac arian parod - mae cardiau rhydd a newid mân yn hawdd i'w colli a gallai fod yn boen i gael rhai newydd. Os ydych chi'n cario'ch waled/pwrs yn eich bag, ceisiwch ei roi ym mhrif ran y bag yn hytrach na'r boced flaen fwyaf hygyrch. Os yw'n hawdd i chi ei gyrraedd, mae'n hawdd i leidr ei gyrraedd hefyd.
  • Wrth ddefnyddio peiriant arian parod, ceisiwch ei ddefnyddio yng ngolau dydd neu mewn mannau sydd wedi'u goleuo'n dda. Byddwch yn wyliadwrus o bobl yn sefyll yn rhy agos a chuddiwch eich PIN wrth ei ddefnyddio. Cymerwch eich cerdyn ac arian parod yn brydlon.
  • Os gwelwch unrhyw beth amheus, rhowch wybod i'r heddlu drwy ffonio 101 neu wasanaeth rheoli diogelwch y Brifysgol drwy ffonio +44 (0)29 2087 4444

 

 

Larymau Diogelwch Personol

 

Mae gan Ddiogelwch Prifysgol Caerdydd larymau diogelwch personol ar gael yn rhad ac am ddim. Gallwch gasglu eich larwm o'r Ganolfan Ddiogelwch ar Blas y Parc rhwng 9yb a 3yp.

 

 

Apiau Diogelwch Personol

 

Lawrlwythwch ap SafeZone Prifysgol Caerdydd, sy'n eich galluogi i roi gwybod i Ddiogelwch y Brifysgol yn hawdd os oes angen help neu gymorth arnoch. Ar ôl anfon y rhybudd bydd y swyddogion diogelwch yn gallu gweld eich lleoliad ar fap. Byddwch yn cael y cynnig i ddewis ffonio staff Diogelwch. Os na wnewch chi hyn, bydd swyddog diogelwch yn eich ffonio chi i ddeall y ffordd orau o ymateb i’ch sefyllfa. Mae ap SafeZone yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho, ac mae'n hygyrch i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

 

Gallwch hefyd ystyried lawrlwytho apiau diogelwch personol eraill, fel Panicguard neu Hollieguard. Mae'r apiau hyn yn gweithio trwy anfon eich lleoliad a’ch angen am gymorth i'ch cysylltiadau dewisol.

 

 

Cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr

Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410