Cymraeg

Drugs

 

If you or someone you know may have consumed drugs and is feeling unwell, you should speak to a member of security staff, or dial 999 immediately.

 

Cardiff  University Students’ Union does not condone the use of drugs, but wants to ensure that students are making informed choices and are aware of the resources to help them stay safe. The best way to avoid harm or punishment, is not to take drugs at all.

 

Drugs can be classified by their legal status or by the effect that they have on the body. For more information on specific drugs, you can read the A-Z on the Talk to Frank Website.

 

Taking drugs comes with a number of risks. If you, or someone you know, is going to take drugs, then you should read harm reduction guidance. Some suggested sites are:

 

 

The Law

 

The Misuse of Drugs Act 1971 is the legislation that describes which substances are illegal and their legal classification. This legislation classifies drugs as;

 

Misuse of Drugs Act 1971

Class

 Drug

 Possession

 Supply and production

A

Crack cocaine, cocaine, ecstasy (MDMA), heroin, LSD, magic mushrooms, methadone, methamphetamine (crystal meth)

Up to 7 years in prison, an unlimited fine or both

Up to life in prison, an unlimited fine or both

B

Amphetamines, barbiturates, cannabis, codeine, ketamine, methylphenidate (Ritalin), synthetic cannabinoids, synthetic cathinones (eg mephedrone, methoxetamine)

Up to 5 years in prison, an unlimited fine or both

Up to 14 years in prison, an unlimited fine or both

C

Anabolic steroids, benzodiazepines (diazepam), gamma hydroxybutyrate (GHB), gamma-butyrolactone (GBL), piperazines (BZP), khat

Up to 2 years in prison, an unlimited fine or both (except anabolic steroids - it’s not an offence to possess them for personal use)

Up to 14 years in prison, an unlimited fine or both

 

 

You can also get a penalty for ‘psychoactive substances’, eg laughing gas, under the Psychoactive Substances Act 2016

 

 

Psychoactive substances

Possession

Supply and production

Things that cause hallucinations, drowsiness or changes in alertness, perception of time and space, mood or empathy with others

None, unless you’re in prison

Up to 7 years in prison, an unlimited fine or both

 

 


 

 

 

Harm Reduction Advice

 

WEDINOS (Welsh Identification of Drugs and Novel Substances) is a harm reduction project has been set up to monitor the use of substances in Wales, and identify dangerous samples.

 

You can get samples of drugs tested anonymously by WEDINOS, who inform you of the test results on their Sample Results page. By doing this you are contributing to their research.

 

For more information on sample testing, see the WEDINOS Sample Testing webpage.

 

You can alos read pragmatic Harm Reduction Advice on the WEDINOS website.

 

 

Sources of Support and Guidance

 

If you are worried about your (or someone else's) relationship with or use of drugs, we recommend that you seek support in addressing the problem.

 

There are lots of sources of support and guidance available to you:

 

 

Drugs and rented accommodation

 

If you are using drugs in or around your rented accommodation, it is important to consider how other people in the property feel about it. If any of your housemates feel uncomfortable with drugs being in the house, it is best to find somewhere more appropriate that is safe and does not affect others.

 

Landlords have a responsibility to prevent illegal activity taking place in their properties. If they suspect that illegal activity is taking place then they may take action to try and stop this and even report you to the police.

 

If you are living in University owned halls then you could face disciplinary action if security find drugs in your room or on your possession. This could risk your place at the University and you could also be asked to leave halls.

 

 

Further Consequences

 

It is important to consider that being caught in possession of drugs can have serious legal consequences, which can prevent you from getting certain jobs.

 

Students who study courses that have fitness to practise requirements, (for example Physiotherapy, Dentistry, Pharmacy, Nursing, Medicine, Law or Social Work) may be removed from their course if found in possession of, or found to have used any of these substances.

 

If you are ever investigated for concerns relating to your Fitness to Practise you should contact Student Advice immediately.

 

If you are found to be in possession of any drugs or paraphernalia, or found to be under the influence of drugs, in the Students Union night club, then you will likely receive a lifetime ban.

 

Receiving a criminal record for drug possession can prevent you from entering certain countries, restricting international travel. 

 

 

How can Student Advice help?

 

Student Advice is committed to providing confidential advice, information and support. We are an independent service.

 

Student Advice does not share the information you give us with other individuals and/or organisations outside of Cardiff University Students' Union without your express permission except in very exceptional circumstances; for example, if we believe that you or other people are at risk of serious harm.

 

You can seek advice if;

  • You are having trouble with your own consumption of drugs or alcohol;
  • You are worried about your friend’s use of drugs or alcohol;
  • You are upset that someone in your property is using drugs, or you are beign affected by someone else’s use of drugs or alcohol;
  • You may be being investigated by the University under the Student Conduct or Fitness to Practise Procedure;
  • Your study is being impacted and you feel that you need to take a break or report extenuating circumstances.

 

We can help you by:

  • Providing independent, impartial advice for your circumstances;
  • Assisting you in responding to allegations and preparing for any meetings;
  • Attending disciplinary panels and meetings;
  • Advising you on support services for you or a friend, or how to discuss this with someone else. 

 

Contact Student Advice

Advice@cardiff.ac.uk
+44 (0)2920 781410

 


Cyffuriau

 

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi cymryd cyffuriau ac yn teimlo'n sâl, dylech siarad ag aelod o staff diogelwch, neu ffonio 999 ar unwaith.

 

Nid yw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn esgusodi'r defnydd o gyffuriau, ond maent am sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud dewisiadau gwybodus a'u bod yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael i'w cadw'n ddiogel. Y ffordd orau o osgoi niwed neu gosb, yw peidio â chymryd cyffuriau o gwbl.

 

Gellir dosbarthu cyffuriau yn ôl eu statws cyfreithiol neu drwy'r effaith maent yn ei gael ar y corff. I gael rhagor o wybodaeth am gyffuriau penodol, gallwch ddarllen y rhestr gyfan ar wefan Talk to Frank

 

Mae nifer o risgiau yn codi wrth gymryd cyffuriau. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn mynd i gymryd cyffuriau, dylech ddarllen canllawiau lleihau niwed. Dyma rai gwefannau defnyddiol:

 

 

 

Y Gyfraith

 

The Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yw'r ddeddfwriaeth sy'n disgrifio pa sylweddau sy'n anghyfreithlon a'u dosbarthiad cyfreithiol. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn dynodi cyffuriau fel;

 

Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971

 

Dosbarth

 Cyffur

 Meddiant

 Cyflenwad a chynhyrchu

A

Crac cocên, cocên, ecstasi (MDMA), heroin, LSD, madarch hud, methadon, methamffetamin (meth crisial)

Hyd at 7 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu'r ddau

Hyd at ddedfryd oes yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu'r ddau

B

Amffetaminau, barbitwradau, canabis, codin, cetamin, methylffenidate (Ritalin), canabinodau synthetig, cathinonau synthetig (ee meffadron, methoxetamin)

Hyd at 5 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu'r ddau

Hyd at 14 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu'r ddau

C

Steroidau anabolig, benzodiazepinau (diazepam), hydroxybutyradau gamma (GHB), gamma-butyrolacton (GBL), piperazinau (BZP), khat

Hyd at 2 flynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu'r ddau (ac eithrio steroidau anabolig - nid yw'n drosedd eu meddu ar gyfer defnydd personol)

Hyd at 14 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu'r ddau

 

Gallwch hefyd dderbyn cosb am sylweddau seicowethredol’, e.e. nwy chwerthin, dan Ddeddf Sylweddau Seicowethredol 2016

 

Sylweddau Seicowethredol

Meddiant

Cyflenwad a chynhyrchu

Pethau sy'n achosi rhithweledigaethau, blinder neu newidiadau mewn bywiogrwydd, eich syniad o amser a gofod, hwyliau neu empathi tuag at eraill

Dim, oni bai eich bod yn y carchar

Hyd at 7 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu'r ddau

 

 

 
 

 

 

Cyngor i Leihau Niwed

 

Mae WEDINOS (Welsh Identification of Drugs and Novel Substances) yn brosiect lleihau niwed wedi cael ei sefydlu er mwyn monitro'r defnydd o sylweddau yng Nghymru, a nodi samplau peryglus.

 

Gallwch gael samplau o gyffuriau a brofwyd yn ddienw gan WEDINOS, sy'n eich hysbysu o ganlyniadau'r profion ar eu tudalen Canlyniadau Sampl. Rydych yn cyfrannu at eu hymchwil wrth wneud hyn.

 

Am fwy o wybodaeth am brofi samplau, gweler tudalen we Profi Samplau WEDINOS.

 

Gallwch hefyd ddarllen Cyngor Lleihau Niwed ar wefan WEDINOS.

 

Ffynonellau Cymorth ac Arweiniad

 

Os ydych chi'n poeni am eich perthynas chi (neu rywun arall) â chyffuriau, rydym yn argymell eich bod yn derbyn cefnogaeth wrth fynd i'r afael â'r broblem.

 

Mae llawer o ffynonellau cymorth ac arweiniad ar gael i chi:

 

 

Cyffuriau a llety wedi’i renti

 

Os ydych chi'n defnyddio cyffuriau yn neu o gwmpas eich llety rhent, mae'n bwysig ystyried pa effaith mae hyn yn ei gael ar y bobl sy’n byw o’ch cwmpas. Os oes unrhyw un o'ch cyd-letywyr yn teimlo'n anghyfforddus gyda chyffuriau yn y ty, gwnewch ymgais i ddod o hyd i rywle diogel a mwy priodol nad yw'n effeithio ar eraill.

 

Mae gan landlordiaid gyfrifoldeb i atal gweithgarwch anghyfreithlon rhag digwydd yn eu heiddo. Os ydyn nhw'n amau bod gweithgarwch anghyfreithlon yn digwydd, mae'n bosib y byddant yn ceisio atal hyn a hyd yn oed yn rhoi gwybod i’r heddlu.

 

Os ydych yn byw yn llety’r Brifysgol, yna fe allech chi wynebu canlyniadau disgyblaethol os yw aelod o’r tîm diogelwch yn dod o hyd i gyffuriau yn eich ystafell neu yn eich meddiant. Gallai hyn fygwth eich lle yn y Brifysgol, ac fe allech chi dderbyn cais i adael eich llety hefyd.

 

 

Canlyniadau Pellach

 

Mae'n bwysig ystyried y gall cael eich dal ym meddiant cyffuriau arwain at ganlyniadau cyfreithiol difrifol, a all eich atal rhag cael swyddi yn y dyfodol.

 

Gall myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau sydd â gofynion cymhwysedd i ymarfer, (er enghraifft Ffisiotherapi Deintyddiaeth, Fferylliaeth, Nyrsio, Meddygaeth, y Gyfraith neu Waith Cymdeithasol) gael eu tynnu o'u cwrs os canfyddir eu bod wedi defnyddio unrhyw un o'r sylweddau hyn neu feddu arnynt.

 

Os byddwch byth yn cael eich ymchwilio am bryderon yn ymwneud â'ch Cymhwysedd i Ymarfer dylech gysylltu â Chyngor i Fyfyrwyr ar unwaith.

 

Os canfyddir eich bod mewn meddiant unrhyw gyffuriau neu betheuach, neu os canfyddir eich bod dan ddylanwad cyffuriau yng nghlwb nos Undeb y Myfyrwyr, yna mae'n debygol y byddwch yn derbyn gwaharddiad oes.

 

Gall derbyn cofnod troseddol am feddiant cyffuriau eich atal rhag mynd i mewn i rai gwledydd, gan gyfyngu ar deithio rhyngwladol.

 

 

Sut all Cyngor i Fyfyrwyr helpu?

 

Mae Cyngor i Fyfyrwyr wedi ymrwymo i ddarparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol. Rydym yn wasanaeth annibynnol.

 

Nid yw Cyngor i Fyfyrwyr yn rhannu'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni gydag unigolion a/neu sefydliadau eraill y tu allan i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd heb eich caniatâd ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol iawn; er enghraifft, os ydym yn credu eich bod chi neu eraill mewn perygl o niwed difrifol.

 

Gallwch ofyn am gyngor os;

  • Rydych yn cael trafferth gyda'ch defnydd personol o gyffuriau neu alcohol;
  • Rydych chi'n poeni am ddefnydd eich ffrind o gyffuriau neu alcohol;
  • Rydych yn pryderu bod rhywun yn eich llety yn defnyddio cyffuriau, neu mae defnydd rhywun arall o gyffuriau neu alcohol yn effeithio arnoch chi.
  • Efallai bod y Brifysgol yn ymchwilio i chi o dan y Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr neu Gymhwysedd i Ymarfer;
  • Mae eich astudiaeth yn cael ei heffeithio ac rydych yn teimlo bod angen i chi gymryd seibiant neu roi gwybod am amgylchiadau esgusodol.

 

Dyma sut gallwn eich helpu chi:

  • Darparu cyngor annibynnol a diduedd perthnasol;
  • Eich cynorthwyo i ymateb i honiadau a pharatoi ar gyfer unrhyw gyfarfodydd;
  • Mynychu paneli a chyfarfodydd disgyblu;
  • Eich cynghori ar wasanaethau cymorth i chi neu ffrind, neu sut i drafod hyn gyda rhywun arall.

 

 

Cysylltwch â Chyngor i Fyfyrwyr

Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)2920 781410